Rhan 6 - Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

Yn cynnwys plant a phobl ifanc sy’n gadael gofal neu sydd wedi gadael gofal

 

Cyhoeddwyd o dan Adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

 

 

Teitl byr: Cod Ymarfer ar blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

 


Cynnwys

 

Rhaglith

Y darpariaethau a wneir yn Rhan 6, cyd-destun a diben, ac egwyddorion

 

Tudalen 4

Pennod 1 

Cynllunio gofal a chymorth

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, gan gynnwys iechyd ac addysg

 

Tudalen 12

Pennod 2

Lleoliadau

Sut mae plant sy’n derbyn gofal

yn cael eu lletya a’u cynnal

 

Tudalen 35

Pennod 3

Cadw mewn cysylltiad

Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant dan gadwad, a rôl ymwelwyr annibynnol

 

Tudalen 81

Pennod 4 

Adolygu achosion

Rôl a swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol

 

Tudalen 95

Pennod 5

Gadael gofal

Trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch

 

Tudalen 103

Pennod 6

Trefniadau byw ôl-18

Datblygu trefniadau ar gyfer y rhai 18 oed a hŷn sy’n gadael gofal i barhau i fyw gyda’u cyn gofalwyr maeth

 

Tudalen 162

Pennod 7

Llety diogel

Plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi diogel i blant

 

Tudalen 180

Pennod 8

Plant mewn mathau o sefydliadau eraill

Plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol

 

Tudalen 193

Pennod 9 

Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

Hysbysu am farwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal, a threfniadau eraill mewn perthynas â marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

Tudalen 197

 


Rhaglith

 

 

1.    Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

 

2.    Derbyniodd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gydsyniad brenhinol ar 1 Mai 2014 i fod yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. At ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf a’r cod hwn, bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.

 

3.    Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â gofynion y cod hwn. Nid yw adran 147 (Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y cod hwn. Yn ogystal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyflwynir yma.

 

4.    Nodir swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn atodlen 2 i’r Ddeddf. Yn y cod hwn, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel “rhaid” neu “ni chaniateir/rhaid...beidio”. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel  “gall” neu “dylai/ ni ddylai”.

 

5.    Mae’r cod ymarfer hwn yn cynnwys canllawiau ar y dyletswyddau yn Rhan 6 adrannau 74 - 125 o’r Ddeddf, a rheoliadau o dan adrannau 81, 83, 87, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 104, 106, 107, 108, 109, 116, 117, 119 a 122 o’r Ddeddf.

 

6.    Wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’w dyletswyddau hollgyffredinol i roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel y’i nodir yn adran 7 o’r Ddeddf.   

7.    Mae awdurdodau lleol yn gweithredu oddi mewn i’r fframwaith polisi cyffredinol a bennir gan Lywodraeth Cymru. Mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal, mae bwriadau polisi Gweinidogion Cymru yn cynnwys ceisio lleihau’r angen am ymyrraeth ffurfiol ym mywydau plant a phobl ifanc, a chryfhau gallu teuluoedd i ofalu am eu plant lle y bo’n ddiogel gwneud hynny. I’r plant hynny sy’n dod yn blant sy’n derbyn gofal, mae’r Rhaglen Lywodraethu a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi pwysigrwydd gwella eu bywydau a’u llesiant. Mae cefnogi cyrhaeddiad addysgol plentyn yn hanfodol yn y cyswllt hwn, gan ei alluogi i wireddu ei botensial yn llawn. Cyn bo hir byddwn ni’n cyhoeddi ein strategaeth ar ‘Codi uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal’.      

Eiriolaeth

 

8.    Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cydradd yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol.  Mae'n agored i unrhyw unigolyn wahodd rhywun o'i ddewis i'w helpu i gyfranogi'n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a'i deimladau.  Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau rhywun, ei deulu neu rwydwaith cymorth ehangach.

 

9.    Mae'r cod ymarfer penodol ar eiriolaeth o dan Ran 10 o'r Ddeddf yn nodi'r swyddogaethau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â'r unigolyn, lunio barn ynglŷn â sut y gallai eiriolaeth gefnogi'r broses o ddyfarnu a sicrhau canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol.  Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod barn ynglŷn â'r angen am eiriolaeth yn rhan annatod o'r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.

Y darpariaethau a wneir yn Rhan 6

10. Mae Rhan 6 o’r Ddeddf (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya):

(a) yn darparu ar gyfer dehongli’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (adran 74);

(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol  

·         sicrhau digon o lety yn eu hardaloedd i’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adran 75), a

·         lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael neu sydd o dan amddiffyniad yr heddlu neu wedi eu cadw’n gaeth neu ar remand (adrannau 76 a 77);  

(c) yn darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adrannau 75 i 103, 124 a 125);

(d) yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddarparu cymorth i bobl ifanc

·         sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, gofal awdurdod lleol

·         a oedd gynt yn cael eu lletya mewn sefydliadau penodol

·         a oedd gynt yn cael eu maethu;

·         y mae neu yr oedd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad â hwy (adrannau 104 i 118)

 

(e) yn darparu ar gyfer lleoli plant mewn llety diogel (adran 119)

(f) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol a darparu ymweliadau a gwasanaethau i’r plant hynny (adrannau 120 i 123)

(g) yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynnal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

11. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynorthwyo’r gwaith o weithredu’r Ddeddf drwy broses sy’n ymgysylltu’n llawn â’n rhanddeiliaid. Elfen ganolog o’r dull gweithredu hwn yw’r broses o sefydlu grwpiau technegol sy’n cynnwys cynrychiolwyr â’r arbenigedd perthnasol, y wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol i weithio gyda swyddogion ar y polisi manwl sydd ei angen i ddatblygu’r rheoliadau a chod ymarfer a fydd yn eu tro yn gwireddu’r dyheadau polisi sy’n sylfaen i’r Ddeddf. Mae’r cod hwn yn un o ganlyniadau’r ymarferiad cyd-gynhyrchu. 

 

Amcan a chwmpas

 

12. Amcan y cod hwn yw cyflwyno cyfrifoldebau awdurdodau lleol o dan y Ddeddf ar gyfer:

 

·         cynlluniau gofal a chymorth mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan gynnwys addysg ac iechyd

·         sut y dylid lletya a chynnal plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys lleoliadau plant sy’n derbyn gofal

·         cyswllt ac ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal, gan gynnwys ymwelwyr annibynnol

·         trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch

·         llety diogel

·         plant sy’n cael eu lletya mewn mathau eraill o sefydliadau (gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol).

 

13. Mae’r cod ymarfer hwn yn disodli canllawiau statudol blaenorol ar y materion hyn. 

 

14. Dylid darllen y cod hwn ar y cyd â’r cod ymarfer ar Ran 11, sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn llety cadw ieuenctid, mewn carchar neu mewn llety mechnïaeth. Mae rhai o ddarpariaethau’r Ddeddf yn ymwneud â sut y dylid cynnal a/neu letya plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn cael eu datgymhwyso os caiff y plentyn neu’r person ifanc ei gollfarnu o drosedd a’i gadw yn y sefydliad diogel. Mae’r darpariaethau hyn yn cael eu cymhwyso eto pan gaiff y plentyn neu’r person ifanc ei ryddhau.  

 

Cyd-destun a diben y cod ymarfer hwn

 

15. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith statudol i gyflawni rhwymedigaeth Llywodraeth Cymru i integreiddio gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo pobl o bob oed, a chynorthwyo pobl fel rhan o deuluoedd a chymunedau. Bydd yn gweddnewid sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu, yn bennaf drwy hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais a rheolaeth gryfach iddynt. Bydd integreiddio a symleiddio’r gyfraith hefyd yn rhoi mwy o gysondeb ac eglurdeb i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, eu gofalwyr, staff awdurdodau lleol a’u sefydliadau partner, y llysoedd a’r farnwriaeth. Mae’r Ddeddf yn hyrwyddo cydraddoldeb, gwelliannau mewn ansawdd gwasanaethau ac wrth ddarparu gwybodaeth i bobl, a ffocws cyffredin ar atal ac ymyrraeth gynnar.

 

16. Yn gyffredinol, mae Rhan 2 a Rhan 6 o’r Ddeddf, ac Atodlen 1 i’r Ddeddf, yn disodli Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 2 iddi. Nid yw Adran 17 o’r Ddeddf Plant (plant mewn angen) yn cael ei hailadrodd yn Rhan 6, gan fod asesu plant mewn angen a’u teuluoedd, a darparu unrhyw wasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny, yn cael eu cynnwys o dan y darpariaethau ar asesu a diwallu anghenion unigolion o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf.   

 

17. Bydd angen i’r broses o roi’r cod hwn ar waith fod yn gyson â’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 o’r Ddeddf, sy’n nodi’r Fframwaith Canlyniadau ar gyfer gofal a chymorth. Hefyd, bydd angen sicrhau cysondeb â’r dyletswyddau o dan Ran 11 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sydd mewn llety cadw ieuenctid neu’r carchar, er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn y lleoliadau hyn a oedd yn derbyn gofal cyn cael eu dedfrydu yn parhau i gael eu hasesu a’u bodloni yn y sefydliad diogel. Bydd plant sy’n cael eu remandio yn y ddalfa yn yr ystad  ddiogeledd yn dod yn blant sy’n derbyn gofal (a bydd Rhan 6 yn berthnasol iddynt) nes eu bod yn cael eu rhyddhau neu’n cael eu dedfrydu i gaethiwed yn y sefydliad diogel.

 

Egwyddorion

 

18. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau clir ar unigolion ac awdurdodau lleol wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a phlant a phobl ifanc sy’n cael eu lletya.

 

19. Mae’n rhaid i berson sy’n cyflawni unrhyw swyddogaethau o dan Ran 6 roi sylw i’r dyletswyddau hollgyffredinol a nodir yn adran 6 o’r Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal neu blentyn neu berson ifanc sy’n cael ei letya, neu mewn perthynas â’r rhai sy’n gadael gofal neu sydd wedi gadael gofal (yn unol â’r categorïau yn adran 104):    

 

·         ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol

·         rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas y plentyn neu’r person ifanc

·         rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r plentyn neu’r person ifanc (gan gynnwys, er enghraifft, iaith)

·         rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r plentyn neu’r person ifanc i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno (i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r plentyn neu’r person ifanc i gyfathrebu wedi’i gyfyngu am unrhyw reswm). 

Adran 6(2)

   

20. Hefyd, mae’n rhaid i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan unrhyw ran o’r Ddeddf mewn perthynas â phlentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth, neu mewn perthynas â phlentyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6:

 

·         roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn 

·         pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â llesiant y plentyn, ac yn rhesymol ymarferol. 

Adran 6(4)

 

21. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd benodol (adran 7(2)) ar bobl sy’n arfer swyddogaethau o dan unrhyw ran o’r Ddeddf i roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). 

 

22. Mae’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 o’r Ddeddf yn rhoi rhagor o ganllawiau ar y Confensiwn. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer ymarferwyr ar gael yn: www.childrensrightswales.org.uk

 

Mae gwybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ar gael yn: www.uncrcletsgetitright.co.uk.

 

23.Yn ogystal â chonfensiynau ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig a nodir yn y Ddeddf, mae’r cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 hefyd yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl wrth gyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â phobl anabl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr anabl sydd angen cymorth. Mae Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn nodi hawliau pobl anabl, ac maent ar gael ar: http://www.un.org/disabilities/convention/conventionfull.shtml

 

24. Mae prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal wedi’i nodi a’i disgrifio yn adran 78 o’r Ddeddf. Y brif ddyletswydd yw bod yn rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn:

·         ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn

·         defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r awdurdod yn achos y plentyn.

 

25. Mae diogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal yn cynnwys, er enghraifft:

·         dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn 

·         dyletswydd i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenion am ofal a chymorth, a sicrhau bod anghenion cymwys yn cael eu diwallu. 

 

26. Yn ogystal, o dan adran 78, cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal (neu blentyn y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu gofalu amdano), mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i:

·         barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod

·         argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

 

27. Dan rai amgylchiadau eithriadol, mae’n bosibl y bydd angen i awdurdod lleol arfer ei bwerau mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal mewn ffordd sy’n anghyson â’r dyletswyddau hyn. Caiff awdurdod lleol wneud hynny, ond dim ond er mwyn amddiffyn aelodau’r cyhoedd rhag niwed difrifol - Adran 78(4)

 

28. Mae’r darpariaethau manwl yn y cod hwn wedi’u hysgrifennu i adlewyrchu’r dyletswyddau hollgyffredinol hyn ar awdurdodau lleol ac ar unigolion mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill sy’n arfer unrhyw un o’r swyddogaethau yn Rhan 6.

 

Canlyniadau llesiant

 

29. Diben cyffredinol Rhan 6 yw diogelu a hyrwyddo llesiant plant sy’n derbyn gofal, plant sy’n cael eu lletya a’r rhai sy’n gadael gofal, a galluogi pob plentyn neu berson ifanc i adfer a gwella o niwed y gorffennol. Mae hefyd yn ceisio hyrwyddo cryfder a chyflawni canlyniadau llesiant personol. Caiff llesiant ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf ac yn y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Bydd canlyniadau llesiant personol plentyn neu berson ifanc yn gysylltiedig â’r canlyniadau llesiant cenedlaethol ac yn adlewyrchu amgylchiadau, anghenion a dyheadau penodol y plentyn neu’r person ifanc unigol. Bydd barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc, a (lle bo hynny’n briodol) barn, dymuniadau a theimladau ei rieni, yn hollbwysig wrth benderfynu beth yw’r canlyniadau personol a sut y gellir eu sicrhau. Bydd y graddau y gall plentyn neu berson ifanc gyfrannu at y broses o ddiffinio a chyflawni’r canlyniadau yn dibynnu ar ei oedran a’i ddealltwriaeth, a dylai’r unigolyn gael cymorth yn y cyswllt hwn gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a phobl eraill gysylltiedig, gan gynnwys (fel sy’n briodol) ei rieni, ei deulu a’i ffrindiau, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, eiriolwyr ac  ymwelwyr annibynnol.    

 

30. Yn gyffredinol, nodir canlyniadau llesiant personol plentyn neu berson ifanc o dan y penawdau canlynol:

 

·         amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod

·         hyrwyddo iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol

·         hyrwyddo datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol

·         cynnal neu ddatblygu cysylltiadau teuluol neu gysylltiadau personol arwyddocaol eraill

·         cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

·         datblygu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gymuned leol

·         llesiant cymdeithasol ac economaidd (gan gynnwys peidio â byw mewn tlodi)

·         byw mewn llety addas.

 

Eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac eraill a nodir o dan Ran 10 o’r Ddeddf

 

31. Mae adran 178 o’r Ddeddf yn cadw dyletswyddau statudol presennol awdurdodau lleol i wneud trefniadau i ddarparu cymorth (eiriolaeth) ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant a oedd yn derbyn gofal gynt ac eraill sy’n cael eu nodi sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adrannau 174,176 a 177.

 

32. Mae’r cod ymarfer dynodedig ar eiriolaeth yn darparu canllawiau penodol ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i blant:-

·         sy’n derbyn gofal neu sy’n cael eu lletya gan awdurdod lleol

 

·         sydd wedi cadw hawliau fel plant a fu’n derbyn gofal gynt

 

·      y mae’r awdurdod lleol yn arfer swyddogaeth ar eu cyfer o dan y rhannau canlynol o’r Ddeddf: Rhan 3 (asesu anghenion); Rhan 4 (diwallu anghenion); Rhan 5 (codi tâl ac asesiad ariannol); Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya); a Rhan 7 (diogelu); neu y mae’n arfer swyddogaeth ar eu cyfer o dan Ran 4 (gofal a goruchwylio) a Rhan 5 (amddiffyn plant) o Ddeddf Plant 1989,

 

·         sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, sylwadau o dan adrannau 174 i 176 o’r Ddeddf. 

 

33.   Os yw plant neu bobl ifanc yn credu nad yw pryder neu broblem yn cael ei datrys a’u bod yn bwriadu neu’n ystyried gwneud sylwadau, mae’n rhaid i’r awdurdodau lleol sicrhau bod y plant yn gwybod bod gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gael, a chynorthwyo plant penodol i ddefnyddio’r gwasanaethau.    


Pennod 1:  Cynllunio gofal a chymorth

 

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth Rhan 6, gan gynnwys iechyd ac addysg

 

 

Diben

34. Mae cynlluniau ac adolygiadau o achosion gofal a chymorth yn dwyn ynghyd plant sy’n derbyn gofal, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn cynllunio gofal a chymorth y plentyn ac adolygu’r cynllun yn rheolaidd. Mae asesu anghenion plant a phenderfynu sut i ddiwallu’r anghenion hynny yn rhan allweddol o waith cymdeithasol yn ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal, ac mae’r pwnc hwn yn cael ei drafod yn fanylach yn y rheoliadau a’r cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 3 a Rhan 4 o’r Ddeddf. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae angen deall pwysigrwydd cynllunio a’r fframwaith cysyniadol ac ymarferol ar gyfer cynllunio. Diben y cyfryw fframwaith yw:

·         sicrhau bod plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael eu trin mewn ffordd agored a gonest a’u bod yn deall y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud

·         darparu eglurdeb ynglŷn â dyrannu cyfrifoldebau a thasgau, yng nghyd-destun rhianta ar y cyd gan rieni’r plentyn, gofalwyr a’r awdurdod lleol yn rhinwedd ei swydd fel rhiant corfforaethol, a sicrhau bod gweithredoedd yn gwella canlyniadau

·         amlygu atebolrwydd o ran sut mae awdurdodau lleol yn arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf.

35. Mae rheoliadau yn pennu’r trefniadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu gwneud er mwyn gofalu am blentyn. Mae’r broses o greu cynllun gofal a chymorth yn elfen ganolog o’r gofynion hyn. Bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal yn adeiladu ar unrhyw gynllun blaenorol a wnaed o dan Ran 4 o’r Ddeddf. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am sut y caiff anghenion llesiant a datblygiadol y plentyn eu diwallu, yn ogystal â’r trefniadau ar gyfer gofal presennol a gofal mwy hirdymor y plentyn. Mae’n sicrhau bod cynllun hirdymor ar waith ar gyfer magwraeth y plentyn (‘cynllun sefydlogrwydd’ oedd enw blaenorol y cynllun) a bod pawb yn gweithio tuag ato, gan gynnwys y tîm o amgylch y plentyn, y plentyn, a (lle bo hynny’n briodol) teulu’r plentyn. Dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 nodi’r canlyniadau llesiant dymunol ar gyfer y plentyn a chyfraniad pob asiantaeth at sicrhau’r canlyniadau. Bydd yr eglurdeb hwn yn cefnogi adolygiadau effeithiol o achos y plentyn er mwyn monitro’r cynnydd a wnaed tuag at fodloni’r amcanion tymor byr a hirdymor ar gyfer y plentyn, teulu’r plentyn a’r gofalwyr.

 

Cysylltiad â chynlluniau eraill

 

36. Y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yw’r cynllun hollgyffredinol ar gyfer y plentyn sy’n derbyn gofal, ac mae’n crynhoi’r holl wybodaeth allweddol sy’n deillio o asesiad o anghenion datblygiadol y plentyn ac unrhyw asesiadau eraill o’r plentyn a’i deulu. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPPCR”) hefyd yn nodi bod angen paratoi cynllun iechyd, cynllun addysg personol a chynllun lleoli ar gyfer y plentyn, ond dylai’r rhain fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn.   

 

37. Pan fydd person ifanc yn troi’n 16 oed, bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cael ei gynnwys yn ei gynllun llwybr, a fydd yn nodi’r camau sydd eu hangen i helpu’r person ifanc i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion a rhagor o annibyniaeth.    

 

Sefydlogrwydd

 

38. Bydd sicrhau ‘sefydlogrwydd’ yn ystyriaeth allweddol unwaith y bydd plentyn yn dechrau derbyn gofal, a dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 nodi sut i wneud hyn o’r dechrau. Mae sefydlogrwydd yn cynnwys sefydlogrwydd emosiynol (ymlyniad) a sefydlogrwydd cyfreithiol (pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn). Mae’r ddwy elfen yn rhoi teimlad o ddiogelwch, parhad, ymrwymiad a hunaniaeth i’r plentyn. Mae sefydlogrwydd yn darparu fframwaith sylfaenol ar gyfer gwaith cymdeithasol o bob math yn ymwneud â phlant a theuluoedd, o gymorth i deuluoedd i fabwysiadu. Mae cynllunio ar gyfer sefydlogrwydd yn sicrhau bod gan blant deulu diogel, sefydlog a chariadus i’w cefnogi yn ystod plentyndod ac ar ôl hynny, ac un o swyddogaethau allweddol y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yw sicrhau bod gan bob person ifanc gynllun sefydlogrwydd erbyn yr ail adolygiad.

 

39. Mae dewisiadau amrywiol ar gael ar gyfer sefydlogrwydd, a gall pob un ohonynt sicrhau canlyniadau da ar gyfer plentyn.

 

40. Mae modd sicrhau sefydlogrwydd i rai plant drwy eu dychwelyd yn llwyddiannus at eu teulu biolegol ar ôl mynd i’r afael â’r ffactorau yn eu bywyd teuluol a arweiniodd atynt yn cael eu rhoi mewn gofal. Dylid gwneud hyn drwy asesu’r canlynol mewn ffordd fanwl a chyson:

 

·         Anghenion y plentyn (gan gynnwys ei oedran a pha mor agored i niwed ydyw);

·         Ffactorau risg ac amddiffynnol;

·         Gallu’r rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn, y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud hynny a sut bydd yn cael ei ddarparu;

·         Gallu’r rhieni i newid.

 

41. Bydd y swyddog adolygu annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod yr asesiad uchod wedi’i gwblhau, bod cymorth ar gael, ac am adolygu anghenion y plentyn a’r rhieni yn rheolaidd.

 

42.  Mewn achosion lle mae’r plentyn yn dychwelyd adref, ac nad yw’n derbyn gofal bellach, mae’n rhaid i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys gwybodaeth am y cyngor a’r cymorth y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu eu darparu ar gyfer plentyn a’i deulu pan na fydd y plentyn bellach yn derbyn gofal ganddo. Dylid ceisio osgoi cyfnodau gofal rheolaidd sy’n gallu niweidio plant yn yr hirdymor. 

 

43. Bydd gan y rhan fwyaf o blant berthynas o ryw fath â’u teulu biolegol, hyd yn oed os nad ydynt yn dychwelyd adref. Mae’n rhaid rheoli’r berthynas hon, felly mae cofnodi profiadau bywyd a gwaith cyswllt yn hanfodol wrth helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunaniaeth.   

 

44. I blant eraill, gall llwybrau tuag at sefydlogrwydd gynnwys gofal sy’n cael ei ddarparu gan aelodau’r teulu a ffrindiau, yn enwedig pan fydd yn bosibl defnyddio gorchymyn cyfreithiol fel gorchymyn trefniadau plant, gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig, neu mewn achosion prin, mabwysiadu, i gefnogi’r gofal.

 

45. Llwybr pwysig arall i sefydlogrwydd yw gofal maeth hirdymor lle mae ymlyniadau wedi datblygu a lle y cytunir (drwy’r broses cynllunio ac adolygu gofal) y bydd y plentyn yn aros yn y lleoliad hwn nes troi’n oedolyn. 

 

46. Ar gyfer plant sy’n methu dychwelyd at eu teulu biolegol neu eu teulu ehangach, mae mabwysiadu yn cynnig teulu newydd gydol oes sy’n sefydlog yn gyfreithiol.

 

47. Gall cynllunio dau drywydd, cynllunio cyfatebol neu drefniadau ‘maethu i fabwysiadu’ ddarparu modd o sicrhau sefydlogrwydd yn gynnar yn y broses ar gyfer rhai plant sy’n derbyn gofal. Mae rhagor o wybodaeth am drefniadau ‘maethu i fabwysiadu’ ar gael ym Mhennod 2 o’r Cod hwn.

 

48. Bydd y broses gynllunio yn nodi pa opsiwn sydd fwyaf tebygol o ddiwallu anghenion y plentyn unigol ar ôl ystyried cyfraniadau’r holl asiantaethau sydd wedi ymwneud â’r plentyn a dymuniadau a theimladau’r plentyn ei hun. Bydd manylion y broses, a’r trefniadau ar gyfer ei gweithredu, yn cael eu nodi yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6.

 

49. Bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer plant hŷn. Mae’n bosibl na fydd y bobl ifanc hyn yn gallu byw gyda’u rhieni biolegol am amryw o resymau, ac efallai y bydd yn well ganddynt fyw mewn cartref plant yn hytrach na bod mewn cartref maeth neu gael eu mabwysiadu. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r broses cynllunio gofal a chymorth nodi oedolion, fel aelodau o’r teulu ehangach, ffrindiau neu unigolion perthnasol eraill, sy’n gallu darparu cymorth emosiynol a pherthynas o ymddiriedaeth hirdymor a fydd yn sicrhau cymorth cyson, yn enwedig yn ystod cyfnodau pontio. Gall gwaith o ansawdd da gyda theuluoedd helpu pobl ifanc i godi pontydd yn ôl at eu rhieni, neu at aelodau eraill o’r teulu sy’n gallu darparu cymorth posibl hyd yn oed os nad oes modd i’r person ifanc fyw gartref.

 

Hyrwyddo cyswllt rhwng plentyn a theulu

50. Un o egwyddorion allweddol y Ddeddf yw’r angen am gyswllt rheolaidd rhwng y plentyn a’i deulu tra bod y plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol. Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â’r teulu a’r plentyn neu’r person ifanc, fel bod modd iddo gael ei aduno â’r teulu lle bo hynny’n bosibl, cyn belled â bod hyn yn gyson â llesiant y plentyn unigol. Dylai trefniadau cyswllt ganolbwyntio ar anghenion y plentyn. Llesiant y plentyn yw’r ystyriaeth bwysicaf bob amser, a dylid ystyried ac asesu yn rheolaidd safbwyntiau, dymuniadau ac anghenion cyswllt pob plentyn. Mae perthynas llawer o blant ag aelodau’r teulu, gofalwyr blaenorol, ffrindiau ac eraill yn bwysig iddynt. I rai plant, gall rhyw fath o gyswllt fod yn gymorth cadarnhaol i leoliad llwyddiannus. Gall cyswllt fod yn bwysig iawn ar gyfer helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu eu hunaniaeth a deall eu bywydau a’u teimladau.

 

51. Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i geisio hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i rieni, unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn, ac unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol neu’n gyson â llesiant y plentyn [Adran 95]. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi camau rhesymol ar waith i hysbysu rhieni’r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn am le mae’r plentyn yn byw. Fodd bynnag, nid oes angen darparu’r wybodaeth pe bai hynny’n niweidio llesiant y plentyn. Yn yr un modd, mae’n rhaid i riant neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol hysbysu’r awdurdod lleol am ei gyfeiriad.

 

Lleoliadau

 

52. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio ‘cynllun lleoli’ ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal. Bydd y cynllun hwn yn rhan o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol, a bydd yn nodi’n fanwl sut bydd y lleoliad yn helpu i ddiwallu anghenion y plentyn fel y’u nodir yn y cynllun hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys sut bydd y lleoliad yn helpu i sicrhau sefydlogwyd (er enghraifft, drwy hyrwyddo cyswllt cadarnhaol i gynorthwyo’r plentyn i ddychwelyd adref, neu drwy helpu’r plentyn i symud i deulu sy’n mabwysiadu), a sut bydd anghenion bob dydd y plentyn yn cael eu diwallu. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r plentyn (lle bo hynny’n briodol), gofalwr y plentyn, y rhiant a’r gweithiwr cymdeithasol; ac mae’n rhaid iddo gofnodi’n glir gyfraniad pawb at lwyddiant y lleoliad. Mae canllawiau manwl ar leoliadau a chynllunio lleoliadau ar gael ym Mhennod 2 o’r cod hwn.

 

Cynlluniau llwybr

 

53. Pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal ar fin troi’n 16 oed, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun llwybr i gynorthwyo’r person ifanc i bontio i fyd oedolion a gadael gofal. Bydd y cynllun llwybr yn adeiladu ar gynllun gofal a chymorth Rhan 6 presennol y plentyn, a fydd yn cael ei gynnwys yn y cynllun llwybr.     

 

54. Bydd y cynllun llwybr yn cynnwys y camau gweithredu sydd eu hangen gan yr awdurdod lleol, gofalwr y person ifanc, y person ifanc, y rhiant a phartïon eraill a nodir i helpu’r person ifanc i bontio’n llwyddiannus o’r sector gofal. Bydd y cynllun llwybr yn parhau ar ôl i’r person ifanc droi’n 18 oed. Hefyd, dylai proses asesu a chynllunio’r llwybr benderfynu a chofnodi’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd angen eu darparu i’r person ifanc wrth iddo baratoi i adael gofal, ac ar ôl iddo adael gofal.  

 

55. Mae canllawiau manwl ar gynllunio llwybrau ar gael ym Mhennod 5 o’r cod hwn. 

 

Cynlluniau amddiffyn plant 

 

56. Pan fydd plentyn sy’n destun cynllun amddiffyn plant (yn dilyn ymchwiliad adran 47 o Ddeddf Plant 1989) yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal, fel arfer ni fydd angen parhau â chynllun amddiffyn y plentyn. Fodd bynnag, bydd materion diogelu yn parhau i fod yn berthnasol mewn nifer fach o achosion, a bydd angen i’r plentyn sy’n derbyn gofal fod â chynllun amddiffyn plant hefyd.

 

57. Dylai’r awdurdod lleol werthuso’r systemau a’r prosesau ar gyfer adolygu cynlluniau amddiffyn plant a chynlluniau gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan ystyried sut i sicrhau bod elfennau amddiffyn plant y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cael eu hadolygu fel rhan o’r broses adolygu gyffredinol sy’n arwain at ddatblygu un cynllun. O ystyried mai proses yw adolygiad yn hytrach nag un cyfarfod, dylai’r ddwy system adolygu gael eu cysoni mewn ffordd anfiwrocrataidd fel bod modd ystyried holl anghenion y plentyn yn y broses cynllunio ac adolygu gofal a chymorth.

 

58. Dylid nodi bod gofynion gwahanol ar gyfer annibyniaeth swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol o gymharu â chadeirydd y gynhadledd amddiffyn plant. Mae’n bwysig nodi hefyd fod angen i’r gynhadledd amddiffyn plant fod yn fforwm amlasiantaethol, tra bod plant a phobl ifanc eisiau cyn lleied o bobl allanol â phosibl yn y cyfarfodydd adolygu a fynychant. Fodd bynnag, ni fydd modd i swyddogion adolygu annibynnol gyflawni eu swyddogaeth statudol heb ystyried diogelwch y plentyn yng nghyd-destun y broses cynllunio gofal a chymorth. Dylid ystyried trefnu bod y swyddog adolygu annibynnol yn cadeirio’r gynhadledd amddiffyn plant mewn achosion lle mae plentyn sy’n derbyn gofal yn parhau i fod yn destun cynllun amddiffyn plant. Os nad oes modd gwneud hyn, dylai’r swyddog adolygu annibynnol fynychu’r gynhadledd adolygu amddiffyn plant.

 

59. Mae hyn yn golygu y dylai amseriad yr adolygiad o elfennau amddiffyn plant y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 fod yr un fath â’r adolygiad o dan y Rheoliadau CPPCR, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am lesiant a diogelwch y plentyn yn cael ei hystyried yn y cyfarfod adolygu a’i bod yn llywio’r broses cynllunio gofal a chymorth gyffredinol. Wrth adolygu elfennau amddiffyn plant y cynllun, dylai’r adolygiad o’r plentyn sy’n derbyn gofal hefyd ystyried a yw’r meini prawf ar gyfer y plentyn yn aros yn destun cynllun amddiffyn plant yn cael eu bodloni o hyd. Dim ond yn ystod yr adolygiad o’r plentyn sy’n derbyn gofal y dylid gwneud newidiadau sylweddol i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6.

 

Proses gynllunio gofal

 

60. O safbwynt plant sydd eisoes yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol wrth iddynt ddechrau derbyn gofal, gall asesiad cyfoes a chynllun ar gyfer darparu gwasanaethau o dan adran 54 o Ran 4 o’r Ddeddf fod ar waith yn barod. Oni bai bod rhesymau ar sail tystiolaeth da yn bodoli ar gyfer newid cyfeiriad, dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ategu a datblygu’r cynllun Rhan 4 sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y plentyn. Os nad yw plentyn wedi’i asesu cyn dechrau derbyn gofal, bydd angen gwneud asesiad i lywio’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6.

 

61. Bydd unigolion a’u teuluoedd y mae angen gofal a chymorth arnynt yn gallu cyfrannu’n llawn at yr asesiad a’r broses cynllunio gofal a chymorth, a dylent dderbyn yr holl wybodaeth berthnasol mewn fformat hygyrch, gan gynnwys drwy eu dewis iaith a chyfathrebu. Dylai gwybodaeth fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu strategaeth Llywodraeth Cymru “Mwy na Geiriau....”. Mae’n rhaid i’r broses o nodi anghenion gofal a chymorth, a pharatoi cynllun gofal a chymorth Rhan 6, sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu hanghenion a’u bod yn gallu cyfranogi’n llawn fel partneriaid cyfartal. I sicrhau bod hyn yn digwydd, dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 adeiladu ar ofynion y cynllun gofal a chymorth o dan Ran 4 o’r Ddeddf, a:

 

·         disgrifio anghenion datblygiadol a ganfyddir y plentyn a’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer aelodau’r teulu

·         disgrifio pam y mae math arbennig o leoliad wedi’i ddewis

·         cynnwys canlyniadau penodol a chyraeddadwy sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gyda’r nod o ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn a nodi sut bydd cynnydd yn cael ei fesur

·         cynnwys strategaethau realistig a chamau gweithredu penodol i wneud y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau canlyniadau arfaethedig

·         nodi a chyflwyno’n glir rolau a chyfrifoldebau aelodau’r teulu, gofalwyr y plentyn ac ymarferwyr (gan gynnwys, er enghraifft, meddyg teulu, nyrs a pherson dynodedig mewn ysgolion), ac amlder cyswllt yr ymarferwyr hynny â’r plentyn, y gofalwyr a/neu aelodau’r teulu

·         disgrifio’r trefniadau adolygu os nad yw’r cynllun gofal a chymorth arfaethedig ar gyfer y plentyn yn gyraeddadwy, er mwyn lleihau oedi.

 

62. Amlinellir y gofynion penodol ar gyfer cynllunio i ddiwallu anghenion iechyd ac addysg yn fanylach yn ddiweddarach yn y Bennod hon.

 

63. Wrth gynllunio lleoliad, mae’n hollbwysig ymgynghori â phawb sy’n ymwneud â’r plentyn. Dylid egluro’r angen i ymgynghori i’r rhieni ac i’r  plentyn. Dylai’r awdurdod lleol gydgysylltu cyfraniad pob asiantaeth berthnasol a’r holl unigolion sy’n bwysig ym mywyd y plentyn. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo (neu’n cynnig y bydd yn derbyn gofal ganddo), mae’n rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adran 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill) o’r Ddeddf), ystyried:

 

·           barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod

·           argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

 

64. Y cwestiwn pwysicaf i ymarferwyr a’u rheolwyr yw pa ymyriadau a fydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer plentyn penodol, a theulu neu ofalwyr y plentyn, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl o dan yr amgylchiadau. Bydd natur yr ymyriad yn dibynnu ar yr opsiwn sefydlogrwydd a nodwyd ar gyfer y plentyn yng nghyd-destun asesu ei anghenion datblygiadol. Dylid rhoi sylw i’r cwestiynau canlynol wrth ystyried yr ymyriad mwyaf priodol:

 

·         pa ymyriadau sydd ar gael a all helpu i gefnogi cryfderau a/neu ddiwallu anghenion a nodwyd?

·         pa adnoddau sydd ar gael?

·         pa asiantaeth neu ddull gweithredu proffesiynol sy’n debygol o ennyn ymateb y plentyn, y teulu a/neu’r gofalwr?

·         pa ymyriad sy’n debygol o arwain at fanteision yn syth a pha ymyriad a fydd yn cymryd rhagor o amser o bosibl?

·         sut a pham y dylid trefnu dilyniant yr ymyriadau?

·         wrth ystyried trefnu bod y plentyn yn dychwelyd adref, beth yw’r tebygolrwydd o sicrhau newid digonol o fewn ffrâm amser y plentyn?

 

 

Trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn

 

65. Mae’r gofyniad i ddatblygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn a fydd yn derbyn gofal neu blentyn sy’n derbyn gofal yn berthnasol i blentyn sy’n cael ei letya a phlentyn y mae gofynion adran 31A o Ddeddf Plant 1989 yn berthnasol iddo (er y bydd y llys yn pennu’r amserlen ar gyfer plentyn o’r fath).

 

Y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn sy’n cael ei letya

 

66. Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n dechrau derbyn gofal wedi bod yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol ers cryn amser. O ganlyniad, pan benderfynir lletya plentyn, dylai bod modd cychwyn y broses cynllunio gofal a chymorth cyn y cyfnod gofal. Os nad oes modd gwneud hyn, mae’n rhaid i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gael ei baratoi o fewn deg diwrnod gwaith i ddechrau’r lleoliad cyntaf. Mae’n rhaid i’r asesiad o anghenion y plentyn ystyried a yw’r llety sy’n cael ei ddarparu ar ei gyfer yn bodloni’r gofynion a nodir yn adran 81 o Ran 6 o’r Ddeddf ac yn Rheoliadau CPPCR 2015. Bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn adlewyrchu’r cyfraniad amlasiantaethol sydd ei angen i sicrhau bod y cynllun yn ystyried holl anghenion llesiant a datblygiadol y plentyn er mwyn sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt. 

 

67. Mewn achos lle mae’r plentyn sy’n cael ei letya yn berson ifanc dros 16 oed sy’n cytuno o’i wirfodd i gael ei letya, dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gael ei gytuno â’r person ifanc.

 

Y cynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn y mae adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (y cynllun gofal Llys) yn berthnasol iddo

 

68. Dylid darllen yr adran hon o’r cod ochr yn ochr â Chyfrol 1 o Ganllawiau a Rheoliadau (Gorchmynion Llys) Deddf Plant 1989 a’r Amlinelliad o’r Gyfraith Gyhoeddus (PLO).

 

69. Yn ôl adran 31A o Ddeddf Plant 1989, os cyflwynir cais a all fod yn destun gorchymyn gofal mewn perthynas â phlentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun gofal yn unol â’r amserlen a bennwyd gan y Llys. Nid oes modd gwneud unrhyw orchymyn nes bod y Llys wedi ystyried y cynllun. Os oes dyletswyddau sy’n gorgyffwrdd i baratoi cynlluniau a bennir yn gyfreithiol, ac os oes cynllun sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cynllun gofal a chymorth o dan Ran 6 o’r Ddeddf, gellir ystyried y broses o baratoi, gweithredu ac adolygu’r cynllun hwnnw fel modd i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau i baratoi, gweithredu ac adolygu cynllun gofal ‘llys’. Felly, mae’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn hollbwysig, a bydd ganddo ddylanwad mawr ar benderfyniad y Llys.  

 

70. Er nad oes angen cytundeb ffurfiol rhiant i gynllun gofal y llys, bydd yr awdurdod lleol yn ymwybodol o’r egwyddorion sy’n sylfaen i erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ymwneud â’r hawl i barch ar gyfer bywyd teuluol. O ganlyniad, dylai’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn ymgynghori’n briodol â rhieni, gan gofnodi’r rhesymau am weithredu neu beidio â gweithredu ar eu safbwyntiau.

 

71. Rhan allweddol o gynllun gofal y llys yw’r cynllun hirdymor ar gyfer y plentyn, sef elfen ‘sefydlogrwydd’ y cynllun gofal a chymorth ar gyfer y plentyn. Bydd ansawdd a chadernid yr opsiwn hwn yn hollbwysig wrth i’r Llys ystyried ai gorchymyn gofal yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiogelu a hyrwyddo lles y plentyn. Ar gyfer gwrandawiadau interim o dan adran 38 o Ddeddf Plant 1989, mae’n bosibl na fydd y cynllun wedi’i gadarnhau eto.

 

Cynlluniau gofal ‘Llys’ a mabwysiadu

 

72. Mewn lleiafrif o geisiadau am orchymyn gofal, daw’n amlwg yn ystod yr achos mai mabwysiadu yw’r opsiwn sefydlogrwydd dewisol ar gyfer y plentyn. Os yw’r awdurdod lleol wedi nodi mai mabwysiadu yw’r opsiwn sefydlogrwydd arfaethedig (naill ai ar ddechrau’r achos gofal neu yn ystod yr achos), dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y cais am orchymyn lleoli yn cael ei wneud fel rhan o’r achos gofal.

 

Rhianta corfforaethol a chynlluniau gofal y Llys

 

73. Mae’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer y person ifanc yn cynnwys y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd, camau gweithredu’r awdurdod lleol a phartneriaid amlasiantaethol i sicrhau sefydlogrwydd, a manylion anghenion rhianta bob dydd y plentyn ar hyn o bryd a sut y cânt eu diwallu. Bydd angen gwybodaeth ar y Llys i’w galluogi i ystyried a yw’r meini prawf trothwy yn adran 31(2) o Ddeddf Plant 1989 – niwed arwyddocaol – yn cael eu bodloni ac a fydd gwneud unrhyw orchymyn yn well i’r plentyn na pheidio â gwneud gorchymyn o gwbl.

 

74. O ganlyniad, mae’n bosibl na fydd angen cyflwyno i’r llys holl fanylion y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol i gyflawni ei swyddogaethau rhianta corfforaethol.   

 

Cynnwys y cynllun gofal a chymorth Rhan 6

 

75. Ceir gofynion penodol yn ymwneud â pharatoi cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, ac ar gyfer cynnwys y cynllun, sy’n ychwanegu at y gofynion cyffredin a nodir yn y cod ar Ran 4 o’r Ddeddf. Mae’n bwysig bod y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cofnodi gwybodaeth a all helpu’r plentyn, rhiant y plentyn a’r gofalwr i ddeall pam y mae penderfyniadau wedi’u gwneud neu’n cael eu gwneud.

76.  Mae’r cod ar Ran 4 yn nodi bod yn rhaid i gynllun gofal a chymorth gynnwys:

·         Y canlyniadau sydd wedi’u nodi mewn perthynas â’r person y mae’r cynllun yn berthnasol iddo

·         Y camau y mae angen i’r awdurdod lleol a phersonau eraill eu rhoi ar waith i helpu’r person i gyflawni’r canlyniadau

·         Yr anghenion a fydd yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth

·         Sut y bydd cynnydd tuag at gyflawni’r canlyniadau yn cael ei fonitro a’i fesur

·         Dyddiad adolygiad nesaf y cynllun gofal

Dylai cynlluniau Gofal a Chymorth priodol hefyd nodi:

·         Rolau a chyfrifoldebau’r unigolyn, gofalwyr ac aelodau’r teulu, ac ymarferwyr. 

·         Yr adnoddau (gan gynnwys adnoddau ariannol) sydd eu hangen gan bawb

 

77. Yn ogystal, mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod rhaid i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys:

·         gwybodaeth am y cynllun hirdymor ar gyfer y plentyn, gan gynnwys amserlenni (yr opsiwn sefydlogrwydd)

·         y trefniadau ar gyfer diwallu anghenion llesiant a datblygiadol y plentyn

·         trefniadau ar gyfer cyswllt gyda brawd neu chwaer neu lysfrawd neu lyschwaer sy’n derbyn gofal hefyd ond nad yw wedi’i leoli/ei leoli gyda’r plentyn

·         manylion unrhyw orchmynion llys a wnaed o dan adran 8 neu adran 34 o Ddeddf Plant 1989

·         trefniadau ar gyfer hyrwyddo a chadw cyswllt â rhiant ac unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant

·         manylion y lleoliad a pham y dewiswyd y lleoliad, oni bai bod y plentyn mewn gofal ac nad yw’n cael ei letya gan yr awdurdod lleol

·         enw Swyddog Adolygu Annibynnol y plentyn

·         manylion y cynllun iechyd a’r cynllun addysg personol (CAP)

·         dymuniadau a theimladau pobl berthnasol ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer y plentyn  

·         dymuniadau a theimladau’r unigolion hynny ynglŷn ag unrhyw newidiadau arfaethedig i’r cynllun gofal a chymorth.

 

78. Os nad yw cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn diwallu anghenion y person y mae’n berthnasol iddo, mae’n rhaid ei adolygu. Mae rhagor o wybodaeth am adolygiadau ar gael ym mhennod 4.

79.  Yn unol â rheoliad 6(3) o’r Rheoliadau CPPCR, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 i’r canlynol:

 

·         y plentyn, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny ym marn yr awdurdod lleol oherwydd oedran neu ddealltwriaeth y plentyn

·         rhieni’r plentyn, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

·         y Swyddog Adolygu Annibynnol

·         darparwr y gwasanaeth maethu os yw’r plentyn wedi’i leoli gyda gofalwr maeth  

·         rheolwr cofrestredig y cartref plant lle mae plentyn yn cael ei leoli

·         y person sy’n gyfrifol am blentyn sydd wedi’i leoli yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o’r Ddeddf

Gall awdurdod lleol benderfynu peidio â rhoi copi o’r cynllun gofal a chymorth i rieni’r plentyn neu i berson sydd â chyfrifoldeb rhiant os yw’n credu y byddai gwneud hynny’n rhoi’r plentyn mewn perygl o niwed.

 

 

Cynllunio gofal a chymorth mewn perthynas ag iechyd

 

80. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, sicrhau bod y plentyn yn derbyn gofal iechyd da, a bod trefniadau ar waith i fonitro gofal iechyd y plentyn yn unol â chynllun iechyd y plentyn. Mae gofal iechyd yn cynnwys:

·         gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol

·         cyngor ac arweiniad ar iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd

·         iechyd meddwl

·         iechyd emosiynol a chryfder.

 

Asesiadau iechyd

 

81. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig gynnal asesiad cychwynnol o gyflwr iechyd y plentyn, a darparu adroddiad ysgrifenedig o’r asesiad. Mae’n rhaid cyfeirio’n benodol at iechyd meddwl y plentyn. Nod yr asesiad yw darparu proffil iechyd cynhwysfawr o’r plentyn, nodi’r materion sydd wedi’u hanwybyddu yn y gorffennol ac sydd angen eu datrys o bosibl er mwyn gwella iechyd a llesiant corfforol a meddwl cyffredinol y plentyn, a darparu sylfaen ar gyfer monitro eu datblygiad tra bod y plentyn mewn gofal.

 

82. Mae’n rhaid i’r asesiad a’r adroddiad ganolbwyntio ar y materion a nodir yn y Rheoliadau CPPCR. Mae hyn yn berthnasol i’r asesiad a’r adroddiad cyntaf, a’r rhai dilynol. Mae’n rhaid rhoi copi o bob adroddiad i’r awdurdod lleol (fel rhiant corfforaethol y plentyn), y plentyn (yn amodol ar ei oedran a lefel ei ddealltwriaeth), y rhieni (oni bai bod hyn yn amhriodol ar sail amgylchiadau a nodir yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn), gofalwyr y plentyn, a Swyddog Adolygu Annibynnol y person ifanc.

 

83. Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod asesiadau iechyd yn cael eu cynnal. Mae gan fyrddau iechyd lleol ddyletswydd i gydymffurfio â cheisiadau gan awdurdodau lleol am gymorth i sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gwblhau. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r bwrdd iechyd lleol (neu Fwrdd Comisiynu’r GIG ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol os yw plentyn yn cael ei leoli yn Lloegr), yn ogystal â’r ymarferydd meddygol cyffredinol, pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal neu pan fydd ei leoliad yn newid. Os yw’r plentyn yn cael ei leoli y tu allan i’r ardal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol hysbysu bwrdd iechyd lleol yr ardal lle mae’r plentyn yn byw ar hyn o bryd, yn ogystal â’r bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod lleol (neu’r awdurdod lleol yn Lloegr) ar gyfer yr ardal lle bydd y plentyn yn cael ei leoli.

 

84. Gall ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig, neu fydwraig gofrestredig, sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig, adolygu iechyd plentyn a darparu adroddiad ysgrifenedig. Unwaith eto, mae’n rhaid ystyried cyflwr iechyd meddwl y plentyn yn benodol.   

 

85. Er mwyn llywio camau gweithredu’r cynllun iechyd, dylai’r asesiad iechyd gynnwys:

 

·         asesiad o gyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol ac emosiynol a’i iechyd meddwl

·         hanes iechyd y plentyn, gan gynnwys (i’r graddau y mae’n ymarferol bosibl) hanes iechyd y teulu

·         effaith iechyd a hanes iechyd ar ddatblygiad y plentyn

·         y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol, yn unol ag anghenion y plentyn, gan gynnwys:

Ø  archwiliadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol y plentyn, gan gynnwys iechyd deintyddol

Ø  triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd (gan gynnwys iechyd corfforol, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol a nodir

Ø  mesurau ataliol fel brechu

Ø  sgrinio ar gyfer nam ar y golwg neu nam ar y clyw

Ø  cyngor ac arweiniad ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol

·         newidiadau arfaethedig i’r trefniadau presennol.

 

Amlder asesiadau iechyd

 

86. Dylid cwblhau’r asesiad cyntaf a’r adroddiad ysgrifenedig cyn i’r plentyn gael ei leoli gan yr awdurdod lleol. Os nad yw hyn yn ymarferol, dylai’r asesiad a’r adroddiad ysgrifenedig gael eu cwblhau cyn yr adolygiad cyntaf o’r achos.

87. Dylid cynnal asesiadau iechyd:

·         o leiaf unwaith bob chwe mis ar gyfer plant o dan bump oed

·         o leiaf unwaith bob 12 mis ar gyfer plant pump oed a hŷn.

 

88. Mae pum mlynedd gyntaf bywyd plentyn yn hollbwysig. Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol a chomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau practisau i sicrhau bod gan blant sy’n derbyn gofal fynediad i’r rhaglen gyffredinol o adolygiadau iechyd a datblygiad, a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i sicrhau’r iechyd a’r lles gorau posibl.

 

89. Os oes asesiad iechyd wedi’i gwblhau o fewn tri mis i ddechrau’r lleoliad, a bod yr awdurdod iechyd wedi derbyn adroddiad ysgrifenedig sy’n bodloni’r gofynion statudol, nid oes angen cwblhau asesiad cyn y lleoliad neu erbyn yr adolygiad cyntaf os yw’r awdurdod lleol yn fodlon na fu unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y cyfnod ers cwblhau’r asesiad. Mae’n rhaid i’r cylch ar gyfer asesiadau iechyd y dyfodol gychwyn o ddyddiad yr adolygiad cyntaf.

 

90. Mae llawer o blant sy’n derbyn gofal yn dychwelyd at eu rhieni biolegol ar ôl iddynt beidio â derbyn gofal, felly mae cynnwys rhieni mewn asesiadau iechyd yn ymarfer da. Mae’n gyfle i gael hanes iechyd y plentyn a’r teulu yn uniongyrchol, ac yn gyfle i sicrhau cydsyniad i gasglu rhagor o ddata angenrheidiol gan feddygon teulu, ymgynghorwyr ac ysbytai. Bydd meddu ar hanes iechyd personol a theuluol cyflawn yn cynyddu gwerth asesiadau iechyd cyfredol a rhai’r dyfodol yn sylweddol, ac yn hwyluso gwell ymwybyddiaeth o anghenion iechyd pan fydd plentyn yn dychwelyd adref neu, os nad yw hynny’n bosibl, ar gyfer trefniadau sefydlogrwydd eraill neu leoliadau yn y dyfodol. Os yw plentyn yn cael ei letya gan yr awdurdod lleol, dylid rhoi cyfle i’r rhieni gyfrannu at asesiad iechyd y plentyn, oni bai y byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i fudd pennaf llesiant y plentyn.

 

91. Os yw plentyn yn gwrthod cydsynio i asesiad iechyd, ac y bernir bod ei ddealltwriaeth yn ddigonol ar gyfer hynny, nid oes unrhyw ofyniad i gwblhau asesiad yn unol â’r Rheoliadau CPPCR neu ddarparu adroddiad asesiad iechyd ysgrifenedig. Fodd bynnag, yn yr achosion hyn, dylid parhau i roi ystyriaeth i iechyd y plentyn fel rhan o’r broses gynllunio ac adolygu gofal a chymorth Rhan 6. Mae arferion gorau awdurdodau lleol wedi dangos bod plant yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn asesiadau iechyd os cânt eu hannog a’u cynorthwyo i fynychu, pan fydd yr asesiad yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n peri pryder iddynt, a phan fydd yr asesiad yn digwydd mewn amgylchedd addas a hygyrch.

 

Cynlluniau iechyd

 

92. Caiff y cynllun iechyd ei ddatblygu o’r asesiad o anghenion iechyd y plentyn, ac mae’n llunio elfen iechyd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Mae’n rhaid cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth yn y cynllun iechyd, gan gynnwys:

·         hanes iechyd

·         y trefniadau presennol ar gyfer gofal iechyd

·         archwiliadau a sgrinio iechyd rheolaidd

·         mesurau ataliol

·         hybu iechyd.

 

93. Dylai’r cynllun nodi’r camau gweithredu a’r gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion iechyd a nodwyd yn yr asesiad, yr unigolyn neu’r asiantaeth sy’n gyfrifol am bob cam gweithredu neu wasanaeth, yr amserlenni tebygol, a’r canlyniadau arfaethedig.

 

94. Wrth lunio cynllun iechyd, mae’n ofynnol i’r awdurdodau cyfrifol sicrhau bod y plentyn yn derbyn gofal iechyd, gan gynnwys unrhyw frechiadau angenrheidiol sy’n cael eu hargymell yn benodol ac unrhyw ofal meddygol a deintyddol gofynnol. Bydd hyn yn cynnwys cofrestru’r plentyn gydag ymarferydd meddygol cyffredinol cofrestredig, a threfnu archwiliadau rheolaidd gyda deintydd. Os oes gan berson ifanc anabledd neu anghenion arbennig eraill, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i barhau â gofal arbenigol. Dylai’r defnydd o ddarpariaeth y GIG a gwasanaethau iechyd ysgolion fod yr un fath ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant eraill, ond bydd angen gweithredu mewn ffordd sensitif ac ar sail gwybodaeth wrth asesu a diwallu anghenion iechyd plant sy’n derbyn gofal gan y byddant wedi dioddef anfantais yn gynnar yn eu bywydau yn aml, a gall eu hiechyd fod mewn perygl oherwydd nad ydynt wedi derbyn gofal parhaus.

 

Adolygu cynlluniau iechyd

 

95. Dylai’r awdurdod lleol ystyried materion sy’n codi yn yr adolygiad iechyd fel rhan o’r broses gynllunio ac adolygu gofal a chymorth Rhan 6, a dylai unrhyw gamau gweithredu gofynnol gael eu cynnwys wrth adolygu cynllun y plentyn.

 

Cynllunio gofal a chymorth mewn perthynas ag addysg

 

96. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo llwyddiant addysgol fel rhan annatod o’u dyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plant y maent yn gofalu amdanynt. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt roi ystyriaeth benodol i oblygiadau addysgol unrhyw benderfyniad yn ymwneud â llesiant cyffredinol y plentyn. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i bob plentyn sy’n derbyn gofal yr awdurdod lleol, ble bynnag y mae wedi’i leoli. Mae’n cynnwys sicrhau bod addysg feithrin ar gael i blant ifanc iawn a chynorthwyo pobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal, a’r rhai o dan 18 oed sy’n gadael gofal, i wireddu eu potensial ym maes addysg.

 

97. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal o bob oedran yn cael y cyfle i sicrhau canlyniadau addysgol sy’n debyg i ganlyniadau eu cyfoedion. Dylent fynd ati i weithio gyda gofalwyr ac athrawon y plentyn i’w annog i fod â’r disgwyliadau uchaf o ran yr hyn y mae’n gallu ei gyflawni.

 

98. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt ddiwylliant o ymrwymiad rhagweithiol i sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau ar gyfer yr holl blant y maent yn gofalu amdanynt, ynghyd â gweithdrefnau cadarn ar gyfer monitro eu cynnydd addysgol. Yn benodol, dylent allu dangos drwy’r hyfforddiant, y datblygiad a’r cymorth a roddant i ofalwyr, ysgolion a staff awdurdodau lleol eu bod yn deall anghenion plant sy’n derbyn gofal. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod camau atebolrwydd clir ar waith ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau, a’u bod yn cael eu monitro’n fanwl gan un o uwch reolwyr yr awdurdod lleol.

 

99. Dylid darllen y cod hwn ochr yn ochr â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal. 

 

Pwysigrwydd sefydlogrwydd ym maes addysg

 

100.      Wrth benderfynu ble i leoli plentyn sy’n derbyn gofal, dylai awdurdod lleol wneud popeth posibl i leihau unrhyw amharu ar addysg y plentyn. Mae hyn yn golygu gwneud pob ymdrech i drefnu lleoliad gofal sy’n golygu bod modd parhau â’r ddarpariaeth addysgol bresennol, lle bo hynny er budd pennaf y plentyn. Mae’n bwysig canfod, ac ystyried, barn y plentyn ar ei addysg (yn amodol ar ei oedran a lefel ei ddealltwriaeth) wrth benderfynu ble i leoli’r plentyn. Dylid gwneud popeth posibl i sicrhau bod plentyn yng Nghyfnod Allweddol 4 (blynyddoedd 10 ac 11) yn aros yn ei ysgol bresennol, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid ei symud. Mae rhagor o arweiniad ar y mater hwn ar gael ym Mhennod 2 o’r cod hwn.

 

 

Y cynllun addysg personol

 

101.      Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod cynllun addysg personol (CAP) effeithiol o ansawdd uchel ar gael ar gyfer pob plentyn y maent yn gofalu amdano, a fydd yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn. Mae’r CAP yn gofnod o addysg a hyfforddiant y plentyn. Dylai ddisgrifio’r hyn sydd angen ei wneud i helpu’r plentyn i wireddu ei botensial, ac adlewyrchu (ond nid dyblygu) unrhyw gynlluniau addysg sydd eisoes yn bodoli, fel datganiad o anghenion addysgol arbennig. Dylai’r awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â’r plentyn, yr ysgol (yn enwedig y person dynodedig), gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn datblygu ac adolygu’r CAP, fel ei fod yn adlewyrchu anghenion y plentyn yn llawn, yn aros yn gyfoes ac yn cael ei weithredu.

 

102.      Ac eithrio mewn achosion lle mae plentyn yn mynd i ofal mewn argyfwng, dylid dechrau’r CAP fel rhan o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyn i’r person ifanc ddechrau derbyn gofal. Mewn lleoliad argyfwng, rhaid dechrau’r CAP o fewn deg diwrnod gwaith. Dylai’r CAP gyfrannu at asesiad o anghenion addysgol y plentyn, a dylai fersiwn ohono fod wedi’i baratoi ar gyfer y cyfarfod adolygu statudol cyntaf o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 (28 diwrnod ar ôl i’r plentyn ddechrau derbyn gofal neu gael ei letya).

 

Cynnwys y CAP

 

103.      Ni ddylid ystyried y CAP yn elfen ar wahân i rannau eraill y cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Dylai ategu elfennau eraill y cynllun, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag iechyd, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol, hunaniaeth a chysylltiadau teuluol a chymdeithasol. O ystyried bod plentyn sy’n derbyn gofal yn fwy tebygol o newid lleoliad addysgol yn amlach na phobl ifanc eraill, y CAP yw’r ddogfen graidd sy’n galluogi plant a’u gweithwyr cymdeithasol, eu gofalwyr a’u hathrawon i ddod i ddealltwriaeth gyffredin ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud, sut, a gan bwy (gan gynnwys gwasanaethau a phobl a enwir) i weithredu’r cynllun. Mae gan yr ysgol (neu leoliad addysgol arall) rôl allweddol yn datblygu, adolygu a diweddaru’r CAP rhwng adolygu’r cynllun gofal a chymorth cyffredinol, felly mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gan yr ysgol y cynllun diweddaraf.

 

104.      Mae’n rhaid cynnwys  y wybodaeth ganlynol yn y CAP:

 

·         cronoleg o hanes addysgol y plentyn a chofnod o brofiad a chynnydd addysgol y plentyn o safbwynt lefelau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys:

Ø  gwybodaeth am ysgolion a cholegau a fynychwyd, a’r rhesymau dros adael

Ø  i ba raddau yr amharwyd ar addysg y plentyn cyn iddo ddechrau derbyn gofal neu gael ei letya

Ø  gwybodaeth am gofnod presenoldeb ac ymddygiad ym mhob ysgol a fynychwyd

Ø  gwybodaeth am gynnydd academaidd, cyflawniadau ac unrhyw wybodaeth am anghenion addysgol arbennig gan gynnwys manylion unrhyw ddatganiad

 

·         y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant y plentyn, gan gynnwys manylion unrhyw ddarpariaeth addysg arbennig neu gymorth arbenigol i hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn

·         manylion diddordebau hamdden y plentyn

·         gwybodaeth am y trefniadau sydd ar waith i leihau amharu ar addysg a hyfforddiant y plentyn lle nad oes modd osgoi newid ei drefniadau addysgol

·         disgrifiad o rôl y gofalwyr o ran cynorthwyo cyflawniadau addysgol y plentyn, gan gynnwys sut maent yn cynorthwyo’r plentyn i fwynhau diddordebau hamdden.

 

105.      Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y wybodaeth uchod yn troi’n gamau gweithredu ymarferol yn y CAP.   

 

106.      Gall person dynodedig neu swyddog awdurdod lleol (fel cydgysylltydd addysg y plentyn sy’n derbyn gofal) ddisgwyl gweld manylion tebyg i’r canlynol mewn CAP (lle y bo’n berthnasol):

 

·         amcanion a thargedau (sy’n eiddo i’r plentyn a gofalwyr y plentyn) yn ymwneud â dyheadau addysgol (academaidd a heb fod yn academaidd) a diddordebau hamdden sy’n helpu’r plentyn i fwynhau dysgu a chyflawni ei ganlyniadau dysgu

 

·         llwybr clir ar gyfer sicrhau darpariaeth addysg o ansawdd uchel mewn achosion lle nad yw plentyn yn mynychu ysgol neu leoliad addysg arall, gan ddangos y cymorth a roddir i’r plentyn a gofalwyr y plentyn i ail-gymathu’r plentyn mewn lleoliad addysgol priodol yn ddi-oed

 

·         gwybodaeth am y cymorth sydd ei angen ar y plentyn a’r cymorth y bydd yn ei dderbyn ar gyfer (er enghraifft) hyfforddiant un i un, a chymorth pontio a chymathu pan fydd person ifanc yn newid ysgol neu’n symud i leoliad addysg arall

 

·         llinell atebolrwydd glir sy’n dangos dealltwriaeth a chyfrifoldeb cyffredin ar gyfer cynorthwyo addysg plentyn, gan nodi pwy sy’n gyfrifol am gynorthwyo’r plentyn wrth roi pob elfen o’r CAP ar waith.

 

Adolygu’r CAP

 

107.      Dylid trin y CAP fel ‘dogfen fyw’ sy’n helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o sut mae pawb yn gallu cyfrannu at helpu’r plentyn i lwyddo. Dylid adolygu’r CAP mewn partneriaeth â’r ysgol, y plentyn a gofalwyr y plentyn fel rhan o’r adolygiad statudol o’r cynllun gofal a chymorth ehangach, ac unrhyw wybodaeth gyfoes a ychwanegwyd fel sy’n briodol. Dylai materion sy’n dod i’r amlwg yn yr adolygiad o’r CAP gael eu hystyried fel rhan o’r broses adolygu gyffredinol a’u cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth diwygiedig. 

 

Cyfraniad y rhiant corfforaethol at addysg

 

108.      Dylai rhannau gwahanol o’r awdurdod lleol ddeall sut maent yn cyfrannu at ddyletswydd statudol yr awdurdod i hyrwyddo addysg plant sy’n derbyn gofal a’u helpu i lwyddo. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr, y rhai sy’n gyfrifol am dderbyn plant i ysgolion,  gwahardd plant o ysgolion a rhaglenni cymorth ymddygiad, anghenion addysgol arbennig a gwella ysgolion, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

 

·         dylai gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr ddeall y trefniadau ar gyfer rhoi blaenoriaeth i blentyn sy’n derbyn gofal yn y trefniadau ar gyfer derbyn plant i ysgolion, fel y’u nodir yn y Cod Derbyniadau i Ysgolion a Rheoliadau Addysg (Derbyn Plant sy’n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009

 

·         dylai swyddogion sy’n gweinyddu’r trefniadau derbyn gydweithredu’n llawn â gweithwyr cymdeithasol er mwyn cydymffurfio â’r Cod Derbyniadau i Ysgolion a’r Rheoliadau uchod

 

·         dylai staff mewn lleoliadau addysg ddeall mai’r dewis olaf yw gwahardd disgybl yn barhaol, a bod rhaid sicrhau bod darpariaeth addysg amgen ar gael o’r chweched diwrnod ymlaen (neu, yn ddelfrydol, o ddiwrnod cyntaf y gwaharddiad, o ystyried effaith bosibl gwahardd plentyn o’r ysgol ar ei leoliad gofal)

 

·         dylai gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, yr athro arweiniol dynodedig ac eraill wneud popeth posibl i leihau amharu ar leoliad addysg wrth i blentyn ddechrau derbyn gofal, gadael gofal neu newid lleoliad gofal.  

 

109.      Dylai’r CAP nodi pa gymorth ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu i helpu plentyn sy’n derbyn gofal i aros yn yr un ysgol os oes rhaid iddo symud i gyfeiriad arall. Dylid gwneud ymdrech arbennig i osgoi amharu ar addysg plant blynyddoedd 10 ac 11 (Cyfnod Allweddol 4) sy’n derbyn gofal drwy newid lleoliad, o ystyried pwysigrwydd sefydlogrwydd wrth astudio ar gyfer TGAU neu gymwysterau cyfwerth. Dylid ystyried pob opsiwn posibl i gadw’r plentyn yn yr un lleoliad addysg, a dylai’r CAP gynnwys tystiolaeth bod hyn wedi digwydd. Cyn gwneud penderfyniad i amharu ar y lleoliad addysg, mae’n rhaid i’r swyddog fodloni ei hun y bydd y ddarpariaeth addysg newydd yn hyrwyddo cyflawniad addysgol drwy ddiwallu anghenion asesedig y plentyn, a’i bod yn gyson â’r CAP.

 

Plant sydd ar remánd neu o dan gadwad

 

110.      Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r trefniadau cynllunio gofal a chymorth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u remandio i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, neu sy'n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.

 

111.      Yr addasiadau yw:

 

(a) pan fo’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i lety awdurdod lleol

 

O dan amgylchiadau o’r fath, mae’n rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 o fewn pum diwrnod gwaith i roi’r plentyn ar remánd. Hefyd, nid yw rheoliad 5(1)(a) - y gofyniad i’r cynllun gofal a chymorth gynnwys y cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth y plentyn (‘y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd’) - yn berthnasol. 

 

(b) pan fo’r plentyn ar remánd i lety cadw ieuenctid ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd, neu pan fo’r plentyn dan gadwad

 

O dan amgylchiadau o’r fath, nid yw rheoliad 5(1)(c) – y gofyniad i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys manylion y trefniadau sydd wedi’u gwneud a’r llety sydd wedi’i ddarparu ar gyfer y plentyn (‘y cynllun lleoli’) – yn berthnasol. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys cynllun lleoli dan gadwad.   

 

Mae’r materion sydd angen eu cynnwys yn y cynllun lleoli dan gadwad wedi’u nodi yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR. 

 

Mae’n rhaid i’r awdurdod roi copi o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar neu’r llety cadw ieuenctid, yn ogystal â’r bobl a nodir yn rheoliad 6(3) (gweler paragraff 79 uchod). 

 

Yn wahanol i’r gofyniad ar gyfer plant eraill sy’n derbyn gofal, nid oes angen i’r awdurdod lleol drefnu asesiad iechyd ar gyfer y plentyn (h.y. nid yw Rheoliad 7(1) i (4) yn berthnasol). 

 

(c) pan fo’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remand i lety cadw ieuenctid

 

O dan amgylchiadau o’r fath, nid yw rheoliad 5 o’r Rheoliadau CPPCR – gofynion ynglŷn â pharatoi a chynnwys y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 – yn berthnasol. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun lleoli dan gadwad. Mae’r materion sydd i’w cynnwys yn y cynllun lleoli dan gadwad wedi’u nodi yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR.

 

Wrth baratoi’r cynllun lleoli dan gadwad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys gwybodaeth am safbwyntiau, dymuniadau a theimladau:

·         y plentyn

·         os yw’r plentyn o dan 16 oed, y person(au) sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn, i’r graddau y bo hynny’n gydnaws â hyrwyddo llesiant y plentyn ac yn rhesymol ymarferol

·         unrhyw berson y mae ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau mewn perthynas â’r cynllun yn berthnasol ym marn yr awdurdod, ac unrhyw newidiadau i’r cynllun sy’n cael eu gwneud neu eu cynnig. 

 

Wrth geisio canfod y safbwyntiau, y dymuniadau a’r teimladau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:

·         roi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas y plentyn  

·         rhoi sylw i nodweddion y plentyn, ac argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn

·         rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol i alluogi’r plentyn i gyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio arno (i’r graddau y bo hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau)

·         rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. 

 

Hefyd, nid yw rheoliad 7(1) i (4) o’r Rheoliadau CPPCR – y gofyniad i drefnu asesiad iechyd – yn berthnasol. Mae’r gofyniad i roi pob cam rhesymol ar waith i sicrhau bod y plentyn yn derbyn gwasanaethau gofal iechyd priodol yn berthnasol, gan gynnwys yr addasiad y bydd y ddarpariaeth berthnasol yn cael ei chynnwys yn y cynllun lleoli dan gadwad yn hytrach na mewn cynllun gofal a chymorth Rhan 6.


 

 

     Pennod 2:  Lleoliadau

 

Sut mae plant sy’n derbyn gofal yn cael eu lletya a’u cynnal

 

112.      Mae’r bennod hon yn ymdrin â lleoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae adran 74 o’r Ddeddf yn diffinio’r term ‘derbyn gofal’ i gyfeirio at blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol – h.y. sy’n destun gorchymyn gofal neu orchymyn gofal interim o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989 – neu sy’n cael ei letya gan yr awdurdod lleol am gyfnod di-dor o dros 24 awr wrth gyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn wedi’u nodi yn adran 76 o’r Ddeddf. Mae’n bwysig nodi bod y term ‘plentyn sy’n derbyn gofal’ yn cynnwys plant sydd ‘mewn gofal’ a phlant nad ydynt mewn gofal ond sy’n cael eu lletya gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn. Bydd plentyn sy’n cael ei letya fel hyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal pan fydd yr awdurdod lleol o’r farn nad oes angen llety ar y plentyn bellach. Fodd bynnag, bydd plentyn sydd mewn gofal yn parhau i dderbyn gofal nes bod y gorchymyn gofal wedi’i gyflawni. Mae’r bennod hon yn nodi’r dewisiadau lleoli ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, p’un ai a ydynt mewn gofal ai peidio. Y rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion 2015 (Rheoliadau CPPCR).   

 

Gofal gan deulu a ffrindiau

 

113.      Defnyddir y term ‘lleoli’ i ddisgrifio trefniant lle mae awdurdod lleol yn lleoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn amgylchedd cartref addas, er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Mae’r lleoliadau hyn gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant fel arfer.

 

114.      Fodd bynnag, dim ond lleiafrif o blant na allant fyw gyda’u rhieni, am ba reswm bynnag, sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol. Mae llawer mwy yn cael eu magu gan aelodau o’u teuluoedd estynedig, gan ffrindiau neu gan bobl eraill sy’n gysylltiedig â nhw. Cyfeirir at y trefniadau hyn fel arfer fel gofal y teulu a ffrindiau (neu fel ‘gofal gan berthynas’ weithiau). Gall trefniadau anffurfiol gyda’r teulu a ffrindiau atal plentyn rhag dod yn blentyn sy’n derbyn gofal yn aml.     

115.      Mae gofal teulu a ffrindiau yn cynnwys nifer o wahanol fathau o drefniant sydd â statws cyfreithiol amrywiol. Gall plant fod yn byw gydag aelodau’r teulu neu ffrindiau yn unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol:  

 

·         trefniadau anffurfiol gyda pherthynas

·         trefniadau anffurfiol gyda ffrindiau neu aelodau eraill o’r teulu sy’n para am lai na 28 diwrnod

·         fel trefniant maethu preifat (lle mae’r trefniant yn para mwy na 28 diwrnod)  

·         o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu orchymyn trefniant plentyn (gorchymyn preswyliad cynt)

·         fel plentyn sy’n derbyn gofal sydd wedi’i leoli gan yr awdurdod lleol gyda pherthynas neu ffrind (neu berson cysylltiedig arall) sydd wedi’i gymeradwyo fel gofalwr maeth y plentyn

·         fel plentyn sy’n derbyn gofal sydd wedi’i leoli gan yr awdurdod lleol gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig arall mewn trefniadau a all arwain at orchymyn mabwysiadu

 

116.      Dylai plant sy’n byw o dan unrhyw un o’r trefniadau hyn dderbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw a’u gofalwyr i ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant, p’un ai a ydynt yn blant sy’n derbyn gofal ai peidio. Dylai’r cymorth fod yn seiliedig ar anghenion y plentyn yn hytrach na’i statws cyfreithiol. Dylai awdurdodau lleol gofio bod nodweddion ac anghenion plant sy’n byw gydag aelodau’r teulu a ffrindiau sy’n gofalu amdanynt o dan drefniadau anffurfiol neu drefniadau eraill yn debyg i, neu’r un fath â, nodweddion ac anghenion plant sydd wedi dechrau derbyn gofal yn aml. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod dod yn blentyn sy’n derbyn gofal, naill ai drwy gytundeb â’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant neu drwy orchymyn llys, dim ond i sicrhau bod modd darparu cymorth ariannol, cymorth ymarferol neu gymorth arall i ofalwr y plentyn.      

117.      Mae’r fframwaith ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth plant, ac anghenion cymorth eu gofalwyr, wedi’i nodi yn Rhan 3 a Rhan 4 o’r Ddeddf. Dylai awdurdodau lleol wneud defnydd llawn o’r trefniadau hyn i gynorthwyo teuluoedd sydd ag anghenion gofal a chymorth cyn i’r sefyllfa droi’n argyfwng, gan weithio mewn ffordd ragweithiol gyda theuluoedd i’w helpu i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain. Hefyd, dylid darparu cymorth ar gyfer plant nad ydynt yn derbyn gofal gan yr awdurdod, ond sy’n byw gydag aelodau’r teulu a ffrindiau, o dan Ran 3 a Rhan 4. (Byddai’r plant hyn wedi’u hystyried yn ‘blant mewn angen’ o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989, ond nid yw hyn yn berthnasol i Gymru bellach.) Gall y cymorth hwn gynnwys gwasanaethau cymorth y teulu a rhianta, a chymorth ariannol. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gofalwyr sy’n aelodau’r teulu ac yn ffrindiau yn ymwybodol o wasanaethau cymorth perthnasol, a bod y gwasanaethau ar gael yn hwylus i’r rhai sy’n gofalu am blant, p’un ai a ydynt yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ai peidio. Bydd awdurdod lleol sy’n cyflawni ei ddyletswydd yn effeithiol o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf yn helpu i sicrhau na fydd plant yn dod yn blant sy’n derbyn gofal oni bai mai hwn yw’r dull mwyaf priodol o ddiogelu a hyrwyddo eu llesiant.

 

118.      Nid oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd i asesu trefniadau anffurfiol teuluoedd a ffrindiau, oni bai ei bod yn ymddangos i’r awdurdod y gall fod angen am ofal a chymorth sy’n golygu bod rhaid gwneud asesiad o dan Ran 3 o’r Ddeddf. Mae llawer o drefniadau anffurfiol teuluoedd a ffrindiau yn aros yn gwbl breifat ac ni fydd angen cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae darpariaethau cyfreithiol yn berthnasol i faethu preifat, gorchmynion trefniadau plant a gwarcheidiaeth arbennig, a bydd angen i awdurdodau lleol gydymffurfio â hwy. [Gweler y rheoliadau a’r canllawiau perthnasol?]        

 

119.      Bydd angen i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai plentyn sy’n derbyn gofal gan ei deulu neu ei ffrindiau ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Bydd angen gwneud hyn ar sail achosion unigol ar ôl asesu anghenion ac amgylchiadau’r plentyn. Un o’r cwestiynau allweddol fydd a yw’r awdurdod lleol yn credu bod angen llety ar y plentyn oherwydd un o’r rhesymau o dan adran 76(1) o’r Ddeddf. Os penderfynir bod angen i’r plentyn dderbyn gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddod o hyd i leoliad priodol ar gyfer y plentyn o dan Ran 6 o’r Ddeddf, a all fod yn lleoliad maethu gyda gofalwr sy’n aelod o’r teulu neu’n ffrind, os yw hynny’n briodol.

 

Dyletswydd i ddarparu llety

 

120.      Mae’r Ddeddf yn nodi amgylchiadau amrywiol lle mae’n rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn.

 

(a)  Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llety ar gyfer plant mewn gofal.  Adran 79 

 

(b)  Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd:

·         nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

·         bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael

·         bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn wedi’i atal (am ba reswm bynnag, naill ai dros dro neu’n barhaol) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn. 

Adran 76(1) 

 

(c)  Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer unrhyw berson ifanc 16 neu 17 oed yn ei ardal y byddai ei lesiant, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.  Adran 76(3) 

 

Rhaid i awdurdod lleol beidio â darparu llety ar gyfer unrhyw blentyn o dan (b) neu (c) os yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gwrthwynebu, a’i fod yn gallu darparu neu drefnu llety ar gyfer y plentyn.   Caiff person sydd â chyfrifoldeb rhiant symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety’r awdurdod lleol. Adran 76 (4) a (5)

 

Fodd bynnag, ni all person sydd â chyfrifoldeb rhiant symud plentyn neu wneud trefniadau llety amgen os yw un o’r bobl ganlynol yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan yr awdurdod lleol: person y mae gorchymyn trefniadau plentyn o’i blaid wedi’i wneud, gwarcheidwad arbennig, neu berson sydd â gofal am y plentyn o ganlyniad i orchymyn llys. Pan fydd mwy nag un person o’r math, rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn. Adran 76(6) a (7) 

 

Hefyd, ni all person sydd â chyfrifoldeb rhiant symud plentyn neu wneud trefniadau amgen os yw’r plentyn yn berson ifanc dros 16 oed sy’n cytuno i gael ei letya o dan adran 76.   

 

Tra bod plentyn yn cael ei letya o dan adran 76, mae’n rhaid i awdurdod lleol wneud popeth posibl i gynorthwyo’r plentyn i dderbyn gofal gan ei rieni yn y dyfodol neu o fewn ei deulu ehangach a sicrhau bod asesiadau, gan gynnwys asesiadau arbenigol, yn cael eu comisiynu os oes angen er mwyn llywio cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn a’r cynllun ar gyfer sefydlogrwydd.     

 

 

(d)  Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth i dderbyn a darparu llety ar gyfer plant:

·         sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989

·         sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu (adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989)

·         sy’n cael eu symud i lety awdurdod lleol o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984

·         sydd wedi’u remandio i lety awdurdod lleol

·         sy’n destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol, neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu. 

      adran 77

 

121.      Mae gan awdurdod lleol ddyletswydd hefyd i gynnal plentyn sy’n derbyn gofal mewn agweddau eraill ar wahân i ddarparu llety ar ei gyfer.  adran 80

 

Sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal

 

122.      Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyffredinol (adran 75) i gymryd camau i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, eu bod yn gallu darparu llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant eraill sy’n cael eu lletya sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol, a’u bod yn gallu diwallu anghenion y plant. Mae’r llety hwn yn cynnwys rhieni maeth awdurdod lleol a chartrefi plant. 

 

123.      Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r fantais o fod â nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sy’n ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a’r fantais o fod ag ystod o lety yn ei ardal sy’n gallu diwallu anghenion gwahanol. Y nod yw gwella ansawdd a dewis lleoliadau, a lleihau’r tebygolrwydd na fydd lleoliadau addas ar gael ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn yr ardal leol.

 

124.      Lle y bo’n briodol, gall awdurdodau lleol ystyried gwneud trefniadau ar sail ranbarthol (er enghraifft, mewn perthynas â chartrefi plant).    

 

Penderfynu ble i leoli plentyn sy’n derbyn gofal

 

125.      Wrth benderfynu sut i letya a chynnal plentyn sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i awdurdod lleol weithredu bob amser ar sail ei brif ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn (adran 78). Mae’r opsiynau ar gyfer lleoli plentyn sy’n derbyn gofal wedi’u nodi yn adran 81 o’r Ddeddf. 

 

126.      Os oes modd – h.y. os yw’n gyson â llesiant y plentyn ac yn rhesymol ymarferol – dylai’r awdurdod lleol wneud trefniadau i blentyn sy’n derbyn gofal fyw gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu (os yw’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol a bod gorchymyn preswylio / trefniant plentyn ar waith yn union cyn i’r gorchymyn gofal gael ei wneud) berson y gwnaed gorchymyn trefniant plentyn o’i blaid. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ddyletswydd gyffredinol, a nodir yn Rhan 2 o’r Ddeddf, bod yn rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 6 ystyried pwysigrwydd y teulu yn magu’r plentyn, i’r graddau y mae hyn yn gyson â llesiant y plentyn.

 

127.      Weithiau, ni fydd yn bosibl neu’n briodol lleoli plentyn gyda rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant. Mewn achos o’r fath, dylid rhoi blaenoriaeth uwch i leoli plentyn gyda pherthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, fel bod y plentyn yn parhau i gael ei fagu oddi mewn i amgylchedd ei deulu neu ei gymuned. Os yw’r plentyn mewn gofal (h.y. yn destun gorchymyn gofal neu orchymyn gofal interim), bydd angen i’r person hwn fod wedi’i gofrestru’n ofalwr maeth awdurdod lleol. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn caniatáu i awdurdod lleol wneud lleoliad dros dro tra bod y person cysylltiedig yn ceisio cael ei gymeradwyo’n ofalwr maeth. Os yw’r plentyn wedi’i letya ar sail wirfoddol, ac yn cael ei ryddhau i ofal perthynas, ffrind neu berson cysylltiedig (gyda chydsyniad y rhiant, ac oherwydd bod yr asesiad a’r adolygiad o achos y plentyn wedi dod i’r casgliad mai hwn yw’r dewis gorau ar gyfer y plentyn), ni fydd y plentyn yn derbyn gofal mwyach. 

 

128.      Os nad oes modd lleoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda rhiant neu berson cysylltiedig, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried pa un o’r canlynol sydd fwyaf priodol:

 

·         lleoli’r plentyn gyda gofalwr maeth awdurdod lleol nad yw’n gysylltiedig â’r plentyn (mae hyn yn cynnwys gofalwyr maeth sydd wedi’u cofrestru gydag Asiantaeth Faethu Annibynnol) 

·         lleoli’r plentyn gyda darpar fabwysiadwr (lle y nodwyd bod mabwysiadu er budd pennaf y plentyn)

·         lleoli’r plentyn mewn cartref plant

·         lleoli’r plentyn yn unol â threfniadau eraill – er enghraifft, cynorthwyo pobl ifanc 16 oed neu hŷn i fyw’n annibynnol mewn llety rhent neu lety / hosteli â chymorth. 

 

129.      Bydd angen lleoli nifer fach iawn o blant sy’n derbyn gofal mewn cartref diogel i blant. Trafodir y lleoliadau hyn ym Mhennod 7 o’r cod hwn.

 

130.      Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, hyd y bo’n rhesymol ymarferol, bod y lleoliad:

 

·         yn galluogi’r plentyn i fyw ger ei gartref

·         yn diwallu anghenion y plentyn a nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6, a’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun llwybr (ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn)

·         yn osgoi amharu ar addysg neu hyfforddiant y plentyn (yn unol â dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 78(2) i hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn)

·         yn galluogi’r plentyn i fyw gydag unrhyw frodyr a chwiorydd sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol hefyd

·         yn darparu llety sy’n addas i anghenion y plentyn os yw’r plentyn yn anabl. 

 

131.      Mae dyletswydd i sicrhau bod plentyn yn cael ei leoli yn ardal yr awdurdod lleol ei hun (adran 81(9)), oni bai nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny neu fod rhesymau hanfodol ar gyfer lleoli plentyn y tu allan i’r ardal (gweler ‘Lleoliadau y tu allan i ardal yr awdurdod lleol’ isod).    

 

132.      Wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â lleoliadau, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y canlynol hefyd:

 

·         barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn (yn unol ag oedran a dealltwriaeth y plentyn)

·         barn, dymuniadau a theimladau rhieni neu’r person arall sydd â chyfrifoldeb rhiant (fel sy’n briodol)

·         argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn

·         rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd y plentyn

·         unrhyw anabledd neu nam ar y synhwyrau, gan gynnwys unrhyw anghenion emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl

·         trefniadau cyswllt â’r teulu

·         trefniadau i dreulio amser gyda ffrindiau a chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon, cymdeithasol a hamdden.

 

133.      Ni fydd yn bosibl bob amser i awdurdodau lleol wneud lleoliadau sy’n bodloni’r holl feini prawf a nodwyd yn y paragraffau uchod, a bydd angen gwneud dewisiadau a phenderfyniadau anodd. Y cwestiwn pwysig y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ofyn yw i ba raddau y bydd unrhyw leoliad arfaethedig yn diwallu anghenion y plentyn unigol ac yn cyfrannu at ei ganlyniadau llesiant, o ystyried ei hanes a’i amgylchiadau presennol. Mae’n rhaid i benderfyniadau lleoli fod yn seiliedig bob amser ar asesiad cyfredol o anghenion y plentyn a’i amgylchiadau teuluol, ac mae’r Ddeddf (adran 82) yn nodi bod yn rhaid i achos plentyn gael ei adolygu cyn lleoli plentyn neu cyn ei symud i lety newydd (oni bai bod angen gwneud trefniadau amgen ar frys i ddiogelu llesiant y plentyn). Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y lefel a’r mathau o gymorth a gwasanaethau y bydd angen eu darparu i gynyddu gallu’r darparwr ofalwr i ddiwallu anghenion y plentyn. Mae hyn yn cynnwys cymorth o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf ar gyfer rhieni, aelodau’r teulu neu ‘bersonau cysylltiedig’ eraill y mae plant yn cael eu rhyddhau i’w gofal ar ôl cael eu lletya gan yr awdurdod lleol.       

 

134.      Mae gan awdurdodau lleol y pŵer (adran 81(13)) i benderfynu telerau unrhyw drefniadau y maent yn eu gwneud i leoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda rhiant, gofalwr maeth neu ddarpar fabwysiadwr, gan gynnwys telerau unrhyw daliadau (yn amodol ar unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004). 

 

135.      Wrth ailsefydlu person ifanc sydd wedi’i ryddhau o gyfnod mewn llety cadw ieuenctid[1], dylai awdurdod lleol y plentyn (h.y. yr awdurdod lleol lle’r oedd y plentyn yn byw fel arfer cyn cael ei ddedfrydu) ystyried pa leoliad sydd fwyaf addas i anghenion gofal a chymorth yr unigolyn. Hefyd, bydd angen i awdurdodau lleol gyfeirio at y cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 11 o’r Ddeddf wrth ystyried anghenion plant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw mewn sefydliad diogel.   

 

Lleoli plentyn mewn gofal gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu berson y gwnaed gorchymyn trefniant plentyn o’i blaid

 

136.      Mae’r adran hon yn ymwneud â lleoli plentyn mewn gofal gyda rhiant, person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, neu berson y gwnaed gorchymyn trefniant plentyn o’i blaid cyn i’r plentyn ddechrau derbyn gofal. Cyfeirir at bob un o’r rhain fel ‘rhiant’ yn y darn sy’n dilyn.

 

137.      Ni fydd gorchymyn gofal yn cael ei wneud oni bai bod y llys yn fodlon bod y plentyn yn dioddef (neu’n debygol o ddioddef) niwed sylweddol oherwydd nad yw’n derbyn (neu’n debygol o dderbyn) y gofal y gellir  disgwyl yn rhesymol i riant ei roi, neu oherwydd bod y plentyn y tu hwnt i reolaeth y rhiant. Mae’n hanfodol bwysig, felly, bod y ffactorau a nodwyd fel sail i’r gorchymyn gofal (yn enwedig unrhyw faterion yn ymwneud â cham-drin neu esgeuluso) wedi’u datrys cyn penderfynu a oes modd lleoli plentyn gyda rhiant eto. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a darparu’r cymorth a’r gwasanaethau priodol sydd eu hangen i gynyddu gallu’r rhiant i ddiwallu anghenion y plentyn a sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus.          

 

138.      Mewn llawer o achosion, bydd penderfyniad i leoli plentyn gyda rhiant yn rhan o gynnydd arfaethedig tuag at ryddhau’r gorchymyn gofal. Dylai’r gwaith o reoli’r lleoliad geisio cynyddu rôl y rhiant a cefnogi’r berthynas rhwng aelodau’r teulu. Hyd yn oed mewn achosion lle nad yw rhyddhau’r gorchymyn gofal yn opsiwn rhagweladwy, dylid adolygu’r posibilrwydd hwnnw yn gyson.

 

139.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi na ddylid lleoli plentyn gyda rhiant oni bai bod y lleoliad yn diogelu ac yn hyrwyddo llesiant y plentyn, a’i fod yn diwallu ei anghenion yn unol â’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Bydd angen i awdurdodau lleol fod â systemau asesu a rheoli risgiau effeithiol sy’n briodol i oedran ac amgylchiadau’r plentyn (er enghraifft, os yw plentyn hŷn yn penderfynu aros gyda’i deulu neu ddychwelyd ato). Ni chaniateir lleoli plentyn gyda rhiant os yw gwneud hynny’n anghydnaws ag unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys.

 

140.      Cyn gwneud unrhyw benderfyniad i leoli’r plentyn gyda rhiant, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:

 

·         asesu addasrwydd y rhiant i ofalu am y plentyn,  yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd, ac addasrwydd y llety

·         canfod a rhoi ystyriaeth briodol i ddymuniadau a theimladau’r plentyn

·         ymgynghori â’r swyddog adolygu annibynnol ac unrhyw berson arall sydd â safbwyntiau perthnasol ym marn yr awdurdod lleol, ac ystyried safbwyntiau pob un ohonynt

·         adolygu achos y plentyn. 

 

141.      Mae Atodlen 4 i’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r ffactorau sydd i’w hystyried wrth benderfynu lleoli plentyn mewn gofal gyda rhiant. Mae hyn yn cynnwys i ba raddau y gall y rhiant ddarparu amgylchedd teuluol sefydlog, diogel a chefnogol ar gyfer y plentyn, darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, a hyrwyddo addysg a datblygiad y plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried pa adnoddau sydd ar gael yn y gymuned leol i gefnogi’r rhiant a’r plentyn, a pha gymorth a gwasanaethau y bydd angen eu darparu i oresgyn unrhyw anawsterau posibl.

 

142.      Mae’n arbennig o bwysig bod yr awdurdod lleol yn ystyried effaith debyg ffactorau fel trais domestig, rhieni yn camddefnyddio alcohol neu sylweddau, a phroblemau iechyd meddwl, sy’n gallu cael effaith niweidiol ar allu’r rhiant i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, yn enwedig os oeddent yn rhan o sail y gorchymyn gofal. Bydd angen i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod y rhiant wedi cael amser a chymorth digonol i fynd i’r afael â’r ffactorau hyn cyn caniatáu i’r plentyn ddychwelyd neu aros gartref, a bod y ffactorau hyn yn cael sylw priodol yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn a’u hadolygu’n rheolaidd tra bod y plentyn mewn gofal. Os yw’r rhiant wedi cael plant eraill sy’n destun gorchmynion gofal neu fabwysiadu, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod yr holl faterion blaenorol yn ymwneud â gallu’r rhiant i fagu plant wedi’u datrys. Dylid ystyried y berthynas rhwng aelodau’r teulu, gan gynnwys perthynas y plentyn ag unrhyw bartner newydd y rhiant neu unrhyw lysblant, yn ogystal â’r berthynas rhwng y rhiant ac unrhyw oedolion eraill sydd â rhan arwyddocaol ym mywyd y plentyn. Dylid cwblhau asesiad o addasrwydd ffurfiol ar gyfer pob aelod o’r cartref sy’n 18 oed a throsodd, a dylai’r asesiad hefyd ystyried hanes a ffordd o fyw bresennol unrhyw bobl ifanc eraill yn y cartref o dan 18 oed.

 

143.      Ar ôl asesu addasrwydd lleoli plentyn gyda rhiant, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol nodi’r gwasanaethau a’r mathau eraill o gymorth a gaiff eu darparu i’r rhiant a’r plentyn i ddiwallu unrhyw anghenion a nodwyd, a’u cynnwys yng nghynllun gofal a chymorth y plentyn. Mae’n rhaid i’r adolygiad o achos y plentyn ystyried effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn a’r cymorth hwn wrth ddiwallu anghenion y plentyn, a’u heffaith ar allu’r rhiant i ofalu.   

 

144.      Mae’n rhaid i’r penderfyniad i leoli plentyn gyda rhiant gael ei gymeradwyo gan swyddog enwebedig o’r awdurdod lleol, a rhaid iddo fod yn fodlon bod y trefniadau ar gyfer y lleoliad wedi’u cynnwys yn briodol yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, a bod yr holl ofynion statudol gofynnol wedi’u bodloni. 

 

145.      Mewn rhai achosion, gall awdurdod lleol benderfynu y bydd dychwelyd at ei rieni cyn bod modd cwblhau asesiad er budd pennaf y plentyn. Mae’r rheoliadau CPPCR yn caniatáu hyn os yw’n angenrheidiol ac os yw’n cyd-fynd â llesiant y plentyn. Mewn achos o’r fath, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:

 

·         drefnu i gyfweld â’r rhiant, gan ystyried y ffactorau yn Atodlen 4

·         cwblhau’r asesiad a’r adolygiad ffurfiol o achos y plentyn o fewn 10 diwrnod gwaith i leoli’r plentyn gyda’r rhiant

·         gwneud penderfyniad ffurfiol i gadarnhau’r lleoliad o fewn 10 diwrnod gwaith i gwblhau’r asesiad (h.y. 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad y mae’r plentyn yn mynd i fyw gyda’r rhiant)

·         adolygu a diwygio cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn os yw’r lleoliad wedi’i gadarnhau, neu derfynu’r lleoliad os nad yw wedi’i gadarnhau. 

 

Lleoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig

 

146.      Mae yna sawl mantais amlwg i leoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson arall sydd â chysylltiad blaenorol â’r plentyn  (fel gwarchodwr plant, gweithiwr ieuenctid neu athro). Gall lleoliadau o’r fath sicrhau cysondeb a helpu’r plentyn i deimlo ei fod yn perthyn i rwydwaith teuluol neu gymuned ehangach. Gall ymlyniad agos fodoli eisoes neu gall fod yn debygol o ddatblygu gyda’r anogaeth a’r cymorth priodol. 

 

147.      Fodd bynnag, ni fydd pob perthynas yn gallu diogelu a hyrwyddo llesiant plentyn. Mae’n bosibl y bydd tensiynau neu anawsterau gwirioneddol neu bosibl oddi mewn i’r teulu, sydd efallai wedi cyfrannu at y ffaith fod y plentyn wedi dechrau derbyn gofal yn y lle cyntaf. Hefyd, gall rhai perthnasau fyw cannoedd o filltiroedd o gartref y plentyn, ac ni fydd y plentyn eisiau symud, neu ni fydd symud er budd pennaf y plentyn. Bydd angen ystyried manteision ac anfanteision lleoli plentyn gydag aelodau eraill o’r teulu yn ofalus, gan roi sylw i ddymuniadau a theimladau’r plentyn ei hun. 

 

148.      Mae’r broses ar gyfer asesu addasrwydd lleoliad gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig yn debyg i’r broses ar gyfer asesu lleoliad gyda rhiant. Fodd bynnag, gan fod y rhain yn lleoliadau plant mewn gofal ffurfiol, mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i berthynas, ffrind neu berson cysylltiedig sy’n gofalu am blentyn sy’n derbyn gofal gael cymeradwyaeth fel gofalwr maeth awdurdod lleol. Felly, maent yn wahanol i’r trefniadau gofal gan berthynas y gall teuluoedd eu rhoi ar waith, gyda neu heb gymorth awdurdod lleol, cyn bod plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal yn ffurfiol. Maent hefyd yn wahanol i drefniadau posibl ar gyfer plentyn sy’n cael ei letya sy’n cael ei ryddhau i ofal aelod o’r teulu neu berson cysylltiedig arall. 

 

149.      Cyn gwneud penderfyniad i leoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol:

 

·         asesu addasrwydd y person i ofalu am y plentyn, addasrwydd personau 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd (gan drefnu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os oes angen), ac addasrwydd y llety

·         canfod a rhoi sylw dyladwy i ddymuniadau a theimladau’r plentyn

·         ymgynghori ag, ac ystyried safbwyntiau’r swyddog adolygu annibynnol ac unrhyw berson arall y mae ei safbwyntiau’n berthnasol ym marn yr awdurdod lleol

·         adolygu achos y plentyn

·         cymeradwyo’r gofalwr fel gofalwr maeth awdurdod lleol, neu geisio sicrhau cymeradwyaeth dros dro. 

 

150.      Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r ffactorau sydd i’w hystyried wrth benderfynu lleoli plentyn mewn gofal gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys y graddau y gall y person ddarparu amgylchedd teuluol sefydlog, diogel a gofalgar ar gyfer y plentyn, darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, a hyrwyddo dysgu a datblygiad y plentyn. Yn benodol, mae’n rhaid i’r asesiad asesu ansawdd y berthynas sy’n bodoli rhwng y plentyn a’r gofalwr arfaethedig, gan mai hon yw’r sylfaen ar gyfer chwilio am leoliad o’r fath.

 

151.      Mae’n rhaid canfod dymuniadau a theimladau’r plentyn ynglŷn â’r lleoliad arfaethedig (yn amodol ar lefel dealltwriaeth y plentyn), eu cofnodi a rhoi sylw dyladwy iddynt. Lle bynnag y bo modd, mae’n rhaid rhoi cyfle i’r plentyn ymweld â chartref y person cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud. Hefyd, mae’n rhaid canfod a nodi safbwyntiau rhieni’r plentyn ac eraill â chyfrifoldeb rhiant cyn gwneud penderfyniad.   

 

152.      Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried pa adnoddau sydd ar gael yn y gymuned leol i gefnogi’r gofalwr a’r plentyn, a pha gymorth a gwasanaethau y bydd angen eu rhoi ar waith i oresgyn unrhyw anawsterau posibl. 

 

153.      Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol ymweld â’r cartref fel rhan o’r broses asesu. Bydd yr ymweliad hwn yn sicrhau bod y cartref a’r gofod sydd ar gael yn addas i’r plentyn penodol, ac yn nodi unrhyw adnoddau ychwanegol posibl sydd eu hangen i ddiwallu anghenion y plentyn (er enghraifft, cyfarpar ar gyfer baban neu blentyn ifanc iawn, neu gyfarpar arbenigol ar gyfer plentyn anabl). Bydd yr ymweliad â’r cartref hefyd yn gyfle i nodi cyfansoddiad yr aelwyd yn gliriach, ynghyd â natur ac ansawdd y berthynas rhwng y trigolion a’u safbwyntiau ar y trefniadau arfaethedig. Os oes plant eraill yn byw ar yr aelwyd, bydd angen i’r gweithiwr cymdeithasol ganfod eu barn ar y lleoliad arfaethedig a’i effaith bosibl arnynt, gan ystyried a fydd unrhyw agwedd ar eu hanes a’u ffordd o fyw bresennol yn debygol o gael effaith ar y lleoliad.

 

154.      Ar ôl i leoliad gael ei gytuno, mae’n rhaid i’r berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig lofnodi cytundeb gofal maeth, lle mae’r gofalwr yn cytuno i wneud y canlynol:

 

·         gofalu am y plentyn fel pe bai’r plentyn yn aelod o deulu’r person

·         caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol ymweld ar unrhyw adeg

·         gadael i’r plentyn gael ei symud gan yr awdurdod lleol ar unrhyw adeg

·         sicrhau bod yr holl wybodaeth gyfrinachol yn ymwneud â’r plentyn, neu deulu neu amgylchiadau’r plentyn, yn aros yn gyfrinachol

·         cefnogi trefniadau cysylltu yn unol ag unrhyw orchymyn llys neu drefniadau eraill a wnaed gan yr awdurdod lleol. 

 

155.      Fel gofalwr maeth cymeradwy, bydd gan y berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig hawl i’r un cymorth a gwasanaethau, gan gynnwys unrhyw ffioedd a lwfansau, â’r hyn a ddarperir gan yr awdurdod lleol ar gyfer gofalwyr maeth nad oes ganddynt gysylltiad â’r plentyn.

 

Cymeradwyaeth dros dro

 

156.      Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol eisiau lleoli plentyn gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig cyn i’r broses o gymeradwyo gofalwr fel gofalwr maeth gael ei chwblhau, ac mae’r Rheoliadau CPPCR yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyaeth dros dro o dan yr amgylchiadau hyn.

 

157.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon â’r canlynol:

 

·         dyma’r ffordd fwyaf priodol o ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn

·         mae angen lleoli’r plentyn gyda’r berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig cyn bod addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth wedi’i asesu’n llawn.

 

158.      Cyn rhoi cymeradwyaeth dros dro, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol asesu addasrwydd y person i ofalu am y plentyn, archwilio’r llety a chael gwybodaeth am bersonau eraill sy’n byw ar yr aelwyd, gan ystyried y materion a restrwyd yn Atodlen 5.

 

159.      Mae modd rhoi cymeradwyaeth dros dro am gyfnod na fydd yn hwy nag 16 wythnos. Dylai’r cyfnod hwn ganiatáu digon o amser i’r awdurdod lleol gwblhau’r broses cymeradwyo gofalwyr maeth, gan gynnwys unrhyw wiriadau cofnodion troseddol gofynnol.  

 

160.      Gall y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro gael ei ymestyn o dan y canlyniadau eithriadol canlynol yn unig:

·         mae’r broses gymeradwyo wedi cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd (mewn achosion o’r fath, gellir ymestyn y gymeradwyaeth dros dro am 8 wythnos arall)

·         nid yw’r person cysylltiedig wedi’i gymeradwyo ac mae’n gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad drwy’r mecanwaith ar gyfer Adolygiad Annibynnol o Benderfyniadau (mewn achos o’r fath bydd y gymeradwyaeth dros dro yn parhau nes bod canlyniad yr adolygiad yn hysbys). 

 

161.      Pan ddaw’r cyfnodau hyn i ben, ac os nad yw’r person cysylltiedig wedi’i gymeradwyo fel gofalwr maeth awdurdod lleol, dylid ystyried lleoliad gwahanol. Cyn ymestyn y lleoliad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r lleoliad yn parhau i fod yr un mwyaf addas sydd ar gael (gan ystyried barn y panel maethu os yw’r achos yn cael ei adolygu), a hysbysu’r swyddog adolygu annibynnol.

 

162.      Mae’n rhaid i benderfyniad i wneud lleoliad o’r fath, neu ei ymestyn, gael ei wneud gan swyddog enwebedig, a rhaid iddo fod yn fodlon bod y lleoliad er budd pennaf y plentyn.   

 

163.      Wrth reswm, mae peryglon ynghlwm wrth gymeradwyaeth dros dro, gan gynnwys y perygl na fydd y berthynas, y ffrind neu’r person cysylltiedig yn cael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth awdurdod lleol ar ddiwedd y broses, gan amharu ymhellach ar fywyd y plentyn. Os oes modd, mae’n llawer gwell cwblhau’r broses asesu a chymeradwyo lawn cyn gwneud lleoliad. O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn well defnyddio lleoliad tymor byr gyda gofalwr maeth, ond sicrhau cyswllt priodol rhwng y plentyn a’r darpar ofalwr ‘cysylltiedig’, nes bod y broses lawn o gymeradwyo gofalwyr maeth wedi’i chwblhau. 

 

164.      Pan fydd cymeradwyaeth dros dro yn cael ei gwneud, mae’n rhaid i’r gofalwr lofnodi cytundeb gofal maethu, a bydd gan y gofalwr hawl i’r un cymorth a gwasanaethau (gan gynnwys unrhyw ffioedd a lwfansau) â gofalwyr maeth eraill awdurdodau lleol. 

 

165.      Bydd trefniadau ymweld â phlentyn sy’n derbyn gofal ac sydd wedi’i leoli gyda pherthynas, ffrind neu berson cysylltiedig yn amodol ar gymeradwyaeth dros dro yn digwydd yn amlach na mewn achosion lle mae’r broses gymeradwyo wedi’i chwblhau. Bydd yr ymweliadau hyn yn galluogi’r gweithiwr cymdeithasol i asesu ansawdd profiad y plentyn yn y lleoliad, a sut mae’r berthynas â’r gofalwr ac aelodau eraill yr aelwyd yn datblygu. Bydd y gweithiwr cymdeithasol hefyd yn gallu nodi unrhyw gymorth neu wasanaethau ychwanegol posibl i sicrhau bod y lleoliad yn parhau i ddiwallu anghenion y plentyn. Os oes pryderon nad yw’r lleoliad yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn bellach, er gwaethaf darparu cymorth priodol, mae’n bosibl y bydd angen i’r awdurdod lleol derfynu’r lleoliad cyn cwblhau’r broses gymeradwyo.   

 

Lleoli plentyn gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol nad oes ganddynt gysylltiad â’r plentyn

 

166.      Os nad yw’n bosibl lleoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda rhiant, perthynas, ffrind neu berson cysylltiedig arall, gall yr awdurdod lleol benderfynu lleoli’r plentyn gyda gofalwr maeth nad oes ganddo gysylltiad â’r plentyn. Gall hyn gynnwys rhiant maeth sydd wedi’i gofrestru gydag asiantaeth faethu annibynnol y mae gan yr awdurdod lleol gytundeb â hi.

 

167.      Fel sy’n wir am leoliadau eraill, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun:

 

·         bod y lleoliad yn diogelu ac yn hyrwyddo llesiant y plentyn, a’i fod yn diwallu ei anghenion yn unol â’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6

·         ar ôl ystyried yr holl amgylchiadau, y lleoliad gyda gofalwr maeth penodol yw’r lleoliad mwyaf priodol. 

 

168.      Ni fydd modd dod o hyd i leoliad delfrydol ar gyfer plentyn bob tro, a gall cyfyngiadau ymarferol ar ddewis ei gwneud yn anodd sicrhau bod holl anghenion asesedig y plentyn yn cael eu diwallu. Gall cynllunio cynnar helpu i leihau’r peryglon hyn, ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol ganiatáu amser digonol i asesu anghenion plentyn yn ofalus a datblygu cynllun, cyn gwneud lleoliad. 

 

169.      Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gall awdurdod lleol leoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda gofalwr maeth penodol:

 

·         os yw’r gofalwr maeth wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu gan ddarparwr maethu arall (y mae’n rhaid iddo gydsynio â’r lleoliad)

·         mae unrhyw awdurdod lleol arall sydd â phlentyn wedi’i leoli gyda’r rheolwr maeth ar hyn o bryd yn cydsynio â’r lleoliad

·         mae telerau cymeradwyo’r gofalwr maeth yn cyd-fynd â’r lleoliad arfaethedig

·         mae’r gofalwr maeth wedi ymrwymo i drefniant gofal maeth gyda’r awdurdod lleol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall.

 

170.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi, lle bo hynny’n bosibl, bod yn rhaid i riant maeth awdurdod lleol lle bydd plentyn yn cael ei leoli naill ai rannu argyhoeddiad crefyddol y plentyn neu ymrwymo i fagu’r plentyn yn y ffydd honno. Mae’n rhaid ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn mewn perthynas â’i argyhoeddiad crefyddol hefyd, gan ystyried oedran a lefel dealltwriaeth y plentyn.     

 

Lleoliadau mewn argyfwng

 

171.      Dylid osgoi lleoliadau brys neu uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd yn rhaid lleoli plentyn mewn argyfwng neu dros dro ar adegau. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn caniatáu i awdurdod lleol, mewn argyfwng, leoli plentyn gyda gofalwr maeth cymeradwy, am gyfnod nad yw’n hwy na 6 diwrnod gwaith, hyd yn oed os nad yw telerau’r gymeradwyaeth yn gyson â’r lleoliad. Ar ôl i’r 6 diwrnod gwaith ddod i ben, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol derfynu’r lleoliad oni bai bod telerau cymeradwyo’r gofalwr maeth wedi’u diwygio i fod yn gyson â’r lleoliad. Y bwriad yw defnyddio’r pwerau hyn mewn amgylchiadau eithriadol na ellir eu rhagweld, ac nid mewn sefyllfaoedd lle y gellid fod wedi gwneud cynlluniau wrth gefn priodol. Os yw’r awdurdod lleol wedi gwneud lleoliad mewn argyfwng, a’i fod yn dymuno diwygio’r telerau cymeradwyo fel bod y plentyn yn gallu aros gyda’r gofalwr maeth, mae’n rhaid i’r panel maethu sicrhau ei fod yn fodlon bod y gofalwr yn gallu diwallu anghenion y plentyn, gan ystyried anghenion a theimladau unrhyw blant eraill ar yr aelwyd.   

 

Lleoli gydag asiantaeth faethu annibynnol

 

172.      Gall awdurdod lleol leoli plentyn sy’n derbyn gofal gyda gofalwr maeth o asiantaeth faethu annibynnol y mae ganddo gytundeb ysgrifenedig â hi. Mae trefniant o’r fath ond yn cael ei wneud mewn perthynas â phlentyn penodol lle mae’r awdurdod lleol yn fodlon mai lleoli’r plentyn gyda rhiant maeth penodol yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer y plentyn. Wrth drefnu lleoliad o’r fath ar gyfer plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda’r asiantaeth faethu annibynnol sy’n nodi’r telerau a nodwyd yn Atodlen 6 i’r Rheoliadau CPPCR.

 

Lleoli gyda darpar fabwysiadydd (‘maethu i fabwysiadu’)

 

173.      Mae Adran 81 (10) i (13) o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhai amgylchiadau penodol lle mae awdurdod lleol yn fodlon y dylai plentyn sy’n derbyn gofal gael ei fabwysiadu, a’i fod yn cynnig lleoli’r plentyn i gael ei fabwysiadu gan ddarpar fabwysiadydd. Mae’n nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol osod y plentyn gyda’r darpar fabwysiadydd, oni bai ei fod yn credu y bydd yn fwy priodol lleoli’r plentyn yn rhywle arall nes bod y gorchymyn lleoli yn cael ei wneud. Cyfeirir at y trefniadau hyn fel ‘maethu i fabwysiadu’ weithiau.

 

174.      Yng Nghymru, ni ellir gwneud y lleoliadau hyn nes bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu y dylid lleoli’r plentyn i’w fabwysiadu. Yn ymarferol, gall hyn ddigwydd ar ôl cyhoeddi achosion gofal, a bydd y plentyn mewn lleoliad dros dro nes bod y penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud. Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, bydd y plentyn yn cael ei symud i ofalwyr maeth sydd hefyd yn ddarpar fabwysiadwyr y mae’r plentyn wedi’i baru â nhw, cyn bod y llys yn gwneud gorchymyn lleoli o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.   

 

175.      Mae’n bwysig nodi bod y darpariaethau ‘maethu i fabwysiadu’, fel y’u nodir yn y Ddeddf, yn wahanol i’r trefniadau cynllunio cydredol sydd ar waith yn Lloegr. Mae cynllunio cydredol (cyfeirir at hyn fel ‘maethu i fabwysiadu’ weithiau) yn digwydd pan fydd plentyn yn cael ei symud i leoliad maeth gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol sydd hefyd yn fabwysiadwyr cymeradwy cyn i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn ag a ddylai’r plentyn gael ei fabwysiadu. Mae hyn yn golygu bod plentyn sy’n cael ei leoli gyda darpar fabwysiadydd o dan drefniadau cynllunio cydredol yn gallu cael ei adsefydlu gyda’i rieni biolegol os na phenderfynir gosod y plentyn i gael ei fabwysiadu wedi’r cwbl. Mae’r darpariaethau maethu i fabwysiadu yng Nghymru ond yn berthnasol lle mae’r posibilrwydd y bydd y plentyn yn cael ei integreiddio â’i deulu biolegol eisoes wedi’i ddiystyru.        

 

176.      Yn aml, bydd darpar fabwysiadwyr hefyd yn cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth awdurdod lleol, ar ôl cwblhau’r broses asesu ar gyfer maethu a mabwysiadu. Fodd bynnag, ni fydd darpar fabwysiadwyr wedi’u cymeradwyo fel gofalwyr maeth mewn rhai achosion, a gall hyn arwain at oedi posibl wrth leoli plentyn mewn trefniant ‘maethu i fabwysiadu’. Felly, mae’r Rheoliadau CPPCR yn galluogi awdurdod lleol i gymeradwyo darpar fabwysiadydd fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro, ac mae’r gymeradwyaeth ond yn berthnasol i’r plentyn penodol hwnnw. Bydd y darpar fabwysiadydd ond yn cael cymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau canlynol: 

 

·         mae’r awdurdod lleol yn fodlon mai hwn yw’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer y plentyn, a’i fod er budd pennaf y plentyn i’w leoli yno

·         mae’r awdurdod lleol yn fodlon y bydd y trefniant arfaethedig yn diogelu ac yn hyrwyddo llesiant y plentyn ac yn diwallu ei anghenion yn unol â’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6

·         mae’r awdurdod lleol wedi asesu addasrwydd y darpar fabwysiadydd i ofalu am y plentyn fel rhiant maeth.

 

 

177.      Bydd un o’r canlynol yn dod â’r cyfnod cymeradwyo dros dro i ben:

 

·         yr awdurdod lleol yn terfynu lleoliad y plentyn

·         pan ddaw’r cyfnod cymeradwyo fel darpar fabwysiadydd i ben

·         pan fydd y darpar fabwysiadydd yn cael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth

·         os yw’r darpar fabwysiadydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod lleol nad yw’n dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel gofalwr maeth mewn perthynas â’r plentyn (o fewn 28 diwrnod i’r awdurdod lleol dderbyn yr hysbysiad hwn)

·         pan leolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r darpar fabwysiadydd yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002. 

 

Lleoli mewn cartref plant

 

178.      I rai plant sy’n derbyn gofal, lleoliad mewn cartref plant yw’r trefniant mwyaf addas. Dylid ystyried y dewis hwn yn un cadarnhaol bob amser, a rhaid iddo fod yn lleoliad sy’n diwallu anghenion penodol y plentyn ac yn gweddu i’w amgylchiadau. Mae’r lleoliadau hyn yn fwy tebygol o fod yn addas i blentyn hŷn, ac mae’n debyg y bydd dymuniadau a theimladau’r plentyn, ynghyd ag asesiad trylwyr o’i anghenion, yn penderfynu a yw’r dewis hwn yn addas iddo.

 

179.      Gall y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan leoliadau preswyl amrywio’n fawr, felly mae’n bwysig sicrhau’r lleoliad cywir i ddiwallu anghenion y plentyn. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau preswyl ar gael fel bod lleoliadau yn diwallu anghenion unigol pob plentyn. Dylid ystyried pob dewis yn ofalus, ac os oes modd, dylid mynd â’r plentyn i ymweld â’r cartrefi fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. O ystyried nifer y plant dan sylw, a’r angen i fod ag amrywiaeth o ddewisiadau gwahanol, mae’n bosibl y bydd angen i awdurdodau lleol ystyried comisiynu mathau penodol o lety preswyl ar sail ranbarthol. 

 

Lleoli mewn ‘trefniadau eraill’

 

180.      Fel arfer, bydd lleoli plant mewn mathau eraill o drefniant (darperir ar gyfer hyn yn adran 81(6)(d) o’r Ddeddf) ond yn briodol ar gyfer plant dros 16 oed sy’n derbyn gofal, a hon fydd y ffordd orau o ddiwallu’r anghenion asesedig a’r canlyniadau arfaethedig a nodir yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, ac yn y cynllun llwybrau. Yn gyffredinol, bydd y canlyniadau hyn yn gysylltiedig â pharatoi’r person ifanc i adael gofal a helpu’r person ifanc i bontio i fywyd mwy annibynnol fel oedolyn.

 

181.      Mae’r dewisiadau lleoli yn debygol o gynnwys:

 

·         tŷ llety â chymorth

·         llety â chymorth

·         llety annibynnol gyda chymorth symudol gan weithwyr cymorth tai. 

 

182.      Gan fod y dewisiadau hyn wedi’u defnyddio ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal hefyd, mae Pennod 5 o’r cod hwn yn ystyried y dewisiadau lleoli. Ni fydd y lleoliadau hyn yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac o ganlyniad ni fyddant yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru (AGGCC). O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud popeth i sicrhau bod anghenion y plentyn sy’n derbyn gofal yn cael eu diwallu gan wasanaethau’r lleoliad, yn unol â’i brif ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei leoli mewn ‘trefniadau eraill’, mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6, ar y cyd â’r person ifanc a’r person sy’n ei gynorthwyo yn y llety, fel bod y cynllun yn adlewyrchu trefniadau ar gyfer y lleoliad yn ddigonol.          

 

Lleoliadau y tu allan i ardal yr awdurdod lleol

 

183.      Mae’n bwysig bod plant sy’n derbyn gofal yn aros yn eu hardal eu hunain lle bynnag y bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Mae lleoli plentyn yn ei ardal ei hun yn sicrhau cysondeb o ran gofal iechyd ac addysg, gan ei gwneud yn haws i’r plentyn gadw mewn cysylltiad â’i rieni biolegol a phobl arwyddocaol eraill yn ei fywyd. Mae cadw mewn cysylltiad â’r teulu yn cyfrannu at sefydlogrwydd lleoliad, ac mae’n ffactor arwyddocaol o safbwynt cynllunio i ailuno plentyn â’i deulu biolegol neu pan ei fod yn gadael gofal. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd lleoliad y tu allan i ardal yr awdurdod er budd pennaf y plentyn.  

 

184.      Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y dylid ystyried lleoliad o’r fath:

·         nid oes lleoliad ar gael yn ardal yr awdurdod lleol sy’n gallu diwallu anghenion y plentyn, neu

·         credir y byddai lleoliad y tu allan i’r ardal yn fwy cyson â llesiant y plentyn nag unrhyw leoliad sydd ar gael yn yr ardal.

 

185.      Dylai penderfyniad i leoli plentyn y tu allan i’r ardal fod yn seiliedig ar asesiad a dadansoddiad trylwyr o anghenion y plentyn. Bydd lleoliad mewn ardal awdurdod lleol cyfagos yn well na lleoliad mewn ardal ymhellach i ffwrdd yn aml, gan ei bod yn bosibl y bydd y plentyn yn gallu mynychu’r un ysgol, aros gyda’r un meddyg teulu a chadw mewn cysylltiad â’i ffrindiau a’i deulu yn haws. Fodd bynnag, mae’n dibynnu’n gyfan gwbl ar anghenion ac amgylchiadau’r plentyn, ac ar y rhesymau pam y credir mai lleoliad y tu allan i’r ardal yw’r opsiwn gorau ar gyfer y plentyn. Weithiau bydd rhesymau da dros gredu y bydd lleoli plentyn ymhellach i ffwrdd er budd pennaf y plentyn - er enghraifft:

·         i ddiogelu’r plentyn neu i’w symud o ddylanwadau niweidiol

·         i sicrhau bod grŵp o frodyr a chwiorydd yn aros gyda’i gilydd, neu

·         i leoli’r plentyn gyda pherthnasau neu ffrindiau y mae gan y plentyn berthynas â hwy.

 

186.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sy’n ystyried lleoli plentyn y tu allan i’r ardal geisio lleoli’r plentyn yn unol â’r drefn blaenoriaeth ganlynol (cyn belled â bod hyn yn cyd-fynd â budd pennaf y plentyn ac yn diwallu anghenion asesedig y plentyn): 

·         mewn awdurdod lleol yng Nghymru sydd â’i ardal yn ffinio ag ardal yr awdurdod cyfrifol

·         mewn unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru

·         mewn awdurdod lleol yn Lloegr, neu

·         yn ddarostyngedig i ofynion adran 124 o’r Ddeddf, y tu allan i Gymru a Lloegr.

 

187.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer awdurdodau lleol sy’n ffinio ag awdurdod(au) lleol yn Lloegr – lle, er enghraifft, byddai lleoliad mewn awdurdod cyfagos yn Lloegr yn golygu bod modd i’r plentyn aros yn yr un ysgol neu barhau i dderbyn gofal iechyd neu gymorth arbenigol. Gall awdurdodau sydd ar y ffin ystyried lleoli plentyn mewn awdurdod lleol cyfagos yn Lloegr ar ôl iddynt ystyried ei leoli mewn awdurdod lleol cyfagos yng Nghymru, ond cyn ei leoli mewn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru.   

 

188.      Wrth ystyried lleoli plentyn y tu allan i’r ardal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ganfod dymuniadau a theimladau’r plentyn, a rhaid rhoi sylw dyladwy iddynt wrth wneud y penderfyniad lleoli. Hefyd, mae’n rhaid ymgynghori â rhieni’r plentyn lle bo hynny’n briodol (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau mewn unrhyw orchymyn gofal, neu os nad yw er budd pennaf y plentyn i wneud hynny). Os yw’n ymarferol gwneud hynny, dylai’r awdurdod lleol drefnu i’r gweithiwr cymdeithasol a rhieni’r plentyn (lle bo hynny’n briodol) gadw cwmni i’r plentyn yn ystod ymweliad cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Bydd hyn yn sicrhau bod dymuniadau a theimladau’r plentyn yn seiliedig ar wybodaeth fanwl am y lleoliad arfaethedig, y lleoliad daearyddol a’r pellter o’i gartref.   

 

189.      Mae’n rhaid ymgynghori â swyddog adolygu annibynnol y plentyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad, er mwyn i’r swyddog drafod y trefniant arfaethedig â’r plentyn. Fel arfer, dylid gwneud y penderfyniad hwn ar ôl i’r plentyn ymweld â’r lleoliad arfaethedig. 

 

190.      Wrth wneud lleoliad o’r fath, mae’n bwysig iawn bod mesurau priodol ar waith i sicrhau y bydd anghenion gofal, iechyd ac addysg y plentyn yn parhau i gael eu diwallu yn briodol, ac i leihau unrhyw amharu ar fywyd y plentyn. Mae’n hanfodol cydweithio o’r cychwyn â’r holl wasanaethau ac asiantaethau perthnasol. Bydd angen gwneud yr holl drefniadau, gan gynnwys ariannu, mewn da bryd er mwyn sicrhau nad yw plant yn cael eu symud cyn bod gwasanaethau gofal, iechyd ac addysg digonol yn cael eu trefnu. Os oes angen gwasanaethau iechyd arbenigol ar y plentyn, fel gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS), mae’n rhaid ymgynghori â bwrdd iechyd lleol yr ardal lle bydd y plentyn yn byw.  

 

191.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaethau priodol ar waith i ddiwallu anghenion y plentyn yn unol â’r cynllun gofal a chymorth (gan gynnwys yr adrannau ar y cynllun iechyd a’r cynllun addysg personol) cyn gwneud y lleoliad, lle bo hynny’n bosibl. Os nad oes modd rhoi’r trefniadau hyn ar waith cyn gwneud y lleoliad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny (gweler ‘Lleoliadau mewn argyfwng y tu allan i’r ardal’ isod). 

 

Atgyfeirio i banel

 

192.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol atgyfeirio achos y plentyn i banel cyn lleoli plentyn y tu allan i’r ardal. Mae hyn yn berthnasol i leoliad pob plentyn sy’n derbyn gofal, gan gynnwys lleoliadau remánd. Mae lleoliadau mewn argyfwng yn cael eu hystyried ym mharagraffau 171. 

 

193.      Bydd aelodau’r panel yn dibynnu ar amgylchiadau penodol pob achos. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, dylai’r panel gynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau a fydd yn cynorthwyo’r awdurdod lleol i gynllunio lleoliad y plentyn, diwallu anghenion y plentyn a sicrhau canlyniadau llesiant yn ystod y lleoliad. Mae’n rhaid i hyn gynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol lle bydd y plentyn yn cael ei leoli, gan gynnwys unrhyw gynrychiolwyr perthnasol o’r meysydd iechyd ac addysg. Dylai aelodau’r panel gynnwys uwch swyddogion adrannau gwasanaethau plant ac addysg yr awdurdod lleol, ac uwch swyddogion y bwrdd iechyd lleol sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau ac yn ddeiliaid cyllidebau. Bydd yr aelodau eraill yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau sy’n cyfrannu at gynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn. Mewn rhai achosion, bydd yn ddefnyddiol sicrhau bod paediatregydd cymunedol a/neu seicolegydd addysg yn aelod o’r panel er mwyn darparu cyngor proffesiynol. Mae’n rhaid i fyrddau iechyd lleol gydweithredu â threfniadau’r panel, sicrhau eu bod yn darparu cynrychiolwyr priodol a chyngor proffesiynol i’r panel, a dylanwadu a chytuno ar benderfyniadau ariannu a dyrannu adnoddau.

 

194.      Os yw’n anodd dod â’r holl bartïon at ei gilydd mewn un lle wrth alw cyfarfodydd panel, gall yr awdurdod lleol ystyried defnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda neu delegynadledda, neu hyd yn oed sefydlu paneli ‘rhithwir’ (mewn amgylchiadau eithriadol). Dylai pob dull gweithredu fod yn gymesur ag anghenion yr achos unigol, ac ym mhob achos mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y panel yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol a bod yr holl bartïon perthnasol yn gwneud cyfraniad effeithiol at ystyried addasrwydd y lleoliad arfaethedig ac at wneud y trefniadau gofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r awdurdod sy’n gosod y plentyn yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl bartïon yn cyfrannu’n llawn at broses y panel, ac am hwyluso hyn.    

 

195.      Diben y panel yw:

 

·         penderfynu nad oes unrhyw leoliad yn yr ardal sy’n gallu diwallu anghenion y plentyn, neu fod lleoli’r plentyn y tu allan i’r ardal yn fwy cyson â llesiant y plentyn

·         ei fodloni ei hun y bydd y lleoliad arfaethedig yn diwallu anghenion iechyd ac addysg y plentyn

·         cytuno ar drefniadau i ddiwallu anghenion iechyd ac addysg y plentyn, gan nodi cyfrifoldebau pawb

·         cytuno ar ariannu ar gyfer y lleoliad. 

 

196.      Mae’n rhaid i waith y panel gael ei lywio gan farn y plentyn a rhieni’r plentyn, yr holl gynlluniau sydd ar gael (gan gynnwys rhannau’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg), a’r holl asesiadau perthnasol.   

 

197.      Os nad yw’r panel yn gallu cytuno ar drefniadau i leoli plentyn y tu allan i’r ardal, dylid atgyfeirio’r achos i Brif Weithredwr yr awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn a Phrif Weithredwr y bwrdd iechyd lleol.

 

198.      Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, mae’n rhaid i unrhyw benderfyniad i leoli plentyn y tu allan i’r ardal lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer gael ei gofnodi ar ffurf ysgrifenedig, gan gynnwys y rhesymau, a’i gymeradwyo gan swyddog enwebedig yr awdurdod lleol. Fel arfer, yr unigolyn hwn yw’r Pennaeth Gwasanaeth neu ddirprwy sy’n gweithredu ar ei ran. 

 

199.      Ni ellir rhoi penderfyniad i leoli plentyn y tu allan i’r ardal ar waith nes bod y swyddog enwebedig wedi’i gymeradwyo. Dylai gweithiwr cymdeithasol y plentyn gasglu’r wybodaeth am anghenion, dymuniadau a theimladau’r plentyn, dymuniadau a theimladau’r rhiant (lle bo hynny’n briodol) a manylion y lleoliad arfaethedig er mwyn nodi pam mai’r lleoliad hwn yw’r lleoliad mwyaf priodol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn.

 

200.      Mae’n rhaid hysbysu arweinydd gwasanaethau plant yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn am benderfyniad y panel. Mae’n rhaid i adroddiad y penderfyniad nodi manylion ac amgylchiadau’r lleoliad, gan gynnwys y rheswm am wneud y lleoliad.   

 

201.      Hefyd, mae’n rhaid i awdurdod yr ardal lle mae’r lleoliad am gael ei wneud gael ei hysbysu’n ffurfiol am y lleoliad.

 

Lleoliadau mewn argyfwng y tu allan i’r ardal

 

202.      Os oes angen lleoli plentyn y tu allan i’r ardal ar unwaith oherwydd rhesymau llesiant, dylai’r awdurdod lleol atgyfeirio achos y plentyn i banel cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a dim hwyrach na 25 diwrnod gwaith ar ôl i’r lleoliad gychwyn. 

 

203.      Cyn lleoli plentyn mewn argyfwng, mae’n rhaid i’r swyddog enwebedig fod yn fodlon â’r canlynol cyn cymeradwyo penderfyniad:

·         mae dymuniadau a theimladau’r plentyn wedi’u canfod a chael sylw dyladwy

·         y lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael yn unol â’r cynllun gofal a chymorth.

 

204.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn hysbysu’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn cael ei leoli, a rhoi cynllun gofal a chymorth y plentyn iddo, o fewn pum diwrnod gwaith i wneud y lleoliad. Yn ogystal, mae’n rhaid ymgynghori â pherthnasau’r plentyn, a hysbysu swyddog adolygu annibynnol y plentyn o fewn pum diwrnod gwaith.

 

205.      Mae’n rhaid i baneli sicrhau eu bod yn craffu i’r un graddau ar achosion ôl-weithredol. Mae’n rhaid i’r rhesymau am beidio ag atgyfeirio achos y plentyn i’r panel cyn ei leoli gael eu cofnodi ar ffurf ysgrifenedig a’u cymeradwyo gan uwch swyddog, a rhaid rhoi copi yn ffeil achos y plentyn. Dylai penderfyniad y panel i gadarnhau’r lleoliad neu leoli’r plentyn yn rhywle arall, a’r rhesymau am y penderfyniad, gael eu cofnodi a’u cymeradwyo gan uwch swyddog yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn. Dylai arweinydd gwasanaethau plant yr awdurdod sy’n lleoli’r plentyn dderbyn copi o’r penderfyniad hwn hefyd.      

                               

 

Lleoli trawsffiniol

 

Lleoli yn Lloegr

 

206.      Os yw awdurdod lleol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofynion yn ymwneud â lleoliadau y tu allan i’r ardal, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol.

 

Nid oes angen cymeradwyaeth benodol y llysoedd i leoli plant sy’n derbyn gofal yn Lloegr, ond mae angen cymeradwyaeth o’r fath i leoli plant y tu allan i Gymru a Lloegr.

 

Lleoli y tu allan i Gymru a Lloegr

 

207.      Dan rai amgylchiadau, bydd lleoli plentyn y tu allan i Gymru a Lloegr er budd pennaf y plentyn. Er enghraifft, gall lleoli’r plentyn gyda pherthynas neu berson cysylltiedig arall sy’n byw y tu allan i Gymru a Lloegr fod er budd y plentyn, neu gall gofalwr maeth symud i gyfeiriad newydd neu gael ei symud i weithio yn rhywle arall am gyfnod ac mae rhesymau o blaid parhau â’r lleoliad (yn enwedig os yw’n lleoliad hirdymor). Mae adran 124 o’r Ddeddf yn cynnwys pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol i drefnu, neu helpu i drefnu, bod plant sydd mewn gofal a phlant sy’n cael eu lletya yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr. 

 

208.      Ni all awdurdodau lleol drefnu (neu helpu i drefnu) bod plant o dan eu gofal yn byw y tu allan i Gymru a Lloegr heb gymeradwyaeth y llys. Nid oes angen cymeradwyaeth y llys arnynt i drefnu neu helpu i drefnu symudiad o’r fath ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ond nad yw mewn gofal, ond mae’n rhaid iddynt gael cymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.   

 

209.      Rhaidi’r llys beidio â chymeradwyo lleoli plentyn mewn gofal y tu allan i Gymru a Lloegr oni bai ei bod yn fodlon: 

·         y byddai fyw y tu allan i Gymru a Lloegr er budd pennaf y plentyn

·         bod trefniadau addas wedi’u gwneud, neu’n mynd i gael eu gwneud, ar gyfer derbyn y plentyn a’i lesiant yn y wlad lle bydd y plentyn yn byw

·         bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno

·         bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn wedi cydsynio i’r plentyn yn byw yn y wlad honno. 

 

210.      Gall y llys hepgor cydsyniad y plentyn os yw’r plentyn yn mynd i fyw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig neu berson addas arall, a’i bod yn fodlon nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i roi neu atal cydsyniad. Er mwyn hepgor cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant, mae’n rhaid i’r llys fod yn fodlon:

·         nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes ganddo’r gallu i roi cydsyniad, neu

·         fod angen hepgor cydsyniad oherwydd llesiant y plentyn. 

 

211.      Os yw’r plentyn yn symud i awdurdodaeth arall oddi mewn i Ynysoedd Prydain (Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw), gall effaith y gorchymyn llys gael ei throsglwyddo i awdurdod cyhoeddus perthnasol yr awdurdodaeth sy’n derbyn y plentyn. [2]   

 

212.      Os yw’n amlwg bod lleoli plentyn yn rhywle arall ar Ynysoedd Prydain er budd pennaf y plentyn ac yn gyson â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, a bod y gofalwr maeth wedi’i gymeradwyo o dan y Rheoliadau CPPCR, dylid gwneud trefniadau goruchwylio priodol gyda’r awdurdodau perthnasol. 

 

213.      Os yw gofalwr maeth yn bwriadu symud yn barhaol neu dros dro i rywle arall ar Ynysoedd Prydain, bydd angen i’r awdurdod lleol bwyso a mesur manteision ac anfanteision parhau â’r lleoliad, gan ystyried barn y rhieni, y cynlluniau ar gyfer y plentyn, amcanion y lleoliad a’r goblygiadau o safbwynt cyswllt â’r plentyn. Mae’n rhaid ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn yn llawn. Mae’n rhaid cael cydsyniad y rhieni (neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant) os nad yw’r plentyn mewn gofal, a dylai’r rhieni gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. 

 

214.      Dim ond mewn achosion prin y caiff plentyn ei leoli y tu allan i Ynysoedd Prydain. Ni ddylid gwneud penderfyniad i adael i ofalwr maeth fynd â phlentyn dramor (ac eithrio ar gyfer gwyliau) oni bai bod rhesymau eithriadol dros wneud hynny a bod modd gwneud trefniadau digonol ac ymarferol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. Bydd y rhain yn cynnwys trefniadau i oruchwylio ac adolygu’r lleoliad, a pharhau ag unrhyw drefniadau cyswllt. Ni ddylid cytuno i leoliad os nad yw’r arhosiad dramor ar gyfer cyfnod pendant a chyfyngedig. 

 

 

Osgoi amharu ar addysg

 

215.      Mae cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yn parhau i fod yn is na chyrhaeddiad addysgol y boblogaeth yn gyffredinol. O ganlyniad, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw arbennig i anghenion addysg a hyfforddiant plant sy’n derbyn gofal wrth leoli plant. Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, mae’n rhaid sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu gwneud ar gyfer addysg neu hyfforddiant plentyn cyn ei leoli. Mae’n rhaid i’r trefniadau hyn ddiwallu anghenion y plentyn a bod yn gyson â’i gynllun addysg personol. 

216.      Mae cysondeb ym maes addysg yn bwysig hefyd ar gyfer llwyddiant academaidd plentyn a’i lesiant emosiynol a chymdeithasol. Wrth leoli plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg neu hyfforddiant y plentyn. Dylai’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y plentyn yn gallu parhau i aros yn yr un ysgol hyd yn oed os nad yw’n byw yn y gymdogaeth leol bellach, ar yr amod bod hyn yn rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant y plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol drafod y materion hyn â’r plentyn a bod yn ymwybodol o hanes a phrofiadau addysgol y plentyn fel y’u nodir yn y cynllun addysg personol. Os na ellir osgoi amharu ar addysg y plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol weithredu’n ofalus iawn i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant y plentyn yn parhau i ddiwallu anghenion y plentyn a’u bod yn gyson â’i gynllun addysg personol.

217.      Os yw plentyn sy’n derbyn gofal yn newid ysgol o ganlyniad i leoliad, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r person dynodedig yn yr ysgol bresennol a’r ysgol newydd, a rhaid diwygio cynllun addysg personol y plentyn. Mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys y trefniadau i leihau amharu ar addysg, yn enwedig unrhyw drefniadau ar gyfer parhau â chyrsiau sy’n arwain at gymwysterau allanol.

 

Gofynion penodol yng Nghyfnod Allweddol 4

 

218.      Ar adegau allweddol penodol yn nhaith addysgol plentyn, bydd angen ymdrin â newidiadau arfaethedig i leoliad yn ofalus iawn – er enghraifft, pan fydd plentyn yn pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, pan ei fod yn dewis ei bynciau TGAU, neu pan ei fod yng nghanol cwrs TGAU. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer awdurdodau lleol sy’n lleoli plant sy’n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4 (blynyddoedd ysgol 10 ac 11), gan gydnabod y ffaith y gall symud plant yng nghanol cwrs TGAU niweidio eu cyfle i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch, neu gael swydd. Ni ddylid amharu ar addysg plentyn yn y cyfnod hwn ac eithrio o ganlyniad i leoliad mewn argyfwng.

 

219.      Cyn gwneud lleoliad a fyddai’n amharu ar addysg plentyn sy’n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4, mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod angen i awdurdod lleol wneud y canlynol:

·         canfod dymuniadau a theimladau’r plentyn a rhoi ystyriaeth briodol iddynt wrth wneud y penderfyniad am y lleoliad

·         canfod dymuniadau a theimladau rhieni’r plentyn (os yw’r person ifanc yn cael ei letya) a (lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol) os yw’r person ifanc yn destun gorchymyn gofal)

·         sicrhau bod y ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei gwneud ar gyfer y plentyn o dan y lleoliad newydd yn hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn a’i bod yn gyson â’i gynllun addysg personol

·         ymgynghori â’r arweinydd dynodedig yn yr ysgol lle mae’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig

·         ymgynghori â’r swyddog adolygu annibynnol, er mwyn trafod hyn â’r plentyn

·         hysbysu asiantaethau ac ymarferwyr perthnasol eraill.

220.      Mae’n rhaid i’r penderfyniad i newid lleoliad y plentyn gael ei gymeradwyo gan un o uwch swyddogion yr awdurdod lleol, a rhaid iddo fod yn fodlon bod yr holl ofynion wedi’u bodloni.  

 

Cynllunio ar gyfer lleoliad

 

221.      Pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried ac yn gwneud trefniadau i leoli  plentyn sy’n derbyn gofal yn unrhyw un o’r lleoliadau uchod, mae’r Rheoliadau CPPCR yn datgan bod yn rhaid i’r awdurdod lleol nodi’n fanwl mewn ‘cynllun lleoli’ sut bydd y lleoliad arfaethedig yn helpu i ddiwallu anghenion y plentyn. Dylai’r cynllun lleoli fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn, a bydd yn adran ar wahân o’r cynllun mewn gwirionedd.         

 

222.      Yn benodol, bydd angen i’r cynllun lleoli:   

·         ddarparu eglurder ynglŷn â sut y bydd tasgau rhianta o ddydd i ddydd yn cael eu rhannu rhwng y gofalwr a’r awdurdod lleol (fel y rhiant corfforaethol)

·         egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau, yn enwedig mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar ran y plentyn, gan leihau unrhyw anghytuno posibl

·         nodi’r trefniadau ariannol ar gyfer magwraeth y plentyn

·         darparu gwybodaeth hanfodol i’r gofalwr am y plentyn, gan gynnwys ei anghenion iechyd, addysg, emosiynol ac ymddygiad, a strategaethau priodol i’w diwallu

·         sicrhau bod y gofalwr yn deall yr hyn y mae’r plentyn yn ei hoffi, yr hyn nad yw’n ei hoffi, a’i arferion

·         sicrhau bod unrhyw anawsterau neu fathau o ymddygiad sydd wedi peri pryder mewn lleoliadau blaenorol yn cael eu datrys, a bod y plentyn a’r gofalwr yn derbyn y cymorth a’r gefnogaeth briodol, a bod y plentyn yn derbyn triniaeth briodol os oes angen.

 

223.      Wrth wneud y trefniadau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ganfod a rhoi ystyriaeth briodol i ddymuniadau a theimladau’r plentyn, a llywio a chanfod barn y swyddog adolygu annibynnol. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol drafod y wybodaeth am y lleoliad sydd wedi’i hychwanegu at y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 â’r plentyn.

 

224.      Os nad oes modd ychwanegu’r wybodaeth hon at y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyn gwneud y lleoliad, mae’n rhaid ei hychwanegu o fewn pum diwrnod gwaith i ddechrau’r lleoliad. Ym mhob achos, mae’n rhaid sicrhau bod gwybodaeth hanfodol am ddarparu gofal diogel ar gyfer y plentyn ar gael i’r gofalwr ar ddechrau’r lleoliad.

 

Gwybodaeth sydd ei hangen ar y gofalwr er mwyn gofalu am y plentyn

 

225.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y cynllun lleoli cyn lleoli plentyn. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen ar y gofalwr er mwyn gofalu am y plentyn, gan gynnwys:

 

·         teulu a chefndir teuluol y plentyn

·         hil, crefydd a diwylliant y plentyn

·         iaith yr aelwyd

·         unrhyw anableddau neu anghenion arbennig eraill

·         rhywioldeb y plentyn ac unrhyw faterion yn ymwneud â hunaniaeth o ran rhywedd

·         yr amgylchiadau a arweiniodd at y plentyn yn dechrau derbyn gofal

·         profiadau blaenorol y plentyn cyn ac yn ystod y cyfnod mewn gofal

·         y drefn y mae’r plentyn wedi arfer â hi (fel amser gwely ac amseroedd bwyta), a gwybodaeth arall a all helpu’r plentyn i ymgartrefu.     

 

226.      Dylai’r gofalwr dderbyn copi o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar ôl iddo gael ei gwblhau, a rhaid iddo ddeall ei rôl wrth ei weithredu. Yn benodol, bydd angen i’r gofalwr wybod:

·         beth yw’r cynllun hirdymor ar gyfer y plentyn, a’i amserlen

·         amcanion y lleoliad a sut maent yn cyd-fynd â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn

·         ei rôl wrth weithredu’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6

·         amcangyfrif realistig o’r amser y mae’r lleoliad yn debygol o bara. 

 

227.      Mae angen i ofalwyr wybod hefyd:

·         sut i gael gafael ar ragor o wybodaeth, cyngor a chymorth

·         enwau a manylion cyswllt gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithiwr lleoli’r teulu, y swyddog adolygu annibynnol, yr ymwelydd annibynnol ac, os yn berthnasol, cynghorydd personol y plentyn

·         pwy i gysylltu ag ef/hi y tu allan i oriau swyddfa a sut i wneud hynny

·         y cymorth arbenigol y mae’r plentyn yn ei dderbyn (er enghraifft, cymorth ychwanegol gyda gwaith ysgol) a sut i barhau â’r cymorth

·         enwau, cyfeiriadau a manylion cyswllt allweddol eraill, gan gynnwys yr ysgol, yr arweinydd dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal, meddyg teulu a deintydd y plentyn, ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal y plentyn.

 

228.      Mae angen gwneud trefniadau clir ynglŷn â thâl hefyd. Mae’n rhaid i ofalwyr wybod o’r cychwyn faint o gymorth ariannol y byddant yn ei dderbyn, a’r trefniadau talu. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth glir am bwy fydd yn talu am eitemau eithriadol fel teithiau ysgol. Yn ogystal â thaliadau cynnal, dylai’r awdurdod a’r gofalwr maeth ystyried a oes unrhyw anghenion penodol yn deillio o’r lleoliad, fel dillad gwely, dodrefn ystafell wely, cyfarpar, neu ddillad, yn enwedig os yw grŵp o frodyr a chwiorydd wedi’i leoli ar aelwyd nad yw wedi arfer â nifer fawr o bobl.  

 

229.      Yn aml, mae angen treuliau ychwanegol a chyfarpar arbennig ar gyfer plant ag anghenion arbennig, a rhaid rhoi gwybod i ofalwyr plant ag anghenion arbennig pwy fydd yn talu am hyn a phwy fydd yn darparu ac yn cynnal a chadw unrhyw gyfarpar.   

 

230.      Dylai awdurdodau lleol fod yn realistig ac yn sensitif wrth ymateb yn llawn ac yn gyflym i angen am wariant ychwanegol, gan gofio bob amser mai’r awdurdod a’r rhieni sy’n gyfrifol am ddarparu ar gyfer y plentyn, ac nid y gofalwr maeth. Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod gofalwyr yn gwybod sut i godi unrhyw bryderon ynglŷn â gwariant gofynnol gyda’r awdurdod.   

 

Trefniadau o ddydd i ddydd

 

231.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys amrywiaeth o wybodaeth benodol yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn. Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud ag iechyd ac addysg y plentyn, trefniadau cyswllt, ymweliadau gan yr awdurdod lleol ac unrhyw drefniadau ar gyfer ymweliadau gan ymwelydd annibynnol.

 

232.      Mae angen i ofalwr y plentyn wybod ei rôl o ran diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn. 

 

233.      Yn benodol, bydd angen iddo wybod am iechyd y plentyn a’i rôl wrth weithredu cynllun iechyd y plentyn. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am alergeddau, meddyginiaeth bresennol a thriniaeth ar gyfer unrhyw gyflyrau iechyd, a manylion ymarferol fel dyddiadau apwyntiadau gydag arbenigwyr.

 

234.      Bydd angen i’r gofalwr wybod am anghenion addysgol y plentyn a deall ei rôl wrth weithredu cynllun addysg personol y plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth addysgol ychwanegol sy’n cael ei ddarparu drwy ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig, unrhyw drefniadau sydd ar waith ar gyfer gwasanaethau arbenigol fel cymorth  seicotherapiwtig, neu hyfforddiant ychwanegol. Bydd angen i’r gofalwr fod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau a’i gyfrifoldeb i helpu’r plentyn i ddilyn unrhyw raglenni y cytunwyd arnynt.

 

235.      Dylai gofalwyr y plentyn fod yn ymwybodol o grefydd a diwylliant y plentyn a sut maent yn cael eu hadlewyrchu yn ei fywyd bob dydd, gan gynnwys unrhyw gymorth y bydd y plentyn ei angen i gynnal y cysylltiadau hyn. Dylai’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 gynnwys y trefniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cynnal a chryfhau cysylltiadau’r plentyn ag arferion crefyddol a diwylliannol ei deulu biolegol, yn enwedig os bwriedir i’r plentyn ddychwelyd at ei rieni pan ddaw’r lleoliad i ben.

 

236.      Mae’n rhaid i’r trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plant, rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd sy’n derbyn gofal, a pherthnasau a ffrindiau eraill gael eu hegluro a’u trafod gyda gofalwyr. Mae angen i ofalwyr y plentyn wybod am ddarpariaethau gorchmynion cyswllt a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf Plant 1989 ac unrhyw Orchymyn Trefniadau Plentyn, a sut y dylid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’r trefniadau hyn. Mae angen i’r gofalwr wybod hefyd am unrhyw berson nad yw cyswllt ag ef yn cael ei gymeradwyo, ynghyd â’r rheswm am hynny. Os yw’r plentyn yn destun gorchymyn gofal, dylai’r gofalwr dderbyn copi o unrhyw orchmynion a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Plant 1989. Os yw’r plentyn wedi’i awdurdodi i gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, mae adran 26 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn berthnasol.

 

237.      Er y disgwylir i ofalwyr y plentyn hwyluso cyswllt rhesymol â rhieni a pherthnasau eraill, mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn ymwybodol o’r anawsterau sy’n gallu codi pan fydd gan rieni biolegol a pherthnasau eraill gyswllt helaeth â phlant yng nghartref y gofalwr. Dylai trefniadau cyswllt fod yn sensitif i anghenion gofalwyr a’u teuluoedd yn ogystal ag anghenion rhieni.

 

Lleoli plentyn nôl gyda’i rieni

 

238.      Mae’n rhaid darparu gwybodaeth ychwanegol pan fydd trefniadau’n cael eu gwneud i leoli’r plentyn gyda’i rieini. Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i leoliad y plentyn gynnwys:

·         manylion y cymorth a’r gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu i’r rhiant yn ystod y lleoliad

·         dyletswydd y rhiant i hysbysu’r awdurdod lleol am unrhyw newid perthnasol i’r amgylchiadau

·         dyletswydd y rhiant i gadw’r wybodaeth a ddarparwyd am y plentyn, y teulu neu bersonau eraill yn gyfrinachol

·         yr amgylchiadau ar gyfer ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y plentyn i fyw ar aelwyd nad yw’n eiddo i’r rhiant

·         y trefniadau ar gyfer gofyn am newid i’r cytundeb

·         yr amgylchiadau lle caiff y lleoliad ei derfynu.

 

Rhannu cyfrifoldebau a chydsyniadau

 

239.      Mewn achos lle mae plentyn sy’n cael ei letya yn cael ei leoli gyda gofalwr maeth neu mewn cartref plant cofrestredig, mae’n rhaid i’r cynllun lleoli nodi sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu rhwng y rhieni a’r awdurdod lleol.  

240.      Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli nodi cyfrifoldebau’r awdurdod lleol a rhieni’r plentyn, ynghyd ag unrhyw drefniadau i ddirprwyo cyfrifoldebau o rieni’r plentyn i’r awdurdod lleol. Mae’n bwysig trafod â rhieni pa feysydd cyfrifoldeb maent yn fodlon dirprwyo i’r awdurdod a pha feysydd cyfrifoldeb maent yn dymuno eu cadw yng nghyd-destun anghenion y plentyn.

241.      Hyd yn oed os yw plentyn yn destun gorchymyn gofal, mae rhieni yn parhau i fod â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, er yr awdurdod lleol sydd â’r gair olaf ynglŷn â sut mae hyn yn cael ei weithredu. Bydd yn bwysig cynnwys rhieni yn y trafodaethau hyn, i’r graddau y bo hynny’n bosibl ac yn briodol, er mwyn eu galluogi i barhau i fod yn rhan o fywyd eu plentyn. Os yw plentyn mewn lleoliad y bwriedir iddo fod yn lleoliad parhaol, mae’n debyg y bydd cynllun lleoli yn adlewyrchu lefelau uwch o gyfrifoldeb wedi’i ddirprwyo i’r gofalwyr.

 

242.      Dylid egluro meysydd sy’n debygol o achosi dryswch ymlaen llaw a chofnodi penderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, pwy ddylai fynychu nosweithiau rhieni ysgolion, a’r amgylchiadau lle gall y gofalwr gydsynio bod y plentyn yn cymryd rhan mewn teithiau ysgol neu arosiadau dros nos heb orfod cysylltu â’r awdurdod lleol. Gall fod yn ddefnyddiol nodi ar ddechrau’r lleoliad unrhyw bobl y mae’r plentyn yn cael aros gyda nhw heb orfod gofyn am ragor o ganiatâd.

 

243.      Mewn achos plentyn sy’n cael ei letya, dylai’r cynllun lleoli nodi hyd disgwyliedig y lleoliad, a’r camau a gaiff eu rhoi ar waith i derfynu’r lleoliad, gan gynnwys trefniadau i’r plentyn ddychwelyd i fyw at riant, aelod arall o’r teulu neu berson cysylltiedig.       

 

244.      Os yw person ifanc dros 16 oed yn cytuno i gael ei letya gan yr awdurdod lleol, mae’n rhaid cofnodi hyn yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y person ifanc a / neu’r cynllun llwybr.

 

 

Awdurdod dirprwyedig gofalwyr maeth

 

245.      Cyn i leoliad ddechrau, mae’n bwysig iawn cytuno pwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau am blentyn sy’n derbyn gofal. Mae angen cyfleu hyn yn glir i bawb sy’n gysylltiedig â’r lleoliad, gan gynnwys y plentyn, rhieni a gofalwyr maeth y plentyn, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r plentyn. Mae angen adolygu awdurdod dirprwyedig yn rheolaidd hefyd. 

 

246.      Dylid rhoi’r hyblygrwydd priodol mwyaf i ofalwyr maeth wneud penderfyniadau ynglŷn â phlant y maent yn gofalu amdanynt, yn unol â  fframwaith y cynllun lleoli a’r gyfraith yn ymwneud â chyfrifoldeb rhiant.  Dylai gofalwyr maeth gael awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau bob dydd yn ymwneud â materion fel iechyd, addysg a hamdden, oni bai na ddylai hyn ddigwydd oherwydd ffactorau penodol a nodwyd. 

 

247.      Os yw plentyn yn dechrau derbyn gofal gyda chytundeb gwirfoddol y rhieni, nid oes gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb rhiant, a bydd rhaid dod i gytundeb ynglŷn â pha benderfyniadau y bydd y rhieni yn eu dirprwyo i’r awdurdod lleol. Dylai’r awdurdod lleol weithio gyda’r rhiant/rhieni hyd ag y bo modd i’w helpu i ddeall sut y bydd eu plentyn yn manteisio yn sgil dirprwyo priodol i’r awdurdod lleol a’r gofalwyr maeth.

 

248.      Os yw plentyn yn destun gorchymyn gofal, gorchymyn gofal interim neu orchymyn amddiffyn mewn argyfwng, mae’r rhiant neu’r rhieni yn rhannu cyfrifoldeb rhiant gyda’r awdurdod lleol, a gall yr awdurdod lleol gyfyngu ar y graddau y gall y rhieni arfer eu cyfrifoldeb rhiant os oes angen gwneud hynny i ddiogelu neu hyrwyddo llesiant y plentyn. Fodd bynnag, hyd y bo modd, dylid ymgynghori â rhieni plentyn sy’n destun gorchymyn gofal, gorchymyn interim neu orchymyn amddiffyn mewn argyfwng ynglŷn â gofal y plentyn, ac ystyried eu safbwyntiau. Beth bynnag yw statws cyfreithiol lleoliad plentyn, dylid helpu rhieni i ddeall rôl gofalwyr maeth a pherthnasedd awdurdod dirprwyedig priodol, fel y gallant gynorthwyo’r gofalwyr maeth.

 

249.      Mae’n bwysig bod gofalwyr maeth yn gwybod pa awdurdod sydd ganddynt i wneud penderfyniadau ynglŷn â materion bob dydd yn ymwneud â’r plentyn. Mae’n rhaid i drefniadau ar gyfer dirprwyo awdurdod o’r rhieni i’r awdurdod lleol, a/neu o’r awdurdod lleol i’r gofalwyr maeth, gael eu trafod a’u cytuno fel rhan o’r broses gynllunio gofal (mewn cyfarfodydd cynllunio lleoliadau yn benodol), a dylid cofnodi cytundebau yn y cynllun lleoli.

 

250.      Yn ôl y Rheoliadau CPPCR, mae angen i’r cynllun lleoli nodi unrhyw amgylchiadau lle mae’n rhaid i’r gofalwr maeth sicrhau cymeradwyaeth yr awdurdod lleol neu riant cyn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â’r plentyn neu ofal a chymorth y plentyn. Yn fwy cyffredinol, dylai’r cynllun lleoli egluro pa awdurdod y mae’r rhieni wedi’i ddirprwyo i’r awdurdod lleol, a sut caiff y tasgau rhianta bob dydd eu rhannu rhwng y gofalwr maeth a’r awdurdod lleol. Mae’n rhaid i’r rhai sydd â’r awdurdod i wneud penderfyniad penodol neu i roi cydsyniad penodol gael eu henwi’n glir yn y cynllun lleoli, a dylai unrhyw gamau cysylltiedig gael eu nodi’n glir (er enghraifft, gofyniad i’r gofalwr maeth hysbysu’r awdurdod lleol bod penderfyniad penodol wedi’i wneud).

 

251.      Dylid craffu’n benodol ar drefniadau ar gyfer awdurdod dirprwyedig os yw plant mewn lleoliadau hirdymor neu barhaol, gan roi sylw i sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu er mwyn atgyfnerthu a chefnogi’r cysylltiadau a’r ymlyniadau hirdymor y disgwylir i ofalwyr maeth eu datblygu gyda’r plentyn. Ym mhob lleoliad, yn enwedig lleoliadau hirdymor neu barhaol, gall yr hyn sy’n briodol i’w ddirprwyo i’r gofalwr maeth, a’r hyn y mae’r rhieni yn barod i’w ddirprwyo i’r awdurdod lleol, newid. O ganlyniad, dylai cytundebau ynglŷn â dirprwyo awdurdod gael eu hadolygu’n rheolaidd drwy gyfarfodydd cynllunio ac adolygu gofal a chymorth, gan ystyried barn y rhieni biolegol, y plentyn, a’r gofalwr maeth, a statws cyfreithiol y lleoliad. Dylai unrhyw newidiadau gael eu cofnodi yn y cynllun lleoli.

 

252.      Os yw plentyn yn cael ei leoli gyda gofalwyr maeth sydd wedi’u cymeradwyo gan asiantaeth faethu annibynnol neu awdurdod lleol arall, dylai’r awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn ymgynghori â’r gwasanaeth maethu ynglŷn â pha awdurdod y dylid ei ddirprwyo i’r gofalwr maeth. Os yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol am benderfyniad neu gydsyniad penodol, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn amserol bob tro, p’un ai a yw wedi cymeradwyo’r gofalwr maeth ai peidio.   Dylai’r awdurdod lleol hefyd ddarparu yn ddi-oed unrhyw wybodaeth sydd ei hangen o bosibl i alluogi gofalwr maeth i wneud penderfyniad ynglŷn â phlentyn.  

 

253.      Hyd ag y bo modd, dylai plant sy’n derbyn gofal gael yr un caniatâd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoedion arferol sy’n addas i’w hoedran (fel cysgu dros nos) ag a fyddai’n cael ei roi yn rhesymol gan rieni eu cyfoedion. Fel mater o arfer cyffredin, dylai’r awdurdod lleol gytuno â’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant i ddirprwyo i ofalwr maeth y plentyn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â gadael i blentyn sy’n derbyn gofal aros dros nos gyda ffrindiau, gan nodi hyn yn y cynllun lleoli. Dylid disgwyl i ofalwyr maeth fynd ati i bwyso a mesur yn yr un ffordd â rhieni wrth benderfynu a oes peryglon yn deillio o aros ar aelwyd benodol neu ymweld â pherthnasau. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar asesiad rhesymol o beryglon. Ym mhob achos, dylid sicrhau ar frys bod gofalwyr maeth yn ymwybodol o unrhyw unigolion, cyfeiriadau neu ardaloedd a all roi plentyn mewn perygl, a dylid cynnwys hyn yn y cynllun lleoli hefyd.

 

254.      Weithiau bydd rhesymau eithriadol am ei gwneud yn ofynnol i ofalwyr maeth ofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol neu’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu i roi cyfyngiadau penodol ar ganiatáu i blentyn aros dros nos gyda ffrindiau. Dylai’r cyfyngiad a’r rhesymau amdano gael eu nodi’n glir yn y cynllun lleoli. Lle bynnag y bo’n ymarferol, dylid trafod y mater â’r plentyn ac ystyried ei farn a’i deimladau cyn gwneud penderfyniad. Dylai’r cyfyngiad a’r rhesymau amdano gael eu hegluro’n llawn i’r plentyn dan sylw, oni bai na fyddai hyn yn gyson â llesiant y plentyn. Dylai unrhyw gyfyngiadau gael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn berthnasol o hyd.

 

255.      Wrth wneud penderfyniad ynglŷn â chaniatáu neu beidio â chaniatáu i blentyn sy’n derbyn gofal aros dros nos gyda ffrind, mynd ar wyliau gyda ffrindiau neu berthnasau ei ofalwyr maeth, neu fynd ar daith ysgol, dylai gofalwyr maeth a’r awdurdod lleol ystyried y ffactorau canlynol:

 

·         a yw cynllun lleoli’r plentyn yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau perthnasol

·         a oes unrhyw orchmynion llys sy’n rhwystro’r plentyn rhag aros dros nos yn rhywle penodol, rhag ymweld â rhywun penodol neu rhag cael gwyliau penodol

·         a oes unrhyw ffactorau o ran profiadau neu ymddygiad blaenorol y plentyn a fyddai’n ei rwystro rhag aros dros nos, ymweld â rhywun neu fynd ar wyliau

·         a oes unrhyw le i gredu y gallai’r plentyn fod mewn perygl sylweddol ar yr aelwyd dan sylw neu oherwydd y gweithgareddau arfaethedig

·         oedran a lefel dealltwriaeth y plentyn

·         yr hyn sy’n hysbys am y rhesymau am aros dros nos, yr ymweliad neu’r gwyliau

·         hyd yr arhosiad.

 

256.      Os yw’r gofalwyr maeth yn ansicr ynglŷn â phenderfyniad priodol, neu os oes lle i gredu y gall plentyn fod mewn perygl penodol os yw’n aros ar aelwyd benodol, dylai’r gofalwyr maeth ofyn i’r awdurdod lleol am gyngor. Dylai’r plentyn a’i ofalwyr fod yn ymwybodol o’r meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau ynglŷn ag aros dros nos, ymweliadau a gwyliau.

 

257.      Dylai gofalwyr maeth sicrhau bod ganddynt fanylion cyswllt yr aelwyd lle bydd y plentyn yn aros. Dylent gysylltu â’r aelwyd ymlaen llaw hefyd, fel y byddai unrhyw riant da yn ei wneud, i helpu i asesu’r cais, cadarnhau’r trefniadau a sicrhau bod gan berchennog y tŷ fanylion cyswllt y gofalwr maeth.

 

258.      Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i gynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) mewn perthynas ag oedolion ar aelwyd breifat lle y gall plentyn aros dros nos, ymweld â hi, neu fynd ar wyliau neu daith ysgol gyda thrigolion yr aelwyd. Ni ddylid gofyn am wiriadau DBS fel arfer fel rhagamod.

 

259.      Os yw plentyn sy’n derbyn gofal yn ymweld â ffrindiau neu berthnasau’r gofalwr maeth, neu os yw’n mynd ar wyliau gyda nhw, nid oes rhaid i’r unigolyn gael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth awdurdod lleol, gan y bydd y plentyn yn parhau i gael ei leoli’n ffurfiol gyda’i ofalwyr maeth arferol.

 

Hysbysu ynghylch lleoliadau

 

260.      Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn â’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer plentyn, mae’n rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig ynglŷn â’r penderfyniad i amrywiaeth o bobl ac asiantaethau penodedig. Mae hyn yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau i wneud unrhyw drefniadau gofynnol, ac i leisio eu barn, fel bod modd ystyried a datrys unrhyw bryderon neu anawsterau mor fuan â phosibl.

261.      Dylai’r cyrff penodedig dderbyn hysbysiad ysgrifenedig cyn i’r lleoliad ddechrau, neu os nad yw hyn yn bosibl, mor fuan ag sy’n rhesymol ymarferol wedi hynny. Ym mhob achos, mae’n rhaid cyflwyno’r hysbysiad o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y lleoliad.

 

Pwy sy’n cael ei hysbysu?

 

262.      Mae’n rhaid i’r bobl ganlynol gael hysbysiad ysgrifenedig o leoliad:

·         y plentyn, gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn

·         y swyddog adolygu annibynnol

ac, oni bai y byddai gwneud hynny’n achosi perygl o niwed i’r plentyn

·         rhieni’r plentyn

·         unrhyw berson sydd â chyswllt â’r plentyn o dan orchymyn gofal neu orchymyn trefniadau plentyn

·         unrhyw berson a oedd yn gofalu am y plentyn yn union cyn i’r trefniadau gael eu gwneud.

 

263.      Mae’n rhaid i’r asiantaethau canlynol dderbyn hysbysiad ysgrifenedig:

·         bwrdd iechyd lleol yr ardal lle mae’r plentyn yn byw, ac (os yn wahanol) yr ardal lle bydd y plentyn yn cael ei leoli (neu, os yw’r plentyn yn cael ei leoli yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r GIG ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol)

·         meddyg teulu cofrestredig y plentyn, a (lle bo hynny’n briodol) y meddyg teulu y bydd y plentyn yn cofrestru gydag ef yn ystod y lleoliad

·         unrhyw sefydliad addysgol y mae’r plentyn yn ei fynychu (gan gynnwys darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ysgol, coleg neu uned cyfeirio disgyblion) neu unrhyw berson sy’n darparu addysg ar gyfer y plentyn.    

 

264.      Yn ogystal, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn, rhieni’r plentyn a gofalwyr y plentyn yn cael eglurhad personol gan y gweithiwr cymdeithasol o’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud yn ymwneud â’r lleoliad a’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun lleoli. Dylai hyn ategu unrhyw esboniadau a roddwyd yn ystod y broses asesu a chynllunio. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu cyfleu i’r plentyn a’r rhieni neu’r gofalwyr mewn ffordd briodol, gan ystyried ffactorau fel oedran, dealltwriaeth, unrhyw anabledd neu ddewis iaith.    

 

265.      Dylai’r awdurdod lleol hefyd ystyried hysbysu unrhyw berson arall sydd â diddordeb digonol yn y plentyn – er enghraifft, person sy’n rhan o fywyd y plentyn ond nad yw wedi’i nodi yn y Rheoliadau CPPCR. Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod benderfynu peidio â darparu gwybodaeth i bob person neu unrhyw un o’r personau a nodir yn y Rheoliadau CPPCR, pe bai hynny’n golygu bod y plentyn yn dioddef niwed neu’n debygol o ddioddef niwed.

 

266.      Mae’n rhaid hysbysu unrhyw berson sydd â gorchymyn cyswllt â’r plentyn. 

 

267.      Wrth hysbysu’r awdurdod addysg lleol a meddyg teulu’r plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno copi o unrhyw adroddiad neu asesiad perthnasol sydd ar gael adeg y lleoliad.

 

268.      Wrth rannu gwybodaeth â thrydydd partïon, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr egwyddorion a nodir yng Nghytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI), a sicrhau bod pob hysbysiad ond yn cynnwys y wybodaeth sydd angen ei datgelu.

 

269.      Dylid cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r cynllun lleoli yn yr adolygiad cyntaf neu adolygiad dilynol, gan hysbysu’r rhai yr ymgynghorwyd â nhw neu a gyfrannodd at yr adolygiadau yn unol â gofynion y Rheoliadau CPPCR.   

 

Cynnwys yr hysbysiad

270.      Dylai’r hysbysiad ysgrifenedig gynnwys crynodeb o’r trefniadau arfaethedig a’r amcanion, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol fel: 

·         manylion y lleoliad a’i hyd tebygol  

·         trefniadau cyswllt

·         pwy sy’n gyfrifol am weithredu’r cynllun lleoli

·         rôl rhiant y plentyn o ddydd i ddydd

·         trefniadau ar gyfer galluogi’r plentyn i ddychwelyd i fyw gyda’i riant

·         y trefniadau y cytunir arnynt ar gyfer terfynu’r lleoliad

·         trefniadau wrth gefn os yw’r lleoliad yn aflwyddiannus.

271.      Mewn amgylchiadau eithriadol, os yw plentyn mewn gofal neu’n destun gorchymyn amddiffyn mewn argyfwng, a bod gan yr awdurdod lleol achos rhesymol i gredu y byddai hysbysu person yn golygu bod y plentyn mewn perygl o gael niwed, gall enw a chyfeiriad y gofalwr gael eu hepgor o’r hysbysiad. Os oes angen gwneud hyn, dylid cofnodi’r amgylchiadau a’r rhesymau yng nghofnod yr achos a hysbysu’r rhiant ar ffurf ysgrifenedig.  

 

272.      Dylai’r llythyr hysbysu gynnwys gwybodaeth, mewn fformatau priodol, am weithdrefnau cwyno’r awdurdod lleol, fel bod y plentyn, y rhiant neu berson arall a hysbyswyd yn gwybod sut i wneud sylwadau am y lleoliad neu’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud.    

 

273.      Dylai awdurdodau lleol gadw rhestr o’r holl hysbysiadau o blant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u lleoli yn yr ardal naill ai ganddyn nhw neu gan awdurdod lleol arall.   

Terfynu lleoliadau

274.      Cyn terfynu lleoliad ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol adolygu achos y plentyn a sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â’r achos wedi mynegi barn, gan gynnwys y plentyn (yn amodol ar oedran a dealltwriaeth y plentyn), rhieni’r plentyn (lle bo hynny’n briodol) a’i ofalwyr, a phobl eraill a hysbyswyd adeg gwneud y lleoliad.

 

275.      Bydd yr adolygiad yn gyfle i ystyried pa gymorth a gwasanaethau, os o gwbl, y gellid eu darparu i osgoi’r angen i derfynu’r lleoliad. Os nad oes modd gwneud hynny, bydd yr adolygiad yn darparu fforwm ar gyfer ystyried pa leoliad newydd fyddai’r mwyaf priodol i’r plentyn, gan ystyried unrhyw bryderon sydd wedi arwain at y penderfyniad i derfynu’r lleoliad presennol.      

 

276.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau eraill ar gyfer llety’r plentyn cyn terfynu’r lleoliad presennol.

 

277.      Os yw’r awdurdod lleol yn credu bod perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i’r plentyn, neu os oes angen diogelu eraill rhag niwed difrifol, mae’n rhaid symud y plentyn o’r lleoliad, ac nid yw’r gofyniad i gynnal adolygiad cyn symud y plentyn yn berthnasol. Mae’n rhaid dod o hyd i lety amgen cyn gynted ag y bo modd a hysbysu swyddog adolygu annibynnol y plentyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol.  

 

278.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, o’r bwriad i derfynu lleoliad i’r holl bobl a hysbyswyd am y lleoliad yn wreiddiol, y person y mae’r plentyn wedi’i leoli gydag e, ac awdurdod lleol yr ardal lle mae’r plentyn wedi’i leoli (os yw wedi’i leoli y tu allan i’r ardal). Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu’r unigolion hyn cyn terfynu’r lleoliad, mae’n rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod i derfynu’r lleoliad.

Plant ar remánd neu blant sy’n cael eu cadw

 

279.      Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r darpariaethau cynllunio lleoliad mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu remandio i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, neu sy’n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.

 

280.      Yr addasiadau yw:

 

(a)  lle mae’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal dim ond oherwydd ei fod wedi’i remandio i lety cadw ieuenctid

281.      Dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’r rheoliadau canlynol yn berthnasol: rheoliadau 10 (cynlluniau lleoli), 11 (osgoi amharu ar addysg), 12 (lleoliadau y tu allan i’r ardal) a 15 (terfynu lleoliad). 

 

282.      Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun lleoli o dan gadwad ar gyfer y cyfnod pan fydd y plentyn ar remánd o fewn 10 diwrnod gwaith i remandio’r plentyn i lety cadw ieuenctid. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli dan gadwad:

 

·         nodi sut bydd y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n  ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi yn diwallu anghenion y plentyn

·         cynnwys enw a chyfeiriad y llety cadw ieuenctid

·         cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR (gweler pennod 1 o’r cod hwn). 

 

(b)  lle mae’r plentyn wedi’i remandio i lety cadw ieuenctid a’i fod yn blentyn sy’n derbyn gofal yn union cyn cael ei remandio neu le mae’r plentyn yn cael ei gadw

283.      Dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’r rheoliadau canlynol yn berthnasol:  rheoliadau 10 (cynlluniau lleoli), 11 (osgoi amharu ar addysg), 12 (lleoliadau y tu allan i’r ardal) a 15 (terfynu lleoliad). 

 

 

284.      Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun lleoli dan gadwad ar gyfer y cyfnod pan fydd y plentyn ar remánd neu o dan gadwad, a fydd yn cael ei gynnwys yng nghynllun gofal y plentyn. Mae’n rhaid i’r cynllun lleoli o dan gadwad gael ei baratoi o fewn 10 diwrnod gwaith i remandio’r plentyn i lety cadw ieuenctid neu ei roi o dan gadwad, ac mae’n rhaid i’r cynllun: 

 

·         nodi sut bydd y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n  ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi yn diwallu anghenion y plentyn

·         cynnwys, fel sy’n briodol, enw a chyfeiriad y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi

·         cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 10 i’r Rheoliadau CPPCR (gweler pennod 1 o’r cod hwn). 

285.      Mae’n rhaid hysbysu Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA) y plentyn am y penderfyniad i remandio’r plentyn neu ei roi o dan gadwad.

 

286.      Wrth baratoi’r cynllun lleoli dan gadwad ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn wedi’u canfod a’u hystyried yn briodol. Yn ogystal, mae’n rhaid i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi gytuno i’r cynllun a’i lofnodi.

 

(c)  Lle mae’r plentyn yn cael ei remandio i lety awdurdod lleol

287.      Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid dilyn y trefniadau arferol ar gyfer cynllunio lleoliadau – h.y. mae’n rhaid paratoi cynllun lleoli a’i gynnwys yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn. Mae’n rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn pum diwrnod gwaith i remandio’r plentyn.

 

 

Seibiant byr

 

288.      Weithiau bydd yn briodol gosod plentyn gyda gofalwr maeth neu mewn lleoliad preswyl ar gyfer cyfnod byr yn unig – er enghraifft, os yw’r plentyn yn anabl a bod angen lleoli’r plentyn oddi cartref dros dro tra bod y rhieni yn cael seibiant o ofalu amdano.

 

289.      Ni fydd pob seibiant byr yn lleoliad o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Bydd seibiannau byr yn cael eu darparu yn aml fel rhan o gynllun gofal a chymorth plentyn anabl o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf (asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn). Bydd hyn yn arbennig o berthnasol os mai diben y seibiant yw galluogi’r plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau diogel a diddorol y tu allan i gartref y teulu. Fodd bynnag, bydd pecynnau seibiannau byr rhai plant yn golygu mai’r ffordd orau o ddiogelu eu llesiant yw eu dynodi’n blant sy’n derbyn gofal ar gyfer y cyfnodau pan fyddant oddi cartref. Er enghraifft, gallant gael becynnau sylweddol o seibiannau byr, mewn mwy nag un lleoliad yn aml; neu fe allant berthyn i deuluoedd sydd â phrinder adnoddau ac sy’n ei chael yn anodd darparu cymorth i’r plentyn pan ei fod oddi cartref, ac wrth fonitro ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir. 

 

290.      Mewn achosion o’r fath, ar ôl ymgynghori â’r rhieni, gall yr awdurdod lleol benderfynu darparu llety seibiant byr ar gyfer y plentyn o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Bydd llety o’r fath yn cael ei ddarparu o dan adran 76(1)(c) o’r Ddeddf wedyn, lle gall awdurdod lleol ddarparu llety ar gyfer plentyn y mae ei riant ‘yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn’.

 

291.      Os yw’r seibiant byr yn cael ei ddarparu o dan y pŵer hwn, mae’n rhaid gosod y plentyn gyda gofalwr maeth priodol, mewn cartref plant cofrestredig, neu mewn trefniadau priodol eraill. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i’r lleoliad gydymffurfio â’r Rheoliadau CPPCR. Mae lleoliadau o dan adran 76 yn lleoliadau gwirfoddol – h.y. maent yn cael eu gwneud gyda chydsyniad rhieni’r plentyn ac mae’r rhieni yn parhau i fod â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn, gan gynnwys cyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer iechyd ac addysg y plentyn (gyda chymorth, os oes angen).

 

292.      Dylai’r penderfyniad ynglŷn ag a ddylid darparu seibiant byr o dan Ran 3 a 4 o’r Ddeddf, neu a ddylai’r seibiant fod yn lleoliad o dan Ran 6, gael ei lywio gan yr asesiad o anghenion y plentyn. Dylai’r penderfyniad hwn ystyried gallu’r rhieni i ofalu am y plentyn, cyd-destun y teulu ehangach, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i rieni, a natur y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu. Y cwestiwn allweddol yw sut i hyrwyddo a diogelu llesiant y plentyn yn fwyaf effeithiol. Mae’r ffactorau sydd angen eu hystyried yn cynnwys:

 

Cynllunio, lleoli ac adolygu gofal mewn perthynas â chyfres o seibiannau byr sydd wedi’u cynllunio

 

293.      Mae’n rhaid i leoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 76(1)(c) o’r Ddeddf gydymffurfio â’r Rheoliadau CPPCR. Fodd bynnag, mae’r Rheoliadau yn cynnwys addasiadau i’r broses gynllunio, lleoli ac adolygu gofal, lle mae’r plentyn yn cael cyfres o seibiannau byr sy’n cael eu cynllunio ymlaen llaw yn yr un lleoliad. 

 

 Mae’r addasiadau, a nodir yn rheoliad 62(3) o’r Rheoliadau CPPCR, yn berthnasol yn yr amgylchiadau canlynol:

 

294.       Nod yr addasiadau yw adlewyrchu cyfraniad parhaus hollbwysig rhieni’r plentyn at leoliadau fel hyn. Byddant yn helpu i leihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, a sicrhau bod y gofynion yn fwy cymesur ag anghenion plant sy’n cael eu lleoli gan awdurdodau lleol mewn amgylchiadau o’r fath. Nid yw’r addasiadau yn berthnasol os yw’r plentyn yn destun gorchymyn gofal, os yw’r plentyn yn cael seibiannau byr mewn mwy nag un lleoliad, neu os yw hyd y seibiannau (neu unrhyw un ohonynt) yn fwy nag unrhyw un o’r amserlenni a nodir yn rheoliad 62(2)(c) o’r Rheoliadau CPPCR.

 

Addasiadau i gynllunio gofal a lleoliadau

 

295.      Os yw plentyn yn cael cyfres o seibiannau byr sy’n cael eu cynllunio ymlaen llaw yn yr un lleoliad, nid yw’r gofynion arferol mewn perthynas â chynllunio gofal a chymorth (gan gynnwys cynlluniau lleoli) yn berthnasol. Yn hytrach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol baratoi cynllun wedi’i addasu sy’n canolbwyntio ar nodi’r materion a fydd yn sicrhau bod modd diwallu anghenion y plentyn yn llawn tra bod y plentyn oddi cartref. Mae’r addasiadau wedi’u nodi yn rheoliad 62(3) o’r Rheoliadau CPPCR. Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i’r cynllun gofal nodi’r trefniadau sydd wedi’u gwneud i ddiwallu anghenion y plentyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar:

 

296.      Hefyd, mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys enw a chyfeiriad meddyg teulu cofrestredig y plentyn, a’r wybodaeth ganlynol i gefnogi’r lleoliad lle bo hynny’n briodol:

 

297.      Nid yw’r gofyniad i drefnu asesiad meddygol ar gyfer y plentyn yn berthnasol os yw cyfres o seibiannau byr wedi’u cynllunio (gweler rheoliad 62(3)(b) o’r Rheoliadau CPPCR). Nid yw’r trefniadau hysbysu arferol ar gyfer lleoliad yn berthnasol chwaith (gweler rheoliad 62(3)(b) o’r Rheoliadau CPPCR).

 

298.      Mae’n rhaid i rieni gyfrannu’n llawn at bob agwedd ar gytuno’r cynllun gofal ar gyfer seibiannau byr, a dylai’r plentyn gymryd rhan yn y broses o gytuno’r cynllun i’r graddau y bo hynny’n ymarferol. Mae’n hanfodol bod cyfathrebu priodol a mathau eraill o gymorth ar waith er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i’r broses asesu, gynllunio ac adolygu, yn enwedig os oes gan y plentyn anabledd.

 

Addasiadau i’r trefniadau i gadw mewn cysylltiad a chynnal adolygiadau

 

299.      Mae’r trefniadau i gynrychiolydd yr awdurdod lleol ymweld â phlentyn hefyd yn cael eu haddasu mewn perthynas â lleoliadau o’r fath (gweler rheoliad 62(3)(c) o’r Rheoliadau CPPCR). Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod cynrychiolydd yr awdurdod lleol yn ymweld â’r plentyn yn ystod cyfnodau ei seibiannau byr, ar adegau rheolaidd a fydd yn cael eu cytuno â’r swyddog adolygu annibynnol (SAA) a rhieni’r plentyn. Mae’n rhaid cofnodi amlder yr ymweliadau hyn yng nghynllun gofal y plentyn cyn dechrau’r seibiant byr cyntaf. Mae’n rhaid sicrhau bod yr ymweliad cyntaf yn mynd rhagddo o fewn saith diwrnod cyntaf i ddechrau’r lleoliad cyntaf, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny, ac mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob chwe mis tra bod y seibiannau byr yn parhau.

 

300.      Mae’r cynlluniau ar gyfer plant sy’n cael seibiant byr yn cael eu hadolygu’n llai aml na chynlluniau ar gyfer plant eraill (yn unol â’r addasiadau a nodir yn rheoliad 62(3)(d) o’r Rheoliadau CPPCR). Mae hyn yn cydnabod bod y plentyn yn cael ei leoli am gyfnodau cymharol fyr ym mhob cyfnod o ofal seibiant byr. Mae’n rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf o fewn tri mis i ddechrau’r lleoliad cyntaf. Mae’nrhaid cynnal adolygiad o leiaf unwaith bob chwe mis wedyn. Gall awdurdodau lleol benderfynu cynnal adolygiadau cynharach mewn amgylchiadau penodol – er enghraifft, ar gais y plentyn, rhiant neu ofalwr, neu mewn achosion lle mae’r plentyn yn arbennig o agored i niwed neu’n cael lefel uchel o seibiannau byr. Ni ddylid gwneud newidiadau i’r cynllun gofal oni bai bod y newid wedi’i ystyried mewn adolygiad ymlaen llaw. 

 

301.      Mae rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA) ar gyfer plant sy’n derbyn gofal sy’n cael seibiant byr yn debygol o fod yn fwy cyfyngedig na’i rôl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn fwy hirdymor. Wrth weithio gyda phlant sy’n cael seibiant byr, mae’n bwysig bod SAA yn sensitif i gyfraniad agos a gweithgar rhieni, a’i fod yn ceisio ennill eu hymddiriedaeth a’u hyder. Gall y SAA wneud cyfraniad llawn at ddatrys unrhyw anawsterau gyda’r lleoliad. Mae ganddo ddyletswydd i hysbysu’r awdurdod lleol os nad yw’r lleoliad yn diwallu anghenion y plentyn.   

 


Pennod 3:  Cadw mewn cysylltiad 

 

Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal a phlant dan gadwad, a rôl ymwelwyr annibynnol

 

 

302.      Mae’r bennod hon yn nodi gofynion awdurdodau lleol mewn perthynas ag ymweliadau, cyswllt a darparu cyngor a chymorth arall ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd, ar ôl cael eu collfarnu o drosedd, yn cael eu cadw mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu blant y mae’n ofynnol iddynt breswylio mewn mangre a gymeradwywyd. Mae hefyd yn nodi rôl ymwelydd annibynnol a’r amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod lleol ddarparu ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal.

 

303.      Mae’r bennod hon yn ymwneud ag adrannau 97 a 98 o’r Ddeddf. Y rheoliadau perthnasol yw Rhan 5 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (‘y Rheoliadau CPPCR’), a Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 (‘y Rheoliadau VTCD’).

 

 

Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal

304.   Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod un o’i gynrychiolwyr yn ymweld â phob plentyn y mae’n gofalu amdano, a threfnu bod cyngor a chymorth priodol ar gael i’r plentyn (adran 97). Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, gweithiwr cymdeithasol dynodedig y plentyn sy’n ymweld â’r plentyn fel arfer.    

 

305.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y cynrychiolydd yn ymweld â’r plentyn lle bynnag y mae’r plentyn yn byw. Bydd hyn yn cynnwys plant sy’n cael eu lleoli mewn llety diogel, neu sy’n cael eu remandio mewn llety cadw ieuenctid.

 

306.      Mae ymweliadau’n rhan o fframwaith ehangach ar gyfer goruchwylio lleoliad y plentyn, sicrhau bod llesiant y plentyn yn parhau i gael ei ddiogelu a’i hyrwyddo, a sicrhau’r canlyniadau a nodir yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn (ac, ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed, yn y cynllun llwybr). Maent yn un elfen o oruchwylio’r lleoliad, a fydd hefyd yn cynnwys cyngor a chymorth ar gyfer y gofalwr maeth neu staff y cartref plant , ac adolygu achos y plentyn.

 

307.      Mae ymweliadau’n ymwneud â mwy na chadarnhau bod plentyn yn ymgartrefu’n dda mewn lleoliad neu fod lleoliad yn datblygu’n foddhaol. Dylid eu hystyried yn gyfle i ymgysylltu’n rhagweithiol â’r plentyn ynglŷn â’i obeithion a’i ddyheadau, a sut bydd y lleoliad yn helpu’r plentyn i gyflawni ei nodau personol.  

 

Canlyniadau

 

308.      Bydd ymweliadau llwyddiannus yn sicrhau’r canlyniadau canlynol:

  

·         mae’r gweithiwr cymdeithasol a’r plentyn yn datblygu perthynas gadarnhaol, fel bod y plentyn yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu ei brofiadau (cadarnhaol a negyddol) o’r lleoliad

·         mae’r plentyn yn derbyn sicrwydd, yn enwedig os yw’n gweld eisiau ei deulu a’i ffrindiau, ac mae unrhyw anawsterau yn cael eu nodi a’u datrys  

·         mae’r plentyn yn gallu siarad yn agored am ei obeithion a’i ddyheadau ar gyfer y lleoliad, ac mae’n gallu mynegi unrhyw bryderon

·         mae’r plentyn yn derbyn cyngor, gwybodaeth a chymorth sy’n ei helpu i oresgyn unrhyw anawsterau o safbwynt ei leoliad, neu sy’n ei helpu i ymgartrefu yn ei gartref neu ysgol newydd

·         mae’r gofalwr yn derbyn cyngor ar ymateb yn briodol i anghenion y plentyn (gan gynnwys unrhyw faterion rheoli ymddygiad)

·         mae unrhyw feysydd lle mae angen cymorth neu wasanaethau ychwanegol yn cael eu nodi  

·         mae’r gweithiwr cymdeithasol yn fodlon bod y plentyn yn ddiogel a’i fod yn derbyn y gofal, y cymorth a’r anogaeth ofynnol  

·         mae’r gweithiwr cymdeithasol yn gallu monitro a gwerthuso i ba raddau y mae’r camau gweithredu a’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 (a, lle bo hynny’n berthnasol, yn y cynllun llwybr) yn cael eu cyflawni, ac mae’n gallu cyfrannu at adolygiadau o’r cynlluniau hyn

·         mae’r gweithiwr cymdeithasol yn gallu monitro trefniadau cyswllt a sut mae’r plentyn yn ymateb iddynt, a nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar y gofalwyr i gefnogi trefniadau cyswllt cadarnhaol

309.      Mae swyddogaethau cynrychiolwyr awdurdodau lleol wedi’u nodi yn y Rheoliadau CPPCR, ac maent yn adlewyrchu’r canlyniadau hyn.

 

Amlder ymweliadau

310.      Mae’n rhaid i amlder a hyd ymweliadau fod yn seiliedig ar amgylchiadau’r achos ac anghenion y plentyn bob amser. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn pennu’r gofynion sylfaenol ar gyfer ymweld â gwahanol fathau o leoliadau (gweler isod), ond mae’n bosibl y bydd angen ymweliadau amlach neu ychwanegol i sicrhau bod y canlyniadau a nodwyd uchod yn cael eu cyflawni.

311.      Mae’n rhaid i awdurdod lleol drefnu ymweliad yn dilyn cais rhesymol gan blentyn, gofalwr y plentyn neu’r person sy’n gyfrifol am drefniadau byw’r plentyn (beth bynnag yw statws y lleoliad). 

312.      Mae’n bosibl y bydd angen ymweliadau ychwanegol ar adegau o newid neu her benodol – er enghraifft, os yw anghenion y plentyn wedi newid, neu os yw’r lleoliad o dan straen penodol. Mae’n bosibl y bydd angen ymweld â phlentyn yn amlach pan fydd yn dechrau derbyn gofal am y tro cyntaf, neu pan fydd ganddo weithiwr cymdeithasol newydd, er mwyn datblygu perthynas gref a sicrhau bod y newid yn cael ei reoli mewn ffordd ragweithiol ac er budd pennaf y plentyn.

313.      Yr hyn sy’n dilyn yw’r gofynion statudol sylfaenol a nodir yn y Rheoliadau CPPCR: 

 

 

314.      Mae’n rhaid ymweld â phlentyn o fewn wythnos iddo ddechrau unrhyw leoliad. Ar ôl hynny, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob chwe wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad. Mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob chwe wythnos yn y blynyddoedd sy’n dilyn hefyd, oni bai bod y lleoliad wedi’i gytuno’n ffurfiol yn lleoliad parhaol y bwriedir iddo bara nes bod y plentyn yn 18 oed. Mae’n rhaid ymweld â phlentyn sydd mewn lleoliad parhaol o leiaf unwaith bob tri mis yn yr ail flwyddyn a’r blynyddoedd sy’n dilyn. 

·         Plentyn sy’n cael ei leoli gyda rhiant

315.      Os yw gorchymyn gofal wedi’i wneud mewn perthynas â phlentyn o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989, ac mae’r plentyn yn cael ei leoli gartref gyda rhiant, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o fewn wythnos i wneud y gorchymyn gofal, ac o leiaf unwaith bob chwe wythnos ar ôl hynny. Mae’n rhaid ymweld â phlentyn sydd wedi’i leoli gartref gyda rhiant cyn cwblhau’r asesiad o leiaf unwaith bob wythnos nes y cynhelir yr adolygiad cyntaf, ac o leiaf unwaith bob chwe wythnos ar ôl hynny, neu nes bod yr asesiad wedi’i gwblhau.

·         Lleoliadau gyda gofalwr maeth sydd wedi’i gymeradwyo dros dro neu blentyn sy’n byw gyda rhiant o dan orchymyn gofal interim  

316.      Os yw plentyn wedi’i leoli gyda gofalwr maeth sydd wedi’i gymeradwyo dros dro (perthynas, ffrind neu berson cysylltiedig arall fel arfer), neu os yw gorchymyn gofal interim wedi’i wneud mewn perthynas â’r plentyn (o dan adran 38 o Ddeddf Plant 1989) ac mae’r plentyn yn parhau i fyw gyda’r rhiant, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith yr wythnos hyd at amser yr adolygiad cyntaf. Ar ôl hynny, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o leiaf unwaith bob pedair wythnos nes bod y gofalwr wedi’i gymeradwyo’n ofalwr maeth awdurdod lleol neu nes bod gwrandawiad terfynol yr achos gofal wedi’i gwblhau. Mae’r amlderau hyn yn adlewyrchu’r posibilrwydd y gall plentyn fod yn fwy agored i niwed os yw wedi’i leoli gyda gofalwr cyn cwblhau asesiad o addasrwydd yr unigolyn hwnnw i ofalu am y plentyn, neu os yw’r plentyn yn parhau i fyw gyda rhiant mewn amgylchiadau lle mae’r awdurdod lleol yn pryderu y gall y plentyn barhau i fod mewn perygl o ddioddef niwed arwyddocaol. Bydd yr ymweliadau hyn yn gyfle i’r gweithiwr cymdeithasol asesu sut mae’r berthynas rhwng y plentyn a’r rhiant neu’r gofalwr yn datblygu, a nodi o’r dechrau unrhyw bryderon posibl ynglŷn â llesiant plentyn.

·         Plentyn mewn gofal lle nad yw’r awdurdod lleol yn darparu’r llety

317.      Os yw’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, ond bod person neu asiantaeth arall yn gyfrifol am drefniadau byw’r plentyn ar hyn o bryd (fel plentyn sydd wedi’i ddedfrydu ac sy’n cael ei letya mewn cartref diogel i blant neu adain carchar ar gyfer pobl ifanc), mae’n rhaid ymweld â’r plentyn o fewn wythnos i ddechrau’r trefniadau byw ac o fewn wythnos i unrhyw newidiadau i’r trefniadau byw. Ar ôl hynny, mae’n rhaid ymweld â’r plentyn bob chwe wythnos yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac o leiaf unwaith bob tri mis y flwyddyn ganlynol.

·         Gofynion ychwanegol ar gyfer ymweliadau

 

318.      Yn ogystal, mae’n rhaid ymweld â phlentyn o fewn wythnos i dderbyn hysbysiad o dan adran 30A o Ddeddf Safonau Gofal 2000 os yw’r hysbysiad yn cyfeirio at y cartref plant lle mae’r plentyn wedi’i leoli ar hyn o bryd. Hysbysiadau i awdurdodau lleol ynglŷn â gweithgaredd gorfodi yw’r rhain, ac maent yn ymwneud â phryderon ynglŷn â sut mae cartref plant yn cael ei reoli.   

319.      Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol ymweld â’r lleoliad hefyd os oes unrhyw gynnig i symud y plentyn o’r lleoliad oherwydd pryderon am lesiant y plentyn.  

Cynnal ymweliadau

 

320.      Mae’n rhaid i’r cynrychiolydd weld a siarad â’r plentyn ar ei ben ei hun, ac eithrio:

·         os yw’r plentyn yn gwrthod, a’i fod o oedran a dealltwriaeth ddigonol i wrthod

·         os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn credu ei bod yn amhriodol gwneud hynny ar sail oedran a dealltwriaeth y plentyn

·         os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn methu gwneud, er enghraifft os nad yw’r plentyn yn bresennol. 

 

321.      Os oes gan blentyn anawsterau cyfathrebu penodol neu fod angen cymorth arbenigol arno i fynegi ei farn a’i deimladau (gan gynnwys a yw am ofyn am ymweliad neu wrthod ymweliad), mae’n rhaid nodi hyn yn ei gynllun gofal a chymorth.   

 

322.      Mae ymweliadau yn ystod wythnosau cyntaf lleoliad yn arbennig o bwysig er mwyn sicrhau bod y trefniadau ar gyfer addysg y plentyn a’i gyswllt â theulu a ffrindiau yn mynd rhagddynt yn hwylus, ac er mwyn darparu unrhyw gymorth sydd ei angen yn ystod y cyfnod ymgartrefu.

 

323.      Mae diogelu yn rhan bwysig o’r ymweliad. Dylai’r gweithiwr cymdeithasol arsylwi ar safon y gofal, a gweld ystafell wely’r plentyn o dro i dro. Er mwyn cael darlun cytbwys o ansawdd bywyd y cartref lle mae’r plentyn yn byw, dylid ymweld â’r cartref yn ddirybudd weithiau. Dylai rhai ymweliadau ddigwydd pan fydd holl aelodau’r aelwyd yn bresennol, fel bod modd i’r gweithiwr cymdeithasol gael blas ar sefyllfa’r teulu a pherthynas y plentyn ag aelodau eraill yr aelwyd. Weithiau bydd yn fwy priodol i’r gweithiwr cymdeithasol drefnu gweithgaredd ar y cyd gyda’r plentyn y tu allan i’r cartref, os credir y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i’r plentyn siarad yn rhwyddach am unrhyw bryderon.   

 

Adrodd ar ymweliadau

 

324.      Mae’n rhaid cofnodi cynnwys a chanlyniad pob ymweliad â phlentyn sy’n derbyn gofal yn y cofnod achos unigol mewn ffordd sy’n golygu bod modd asesu cynnydd y plentyn yn y lleoliad yn gyson, hyd yn oed os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn newid. Dylai’r cofnod nodi’r prif faterion a godwyd yn ystod yr ymweliad, unrhyw bryderon a sut i’w datrys, a chasgliad cyffredinol. Dylid rhannu gwybodaeth sy’n deillio o’r ymweliad mewn ffordd briodol â rhieni a gofalwyr y plentyn, ac eraill sydd ei hangen. Mae’n rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol drafod â’r plentyn, yn amodol ar ei oedran a’i ddealltwriaeth, pa wybodaeth y dylid ei rhannu â phwy, a pham.  

Os oes pryderon

325.      Yn dilyn ymweliad, os oes gan y gweithiwr cymdeithasol bryderon ynglŷn ag a yw’r lleoliad yn hyrwyddo llesiant y plentyn yn ddigonol, mae’n rhaid hysbysu’r swyddog adolygu annibynnol. Os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn dod i’r casgliad nad yw’r lleoliad yn hyrwyddo llesiant y plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol adolygu achos y plentyn. Bydd hyn yn cynnwys adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, nodi camau y mae’n rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau bod y lleoliad yn gallu diwallu anghenion y plentyn yn briodol, neu os nad oes modd gwneud hynny, ystyried dewisiadau eraill.  

 

Cyngor, cymorth a chynhorthwy ar gyfer y plentyn

326.       Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd hefyd i drefnu bod cyngor priodol a chymorth arall ar gael i’r plentyn (adran 97(3)(b) o’r Ddeddf), ac i sicrhau bod y plentyn yn gwybod sut i ofyn am hyn. Yn ystod ei ymweliadau, bydd cynrychiolydd yr awdurdod lleol hefyd yn gallu asesu a yw’r plentyn angen neu eisiau unrhyw gyngor, cymorth neu gynhorthwy ychwanegol. Wrth drefnu i ddarparu cyngor a chymorth, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y ddarpariaeth yn gweddu i oedran a dealltwriaeth y plentyn. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod roi ystyriaeth briodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, rhywioldeb ac unrhyw anabledd sydd gan y plentyn.

 

Ymweliadau â phlant nad ydynt yn derbyn gofal ond sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu addysg neu sydd mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol

327.      Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd hefyd i ymweld â phlant nad ydynt yn derbyn gofal gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban (neu gan Fwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) ac sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu addysg, neu sydd mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol, yng Nghymru. Bydd hyn yn dilyn hysbysiad gan yr awdurdod lletya neu’r person sy’n gyfrifol am y cartref gofal neu’r ysbyty, yn unol ag adran 120 neu 121 o’r Ddeddf. Bydd amlder a natur yr ymweliadau yn debyg i’r rhai a nodir uchod. Mae rhagor o wybodaeth am y plant hyn ar gael ym Mhennod 8 o’r cod hwn.

 

Ymwelwyr annibynnol

 

328.       Mae gan awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ddyletswydd i benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd y plentyn os yw’r awdurdod yn credu bod hynny er budd pennaf y plentyn. Adran 98(1) o’r Ddeddf.     

 

329.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol ystyried a fyddai’n briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano o dan yr amgylchiadau canlynol:

 

330.      Dylid ystyried a oes angen ymwelydd annibynnol ar y plentyn fel rhan o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn, neu pan gaiff achos plentyn ei adolygu.    

 

331.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r ffactorau canlynol y dylai’r awdurdod eu hystyried wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â phenodi ymwelydd: 

 

332.      Rôl ymwelydd annibynnol yw ymweld â phlentyn, ymgyfeillio ag ef, a’i gynghori. Adran 98(2) o’r Ddeddf.   

 

333.      Os yw awdurdod lleol yn penderfynu ei bod yn briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn, mae’n rhaid iddo egluro rôl ymwelydd annibynnol i’r plentyn, mewn ffordd sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y plentyn. Dylai’r awdurdod lleol ganfod dymuniadau a theimladau’r plentyn hefyd. Ni ddylai’r awdurdod lleol benodi ymwelydd annibynnol os yw’r plentyn yn gwrthwynebu hynny ac os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad gwybodus.     

 

334.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn gosod rhai cyfyngiadau ar bwy y gellir penodi’n ymwelydd annibynnol, er mwyn sicrhau bod ymwelydd yn annibynnol ar yr awdurdod lleol. Ni ellir penodi’r unigolion canlynol:

 

335.      Dylai awdurdodau lleol ystyried ym mhob adolygiad a oes angen ymwelydd annibynnol ar y plentyn o hyd, ac a yw’n briodol parhau i benodi’r ymwelydd penodol. Bydd angen i’r awdurdod lleol ystyried y ffordd fwyaf priodol o ganfod dymuniad y plentyn ynglŷn â pharhad y berthynas. Mae’n rhaid i’r awdurdod derfynu’r berthynas os yw’r plentyn yn ei gwrthwynebu ac os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Os yw hyn yn digwydd, bydd angen i’r awdurdod lleol drafod â’r plentyn a fyddai’n briodol penodi ymwelydd annibynnol arall.

 

336.      Mae penodiad fel ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn penodol yn dod i ben os daw gofal yr awdurdod lleol dros y plentyn i ben. Hefyd, gall y penodiad gael ei derfynu ar ffurf ysgrifenedig gan yr ymwelydd neu’r awdurdod lleol. Os yw ymwelydd annibynnol yn gweithredu mewn perthynas â nifer o blant, nid yw terfynu penodiad mewn perthynas ag un plentyn yn terfynu’r penodiad mewn perthynas â’r lleill yn awtomatig. Dylid ystyried pob achos ar wahân.

 

337.      Mae gan yr ymwelydd annibynnol hawl i adennill unrhyw dreuliau rhesymol gan yr awdurdod lleol. Dylai’r cyfryw dreuliau gynnwys taliadau teithio neu fân dreuliau, ond nid yw’n cynnwys taliad neu gyflog rheolaidd am ymgymryd â’r rôl.

 

Ymweliadau â phlant sydd dan gadwad

 

338.      Yn ogystal â phlant sy’n derbyn gofal, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymweld â, a sicrhau bod cyngor a chymorth priodol ar gael ar gyfer, plant a fu’n derbyn gofal ond nad ydynt bellach yn derbyn gofal o ganlyniad i amgylchiadau a nodir yn y Rheoliadau, a phlant eraill sy’n perthyn i gategori a nodir yn y Rheoliadau. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i nodi yn Adran 97(1)(b) a (c) o’r Ddeddf. 

 

339.      Mae Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 yn nodi’r amgylchiadau sydd wedi arwain at blentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, a’r categori o blant y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymweld â nhw a chadw mewn cysylltiad â nhw.

 

340.      Bydd plentyn sy’n cael ei gollfarnu o drosedd gan lys, ac sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu blentyn y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yn colli ei statws fel plentyn sy’n ‘derbyn gofal’ o dan yr amgylchiadau canlynol:

 

341.      Os yw plentyn yn colli statws plentyn sy’n derbyn gofal, ni fydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol ymweld a chadw mewn cysylltiad â’r plentyn o dan Ran 5 o’r Rheoliadau CPPCR. Nod y darpariaethau a nodir yn y Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad yw sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd o hyd i ymweld â phlant o’r fath. Ochr yn ochr â Rheoliadau Plant dan Gadwad sy’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010, mae’r rheoliadau hefyd yn egluro pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ymweld â’r plant a fu’n derbyn gofal. 

 

342.      Bydd plant sydd yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru yn rhinwedd gorchymyn gofal o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989 yn cadw eu statws fel plant sy’n derbyn gofal nes bod y llys yn gollwng y gorchymyn gofal, waeth a ydynt wedi’u collfarnu neu eu bod dan gadwad. Bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd o hyd i ymweld a chysylltu â’r plant hyn a threfnu cyngor priodol a chymorth arall ar eu cyfer, o dan y Rheoliadau CPPCR – gweler yr adran ar ‘Ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal’ uchod.

 

343.      Ni fydd rhai plant wedi bod â statws fel plant sy’n derbyn gofal cyn cael eu collfarnu a’u cadw – er enghraifft, plant a oedd yn byw gartref ar fechnïaeth gyda’u rhieni neu gyda gofalwyr sy’n aelodau o’r teulu neu’n ffrindiau. Mae’r Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymweld â’r plant hyn, yn ogystal â phlant a fu’n derbyn gofal (ond a gollodd eu statws fel plant sy’n derbyn gofal ar ôl cael eu collfarnu o drosedd). 

 

344.      Mae’r Rheoliadau VTCD yn berthnasol i blant sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, waeth a ydynt yn cael eu cadw mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar, neu i blant y mae’n ofynnol iddynt breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, yng Nghymru neu yn Lloegr. Maent hefyd yn berthnasol i rai plant sy’n preswylio yn Lloegr fel arfer sy’n cael eu cadw mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar yng Nghymru; nid ydynt yn berthnasol i blant sydd yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr, neu i blant a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn union cyn iddynt gael eu cadw, neu i unrhyw blentyn sy’n ‘blentyn perthnasol’ o dan Ddeddf Plant 1989.

 

Yr awdurdod lleol cyfrifol

 

345.      Mae’r Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad yn nodi pa awdurdod lleol a ddylai ymweld â phlentyn dan gadwad a threfnu cyngor a chymorth ar ei gyfer. 

 

(a)  Os oedd plentyn yn derbyn gofal yn union cyn iddo gael ei gadw, yr awdurdod lleol cyfrifol yw’r awdurdod lleol a oedd yn gofalu am y plentyn. 

(b)  Os nad oedd plentyn yn derbyn gofal yn union cyn iddo gael ei gadw, ond ei fod yn preswylio yng Nghymru fel arfer, yr awdurdod cyfrifol yw’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer. Mae canllawiau ar sefydlu preswylfa arferol wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf, pennod 2.

346.      Yn y ddau achos, mae dyletswydd yr awdurdod cyfrifol yn berthnasol waeth ble y lleolir y llety cadw ieuenctid, y carchar neu’r fangre a gymeradwywyd. Mae hyn yn cynnwys llety yn yr ystâd ddiogeled yn Lloegr.

 

347.      O safbwynt plentyn ym mharagraff (b), mae dyletswydd hefyd (o dan Ddeddf Plant 1989) ar yr awdurdod lleol yn Lloegr lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu le mae’n ofynnol iddo breswylio, ar y sail y gellid ystyried y plentyn yn blentyn mewn angen sy’n bresennol yn gorfforol yn ardal yr awdurdod hwnnw.

 

348.      Mae’n bosibl y bydd cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yng Nghymru lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer a’r awdurdod lleol yn Lloegr lle mae’r plentyn yn bresennol yn gorfforol yn gorgyffwrdd, a bydd rhaid i awdurdodau lleol gydweithio i reoli sefyllfaoedd o’r fath er mwyn osgoi dyblygu neu’r posibilrwydd y bydd y plentyn yn diflannu o’r golwg.

 

(c)  Os yw plentyn nad yw’n preswylio fel arfer yng Nghymru ond sydd wedi’i gadw (ar ôl ei gollfarnu o drosedd) mewn llety cadw ieuenctid neu garchar yng Nghymru, neu os yw’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, yr awdurdod cyfrifol yw’r awdurdod lleol ble y lleolir y llety cadw ieuenctid, y carchar neu’r fangre a gymeradwywyd. Nid yw hyn yn berthnasol i blant sydd yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr, neu a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn union cyn cael eu collfarnu a’u cadw (gan gynnwys y rhai sydd ar remánd). Mae nifer y plant o Loegr sy’n cael eu cadw yng Nghymru y bydd angen i awdurdod lleol yng Nghymru ymweld â nhw yn debygol o fod yn fach. 

349.      Mae’r tabl ar ddiwedd y bennod yn crynhoi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddisgrifiadau gwahanol o blant sydd dan gadwad.    

 

Amlder ymweliadau

 

350.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod cynrychiolydd awdurdod lleol yn ymweld â’r plentyn:

 

351.      Dylai’r cyfnod 10 diwrnod gwaith ar gyfer yr ymweliad cyntaf sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o amser i drefnu ymweliad os yw plentyn yn cael ei gadw yn bell o’i awdurdod lleol cartref, os oes unrhyw oedi i’r awdurdod lleol yn cael gwybod am union leoliad y plentyn, a’r angen i wneud y trefniadau gweinyddol gofynnol i gael mynediad i’r lleoliad diogel.

 

352.      Gall yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu ymweliadau ychwanegol, gan ystyried argymhellion cynrychiolydd yr awdurdod lleol ynglŷn ag amseriad ac amlder ymweliadau pellach. 

 

Cynnal ymweliadau

 

353.      Yn ystod pob ymweliad, mae’n rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol siarad yn breifat â’r plentyn oni bai bod y plentyn, ac yntau o oedran a dealltwriaeth ddigonol, yn gwrthod; bod y cynrychiolydd yn credu ei bod yn amhriodol gwneud hynny ar sail oedran a dealltwriaeth y plentyn; neu nad oes modd gwneud hynny.   

 

Adrodd ar ymweliadau

 

354.      Mae’n rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol ysgrifennu adroddiad ar ôl pob ymweliad. Mae’n rhaid i’r adroddiad gynnwys:

 

355.      Wrth gwblhau ei asesiad, mae’n rhaid i’r cynrychiolydd ystyried safbwyntiau unrhyw riant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, ac aelodau staff priodol y sefydliad neu’r fangre lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu’n preswylio (oni bai nad yw hyn yn ymarferol rhesymol neu ei bod yn anghyson â llesiant y plentyn). 

 

356.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r adroddiad i’r canlynol:

 

·         y plentyn (oni bai y byddai’n amhriodol gwneud hynny)

·         rhiant ac aelodau staff priodol yn y sefydliad neu’r fangre ac y cafodd eu safbwyntiau eu hystyried (oni bai y byddai’n amhriodol gwneud hynny)

·         llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig y sefydliad neu’r fangre lle mae’r plentyn yn cael ei gadw neu’n preswylio

·         rheolwr achos y tîm troseddwyr ifanc perthnasol

·         awdurdod lleol yr ardal lle mae’r plentyn yn cael ei gadw, os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol

·         unrhyw berson arall a ddylai gael copi o’r adroddiad ym marn yr awdurdod lleol cyfrifol, gan ystyried asesiad y cynrychiolydd.

Cyngor a chymorth arall

 

357.      Wrth wneud trefniadau i sicrhau bod cyngor priodol a chymorth arall ar gael i blentyn o dan y darpariaethau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau yn briodol ar sail oedran a dealltwriaeth y plentyn, a bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, ac unrhyw anabledd y plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod sicrhau hefyd bod y plentyn yn gwybod sut i ddod o hyd i gyngor a chymorth priodol gan yr awdurdod.

 

 

Crynodeb

358.      Mae’r tabl canlynol yn crynhoi pwy sy’n gyfrifol am ymweld â phlant sydd dan gadwad, a’u cefnogi. Mae hefyd yn nodi’r rheoliadau perthnasol. Mae’n berthnasol i blant o Gymru a Lloegr sy’n cael eu cadw yng Nghymru, a phlant o Gymru sy’n cael eu cadw yn Lloegr.  

 

359.      At ddibenion y tabl, ystyr ‘dan gadwad’ yw plentyn sydd wedi’i gollfarnu gan lys a’i ddedfrydu i gael ei gadw mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu blentyn y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

 

  Disgrifiad o’r plentyn

Awdurdod cyfrifol a deddfwriaeth berthnasol    

Plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru, ac sydd dan gadwad yng Nghymru.

Yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru, ac sydd dan gadwad yn Lloegr.

Yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr, ac sydd dan gadwad yng Nghymru.  

Yr awdurdod lleol yn Lloegr sy’n gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Plentyn a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 76 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn union cyn cael ei gollfarnu a’i gadw, ac sydd dan gadwad yng Nghymru.

Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Plentyn a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 76 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn union cyn cael ei gollfarnu a’i gadw, ac sydd dan gadwad yn Lloegr.

Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Plentyn a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989, yn union cyn cael ei gollfarnu a’i gadw, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. 

Yr awdurdod lleol yn Lloegr a oedd yn gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Plant dan Gadwad sy’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010

Plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a gafodd ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. 

Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Plentyn sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac a gafodd ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ac sydd dan gadwad yn Lloegr. 

Yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015

Plentyn sy’n preswylio fel arfer yn Lloegr ac a gafodd ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal yn unol ag adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, ac sydd dan gadwad yng Nghymru. 

Yr awdurdod lleol yn Lloegr a oedd yn gofalu am y plentyn.

Rheoliadau Plant dan Gadwad sy’n Derbyn Gofal (Lloegr) 2010

Person ifanc ‘categori 2’ – h.y. person ifanc 16 neu 17 oed sy’n gadael gofal (gweler tudalen 81 am ddiffiniad llawn), sydd dan gadwad yng Nghymru neu yn Lloegr. 

Yr awdurdod lleol yng Nghymru a fu’n gofalu am y person ifanc olaf.

Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015

‘Plentyn perthnasol’ at ddibenion adran 23A o Ddeddf Plant 1989 [yn berthnasol i Loegr yn unig], sydd dan gadwad yng Nghymru. 

Yr awdurdod lleol yn Lloegr a fu’n gofalu am y person ifanc olaf.

Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Lloegr) 2010

Plentyn nad yw’n preswylio yng Nghymru fel arfer, nad yw’n perthyn i unrhyw un o’r disgrifiadau uchod, ond sydd dan gadwad yng Nghymru.

Yr awdurdod lleol yng Nghymru ble y lleolir y llety cadw ieuenctid, y carchar neu’r fangre a gymeradwywyd. 

 

 

Plant sydd ar remánd neu dan gadwad

 

360.      Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r gofynion i gadw mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu remandio mewn llety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, ac sy’n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.

 

361.      Yn gyffredinol, mae’r ddyletswydd i gadw mewn cysylltiad ac ymweld â phlentyn sy’n derbyn gofal yr un mor berthnasol i blant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu remandio mewn llety cadw ieuenctid a phlant sy’n cael eu cadw ar ôl cael eu collfarnu o drosedd. Yn ogystal â’r gofynion hyn, mae’n rhaid i gynrychiolydd yr awdurdod lleol ymweld â’r plentyn yn dilyn cais rhesymol gan y cyfarwyddwr, y llywodraethwr neu reolwr cofrestredig y carchar, y llety cadw ieuenctid neu’r fangre y mae’n ofynnol i’r plentyn breswylio ynddi.


Pennod 4:  Adolygu achosion

 

Rôl a swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol

 

 

362.      Mae’r bennod hon yn ymdrin â gweithdrefnau ar gyfer adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 plentyn, gan ganolbwyntio ar rôl a swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA). Mae’n rhoi sylw i’r canlynol: 

 

 

363.      Mae adran 100 o’r Ddeddf yn nodi swyddogaethau SAA mewn perthynas â chynllunio gofal a chymorth a sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Mae SAA yn gyfrifol am fonitro perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â chynllun gofal a chymorth Rhan 6 plentyn, yn ogystal â dyletswyddau penodol mewn perthynas ag adolygiadau. 

 

364.         Dyma swyddogaethau’r SAA:

 

365.        Mae’r Ddeddf yn cyflwyno newidiadau a fydd yn galluogi’r SAA i oruchwylio achos y plentyn mewn ffordd fwy effeithiol ac annibynnol, fel bod cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn yn ymateb yn effeithiol i anghenion asesedig y plentyn ac yn parchu integriti ac urddas y plentyn.

 

366.        Mae adran 99 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benodi SAA. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPPCR”)  yn nodi o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r SAA.

 

367.        Dylai’r SAA ddod ag elfen o wrthrychedd ac arolygiaeth i arferion a phenderfyniadau wrth fonitro’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 a gwella cyfleoedd bywyd pob plentyn. Mae gan y SAA rôl bwysig yn sicrhau bod awdurdod lleol yn gweithredu’n gyson wrth ofalu am blant y mae ganddo gyfrifoldeb corfforaethol amdanynt.

 

368.        Dylai’r SAA geisio sicrhau nad oes unrhyw ‘oedi’ yn y broses o gynllunio gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a sicrhau bod ymdrechion yr awdurdod lleol wrth adolygu achosion plant yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pob plentyn. Dylai’r SAA sicrhau bod y cynlluniau gofal a chymorth Rhan 6 yn amserol, yn effeithiol ac yn sensitif i anghenion unigol y plant sy’n derbyn gofal. Dylai natur annibynnol y SAA hefyd hwyluso’r cyfle ar gyfer monitro gweithgareddau’r awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol, asesu ansawdd y gwasanaethau a herio gweithgareddau lle bo angen.

 

369.        Mae cyfrifoldebau’r SAA yn cynnwys:

 

 

Y Broses Adolygu

 

370.                Mae adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn elfen allweddol o’r broses gynllunio gofal. Diben y cyfarfod adolygu yw ystyried y cynllun ar gyfer llesiant y plentyn, monitro cynnydd a gwneud penderfyniadau i ddiwygio’r cynllun neu gadarnhau penderfyniadau blaenorol fel sy’n ofynnol yn sgil newidiadau i wybodaeth ac amgylchiadau. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng adolygu fel proses fonitro ac ailasesu barhaus, ac adolygiad ffurfiol o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6, sef y digwyddiad pan gaiff cynllun plentyn ei ystyried, ei gadarnhau neu ei newid, a lle mae penderfyniadau o’r fath yn cael eu cytuno a’u cofnodi ar ôl ymgynghori â phawb sydd â diddordeb allweddol ym mywyd y plentyn, gan gynnwys y plentyn.

 

371.   Bydd y broses adolygu yn ystyried y materion allweddol canlynol:

 

·         cyfranogiad y plentyn, gan gynnwys egluro’r rheswm am unrhyw newidiadau yn glir i’r plentyn

·         cyfranogiad priodol asiantaethau eraill

·         gwaith goruchwylio ac arolygu gan reolwyr cyfrifol

·         i ba raddau y mae cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r canlyniadau a nodwyd.

 

Amseru Adolygiadau

 

372. Mae’n rhaid i awdurdod lleol gynnal adolygiad cyntaf o achos plentyn o fewn 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad pan fydd plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal (Rheoliad 39 o’r Rheoliadau CPPCR).

 

373. Mae’n rhaid cynnal yr ail adolygiad o fewn tri mis i’r adolygiad cyntaf. Mae’n rhaid cynnal adolygiad o leiaf unwaith bob chwe mis wedyn.

 

374. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi’r safon ofynnol ar gyfer amlder adolygu achos plentyn. Os oes angen newidiadau sylweddol i’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6, dylid dod â dyddiad yr adolygiad nesaf ymlaen. Er enghraifft, byddai datblygiad annisgwyl fel lleoliad yn methu yn ddirybudd yn ei gwneud yn anodd cyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni. Dylai dyddiad yr adolygiad nesaf gael ei symud ymlaen i ystyried y newid i’r amgylchiadau a sut mae hyn yn effeithio ar yr amcanion blaenorol y cytunwyd arnynt. Dylid cynnal adolygiad o achos y plentyn mor aml â’r hyn sydd ei angen yn unol ag amgylchiadau’r achos unigol.   

 

375. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod cofnod ysgrifenedig o’r adolygiad yn cael ei baratoi (Rheoliad 44 o’r Rheoliadau CPPCR). Dylai cofnod yr adolygiad gynnwys cofnod cywir a chynhwysfawr o’r cyfarfod, gan gynnwys y penderfyniadau a wnaed ynglŷn â’r cynllun gofal a safbwyntiau pawb a fynychodd yr ymgynghorwyd â nhw yn ystod y cyfarfod.

 

Cadeirio’r Cyfarfod Adolygu

376.   Dylai SAA gadeirio cyfarfodydd adolygu pob plentyn sy’n derbyn gofal.  Mae cadeirio’r cyfarfod yn galluogi’r SAA i fonitro priodoldeb y cynllun gofal, goruchwylio’r gwaith o’i weithredu a nodi a yw’r cerrig milltir a nodir yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn cael eu cyflawni yn unol â’r amserlen. Dylai’r SAA sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r cyfarfod yn cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at y drafodaeth. Bydd hyn yn hwyluso trafodaethau ar sail gwybodaeth ynglŷn â’r camau gweithredu tymor byr a hirdymor sydd eu hangen i fwrw ymlaen â chynllun gofal a chymorth y plentyn.  

 

377.   Mae angen i’r SAA siarad yn breifat â’r plentyn cyn yr adolygiad, oni bai bod y plentyn yn gwrthod gwneud hynny neu fod y SAA yn credu ei bod yn amhriodol gwneud hynny oherwydd oedran neu ddealltwriaeth y plentyn (Rheoliad 42 o’r Rheoliadau CPPCR). Mae’n bwysig bod y SAA yn gweithio gyda’r plentyn i ganfod ei safbwyntiau, nodi unrhyw broblemau a nodi sut y byddai’r plentyn yn hoffi gwneud y cyfraniad mwyaf ystyrlon at yr adolygiad. Dylai’r SAA hefyd sicrhau bod safbwyntiau rhieni, neu’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant, yn cael eu hystyried hefyd, lle bo hynny’n ymarferol.

 

378.   Fel cadeirydd annibynnol y cyfarfod, bydd y SAA mewn sefyllfa dda i nodi unrhyw bryderon ynglŷn â sut mae gofal y plentyn yn cael ei reoli ac a yw lleoliad neu amgylchiadau presennol y plentyn yn diwallu ei anghenion ac yn cyflawni’r amcanion hirdymor y cytunwyd arnynt drwy’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Os yw’r SAA o’r farn nad yw’r awdurdod lleol yn gweithredu’r camau priodol neu’r penderfyniadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod adolygu, dylid hysbysu uwch aelod o’r awdurdod lleol am y pryderon hyn.

 

Ymdrin â Newid Sylweddol

 

379.          Mae swyddogaethau’r SAA yn cynnwys cyfrifoldeb i ymgynghori â’r plentyn sy’n derbyn gofal ynglŷn â’i gynllun gofal a chymorth Rhan 6 ym mhob adolygiad, ac ar unrhyw adeg pan fydd newid arwyddocaol i’r cynllun gofal a chymorth. Dim ond yn ystod adolygiad y plentyn sy’n derbyn gofal y gellir gwneud neu gynnig newidiadau sylweddol i gynlluniau gofal a chymorth, ac mae gan y SAA awdurdod i benderfynu pryd y dylid cynnal adolygiad oherwydd newid mewn amgylchiadau. Fodd bynnag, dylid cynnal adolygiadau yn rheolaidd yn unol â’r Rheoliadau CPPCR. Hefyd, mae’n rhaid i’r SAA weithredu os yw’r awdurdod lleol yn methu cydymffurfio â’r Rheoliadau CPPCR neu’n methu cyflawni unrhyw un o’i ddyletswyddau yn ymwneud â’r plentyn mewn unrhyw ffordd berthnasol, gan gynnwys atgyfeirio plentyn i Wasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru (CAFCASS Cymru) (yn unol ag adran 100(3) o’r Ddeddf).

380.      Mae’n rhaid i staff yr awdurdod lleol hysbysu’r SAA am unrhyw newidiadau sylweddol i gynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn neu unrhyw fethiant sylweddol i roi penderfyniadau ar waith sy’n deillio o adolygiad (Rheoliad 43 o’r Rheoliadau CPPCR). Byddai newid sylweddol yn cynnwys newidiadau i gynllun sefydlogrwydd plentyn, fel lleoliad yn methu neu symudiad nas cynlluniwyd. Os yw trefniadau sydd wedi’u hen sefydlu ar gyfer plentyn yn methu yn sydyn, dylai’r SAA drefnu adolygiad newydd gyda phob parti perthnasol er mwyn ystyried cynllun tymor byr newydd a’r dewisiadau sydd i’w hystyried ar gyfer amcanion mwy hirdymor.

 

Monitro’r Awdurdod Lleol

 

381.         Mae SAA mewn sefyllfa dda i asesu ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau a chymorth awdurdodau lleol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ac mae ganddynt gyfraniad allweddol i’w wneud at sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel ‘rhiant corfforaethol’ ar gyfer pob person ifanc sy’n derbyn gofal.

 

382.        Prif dasg y SAA yw sicrhau bod cynllun gofal a chymorth Rhan 6 y plentyn yn adlewyrchu ei anghenion, a bod y camau a’r canlyniadau a nodir yn y cynllun yn gyson â chyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod lleol ar gyfer y plentyn. Fel rhieni corfforaethol, mae’n rhaid i bob awdurdod lleol weithredu ar gyfer y plentyn y mae’n gofalu amdano fel y byddai unrhyw riant cyfrifol a chydwybodol yn ei wneud.

 

 

383.        Mae gan y SAA ddyletswydd hefyd i fonitro perfformiad swyddogaeth yr awdurdod lleol fel rhiant corfforaethol ac i nodi unrhyw arferion gwael. Dylai hyn gynnwys nodi patrymau pryder sy’n dod i’r amlwg, nid yn unig mewn perthynas â phlentyn unigol, ond yn fwy cyffredinol o safbwynt profiad cyfunol plant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Ar ôl nodi pryderon mwy cyffredinol ynglŷn â darparu gwasanaethau, dylai’r SAA hysbysu uwch swyddogion amdanynt ar unwaith.

Annibyniaeth y SAA

384.      Mae annibyniaeth y SAA yn hanfodol i’w alluogi i herio ymarfer gwael yn effeithiol. Nid yw’r Rheoliadau CPPCR yn pennu swyddogaeth SAA yn yr awdurdod cyfrifol, ond maent yn pennu’r lefelau annibyniaeth gofynnol.

 

385.      Mae rhai categorïau penodol o bersonau na all yr awdurdod lleol eu penodi i fod yn SAA (Rheoliad 54(3) o’r Rheoliadau CPPCR), sef:

 

Achosion Cyfreithiol

 

386.      Mae gan y SAA ddyletswydd i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal wedi’u hysbysu am eu hawl i wneud cais, gyda chaniatâd, am orchymyn adran 8 (o dan Ddeddf Plant 1989); os yw’r plentyn mewn gofal, i wneud cais am ryddhad o’r gorchymyn gofal; a’r hawl i gwyno (Rheoliad 53 o’r Rheoliadau CPPCR). Mae’n rhaid i’r SAA sicrhau hefyd bod plant sy’n derbyn gofal yn ymwybodol o argaeledd gwasanaethau eirioli, y mae ganddynt hawl i’w cyrchu mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar eu hachos.

387.      Os yw’r plentyn yn dymuno dwyn achos cyfreithiol o dan y Ddeddf (neu Ddeddf Plant 1989), mae’n rhaid i’r SAA ganfod a oes oedolyn priodol sy’n alluog a bodlon i gynorthwyo’r plentyn i gael cyngor cyfreithiol neu ddwyn achos ar ran y plentyn, neu, os nad oes person o’r fath, cynorthwyo’r plentyn i gael cyngor o’r fath.

 

388.      Gan ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn, dylai’r SAA ystyried yn ofalus sut i egluro ei hawl i:

 

389.      Mae’r materion hyn yn gymhleth i’w hegluro i blentyn, ac mae’n rhaid i’r SAA a rheolwyr y SAA fod yn fodlon bod y plentyn yn ymwybodol o’i hawliau ac yn deall ei hawliau. 

Cymwysterau’r SAA

 

390.      Mae’n rhaid i SAA fod â chymwysterau a phrofiad penodol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau statudol (Rheoliad 54 o’r Rheoliadau CPPCR). Dylai’r SAA:

 

 

Plant sydd ar remánd neu dan gadwad

391.      Mae rhan 9 o’r Rheoliadau CPPCR yn addasu’r gofynion adolygu mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal ac sy’n cael eu remandio i lety awdurdod llety neu lety cadw ieuenctid, neu sy’n cael eu cadw ar ôl eu collfarnu o drosedd.

 

392.      Wrth adolygu achos plentyn sy’n derbyn gofal sydd ar remánd neu o dan gadwad, mae’r hyn y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei ystyried yn cael ei addasu. Bydd y rhan fwyaf o’r ystyriaethau a nodir yn Atodlen 8 i’r Rheoliadau CPPCR yn berthnasol o hyd, ond wrth reswm, ni fydd angen ystyried a ddylai statws cyfreithiol y plentyn newid, a oes cynllun sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, neu a yw’r lleoliad yn parhau i fod yr un mwyaf priodol, gan y bydd pob un o’r rhain eisoes wedi’u penderfynu gan y ffaith fod y plentyn yn cael ei remandio neu ei gadw o dan ddeddfwriaeth cyfiawnder ieuenctid.


Pennod 5:  Gadael gofal

 

Trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch

 

393.      Mae’r bennod hon yn ymwneud â chymorth ar gyfer pobl ifanc nad ydynt bellach yn derbyn gofal. Mae’r bobl ifanc hyn yn cynnwys y rhai sy’n gadael gofal o dan 18 oed (mae’r Ddeddf yn cyfeirio atynt fel ‘person ifanc categori 2’), y rhai sy’n gadael gofal sy’n 18 oed a throsodd (‘person ifanc categori 3’), a’r rhai sy’n gadael gofal sy’n ailgysylltu â gofal yn 21 oed ar gyfer addysg a hyfforddiant (‘person ifanc categori 4’).   

394.       Mae hefyd yn ymwneud â phobl ifanc a adawodd ofal o dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig (‘person ifanc categori 5’), a phlant eraill a oedd yn derbyn gofal neu’n cael eu lletya gynt sydd â hawl i gyngor a chymorth o bosibl (‘person ifanc categori 6’).

Mae categorïau amrywiol person ifanc, yn unol â diffiniad adran 104 o’r Ddeddf, wedi’u hegluro’n fanylach isod. 

395.      Mae cymorth ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed sy’n parhau i dderbyn gofal (‘person ifanc categori 1’) wedi’i gynnwys ym mhennod 1. Mae hyn yn disgrifio fframwaith cynhwysfawr o asesu, cynllunio gofal a chymorth, ymyrraeth ac adolygu achosion gan awdurdodau lleol i baratoi pobl ifanc 16 a 17 oed ar gyfer amser pan na fyddant yn derbyn gofal.

396.      Dylid darllen y Bennod hon ochr yn ochr â’r cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf, sy’n cynnwys plant a phobl ifanc yn y sefydliad diogel.  Mae rhai darpariaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn cael eu datgymhwyso pan fydd person ifanc yn cael ei gollfarnu a’i ddedfrydu i lety cadw ieuenctid neu gartref plant diogel, ond mae modd eu hadfer ar ôl i’r unigolyn gael ei ryddhau, gan ddibynnu ar ei oedran.

Diffiniadau

397.      MaeAdran 104 o’r Ddeddf yn diffinio chwe chategori o bobl ifanc, mewn perthynas â gadael gofal

Diffiniad

 

Prif Oblygiadau Statudol

Person ifanc categori 1

Mae adran104 (2) o’r Ddeddf yn diffinio plentyn categori 1 fel plentyn:

(a) sy’n 16 neu’n 17 oed

(b) sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol  

(c) sydd wedi bod yn derbyn gofal awdurdod lleol am gyfnod o 13 wythnos, neu gyfnodau yr oedd eu cyfanswm yn 13 wythnos, a ddechreuodd ar ôl i’r plentyn gyrraedd 14 oed ac a ddaeth i ben ar ôl iddo gyrraedd 16 oed[4].

 

(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal.)

Mae gan awdurdodau lleol yr un rhwymedigaethau statudol mewn perthynas â phobl ifanc categori 1 â’r hyn sydd ganddynt ar gyfer plant eraill sy’n derbyn gofal ganddynt, gan gynnwys dyletswydd i gynnal eu cynllun gofal a chymorth Rhan 6, cynnal adolygiadau rheolaidd o achosion a phenodi swyddog adolygu annibynnol ar gyfer y plentyn. Hefyd, mae’n rhaid iddynt:

·         baratoi asesiad o anghenion y plentyn er mwyn penderfynu pa gyngor, cymorth a chefnogaeth y byddai’n briodol eu darparu ar ei gyfer (tra bod y plentyn yn derbyn gofal a phan nad yw bellach yn derbyn gofal) - gweler adran 107 o’r Ddeddf.

·         paratoi cynllun llwybr (sy’n cynnwys cynllun gofal a chymorth a chynllun addysg personol y plentyn) cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r asesiad o anghenion

·         cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynllun llwybr

·         penodi cynghorydd personol ar gyfer y plentyn – gweler adran 106 o’r Ddeddf.

 

Person ifanc categori 2  

Mae adran104 (2) o’r Ddeddf yn diffinio plentyn categori 2 fel plentyn:

(a)  sy’n 16 neu’n 17 oed

(b)  nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, ac

(c)  a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1.

 

Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel rhywun 18 oed sy’n gadael gofal.

Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adran 109 o’r Ddeddf. Hefyd, mae gan yr awdurdod lleol rwymedigaethau o dan adrannau 105, 106 a 107 mewn perthynas â phersonau ifanc o’r fath.

 

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol a fu’n gofalu am y plentyn olaf:

 

·         ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn drwy ei gynnal, darparu llety addas iddo neu ei gynnal mewn llety o’r fath, a darparu cymorth i ddiwallu ei anghenion mewn perthynas ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn unol â’r cynllun llwybr

·         paratoi cynllun llwybr cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau unrhyw asesiad o anghenion

·         cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynllun llwybr

·         penodi cynghorydd personol ar gyfer y plentyn (oni bai bod hynny eisoes wedi digwydd pan oedd y plentyn yn blentyn categori 1). 

   

          

Person ifanc categori 3

 

Mae adran104 (2) o’r Ddeddf yn diffinio person ifanc categori 3 fel person ifanc 18 oed neu drosodd: 

(a)  sydd wedi bod yn berson ifanc categori 2 (ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed), neu

(b)  a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn blentyn categori 1.

 

Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel rhywun 18 oed neu drosodd sy’n gadael gofal.

Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adrannau 105, 106, 107 a 110 o’r Ddeddf.

 

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw drwy:

·         gyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig

·         cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant

·         gwneud grant i’r person ifanc, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant

·         gwneud unrhyw beth arall sy’n briodol yn ei farn ef, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc

·         os oes gan y person ifanc drefniant byw ôl-18, monitro a chynnal y trefniant drwy ddarparu cyngor a chymorth i’r person ifanc a’r cyn-riant maeth – gweler adran 108 o’r Ddeddf

·         cymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person ifanc, ac ailsefydlu’r cyswllt os yw’n colli cyswllt

·         parhau i gynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynllun llwybr

·         parhau i benodi cynghorydd personol ar gyfer y person ifanc

·         os yw’r person ifanc yn dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr, talu bwrsariaeth addysg uwch

·         darparu llety gwyliau addas ar gyfer y person ifanc sy’n dilyn addysg uwch, neu dalu digon o arian i’r person ifanc gael llety.

 

Mae’r dyletswyddau hyn yn parhau nes bod y person ifanc categori 3 yn cyrraedd 21 oed; neu, os yw’r rhaglen yn ymestyn y tu hwnt i 21 oed, nes bod y rhaglen addysg neu hyfforddiant yn dod i ben. Os yw’r person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Ystyr person ifanc categori 4 yw person:

 

(a)  sy’n berson ifanc categori 3 y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 o’r Ddeddf wedi peidio â bod yn gymwys iddo (gweler adran 111 o’r Ddeddf)

(b)  sydd wedi hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant, ac

(c)    sydd heb gyrraedd 25 oed neu unrhyw oedran is a bennir.

 

(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc sy’n ailgysylltu â gofal at ddibenion addysg neu hyfforddiant.)

Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adrannau 106, 107 a 112 o’r Ddeddf.

 

Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw, i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant, drwy:

  • gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant
  • gwneud grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant

·         os yw’r person ifanc yn dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr, talu bwrsariaeth addysg uwch

 

  • penodi cynghorydd personol ar gyfer y person
  • paratoi cynllun llwybr.

Mae’r dyletswyddau yn parhau nes bod y person ifanc categori 4 yn cyrraedd 25 oed; neu, os yw’r rhaglen yn ymestyn y tu hwnt i 25 oed, nes bod y rhaglen addysg neu hyfforddiant yn dod i ben. Os yw’r person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

                 

Ystyr person ifanc categori 5 yw person:

(a)  sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 21 oed eto

(b)  y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu a oedd mewn grym pan gyrhaeddodd 18 oed), ac

(c)    a oedd, yn union cyn gwneud y gorchymyn hwnnw, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol.

 

(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc sydd wedi gadael gofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig.)

Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adran 114 o’r Ddeddf.

 

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a oes angen cymorth o’r math y mae’n gallu ei ddarparu o dan adran 114 ar y person ifanc. Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person a oedd yn gofalu am y person ifanc y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynghori ac ymgyfeillio â’r person ifanc, a’i gynorthwyo:

·         ar ffurf da

·         drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith

·         drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant

·         drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant

·         drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi o dan y 3 phwynt bwled blaenorol

·         mewn arian parod.

Gall yr awdurdod lleol hefyd roi cymorth Dan rai amgylchiadau os yw’r person ifanc o dan 25 oed ac y byddai’n berson ifanc categori 5 pe bai o dan 21 oed.

Dan rai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad i hyfforddiant neu addysg os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Yn yr amgylchiadau hyn, gall yr awdurdod lleol ddarparu llety gwyliau addas i’r person ifanc neu dalu digon i sicrhau llety ar ei gyfer.

                 

Person ifanc categori 6

Ystyr person ifanc categori 6 yw person, ac eithrio person ifanc categori 5:

 

(a)  a oedd, ar unrhyw adeg ar ôl cyrraedd 16 oed ond tra oedd yn dal yn blentyn, yn derbyn gofal neu wedi ei letya neu ei faethu ond nad yw’n derbyn gofal nac yn cael ei letya na’i faethu mwyach

(b)  os oedd wedi’i letya neu ei faethu felly, sydd bellach o fewn Cymru, ac

(c)  nad yw wedi cyrraedd 21 oed eto.

 

(Mae’r cod hwn yn cyfeirio at berson ifanc o’r fath fel person ifanc nad oedd yn cael ei ystyried yn berson sy’n gadael gofal.)

Mae’r dyletswyddau llawn wedi’u nodi yn adrannau 105 a 115 o’r Ddeddf.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a yw’r amodau isod wedi’u bodloni mewn perthynas â’r person ifanc:

Mae angen cymorth ar y person ifanc o fath y gall yr awdurdod lleol ei roi, a bod yr awdurdod lleol wedi’i fodloni nad oes gan y person a oedd yn gofalu am, yn lletya neu’n maethu’r person ifanc y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef. Os yw’r ddau amod wedi’u bodloni, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynghori ac ymgyfeillio â’r person ifanc.

Pan fydd gan awdurdod lleol, o dan adran 115(5), ddyletswydd i gynghori ac ymgyfeillio â’r person ifanc, neu os yw wedi’i rymuso i wneud hynny, gall roi cymorth:

·         ar ffurf da

·         drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig (mae’r pwynt bwled hwn a’r ddau bwynt bwled canlynol ond yn berthnasol os yw’r person ifanc yn perthyn i’r categori hwn oherwydd bod adran 104(3)(a) o’r Ddeddf yn berthnasol iddo)

·         drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant

·         drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant

·         drwy ddarparu llety os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety a nodwyd uchod

·         mewn arian parod.

Gall yr awdurdod lleol hefyd roi cymorth Dan rai amgylchiadau os yw’r person ifanc o dan 25 oed ac y byddai’n berson ifanc categori 6 pe bai o dan 21 oed.

Dan rai amgylchiadau, gall yr awdurdod lleol ddiystyru unrhyw amhariad i hyfforddiant neu addysg os yw wedi’i fodloni y bydd person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Yn yr amgylchiadau hyn, gall yr awdurdod lleol ddarparu llety gwyliau addas i’r person ifanc neu dalu digon i sicrhau llety ar ei gyfer.

                 

 

Pontio

398.      Un o’r canlyniadau allweddol ar gyfer pob person ifanc sy’n gadael gofal yw ei fod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arno i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion a symud tuag at fywyd mwy annibynnol.

399.      Dylai’r rhai sy’n gadael gofal ddisgwyl yr un lefel o ofal a chymorth ag y byddai eraill yn ei ddisgwyl gan riant rhesymol. Dylai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am eu gofal a’u cymorth sicrhau eu bod yn derbyn y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ymdopi ag ysgwyddo cyfrifoldebau bod yn oedolyn.

400.      Nid y gwasanaethau cymdeithasol yn unig sy’n effeithio ar fywydau’r bobl ifanc hyn. Pan fydd plentyn yn dechrau derbyn gofal, mae ei lesiant o ddiddordeb i holl aelodau etholedig a swyddogion yr awdurdod lleol, fel rhieni corfforaethol, a rhaid iddynt ystyried yr egwyddorion canlynol wrth ymgysylltu â’r plentyn a gwneud unrhyw benderfyniadau yn ymwneud ag ef:  

 

401.      Dylai’r diddordeb hwn gynnwys addysg, iechyd a llesiant y plentyn; beth y mae’n ei wneud yn ei amser hamdden a’i wyliau; sut mae’n dathlu ei ddiwylliant; a sut mae’n derbyn canmoliaeth ac anogaeth ar gyfer ei lwyddiannau. Mae’r diddordeb hwn yn parhau wrth i’r plentyn droi’n berson ifanc ac yn dechrau paratoi ar gyfer yr amser pan fydd yn gadael gofal.

402.      Mae Swyddog Adolygu Annibynnol y person ifanc yn gwneud gwaith hanfodol yn sicrhau bod safbwyntiau person ifanc yn cael eu hystyried yn y broses o gynllunio i adael gofal. Cyn symud person ifanc, mae’n rhaid cynnal cyfarfod adolygu statudol o dan gadeiryddiaeth y Swyddog Adolygu Annibynnol er mwyn gwerthuso parodrwydd person ifanc i symud, a’r paratoadau ar gyfer hynny. Ni ddylai unrhyw berson ifanc deimlo rheidrwydd i ‘adael gofal’ cyn ei fod yn barod i wneud hynny.

403.      Dylai’r person ifanc, y gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am gyfrannu at gynllun gofal a chymorth a chynllun llwybr y person ifanc, a’r adolygiad gytuno bod Rhan 6 y person ifanc wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli unrhyw bontio i fywyd mwy annibynnol, lle bydd llai o gymorth ar gael. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pawb sy’n gadael gofal yn derbyn cymorth gadael gofal priodol, a bod anghenion gofal a chymorth y person ifanc yn cael eu hasesu a’u hadolygu yn gyson.

404.      Mae’n rhaid i gynlluniau ar gyfer pontio i fyd oedolion fod ar waith ar gyfer pob person ifanc 16 a 17 oed sydd wedi bod yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos ar ôl cyrraedd 14 oed. Gall y 13 wythnos fod yn ddi-dor neu gynnwys cyfnodau gofal ar wahân. Nid ydynt yn cynnwys lleoliadau tymor byr sy’n deillio o ofal seibiant, ond rhaid iddynt gynnwys cyfnod o amser (o leiaf 24 awr) ar ôl cyrraedd 16 oed.

405.      Mae’n rhaid cynllunio pontio i fyd oedolion ar gyfer pob person sy’n derbyn gofal, waeth pa statws arall sydd ganddo. Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CL”)[5] yn diffinio grŵp ychwanegol o bobl ifanc a fyddai’n gallu derbyn cymorth o dan y Ddeddf oni bai am y ffaith eu bod yn cael eu cadw wrth gyrraedd 16 oed mewn canolfan remánd, sefydliad troseddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi ddiogel, neu mewn unrhyw sefydliad arall o dan orchymyn llys, neu mewn ysbyty.

406.      Bydd pobl ifanc 16 neu 17 oed, a oedd gynt yn derbyn gofal ac sydd wedi dychwelyd adref (h.y. wedi newid o fod yn berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal i fod yn berson ifanc dan 18 oed sy’n gadael gofal) yn newid eto i fod yn berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal os yw’r trefniant hwn yn methu cyn eu pen-blwydd yn 18 oed.

407.      Mae’r cyfrifoldebau a nodir yn y Ddeddf a’r Rheoliadau CL ar gyfer cynllunio gofal a chymorth parhaus yn berthnasol i bawb sy’n gadael gofal nes eu bod yn cyrraedd 21 oed neu, os ydynt yn derbyn cymorth ar gyfer addysg neu hyfforddiant, hyd at ddiwedd y rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni (sy’n gallu para y tu hwnt i’w pen-blwydd yn 25 oed). Os yw person ifanc a oedd gynt â’r hawl i wasanaethau gadael gofal yn dymuno dilyn addysg neu hyfforddiant ychwanegol ar ôl 21 oed, ond cyn 25 oed, mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdod cyfrifol y person ifanc sicrhau ei fod yn derbyn cymorth parhaus gan gynghorydd personol fel person ifanc sy’n ailgysylltu â gofal.

408.      Os yw person ifanc yn ailgysylltu â gofal ar gyfer addysg neu hyfforddiant, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol (os yw’n asesu bod angen) ddarparu llety gwyliau (neu’r modd o sicrhau hynny) ar gyfer y person ifanc hyd at 25 oed.

409.      Gall awdurdodau lleol roi cyngor, arweiniad a chymorth ar gyfer grwpiau penodol o bobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn cymorth gadael gofal. Gall rhai pobl ifanc a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (person ifanc ‘categori 5’), neu na wnaethant gymhwyso fel  person ifanc yn gadael gofal (‘categori 6’), fod yr un mor agored i niwed, a bod ag anghenion tebyg iawn, i bobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal (‘categori 1’), y rhai sy’n gadael gofal o dan 18 oed (‘categori 2’) neu’r rhai 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal (‘categori 3’), a bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn ymateb yn ddigonol i anghenion unigol y bobl ifanc hyn.

410.      Mae Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig 2005 yn nodi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Mae adran 104(5) o’r Ddeddf yn nodi pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ôl-ofal ar gyfer person ifanc categori 6 nad oedd yn gymwys i fod yn berson ifanc sy’n gadael gofal. O safbwynt person ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, yr awdurdod perthnasol yw’r un a oedd yn gofalu amdano olaf. O safbwynt rhywun sy’n gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth o dan unrhyw un o’r darpariaethau eraill, yr awdurdod perthnasol yw’r awdurdod lleol yn yr ardal lle mae’r person wedi gofyn am gymorth.  

411.      Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol asesu anghenion person ifanc cymwys a oedd gynt yn derbyn gofal er mwyn penderfynu a oes angen gwybodaeth, cyngor a chymorth arno. Ar ôl yr asesiad, os yw’r awdurdod yn penderfynu y bydd angen gofal a chymorth dros gyfnod o amser, dylai greu cynllun gyda’r person ifanc yn amlinellu’r gofal a chymorth a ddarperir. Gall y cynllun sy’n cael ei greu ddilyn yr un fformat â chynllun llwybr ar gyfer unigolyn categori 2 o dan 18 oed neu unigolyn categori 3 18 a throsodd sy’n gadael gofal. Bydd y cynllun yn amlinellu’r gofal a’r cymorth sydd i’w darparu i’r person ifanc, gan gynnwys, os oes angen, unrhyw gymorth ariannol. Dylai’r cynllun gael ei lunio gan berson cymwys.

412.      Mae’n bosibl y bydd angen gwybodaeth, cyngor a chymorth ar berson ifanc na dderbyniodd ofal am 13 wythnos. Os yw’r person ifanc yn dychwelyd adref, o bosibl yn dilyn penderfyniad a wnaed yn ei adolygiad statudol cyntaf fel plentyn sy’n derbyn gofal, ni ddylid ystyried y person ifanc hwnnw yn berson ifanc categori 6 nad oedd yn gymwys i fod yn rhywun sy’n gadael gofal o dan Ran 6 o’r Ddeddf – yn hytrach, dylid darparu cymorth ar gyfer y person ifanc a’i deulu o dan Ran 4 o’r Ddeddf (‘diwallu anghenion’).   

413.      Dylai’r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig a gwybodaeth ar y we ar gyfer pobl ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu bobl ifanc categori 6 nad oeddent yn gymwys i fod yn rhywun sy’n gadael gofal, yn rhoi gwybod iddynt am eu hawl i gael asesiad a’r gwasanaethau amrywiol sydd ar gael yn dilyn asesiad. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth glir am sut i ddefnyddio gweithdrefnau cwynion a sylwadau’r awdurdod lleol o dan Ran 10 o’r Ddeddf.

Gwarcheidiaeth arbennig

414.      Gall plant a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn union cyn i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud fod yn gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth o dan y Ddeddf fel person ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig. Mae adran 104(2) yn diffinio person ifanc o’r fath fel person:

415.      Dylai’r awdurdod lleol perthnasol wneud trefniadau i sicrhau bod pobl ifanc sy’n bodloni’r meini prawf hyn yn derbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth. 

Gwasanaethau eirioli

416.      Fel y nodwyd ar dudalen 11, mae Rhan 10 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol mewn perthynas â gwasanaethau eiriolaeth statudol. Mae’n rhaid i bob plentyn sy’n derbyn gofal fod yn ymwybodol o’i hawl i gymorth eiriolaeth annibynnol a sut i ddod o hyd iddo. Mae’r hawl hon yn berthnasol i fwy nag achosion lle mae plentyn sy’n derbyn gofal neu rywun sy’n gadael gofal yn dymuno cwyno, ac mae’n cynnwys sefyllfaoedd lle mae angen i blant neu bobl ifanc gyflwyno sylwadau ynglŷn ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarparodd yr awdurdod lleol.   

417.      Bydd mynediad i eiriolaeth yn arbennig o bwysig lle mae proses yr awdurdod lleol o wneud penderfyniadau yn effeithio ar y plentyn neu’r person ifanc, er enghraifft pa mor barod yw e i symud o’i leoliad gofal. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth annibynnol arno yn aml er mwyn lleisio ei farn a mynegi ei ddymuniadau a’i deimladau ynglŷn â’r cymorth y bydd ei angen arno ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio gyda’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn deall rôl eiriolaeth a’i fod yn ymwybodol o sut i gael gafael ar eiriolaeth. Mae hyn yn cynnwys rolau ffurfiol fel y gweithiwr cymdeithasol, y cynghorydd personol, y swyddog adolygu annibynnol a’r swyddog cwynion, yn ogystal â rolau llai ffurfiol eraill, fel bod y plentyn yn gallu mynegi ei safbwyntiau a’i deimladau ynglŷn â’r cymorth y bydd ei angen arno yn y dyfodol.  

Cynllunio gofal a chymorth a chynlluniau llwybr

418.      Ni ddylai pontio i fyd oedolion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ddechrau ar eu pen-blwydd yn 16 oed. Dylai’r broses o baratoi ar gyfer yr amser pan na fyddant yn derbyn gofal fod yn rhan hanfodol o’r broses o gynllunio gofal a chymorth gydol eu hamser mewn gofal. Yn ogystal â materion ymarferol, dylai hyn hefyd gynnwys paratoadau emosiynol ar gyfer gadael gofal. Gall y cyfnod pontio pan fydd y rhai sy’n gadael gofal yn paratoi i fyw’n annibynnol a’r amser yn union ar ôl iddynt adael gofal arwain at heriau sylweddol i’w llesiant emosiynol. Dylai gwaith paratoi ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal gynnwys helpu’r rhai sy’n gadael gofal i gynnal perthynas â’r bobl a fydd yn gallu parhau i’w cefnogi ar ôl iddynt adael gofal.   

419.      Mae adran 107 o’r Ddeddf yn nodi bod angen paratoi cynllun llwybr ar gyfer pob person ifanc 16 neu 17 oed categori 1 sy’n derbyn gofal, pobl ifanc dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal neu bobl ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal, a phobl ifanc categori 4 sy’n gadael gofal sydd wedi ailgysylltu â gofal at ddibenion addysg neu hyfforddiant. Bydd cynllun llwybr pob person ifanc yn seiliedig ar, ac yn cynnwys, ei gynllun gofal a chymorth Rhan 6, a bydd yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol, y person ifanc, rhieni a gofalwyr, a phob asiantaeth sy’n gysylltiedig â’r person ifanc eu rhoi ar waith, er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arno i wireddu ei ddyheadau a phontio’n llwyddiannus i fyd oedolion. Mae’n rhaid i’r cynllun hwn fod yn ‘ddogfen fyw’ sy’n nodi sut y caiff y gwasanaethau eu darparu i helpu’r person ifanc i sicrhau’r canlyniadau a nodwyd yn y cynllun llwybr. 

420.       Mae’n rhaid i bob person ifanc categori 2 a 3 sy’n gadael gofal, o dan 18 oed a thros 18 oed, a phob person ifanc categori 4 sy’n gadael gofal fod â chynllun llwybr sy’n seiliedig ar asesiad cyfredol a thrylwyr o’u hanghenion.

421.      Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr ystyried:

Bydd hyn yn datblygu’r wybodaeth yng nghynllun iechyd y person ifanc, a oedd yn rhan o’i gynllun gofal a chymorth Rhan 6 pan oedd yn derbyn gofal. Dylai gynnwys iechyd corfforol, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.

Dylai’r cynllun addysg personol barhau i gael ei gynnal tra bod y person ifanc yn parhau i dderbyn addysg llawnamser neu ran-amser.  Bydd y wybodaeth yn y cynllun yn llywio’r cynllun llwybr yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i gynlluniau llwybr ganolbwyntio’n benodol ar gynllunio gyrfaoedd, gan ystyried dyheadau, sgiliau a photensial addysgol y person ifanc.

Mae hyn yn cynnwys gallu’r rhwydwaith hwn i annog y person ifanc a’i alluogi i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion.

Bydd hyn yn canolbwyntio ar allu’r person ifanc i reoli ei arian ei hun, ac ar amlinellu strategaethau i ddatblygu sgiliau’r person ifanc yn y maes hwn.  

422.      Mae’n rhaid i’r broses asesu a chynllunio llwybr ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal gynnwys dadansoddiad gofalus ar sail tystiolaeth o angen parhaus y person ifanc ar gyfer llety a gofal a chymorth, gan gynnwys a ddylai barhau i dderbyn gofal. Os yw’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ar gyfer y person ifanc wedi’i gynnal a’i ddiweddaru, dylai datblygiad y cynllun llwybr adeiladu ar wybodaeth a gwasanaethau a nodwyd yn y cynllun gofal a chymorth Rhan 6, gan ymgorffori’r gwasanaethau a ddarperir i’r person ifanc er mwyn datblygu ei gadernid a’i alluogi i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion, fel y gallai reoli’r heriau sy’n deillio o fyw yn fwy annibynnol.

423.      Os oes unrhyw gynnig y dylai’r person ifanc symud i lety gwahanol fel rhan o’i daith i fyd oedolion, mae’n rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys asesiad penodol o’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arno i ddatblygu’r sgiliau i fod yn barod am y newid sylweddol hwn a’i effaith ar ei lesiant emosiynol. Mae’n rhaid i’r cynllun gynnwys asesiad trylwyr o addasrwydd y llety posibl ar gyfer y person ifanc.  

424.      Mae angen gwybodaeth ddigonol, berthnasol a chywir ar bobl ifanc ynglŷn â ble y gallent fyw ar ôl gadael gofal. Bydd rôl gofalwyr maeth, gweithwyr preswyl a chynghorwyr personol yn hollbwysig wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer byw yn fwy annibynnol a’u gwneud yn ymwybodol o’r dewisiadau tai sydd fwyaf tebygol o fod ar gael pan eu bod yn gadael gofal. Dylai’r paratoadau a’r camau nesaf arfaethedig gael eu cynnwys yn y cynllun llwybr. 

425.      Mae’n bwysig iawn bod gwybodaeth am allu ariannol y person ifanc yn gyfoes a’i bod wedi’i hasesu’n drylwyr cyn ei fod yn cymryd unrhyw gam tuag at fyw yn fwy annibynnol.

Cynlluniau llwybr ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal

426.      Mae’n rhaid paratoi cynllun llwybr ar gyfer pob person ifanc o dan 18 oed sy’n gadael gofal. Dylid paratoi’r cynllun llwybr cyn bod y person ifanc yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (h.y. pan ei fod yn berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal), a’i ystyried mewn adolygiad statudol sy’n cael ei gadeirio gan swyddog adolygu annibynnol y person ifanc.

427.      Mae’n rhaid i’r gweithiwr proffesiynol sy’n paratoi’r cynllun llwybr ar ran yr awdurdod lleol (gweithiwr dynodedig y person ifanc fel arfer) ganfod ac ystyried safbwyntiau’r person ifanc categori 2 cyn diffinio blaenoriaethau a ffocws y cynllun, oni bai nad yw’n ymarferol rhesymol gwneud hynny. Hefyd, mae’n rhaid iddo roi pob cam rhesymol ar waith i alluogi’r person ifanc i fynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod sy’n trafod ei achos. Hefyd, dylai’r gweithiwr dynodedig ymgynghori â’r canlynol:

428.      Mae’n hanfodol cynnal sgwrs â’r person ifanc ynglŷn â’r rhai y dylid cysylltu â hwy i gyfrannu at ei gynllun llwybr. Ni fydd yn briodol bob amser i bob un o’r rhai a restrir uchod gyfrannu at y broses o gynllunio’r llwybr – er y byddai angen cyfiawnhad hynod gryf dros gwblhau cynllun llwybr heb gyfeirio at ofalwr y person ifanc neu at gyngor proffesiynol yn ymwneud â llwybr addysg, hyfforddiant a chyflogaeth y person ifanc.

429.      Mae’n rhaid i safbwyntiau’r person ifanc gael eu cofnodi a’u cynnwys yn y cynllun llwybr. Os oes modd, dylid ysgrifennu’r cynllun mewn iaith sy’n hawdd i’r person ifanc ei deall. Hefyd, mae’n rhaid i’r cynllun ddangos sut mae trefniadau i gynorthwyo’r person ifanc wedi ystyried safbwyntiau’r bobl eraill a restrwyd uchod. Dylid nodi unrhyw anghytuno rhwng y person ifanc a’r gweithwyr proffesiynol yn ofalus.

430.      Mae’n rhaid rhoi copi o’r cynllun i’r person ifanc. Os yw asiantaethau yn cyfrannu at y cynllun llwybr, bydd yn arfer da sicrhau bod ganddynt gopi o ddarn perthnasol y cynllun sy’n cyfeirio at eu cyfraniad. Dylai’r copi hwn gael ei lofnodi gan gynrychiolydd yr asiantaeth, y person ifanc a’i gynghorydd personol fel tystiolaeth o’u hymrwymiad i gyflawni amcanion y cynllun.

Cynghorwyr personol

431.      Pan na fydd person ifanc yn derbyn gofal ac yn dod yn berson ifanc sy’n gadael gofal (p’un ai a yw hyn yn digwydd cyn ei fod yn 18 oed, neu pan ei fod yn troi’n oedolyn yn gyfreithlon wrth gyrraedd 18 oed), ni fydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu gweithiwr cymdeithasol i gynllunio a chydgysylltu ei ofal a’i gymorth.

432.      Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol benodi cynghorydd personol (CP) i’w gynorthwyo. Bydd y CP yn gweithredu fel canolbwynt i sicrhau bod y rhai sy’n gadael gofal yn derbyn y cymorth personol priodol. Dylai pawb sy’n gadael gofal wybod pwy eu CP a sut i gysylltu ag ef, fel bod modd iddynt ddibynnu ar gymorth cyson gan eu gweithiwr proffesiynol allweddol unigol gydol y cyfnod pontio i fyd oedolion.

433.      Os oes modd, mae’n arfer da sicrhau bod gan berson ifanc 18 oed yr un CP ag a ddyrannwyd iddo pan oedd yn derbyn gofal yn 16 neu’n 17 oed neu’n gadael gofal o dan 18 oed. Fodd bynnag, os yw gweithiwr cymdeithasol cymwysedig wedi parhau i fod yn CP y person ifanc, gall y ffaith ei fod yn troi’n oedolyn yn gyfreithlon fod yn gyfle i drosglwyddo cyfrifoldeb i CP sydd â gallu penodol i weithio gydag oedolion ifanc. Dylid cynllunio a rheoli unrhyw broses drosglwyddo cymorth o’r fath. Er enghraifft, gellid amseru’r broses o drosglwyddo cymorth i gyd-fynd ag adolygiad arfaethedig o gynllun llwybr y person ifanc, neu adeg pan fydd y person ifanc yn fwy sefydlog yn dilyn newid mewn addysg, hyfforddiant neu lety.  

Cymwysterau a sgiliau

434.      Ni phennir unrhyw gymhwyster proffesiynol neu alwedigaethol i benderfynu pa weithiwr proffesiynol a ddylai gyflawni swyddogaeth CP ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n gadael gofal.

435.      Dylai unrhyw un a benodir fel CP:

·         feddu ar ddealltwriaeth gadarn y gellir ei dangos o anghenion datblygiadol ac emosiynol person ifanc

·         deall yr ansicrwydd sy’n wynebu plant sy’n derbyn gofal wrth iddynt bontio i fyd oedolion

·         meddu ar wybodaeth ymarferol am y materion amrywiol y gall y rhai sy’n gadael gofal eu hwynebu wrth iddynt bontio i fyd oedolion

·         deall y fframwaith cyfreithiol sy’n effeithio ar y rhai sy’n gadael gofal

·         gallu deall deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â thai a digartrefedd, gan weithredu yn unol â hi.

436.      Dylai awdurdodau lleol recriwtio cronfa eang o gynghorwyr personol, fel bod gan bobl ifanc ddewis gwirioneddol, gan ystyried materion fel rhywedd ac ethnigrwydd. Bydd gan bobl ifanc farn ar y mathau o briodweddau y byddant yn eu disgwyl gan eu CP, a dylid ystyried y rhain wrth baru gofalwr unigol â CP. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bob amser bod gan y CP a benodir y sgiliau gofynnol, a’i fod ar gael ar yr adegau priodol. Yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am benderfynu pwy fydd yn addas i weithredu fel CP ar gyfer person ifanc penodol sy’n gadael gofal.  

437.      Os yw person ifanc wedi datblygu perthynas o ymddiriedaeth gyda gofalwr, dylai bod yn bosibl i’r awdurdod lleol ddirprwyo elfennau o swyddogaeth y CP iddo, gan y bydd er budd y person ifanc i ddatblygu’r cysylltiadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u sefydlu. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau hyn mae’n rhaid i’r awdurdod lleol fod yn glir ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y bydd y gofalwr yn eu darparu, a sut i reoli unrhyw wrthdaro buddiannau posibl  – er enghraifft, pan fydd person ifanc yn byw fel aelod o deulu’r gofalwr, mewn trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’.

Swyddogaethau

438.      Mae Rheoliadau CL yn pennu swyddogaethau CP ar gyfer person ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal a pherson ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal.

(a)  Darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth

 

Dylai’r cynllun llwybr gynnwys manylion y math o gymorth y gall y person ifanc ei ddisgwyl gan y CP. Gall y CP roi cyngor cychwynnol i’r rhai sy’n gadael gofal ar faterion fel y canlynol:

·         gwybodaeth a chymorth sylfaenol i ddatblygu’r sgiliau ymarferol y bydd eu hangen arnynt i reoli’r disgwyliadau sy’n deillio o dderbyn cyfrifoldeb graddol am ragor o annibyniaeth  

·         gwybodaeth am allu ariannol – sut i reoli cyllid o ddydd i ddydd a sut i fanteisio ar unrhyw hawliau i fudd-daliadau

·         gwybodaeth am y dewisiadau tai sydd ar gael i’r person ifanc, a sut i ddod o hyd i lety a chyngor

·         cymorth i helpu’r person ifanc i ddatblygu ei hyder a’i allu i wneud penderfyniadau

·         gwybodaeth am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

·         cymorth i ddod o hyd i swydd a’i chadw

·         gwybodaeth gyffredinol am iechyd a llesiant cadarnhaol, gan gynnwys sut i ddod o hyd i wasanaethau iechyd arbenigol a dargedir (er enghraifft, gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl neu iechyd rhywiol)

·         gwybodaeth am gyfleoedd hamdden, chwaraeon a diwylliant fel bod y rhai sy’n gadael gofal yn gallu mwynhau a chymryd rhan ym mywyd y gymuned.  

 

Hefyd, bydd angen i’r cynllun llwybr gynnwys darpariaethau ar gyfer digwyddiadau posibl wrth i’r berthynas newid tros amser.

 

(b)  Cyfrannu at asesiadau a pharatoi cynlluniau llwybr

 

Y CP yw’r gweithiwr proffesiynol allweddol â chyfrifoldeb am gydgysylltu cymorth y person ifanc sy’n gadael gofal. Oherwydd hyn, os yw amgylchiadau’r person ifanc yn newid a bod angen diwygio ei gynllun llwybr, mae’n bosibl mai’r CP fydd y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i ailasesu ei anghenion ac awgrymu newidiadau i’r cynllun i’r awdurdod lleol, gan nodi sut bydd y person ifanc yn derbyn cymorth yn y dyfodol.

Bydd cyfathrebu â phobl ifanc wrth wraidd y broses asesu. Fodd bynnag, o safbwynt person ifanc dan 18 oed sy’n gadael gofal ac nad yw wedi troi’n oedolyn, mae’n bwysig nodi nad yw parchu dymuniadau a theimladau person ifanc yn golygu cytuno â’i holl safbwyntiau yn awtomatig. Mae’n rhaid i’r CP ddatblygu barn broffesiynol ynglŷn â buddiannau pennaf y person ifanc. Os yw’n ymddangos bod dymuniadau a theimladau pobl ifanc sy’n gadael gofal yn gwrthdaro â barn broffesiynol ar sail gwybodaeth y CP ar eu buddiannau pennaf, bydd cyfrifoldeb ar y CP i drafod ffordd resymol ymlaen â’r person ifanc.

(c)  Cyfrannu at adolygu’r cynllun llwybr

 

Mae’n rhaid i’r CP sicrhau bod y cynllun llwybr yn cael ei adolygu ar adegau penodedig, a bydd yn gyfrifol hefyd am gynnal adolygiadau ychwanegol i ddatrys argyfyngau posibl a wynebir gan y rhai sy’n gadael gofal ac yn derbyn cymorth gan y CP.

Os oes angen gweithredu ar fyrder i ymateb i broblem a wynebir gan berson ifanc sy’n gadael gofal, ni ddylai’r broses o gynnal adolygiad i gydgysylltu trefniadau i’w gynorthwyo rwystro camau gweithredu uniongyrchol ac angenrheidiol gan y CP – a all gynnwys cysylltu ar unwaith â’r asiantaethau perthnasol.

 

(d)  Cydweithio â’r awdurdod lleol i roi’r cynllun llwybr ar waith  

 

Mae angen i bob CP ddeall y trefniadau ar gyfer cydweithio â’r awdurdod lleol perthnasol er mwyn rhoi’r cynllun llwybr ar waith. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol a’r CP (neu’r asiantaeth os nad yw’r cynghorydd yn gweithio i’r awdurdod) gytuno ar drefniadau ar gyfer goruchwylio a chynorthwyo’r person ifanc.  

 

(e) Cydgysylltu darpariaeth gwasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y rhai sy’n gadael gofal yn defnyddio gwasanaethau

 

Wrth gyflwyno neu helpu i lunio’r cynllun llwybr, bydd angen i’r CP nodi’r gwasanaethau amrywiol sydd eu hangen i ymateb i bob un o anghenion y person ifanc. Bydd angen i’r CP gydgysylltu’r dull o ddarparu gwasanaethau ar gyfer y person ifanc ac ysbrydoli’r person ifanc, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fel bod gwasanaethau yn cael eu derbyn a’u defnyddio yn effeithiol. I’r diben hwn, bydd yn bwysig, i’r graddau posibl, bod gan y rhai sy’n gadael gofal rywfaint o ddewis ynglŷn â’r gwasanaethau sy’n eu cynorthwyo, a’u bod yn teimlo bod eu llais yn dylanwadu ar ansawdd a chyfeiriad y cymorth a gânt.

 

(f)  Gwybod am gynnydd a llesiant pobl ifanc sy’n gadael gofal

 

Mae’n rhaid i CP fod mewn cysylltiad wyneb yn wyneb rheolaidd â phob person sy’n gadael gofal sy’n derbyn cymorth ganddo. Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr bennu disgwyliadau ar gyfer cyswllt, ac, os yn berthnasol, trefniadau ar gyfer cadw mewn cysylltiad mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys negeseuon testun, negeseuon e-bost a galwadau ffôn rheolaidd rhwng y CP a’r person ifanc.

O dan y Rheoliadau CL, pan fydd person ifanc sy’n gadael gofal yn symud i lety newydd, mae’n rhaid i’r CP ei weld yn y llety hwnnw o fewn saith diwrnod iddo symud. Wedyn, mae’n rhaid iddo ymweld â’r person ifanc sy’n gadael gofal ar ôl adolygiad cyntaf y cynllun llwybr (ar ôl 28 diwrnod), ac o leiaf unwaith bob deufis ar ôl hynny. Mae’n bwysig deall mai gofynion sylfaenol yw’r rhain. Os yw’r rhai sy’n gadael gofal yn wynebu problemau, gallant ddisgwyl cael cyswllt personol amlach o lawer â’u CP.  

 

(g) Cadw cofnodion llawn, cywir a chyfoes o gyswllt â’r person ifanc sy’n gadael gofal a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu

 

Bydd y CP yn gyfrifol am gadw cofnod cyfoes o’i gysylltiad â phob person ifanc sy’n gadael gofal (ac felly cysylltiad yr awdurdod lleol â’r person ifanc). Dylid cofnodi pob ymweliad a phob cyswllt arall â’r person ifanc. Mae’n rhaid cofnodi cyswllt ag asiantaethau eraill hefyd.

Dylai’r cynllun llwybr fod yn ddogfen fyw. Dylai’r rhai sy’n gadael gofal dderbyn copi o’u cynllun ynghyd â gwybodaeth reolaidd am y cofnodion sy’n cael eu cadw ar eu rhan a ble maent yn cael eu cadw. Dylid cynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i’w ffeiliau achos yn hawdd.  

Deiliaid cyllidebau

439.       Mae’r CP yn gyfrifol am gydgysylltu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion sy’n gadael gofal. Bydd y rhain yn cynnwys galluogi’r rhai sy’n gadael gofal i ddatblygu gallu ariannol a defnyddio gwasanaethau cynnal incwm. Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am letya a chynnal y rhai sy’n gadael gofal hefyd. Bydd dulliau pobl ifanc o ddefnyddio a rheoli eu cyllid personol yn un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu a fyddant yn gallu pontio’n llwyddiannus i fyd oedolion.

Hyfforddi a goruchwylio

440.       Bydd y broses o oruchwylio CP yn cyflawni nifer o swyddogaethau:

·         sicrhau bod y CP yn cynnig y gofal a’r cymorth gofynnol i bob person ifanc sy’n rhan o’i lwyth achosion, yn unol â’u cynlluniau llwybr

·         datblygu sgiliau a galluoedd y CP a’i alluogi i fyfyrio ar ei ymarfer, fel ei fod yn gwella ac yn datblygu ei sgiliau ac yn cyflawni ei dasgau yn fwy effeithiol

·         nodi ei anghenion hyfforddi a datblygu.

 

441.       Dylai goruchwylwyr sicrhau bod cofnodion achosion yn y drefn gywir ac yn gyfoes, a bod gwaith cofnodi’r CP yn cydymffurfio â safonau asiantaethau. Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd â’r CP, dylai goruchwylwyr arfarnu perfformiad pob CP drwy ofyn am adborth rheolaidd gan asiantaethau eraill a gan y bobl ifanc eu hunain.

Cymorth cynghorydd personol hyd at 25 oed

442.       Yn ôl Adran 104(2) o’r Ddeddf, mae gan bobl ifanc o dan 18 oed categori 2 a oedd yn ymadawyr gofal neu bobl ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sydd wedi gadael gofal, sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gadael gofal, ac sy’n ailddechrau rhaglenni addysg neu hyfforddiant ar ôl 21 oed, hawl i gymorth cyson gan CP a ddyrannwyd gan yr awdurdod lleol perthnasol.

443.       Yn y cyd-destun hwn, mae’n rhaid dehongli’r diffiniad o raglen addysg neu hyfforddiant yn eang. Gallai gynnwys, er enghraifft:

·         cwblhau cwrs sgiliau sylfaenol er mwyn sicrhau bod gan y person ifanc y sgiliau rhifedd a llythrennedd sydd eu hangen i gystadlu yn y farchnad swyddi

·         dilyn cwrs addysg bellach

·         dilyn cwrs prifysgol

·         cymorth i alluogi’r person ifanc i gwblhau cymhwyster ôl-radd cydnabyddedig

·         cymryd rhan mewn hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau.

444.       Dylai pob awdurdod lleol ddatblygu ei bolisi penodol ei hun sy’n nodi’r gofal a’r cymorth y mae’n barod i’w cynnig i’r grŵp hwn o bobl ifanc sy’n gadael gofal. Dylai’r polisi gael ei lunio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a dylai fod ar gael i bobl ifanc mewn fformat hygyrch, gan gynnwys drwy iaith eu hanghenion a’r dull cyfathrebu o’u dewis.  

445.       Dylai’r polisïau gynnwys y wybodaeth ganlynol:

·         trefniadau ynglŷn â sut y gall pobl ifanc ailgysylltu’n hwylus â’r awdurdod lleol er mwyn manteisio ar y gofal a’r cymorth

·         sut bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda’r person ifanc i ddatblygu cynllun llwybr newydd sy’n canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant

·         gwybodaeth am unrhyw gymorth ariannol.

446.       Ym mhob achos lle mae person ifanc sy’n gadael gofal yn gofyn am y gofal a’r cymorth hwn, bydd angen i awdurdodau lleol asesu pa mor briodol yw’r cwrs addysg neu hyfforddiant a sut mae’n gallu helpu’r person ifanc i wireddu ei uchelgeisiau. Gall yr asesiad hwn fanteisio ar y wybodaeth am sgiliau a galluoedd y person ifanc a oedd yn rhan o’r cynlluniau llwybr hyd at 21 oed. Bydd faint o gymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael ei ddarparu yn dibynnu ar asesiad yr awdurdod o anghenion y person ifanc, a bydd yn adlewyrchu natur y cwrs, a yw’n gwrs llawn-amser neu ran-amser, ac incwm presennol y person ifanc.

447.       Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr sydd wedi’i adfer ganolbwyntio’n benodol ar y gofal a’r cymorth y bydd eu hangen ar yr unigolyn sy’n gadael gofal er mwyn cyflawni’r nodau addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arnynt â’r awdurdod lleol.

448.       Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc yn gofyn am ofal a chymorth i gwblhau cyfres o gyfleoedd addysg neu hyfforddiant, a bydd angen i awdurdodau lleol asesu eu hanghenion am gymorth cyson yn y cyswllt hwn.  

449.       Mae dyletswyddau’r awdurdod lleol yn parhau gydol yr amser y mae’r person ifanc yn dilyn y rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni. Mae dyletswyddau’r awdurdod lleol wedi’u nodi yn y cynllun llwybr sydd wedi’i adfer.  

 

Pobl ifanc 18-24 oed sy’n gadael gofal

 

450.       Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol barhau i ddarparu gwahanol fathau o Wybodaeth, Cyngor a Chymorth ac arweiniad i bobl ifanc dros 18 oed sy’n pontio o’r byd gofal i drefniadau byw mwy annibynnol.  Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i bobl ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal ar ôl 16 neu 17 oed (‘categori 1’) neu bobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal, neu pobl ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal (a gallant fod yn berthnasol i bobl ifanc categori 5 sydd wedi gadael gofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu bobl ifanc categori 6 nad oeddent yn gymwys i fod yn berson ifanc sy’n gadael gofal, gan ddibynnu ar asesiad yr awdurdod lleol o’u hanghenion).

451.       Mae’r dyletswyddau hyn yn para yn y lle cyntaf nes bod y person ifanc yn cyrraedd 21 oed. Fodd bynnag, mae’r dyletswyddau’n para ar ôl pen-blwydd person ifanc yn 21 oed os yw’n parhau i ddilyn cwrs addysg neu hyfforddiant, ac yn para tan ddiwedd y rhaglen y cytunwyd arni, yn unol â’r hyn a nodwyd yn y cynllun llwybr.

452.       Bydd y rhannau perthnasol o adrannau 109 i 115 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol gyfrannu at y costau sy’n gysylltiedig ag addysg a hyfforddiant hyd at 21 oed. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn berthnasol i bobl ifanc categori 5 a adawodd ofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig neu bobl ifanc categori 6 nad oeddent yn gymwys i fod yn berson ifanc sy’n gadael gofal.

Dyletswyddau

453.       Mae gofynion yr awdurdod cyfrifol i ddarparu cymorth ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed sy’n gadael gofal wedi’u nodi yn adran 109 o’r Ddeddf. Byddant yn parhau i:

·         ddarparu CP ar gyfer y person ifanc

·         adolygu a diwygio’r cynllun llwybr yn rheolaidd

·         cadw mewn cysylltiad.

 

Cynlluniau llwybr ar gyfer y rhai 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal

454.       Bydd y rhai 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal yn parhau i fod â chynllun llwybr. Dylid paratoi’r cynllun yn yr un ffordd â’r cynllun llwybr ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal a bydd yn cynnwys yr un pynciau ac yn cyflawni’r un swyddogaethau.

455.       Fodd bynnag, ni fydd yr awdurdod lleol yn bennaf gyfrifol am gymorth ariannol a chynhaliaeth y person ifanc o hyn ymlaen. Bydd angen i’r cynllun nodi’r gwasanaethau prif ffrwd a chyffredinol (gan gynnwys llety) a fydd yn cael eu darparu i’r person ifanc, a sut maent yn cyfrannu at sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Dylai’r cynllun adlewyrchu dyheadau uchel ar gyfer y person ifanc a rhoi mwy nag un cyfle iddo lwyddo.  

456.       Wrth iddynt aeddfedu a datblygu, dylai’r rhai sy’n gadael gofal allu derbyn mwy o gyfrifoldeb am reoli’r cynllun llwybr. Mae’n bosibl y bydd grymuso pobl ifanc yn golygu bod angen i CP adael i’r rhai sy’n gadael gofal gymryd risgiau, dysgu a thyfu, hyd yn oed os yw hynny’n golygu na fyddant yn llwyddo i gyflawni’r hyn y maent am ei gyflawni. Bydd angen gallu, crebwyll ac ymgysylltu proffesiynol sylweddol ar gyfer hyn, gan ganolbwyntio ar anghenion y person ifanc sy’n datblygu ac yn newid.

457.       Bydd angen i CP sicrhau bod cydbwysedd rhwng peidio ag ymyrryd a mynd ati i ymyrryd er mwyn cynorthwyo person ifanc. Mae’n rhaid i CP fod yn barod i gamu i mewn a sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gofal a’r cymorth priodol i’w galluogi i lwyddo, gan gydnabod hefyd ei bod yn bosibl y bydd angen iddynt fethu weithiau a dysgu o’u camgymeriadau. 

458.       Os nad yw person ifanc 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal yn bwriadu parhau i ddilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant gymeradwy, dylid dod â’r broses gynllunio llwybr i ben os yw pawb yn cytuno, tua’r amser pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed.

459.       Gan ddibynnu a oes gan y person ifanc unrhyw anghenion sydd heb eu diwallu, dylai blwyddyn olaf y cynllun llwybr ganolbwyntio ar ddod o hyd i ffynonellau gofal a chymorth cymunedol y tu allan i wasanaethau pobl ifanc yr awdurdod lleol. O safbwynt y rhai sy’n gadael gofal nad yw eu hanghenion iechyd neu eu hanghenion gofal a chymorth parhaus yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth gan wasanaethau oedolion, dylai’r CP sicrhau bod pob mathau o ofal a chymorth, gan gynnwys gofal a chymorth gan y sector gwirfoddol, yn cael eu nodi a’u hwyluso fel sy’n briodol.

Adolygu cynlluniau llwybr

460.       Mae Rheoliad 6 o’r Rheoliadau CL yn nodi’r trefniadau ar gyfer adolygu cynllun llwybr pob person ifanc sy’n gadael gofal. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol drefnu adolygiad mewn achosion lle mae’r awdurdod lleol neu’r CP yn credu bod hynny’n angenrheidiol, neu os yw’r person ifanc sy’n gadael gofal yn gofyn am adolygiad. Os yw person ifanc categori 2 o dan 18 oed sy’n gadael gofal yn symud i lety nas rheoleiddir (h.y. llety nad yw’n cael ei reoleiddio o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 na’i arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru), mae’n rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf o’r cynllun llwybr mor fuan ag sy’n ymarferol posibl ar ôl 28 diwrnod. Yn ogystal â sicrhau bod y cynllun llwybr yn parhau i ymateb i holl anghenion y person ifanc, un o swyddogaethau hanfodol yr adolygiad hwn fydd cadarnhau bod y person ifanc wedi ymgartrefu yn ei lety a’i fod, yn ymarferol, yn addas i’w anghenion.

461.       Os yw pobl ifanc yn symud mewn ffordd sy’n cael ei chynllunio, bydd angen i’r adolygiad cyntaf benderfynu a fydd angen adolygu’r cynllun llwybr ymhen tri mis, neu a oes adolygiad ar ôl chwe mis yn fwy priodol. Bydd y penderfyniad i gynnal adolygiad yn gynharach yn dibynnu ar asesiad y CP o ba mor agored i niwed yw’r plentyn neu’r person ifanc perthnasol.

462.       Mae’n ymarfer da cynnal adolygiadau yn fuan (28 diwrnod fel arfer) ar ôl i unrhyw newid yn llety’r person ifanc. Bydd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer unrhyw berson ifanc categori 2 o dan 18 oed sy’n gadael gofal, gan fod yr awdurdod lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am lety a chynhaliaeth y grŵp hwn o bobl ifanc, a all fod yn agored iawn i niwed. Mae’r adolygiad cyntaf yn gyfle i gadarnhau bod person ifanc wedi ymgartrefu’n dda mewn llety newydd, ac nid oes angen iddo fod yn rhy ffurfiol. Fodd bynnag, os yw person ifanc yn gadael oherwydd bod ei amgylchiadau yn ansefydlog ac yn ansicr, mae cynnal adolygiad 28 diwrnod ar ôl iddo symud yn gyfle i ddwyn pob asiantaeth ynghyd i graffu ar y dewisiadau ar gyfer dod â sefydlogrwydd yn ôl i fywyd y person ifanc.

463.       Mae’r gofynion uchod ar gyfer adolygiadau yn disgrifio’r cyfnodau hiraf sy’n cael eu caniatáu rhwng adolygiadau. Dylid cynnal adolygiad yn gynharach bob amser os oes risg asesedig y gall argyfwng ddatblygu ym mywyd person ifanc. Diben yr adolygiadau hyn yw sicrhau bod yr holl asiantaethau sy’n cynorthwyo’r person ifanc yn cael cyfle i’w gyfarfod a chytuno ar strategaethau i osgoi unrhyw argyfyngau posibl.  

464.       Er enghraifft, o ystyried y goblygiadau difrifol ar gyfer dyfodol person ifanc, gall yr awdurdod lleol, neu CP person ifanc sy’n gadael gofal, benderfynu bod angen cynnal adolygiad:

·         os yw person ifanc wedi’i gyhuddo o gyflawni trosedd a’i fod mewn perygl o gael ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar, ac o golli ei lety addas yn sgil hynny

·         os yw person ifanc mewn perygl o gael ei droi allan o’i lety neu’n wynebu’r bygythiad o fod yn ddigartref

·         os yw gweithwyr proffesiynol yn pryderu am allu rhianta person ifanc sy’n gadael gofal, ac mae posibilrwydd y bydd ei blentyn ei hun yn dod yn wrthrych cynllun diogelu amlasiantaethol

·         os yw person ifanc yn gofyn am adolygiad o’i gynllun.

 

465.      Mae’n rhaid i’r person ifanc gyfrannu at y trefniadau ar gyfer sut i fynd ati i adolygu a chadeirio’r cynllun llwybr. Gall pobl ifanc awgrymu na ddylid gwahodd rhai gweithwyr proffesiynol allweddol i’r cyfarfod adolygu, ac os felly, dylid parchu’r dymuniadau hynny fel arfer. Fodd bynnag, os nad yw gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud cyfraniad pwysig at y cynllun llwybr yn cael eu gwahodd i’r adolygiad, bydd angen ymgynghori â nhw beth bynnag.  

466.       Dylid annog pobl ifanc i dderbyn mwy o gyfrifoldeb am adolygu eu cynllun llwybr personol, a bydd yn ymarfer da eu cynorthwyo, os ydynt yn dymuno, i gadeirio adolygiadau o’u cynlluniau llwybr eu hunain (gyda chymorth y cadeirydd, os yn briodol).

Cadw cofnodion

467.       Mae Rheoliad 10 o’r Rheoliadau CL yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gadw cofnod ysgrifenedig o’r canlynol:

·         y wybodaeth sy’n dod i law yn ystod asesiad

·         trafodaethau unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd mewn perthynas ag unrhyw elfen o asesiad

·         enwau’r bobl y ceisiwyd sicrhau eu safbwyntiau at ddibenion yr asesiad

·         canlyniad yr asesiad.

468.       Mae’r Rheoliadau CL yn nodi bod rhaid cofnodi’r cynllun llwybr ar ffurf ysgrifenedig, bod rhaid i’r awdurdod lleol gadw cofnod ysgrifenedig o farn y person ifanc, a bod rhaid cofnodi canlyniadau unrhyw adolygiad ar ffurf ysgrifenedig hefyd. Maent hefyd yn cynnwys dyletswydd i gadw cofnod o’r achos, a ddylai gynnwys unrhyw asesiad o anghenion, unrhyw gynllun llwybr, ac unrhyw adolygiad o gynllun llwybr.

469.       Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr a’r asesiad sy’n ei lywio ddarparu cofnod llawn a chywir o anghenion y person ifanc, ynghyd â gwybodaeth benodol am ei ddymuniadau a’i deimladau ynglŷn â’i ddyfodol. Dylid ysgrifennu’r cynllun mewn iaith sy’n hawdd i’w deall i’r person ifanc, a dylai’r person ifanc gael copi o’i gynllun, deall pa weithwyr proffesiynol sydd â’r hawl i’w weld, a gwybod am drefniadau ffeilio a storio diogel yr awdurdod lleol. Yn yr un modd, os oes gan asiantaethau eraill gopi o’u cyfraniad at y cynllun, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod yr asiantaeth yn deall ei chyfrifoldeb i gynnal cyfrinachedd a gwneud trefniadau i sicrhau bod dogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am y rhai sy’n gadael gofal yn cael eu storio yn ddiogel. Bydd angen i awdurdodau eu bodloni eu hunain eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data wrth rannu gwybodaeth. 

470.       Os oes gan bobl ifanc anghenion cymhleth sy’n golygu bod asiantaethau amrywiol yn cyfrannu at eu cynllun llwybr, gall fod yn ddefnyddiol cytuno ar drefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth mewn cyfarfod amlasiantaethol, er mwyn cadarnhau neu adolygu’r cynllun llwybr.

Cadw mewn cysylltiad

471.       Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol barhau i gadw mewn cysylltiad â’r person ifanc. Dylai’r cyswllt hwn ddigwydd yn unol â’r hyn a nodir yn y cynllun llwybr, gan gadw at y cyfnodau penodedig o leiaf.   Mae’n rhaid i rai ymweliadau ddigwydd yn y llety lle mae’r person ifanc yn byw, fel bod y CP yn gallu asesu a yw’r llety yn parhau i fod yn addas. Mae’n bosibl cadw mewn cysylltiad rhwng ymweliadau mewn sawl ffordd - er enghraifft, drwy e-bost, ffôn a negeseuon testun.

472.       Mae’n bwysig bod yr awdurdod lleol yn parchu preifatrwydd person ifanc a’i hawl i wrthod cymorth. Fodd bynnag, bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd o hyd i gadw mewn cysylltiad â pherson ifanc, yn yr un modd ag y gallai rhiant rhesymol geisio ailgysylltu â phlentyn sy’n oedolyn ac sydd wedi’i ddieithrio. Y ffordd orau o sicrhau bod cyswllt yn parhau yw i’r CP sefydlu perthynas gadarnhaol ac ystyrlon gyda’r person ifanc sy’n gadael gofal. Bydd angen i awdurdodau lleol unigol, fel rhieni corfforaethol da, ddatblygu gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion y person ifanc sy’n gadael gofal, gan sicrhau bod y person ifanc yn ymwneud yn llawn â’r broses.  

 

Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

473.       Dylai cynllun addysg personol y person ifanc (sy’n rhan o’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol ar gyfer plenty sy’n derbyn gofal) eisoes cynnwys gwybodaeth am ddyheadau ac uchelgeisiau gyrfa’r person ifanc. Dylid datblygu hyn ymhellach fel rhan o’r broses gynllunio llwybr pan fydd y person ifanc yn troi’n 16 oed. Dylid cynnig profiad gwaith a chyfleoedd eraill i’r rhai sy’n gadael gofal fel y gallant brofi eu dyheadau ac anghenion gyrfa.

474.       Mae’n rhaid sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel ar gael i’r person ifanc hefyd, er mwyn ei helpu i gynllunio unrhyw newid i addysg neu hyfforddiant parhaus, neu i gyflogaeth. Dylai’r cynllun llwybr nodi sut y bydd hyn yn digwydd. Dylai’r cymorth cynllunio gyrfa helpu pobl ifanc i sylweddoli perthnasedd eu hastudiaethau i’w cyfleoedd gyrfa a bywyd yn y dyfodol, a’u hannog i fyfyrio’n rheolaidd ar eu sgiliau, eu cryfderau a’u dyheadau.

475.       Dylai ansawdd y cymorth a ddarperir i’r person ifanc i’w helpu i lwyddo yn y byd addysg a gwneud cynnydd tuag at y llwybr gyrfa o’i ddewis gael ei ystyried fel rhan o’r broses adolygu llwybrau. Bydd hyn yn cynnwys ansawdd y cymorth gan ofalwyr, ysgol, coleg a CP y person ifanc.   

476.       Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt bolisïau a phrosesau ar waith i gefnogi pob person sy’n gadael gofal sy’n ymgymryd â phrentisiaeth, hyfforddeiaeth, cwrs galwedigaethol neu swydd. Dylai’r polisïau hyn ystyried y cymorth ariannol cyffredinol y bydd y person ifanc yn ei dderbyn, gan alluogi’r awdurdod lleol i asesu a oes angen unrhyw gyfraniad ariannol ychwanegol ar y person ifanc gan yr awdurdod.

477.       Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio â Gwasanaethau Ieuenctid a Chynghorwyr Gyrfaoedd i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u hopsiynau a’u hawliau. Dylai adnoddau cynllunio gyrfaoedd gael eu defnyddio, lle y bo’n briodol, i lywio cynlluniau llwybr pobl ifanc.

478.       Mae angen llawer iawn o sefydlogrwydd ar bobl ifanc sy’n ymgymryd â gweithgareddau addysg. Mae’n hollbwysig cynllunio’n gynnar ar gyfer pobl ifanc sy’n ystyried mynychu prifysgol, yn enwedig os ydynt yn symud o’r ardal lle maent yn byw. Mae’n rhaid cytuno ar drefniadau ar gyfer y cyfnod rhwng eu pen-blwydd yn 18 oed a’r adeg pan fyddant yn dechrau eu cyrsiau addysg uwch ymhell cyn iddynt droi’n 18 oed. Mae’n bosibl y bydd angen trefnu i bobl ifanc aros gyda’r teuluoedd sydd wedi’u maethu y tu hwnt i’w pen-blwydd yn 18 oed (gweler Pennod 6 ar ‘Trefniadau byw ôl-18’), ac mae angen gwneud trefniadau ar gyfer gwyliau.

479.       Mae’n rhaid i bobl ifanc wybod pa gymorth ymarferol ac ariannol y byddant yn ei dderbyn gan eu hawdurdodau lleol. O ganlyniad, dylai pob awdurdod roi polisi ysgrifenedig i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal, gan nodi’r cymorth ariannol y byddant yn ei dderbyn wrth gymryd rhan mewn unrhyw addysg bellach neu addysg uwch. Yn ogystal â’r wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i bob person sy’n gadael gofal, fel y’i nodir ym mholisi’r awdurdod cyfrifol, mae’n rhaid darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’r person ifanc gan ffynonellau cyllido myfyrwyr cyffredinol.

480.       Mae’n rhaid parhau i greu cynllun llwybr ar gyfer person ifanc 18 oed a throsodd categori 3 sy’n gadael gofal ac sydd mewn addysg neu hyfforddiant parhaus. Bydd llawer o bobl ifanc yn mynychu prifysgol sy’n bell o’u cartref a’r rhwydweithiau cymorth sydd eisoes ar gael iddynt, felly mae’n rhaid i’r cynllun llwybr nodi’r cymorth ymarferol a fydd ar gael gan awdurdod lleol yr ardal lle maent yn byw fel arfer. Dylai’r cymorth hwn gynnwys lefel ac amlder cyswllt â’u CP. Dylai’r cynllun nodi trefniadau ar gyfer cyfarfod â’r person ifanc yn yr ardal lle mae’n mynychu’r brifysgol. Gall fod yn ddymunol sicrhau bod aelod dynodedig o staff y brifysgol (tiwtor personol y person ifanc sy’n gadael gofal o bosibl) yn mynychu rhai o’r cyfarfodydd hyn, er mwyn sicrhau bod y sefydliad addysg uwch yn ymgysylltu’n llawn â’r broses gynllunio llwybr, a bod y person sy’n gadael gofal yn cael pob cymorth posibl.  

481.       Mae’n rhaid i gynlluniau llwybr bennu trefniadau ar gyfer llety hefyd, gan gynnwys trefniadau ariannol yn ystod y tymor, gwyliau byr a gwyliau hir yr haf. Os nad yw pobl ifanc yn gallu dychwelyd at eu lleoliadau blaenorol, mae’n rhaid darparu llety amgen sefydlog ar eu cyfer sy’n addas i’w hamgylchiadau personol. Gall rhai pobl ifanc ddychwelyd at yr ardal lle roeddent yn byw o’r blaen. Bydd yn well gan eraill aros yn ardal y brifysgol, ac mae llawer o brifysgolion yn darparu llety 52 wythnos erbyn hyn. Mae’n hanfodol cynllunio’n gynnar, waeth pa opsiwn bynnag sy’n cael ei ddewis.  

482.       Os yw pobl ifanc yn parhau â chwrs addysg neu hyfforddiant ar ôl eu pen-blwydd yn 21 oed, mae’n rhaid i’r cynllun llwybr barhau i nodi’r cymorth ymarferol ac ariannol sy’n cael ei ddarparu.

483.       Gan ei bod yn debygol y bydd angen gwybodaeth arbenigol i sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn derbyn cymaint o gymorth â phosibl yn y brifysgol, efallai y bydd awdurdodau lleol eisiau ystyried datblygu rôl CP ddynodedig ar gyfer y grŵp hwn o bobl ifanc. Gellid defnyddio’r rôl i ddarparu’r arbenigedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau bod awdurdod cyfrifol pobl ifanc yn ymweld â nhw a bod eu sefydliad addysg uwch yn rhoi cymorth a chyngor academaidd priodol iddynt.

Cyrsiau ôl-radd

484.       Yn ogystal â darparu cymorth ar gyfer cyrsiau gradd cyntaf, bydd awdurdodau lleol yn awyddus i nodi sut y byddant yn cynorthwyo pobl ifanc i ymgymryd â chyrsiau ôl-radd. Yn dilyn asesiad o anghenion, gall awdurdodau lleol ystyried gwneud cyfraniad at gostau cyrsiau ôl-radd yn ogystal â chynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i gymorth ariannol ac adnoddau i’w galluogi i ymgymryd ag astudiaethau ôl-radd.

Bwrsariaeth Addysg Uwch

485.       Mae rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 116 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol dalu Bwrsariaeth Addysg Uwch untro i bobl ifanc 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal ac sy’n dilyn cwrs addysg uwch yn unol â’u cynllun llwybr. Mae hyn yn ychwanegu at eu dyletswydd i ddarparu cymorth ar gyfer addysg a hyfforddiant o dan y Ddeddf. Mae Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011 yn nodi’r canlynol:

·         y trefniadau talu y mae angen i awdurdodau lleol eu rhoi ar waith

·         swm y bwrsariaeth

·         ystyr addysg uwch at ddibenion penderfynu cymhwysedd ar gyfer bwrsariaeth

·         trefniadau yn ymwneud â phryd y gwneir y taliadau  

·         o dan ba amgylchiadau y caiff taliadau eu dal yn ôl neu eu hadennill gan yr awdurdod lleol.

Prentisiaethau

486.       Dylai awdurdodau lleol weithio gyda’u partneriaid i ddiwallu anghenion cyflogaeth, addysg a hyfforddiant pobl ifanc sy’n gadael gofal yn eu hardaloedd. Dylai cynlluniau llwybr amlinellu sut bydd yr awdurdod lleol yn gwella cyflogadwyedd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn ei ardal. Dylent sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn gwybod am, ac yn manteisio ar gyfleoedd profiad gwaith, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth eraill.

 

Pobl ifanc sy’n gadael gofal sydd angen cymorth arbenigol ychwanegol

487.       Yn ogystal â’r ddarpariaeth gyffredinol a nodir uchod, mae’n bosibl y bydd angen cymorth arbenigol ar rai pobl ifanc sy’n gadael gofal, gan gynnwys:

a)    pobl ifanc anabl

b)    plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches

c)    pobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid sy’n gadael gofal. 

488.       Mae’r adrannau canlynol yn pennu’r trefniadau ar gyfer diwallu anghenion y bobl ifanc hyn.    

 

11.Pobl ifanc anabl sy’n pontio i wasanaethau oedolion   

 

489.       Bydd pobl ifanc anabl yn wynebu llawer o’r un profiadau a heriau â phobl ifanc eraill sy’n gadael gofal. Fodd bynnag, gall pontio i fyd oedolion ar gyfer pobl ifanc anabl sy’n derbyn gofal fod yn arbennig o heriol. Bydd eu gofynion iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn amrywio gan ddibynnu ar natur eu hanabledd, ac yn aml byddant yn dod i gysylltiad ag ieithoedd, arddulliau, disgwyliadau a diwylliannau proffesiynol gwahanol wrth bontio i fyd oedolion.   

490.      Bydd gan bob person ifanc anabl ddyheadau, gobeithion, anghenion a dymuniadau unigol a fydd yn cael eu harchwilio yn ystod y broses asesu o dan Ran 3 o’r Ddeddf. Bydd gan wasanaethau gwahanol eu meini prawf cymhwysedd a mynediad eu hunain, ac mae’n rhaid iddynt gydweithio mewn modd cyfannol, ar sail cyflawni’r amcanion personol a nodwyd yn ystod yr asesiad.    

491.      Mae’n bosibl y bydd angen gwasanaethau parhaus ar bobl ifanc ag anghenion cymhleth sy’n gadael gofal, gan gynnwys pobl ifanc anabl, wrth iddynt bontio i fyd oedolion. Bydd angen i’r cynllun llwybr sicrhau bod y broses o bontio i fyd oedolion yn mynd rhagddi’n ddi-dor a bod cymorth ar gael. Yn ogystal, mae pontio o fyd plentyn i fyd oedolyn yn arwain at newid sylweddol mewn amgylchiadau sy’n golygu bod hawl gan berson ifanc i gael ei anghenion wedi’u hailasesu. Bydd hyn yn golygu bod modd adolygu’r cynllun gofal a chymorth Rhan 6 ac ystyried y canlyniadau personol, sydd wedi newid o bosibl ar yr adeg hon ym mywyd y person ifanc.    

492.      Nid yw cyfrifoldebau awdurdodau lleol ar gyfer pobl ifanc anabl sy’n gadael gofal yn wahanol i’w cyfrifoldebau ar gyfer pobl ifanc eraill sy’n gadael gofal. Oherwydd eu hanghenion ychwanegol, gall rhai pobl ifanc ddefnyddio nifer o wasanaethau, derbyn cymorth gan sawl gweithiwr proffesiynol a bod â chynlluniau lluosog. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y prosesau hyn yn cael eu symleiddio i’r graddau posibl, a bod rolau a chyfrifoldebau yn cael eu trafod â’r person ifanc a’i ofalwyr. Mae rhagor o wybodaeth am y broses gynllunio gofal wedi’i nodi yn y cod ymarfer ar Ran 4 o’r Ddeddf.  

493.       Bydd y cynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn sicrhau bod cynllunio i bontio i fyd oedolion yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i’r person ifanc ar gyfer y dyfodol, ac ar yr hyn sydd angen ei roi ar waith i sicrhau ei fod yn derbyn y cymorth i gyflawni ei amcanion. Mae’n rhaid canolbwyntio ar y person ifanc, gan sicrhau bod aelodau’r teulu, gofalwyr a ffrindiau yn bartneriaid yn y broses o helpu’r person ifanc i wireddu ei botensial. Dylid sefydlu ymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod barn y person ifanc yn cael ei hystyried, a bod modd dileu unrhyw rwystrau sefydliadol a all gyfyngu ar ddatblygiad a dewisiadau personol. Ni ddylid lleoli pobl ifanc anabl sy’n gadael gofal mewn gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli a disgwyl iddynt addasu. Yn benodol, dylai gwasanaethau ymateb i anghenion a dewisiadau person ifanc anabl mewn perthynas â materion fel tai, rhwydweithiau cymdeithasol ac unigrwydd, addysg, cyflogaeth a hamdden.

494.       Dylai CP ac eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc anabl sy’n gadael gofal dderbyn hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu cyfathrebu yn effeithiol â’r bobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion cyfathrebu sylweddol. Dylai eiriolwyr hyfforddedig fod ar gael hefyd i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed a’i hystyried.

Protocolau ar y cyd  

495.       Er mwyn sicrhau bod pontio i fyd oedolion yn brofiad cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd, mae’n rhaid i bob asiantaeth gydweithio a deall rolau, cyfrifoldebau, fframwaith cyfeirio proffesiynol a dyletswyddau cyfreithiol ei gilydd yn ystod y broses bontio. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd ar gyfer pobl ifanc anabl sy’n gadael gofal, mae’n hanfodol bod protocolau a chytundebau penodol yn cael eu llunio yn ardal pob awdurdod lleol, a bod pob asiantaeth yn cyfrannu. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau ym meysydd gofal cymdeithasol, iechyd plant ac iechyd oedolion, addysg, tai, troseddwyr ifanc, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gwasanaethau cyflogaeth â chymorth a gwasanaethau hamdden.  

496.       Bydd angen i ddulliau cynllunio strategol gael eu hadlewyrchu ar lefel weithredol drwy brotocolau. Dylai’r rhain nodi pryd a sut y bydd gweithwyr proffesiynol allweddol yn dod at ei gilydd gyda phobl ifanc i nodi eu hanghenion a chynllunio pecynnau gofal a chymorth unigol. Er mwyn osgoi dyblygu, bydd angen i brotocolau nodi’r berthynas rhwng y broses o gynllunio llwybrau â fframweithiau eraill i gynllunio ar gyfer pobl ifanc anabl sy’n gadael gofal wrth iddynt bontio i fyd oedolion, fel y rhai ar gyfer anghenion addysgol arbennig.    

497.        Bydd cynllunio gofal a chymorth, ochr yn ochr â chynnal asesiadau sy’n seiliedig ar ganlyniadau, yn bwysig wrth i bobl ifanc bontio rhwng gwasanaethau. O dan y Ddeddf, yn hytrach nag ymwneud â defnyddio gwasanaeth penodol, mae cymhwysedd yn ymwneud â sicrhau bod gofal a chymorth ar gael er mwyn sicrhau canlyniadau llesiant pobl. Mae’n rhaid i brotocolau ar y cyd adlewyrchu’r ffaith na fydd polisïau ar sail oed asiantaethau gwahanol yn cyd-fynd o bosibl â realiti’r broses bontio ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal.  Er enghraifft, fel arfer mae pobl ifanc yn pontio o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion pan eu bod yn 16 oed, o addysg ysgol i addysg bellach pan eu bod rhwng 16 a 19 oed, ac i addysg uwch o 18 oed ymlaen. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eithriadau i’r trefniadau cyffredinol hyn, gan fod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) yn darparu gwasanaethau hyd at 18 oed fel arfer, ac na all pobl ifanc â datganiad o anghenion addysgol arbennig drosglwyddo i gymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion tan ddiwedd blwyddyn ysgol 13, pan eu bod yn 19 oed. Dylai protocolau hwyluso dull gweithredu hyblyg, sy’n cydnabod cyfrifoldeb corfforaethol yr asiantaethau amrywiol tuag at bobl ifanc sy’n gadael gofal.    

498.       Os yw’n debygol y bydd angen gofal a chymorth parhaus ar berson ifanc sy’n gadael gofal pan ei fod yn oedolyn ifanc, bydd yn ymarfer da atgyfeirio’r person ifanc yn ffurfiol cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo droi’n 16 oed, er mwyn sefydlu cymhwysedd erbyn ei ben-blwydd yn 18 oed. Dylai protocolau egluro rolau a chyfrifoldebau cyllido asiantaethau gwahanol. Gall defnyddio cyllidebau cyfun ar draws asiantaethau helpu i ddileu rhai o’r rhwystrau sy’n deillio o’r gwahaniaethau posibl rhwng meini prawf cymhwysedd gwasanaethau gwahanol o dan ddeddfwriaeth wahanol. 

499.       Dylai systemau olrhain fod ar waith sy’n seiliedig ar y trefniadau pontio sy’n gysylltiedig â datganiad o anghenion addysgol arbennig person ifanc er mwyn sicrhau bod asiantaethau gofal cymdeithasol, iechyd, addysg ac asiantaethau perthnasol eraill yn ymwybodol o ddarpar ddefnyddwyr gwasanaethau i oedolion o 14 oed ymlaen.

Pobl ifanc anabl sy’n byw y tu allan i’r ardal

500.       Os yw pobl ifanc anabl mewn gofal wedi’u lleoli y tu allan i’w hardal leol, mae awdurdod lleol cartref y bobl ifanc yn parhau i fod yn gyfrifol am eu gofal, eu cymorth a’u haddysg. Bydd y bwrdd iechyd lleol ble mae’r person ifanc wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yn gyfrifol am ei anghenion iechyd bob dydd, ond bydd bwrdd iechyd lleol ardal yr awdurdod lleol sydd wedi lleoli’r person ifanc yn parhau i fod yn gyfrifol am gomisiynu unrhyw wasanaethau iechyd eilaidd.  

501.       Wrth i bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n byw y tu allan i’r ardal droi’n 18 oed, gall cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau newid. Bydd angen i’r awdurdod lleol cartref (neu leoli) sicrhau bod cymorth gadael gofal parhaus yn cael ei ddarparu o dan y Ddeddf. Fodd bynnag, gall cyfrifoldeb am ddarparu gofal a chymorth o dan Ran 4 o’r Ddeddf newid gan ddibynnu ar amgylchiadau personol y person ifanc a’i ddewisiadau llety (neu, mewn achosion priodol, y dewisiadau sy’n cael eu gwneud ar ei ran). Dylai awdurdodau lleol gyfeirio at y canllaw ar ‘breswyliaeth gyffredin’ sydd wedi’i gynnwys yn y cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf.

502.       Dylai asiantaethau perthnasol sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol parhaus fod wedi cyfrannu at gynlluniau pontio yn y blynyddoedd yn arwain at ben-blwydd y person ifanc yn 18 oed er mwyn sicrhau ei fod yn pontio’n ddidrafferth, yn enwedig os yw cyfrifoldeb yn trosglwyddo o un awdurdod lleol i un arall.   

Darpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion

503.       Os oes gan berson ifanc anabl anghenion y gellir eu diwallu drwy gynllun lleoli oedolion (‘rhannu bywydau’ yw enw cyffredin y cynlluniau hyn), gall fod yn briodol i’r cyn gofalwr maeth ddod yn ofalwr lleoliad oedolyn y person hwnnw pan ei fod yn troi’n 18 oed, os yw’n fodlon parhau i weithio fel gofalwr.  

504.       Os yw’n debygol y bydd angen gwasanaethau ar berson ifanc sy’n gadael gofal pan ei fod yn troi’n oedolyn, dylai gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion gyfrannu at y broses gynllunio llwybr o 16 oed ymlaen. Mae’r cod ymarfer o dan Ran 3 o’r Ddeddf sy’n cynnwys canllawiau ar asesiad unigol yn egluro bod pontio i fyd oedolion yn newid sylweddol mewn amgylchiadau, sy’n arwain at hawl am ailasesiad o anghenion. O safbwynt person ifanc sy’n gadael gofal, dylai’r broses bontio hon arwain at ailasesu ac adolygu ei gynllun gofal.

505.      Dylai’r broses o newid y prif weithiwr wrth drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion gael ei rheoli fel rhan o’r broses gynllunio, a bod yn seiliedig ar asesiad sydd wedi’i ddylanwadu gan ddealltwriaeth o amgylchiadau a chanlyniadau personol y person ifanc.   

506.       Os yw pobl ifanc anabl ac agored i niwed yn gadael gofal ac yn pontio i fyd oedolion, ac nad ydynt yn derbyn gwasanaethau fel plant sy’n derbyn gofal, dylai timau gadael gofal a CP awdurdodau lleol sicrhau nad yw pobl ifanc yn colli unrhyw hawliau gadael gofal. Ni ddylai’r rhai sy’n gadael gofal fod ar eu colled yn ariannol drwy drosglwyddo i wasanaeth gwahanol. Dylai cynlluniau llwybr gynnwys gwybodaeth am alluoedd ariannol person ifanc, y lwfansau a’r budd-daliadau y mae’n gallu eu hawlio, a phwy fydd yn ei gynorthwyo i reoli’r lwfansau a’r budd-daliadau.  

(b) Plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches (UASC)

507.      Mae gan blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches (UASC) sy’n pontio o ofal i fyd oedolion statws gadael gofal a statws mewnfudo, yn ogystal ag anghenion o safbwynt lleoliad a llety, addysg ac iechyd, ac anghenion ariannol, crefyddol a diwylliannol. Mae cynllunio pontio i fyd oedolion ar gyfer UASC yn broses hynod gymhleth, ac mae angen ystyried anghenion gofal y person ifanc yng nghyd-destun deddfwriaeth ehangach yn ymwneud â lloches a mewnfudo, a sut mae’r anghenion hyn yn newid dros amser. Gall awdurdodau edrych ar y canllawiau isod wrth gynnal asesiad oedran o Blant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches.  http://www.wsmp.org.uk/documents/wsmp/News%20and%20Events/150330%20Age%20Assessment%20Toolkit%20Final%20July.pdf

 

508.       Dylai cynllun llwybr i helpu UASC i bontio i fyd oedolion gynnwys yr holl faterion sy’n cael eu hystyried yng nghynllun pob person ifanc, yn ogystal ag unrhyw anghenion ychwanegol sy’n deillio o’u materion mewnfudo penodol. Yn y lle cyntaf, mae’n bosibl y bydd angen i’r cynlluniau fod yn seiliedig ar amcanion tymor byr y gellir eu cyflawni, nes bod penderfyniad yn cael ei wneud ar hawl yr unigolyn i aros yn y DU.  

509.       Dylai cynllun llwybr ar gyfer UASC nad oes ganddynt statws mewnfudo parhaus fod yn seiliedig ar y canlynol yn y lle cyntaf:

·         cynllun pontio ar gyfer y cyfnod o ansicrwydd pan fydd y person ifanc yn y DU heb statws mewnfudo parhaus

·         cynllun mwy hirdymor ar gyfer pryd / os yw’r person ifanc yn cael caniatâd hirdymor i aros yn y DU (er enghraifft, drwy gael statws ffoadur)

·         cynllunio i ddychwelyd i’r wlad wreiddiol ar unrhyw adeg briodol neu ar ddiwedd y broses ystyried mewnfudo, os oes angen gwneud hynny oherwydd bod y person ifanc yn penderfynu gadael y DU neu ei fod yn cael ei orfodi i wneud hynny.

 

510.       Dylai’r cynlluniau gael eu datblygu dros amser wrth i statws mewnfudo’r person ifanc gael ei benderfynu. 

511.       Gall y broses o geisio lloches fod yn gymhleth, a dylai gweithwyr cymdeithasol/CP weithio gyda chynrychiolydd cyfreithiol y person ifanc a pherchennog dynodedig yr achos yn Asiantaeth Ffiniau’r DU i sicrhau bod y person ifanc yn deall y broses o geisio lloches a’r canlyniadau posibl, ac i roi’r cymorth gofynnol iddo. 

512.       Gall cais am loches arwain at sawl canlyniad posibl:

·         statws ffoadur wedi’i ganiatáu (h.y. lloches wedi’i ganiatáu)

·         lloches wedi’i wrthod ond diogelwch dyngarol wedi’i ganiatáu

Caniateir hyn fel arfer pan fydd y person mewn perygl o gael ei gam-drin yn y wlad a addawodd, ond nad yw’n bodloni meini prawf y Confensiwn Ffoaduriaid. Mae’n gategori prin ar gyfer UASC.

·         lloches wedi’i wrthod ond caniatâd yn ôl disgresiwn wedi’i roi

Mae hyn ar gyfer tair blynedd fel arfer neu hyd at 17.5 oed, gan ddibynnu ar ba un sy’n dod yn gyntaf. Rhoddir caniatâd yn ôl disgresiwn os nad yw trefniadau gofal a derbyn digonol ar waith adeg y penderfyniad yn y wlad y daw’r unigolyn ohoni (h.y. nid oes modd trefnu iddo ddychwelyd yn ddiogel).

·         lloches wedi’i wrthod a chaniatâd yn ôl disgresiwn heb ei roi

Yn yr achos hwn, mae’n rhaid i’r UASC ddychwelyd i’r wlad y daw ohoni yn wreiddiol.

 

513.       Mae’r rhai sydd angen statws ffoadur, neu mewn achosion prin, diogelwch dyngarol, yn cael caniatâd i aros am bum mlynedd fel arfer. Er nad oes sicrwydd y rhoddir caniatâd pellach i aros ar ddiwedd y pum mlynedd, mae’n debygol iawn y bydd hyn yn digwydd, a dylai’r gwaith o gynllunio gofal a llwybr ganolbwyntio’n bennaf ar gyfnod preswylio mwy hirdymor yn y DU, fel sy’n digwydd ar gyfer unrhyw un arall sy’n gadael gofal.   

514.       Mae gan bobl ifanc sy’n cael caniatâd yn ôl disgresiwn y cyfle i wneud cais am ymestyn y caniatâd hwn ar ôl tair blynedd neu wrth gyrraedd 17.5 oed.    

515.       Gall cynllunio i ddychwelyd adref fod yn anodd, ond dylai cynlluniau gofal a llwybr gynnwys cynlluniau hyblyg wrth gefn sydd er budd pennaf UASC a phobl ifanc sy’n debygol o orfod dychwelyd i’r wlad y maent yn dod ohoni. Dylai cynlluniau llwybr ystyried y goblygiadau ar gyfer y person ifanc os gwrthodir ei gais i ymestyn ei ganiatâd i aros, neu ei apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd y person yn preswylio’n anghyfreithlon yn y DU a disgwylir iddo wneud cynlluniau i ddychwelyd i’r wlad y mae’n dod ohoni. Mae gan Asiantaeth Ffiniau’r DU ddyletswydd statudol i ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, a gall data personol perthnasol gael ei rhannu â’r Asiantaeth i’w helpu i gyflawni ei dyletswydd. Bydd angen cydweithio â’r Asiantaeth wrth reoli trefniadau dychwelyd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd sensitif a thrugarog.

Mynediad i arian cyhoeddus, budd-daliadau lles a mathau eraill o gyllid cyhoeddus

516.       Dylai cymorth ariannol ar gyfer UASC adlewyrchu eu hanghenion fel pobl ifanc sy’n derbyn gofal (pobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal, gan symud i berson ifanc o dan 18 oed neu 18 oed a throsodd sy’n gadael gofal) a’u hanghenion mewnfudo. Dylai polisïau ariannol nodi eu hawlogaethau a dangos sut gall eu statws mewnfudo effeithio ar hawlogaethau presennol a rhai’r dyfodol.   

517.       Dylai cynlluniau llwybr fynd i’r afael â threfniadau ariannu ar gyfer addysg a hyfforddiant, a sut gall statws mewnfudo person ifanc gyfyngu ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

518.       Dylai cynlluniau llwybr ystyried y goblygiadau ar gyfer y person ifanc os gwrthodir ei gais i ymestyn ei ganiatâd i aros, neu os gwrthodir ei apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais hwnnw. Mewn achosion o’r fath, gall y person fod yn anghymwys ar gyfer rhagor o gefnogaeth a chymorth oherwydd effaith Atodlen 3 Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002.

(c) Pobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid sy’n gadael gofal

519.       Er bod awdurdodau lleol yn bennaf gyfrifol am bobl ifanc sy’n gadael gofal, mae ganddynt hawl i ddisgwyl cymorth gan asiantaethau partner, gan gynnwys Timau Troseddwyr Ifanc (YOTs) ar gyfer y rhai o dan 18 oed sy’n gadael gofal, a Gwasanaethau Prawf ar gyfer y rhai dros 18 oed.

520.       Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr â’r cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf, sy’n ymdrin â’r rhai sy’n cael eu cadw mewn sefydliad diogel. Mae plant a phobl ifanc sydd mewn llety cadw ieuenctid neu gartref plant diogel ar ôl cael eu collfarnu a’u dedfrydu yn y system cyfiawnder troseddol yn cael eu hystyried yn gyfrifoldeb ardal yr awdurdod lleol yng Nghymru lle maent dan gadwad.

521.       Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys y Tîm Troseddwyr Ifanc a’r Gwasanaeth Prawf, a darparwyr lleol darpariaeth ddiogel, wrth lunio ei bolisïau a’i ganllawiau ar wasanaethau gadael gofal ac ôl-ofal. Mae’n hanfodol bod polisïau gadael gofal strategol a gweithredol awdurdodau lleol yn cynnwys ymateb cynhwysfawr i bobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n ymwneud â gwasanaethau cyfiawnder troseddol a/neu sydd dan gadwad.  

522.       Mae’n rhaid i wasanaethau gadael gofal awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn sefydlu perthynas waith adeiladol â gwasanaethau cyfiawnder troseddol lleol. Bydd hyn yn sicrhau, ym mhob achos, bod y cysylltiadau priodol yn cael eu gwneud rhwng cynlluniau llwybr a chynlluniau sy’n atal pobl ifanc rhag troseddu, eu cefnogi pan eu bod yn cael eu cadw, neu eu goruchwylio yn y gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Ymateb i ymddygiad troseddol

523.       Os yw person ifanc o dan 18 oed sy’n gadael gofal yn cael ei arestio, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod y person ifanc yn cael cymorth oedolyn priodol a/neu gyfreithiwr sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol pan fo’r person ifanc yn yr orsaf heddlu.

524.       Mewn rhai achosion, bydd person ifanc sy’n gadael gofal yn cael ei gyhuddo o gyflawni trosedd, ac mae’n bwysig nad yw’n cael ei roi o dan anfantais drwy wrthod mechnïaeth iddo ar sail ei statws. Mae’n rhaid i’r llys deimlo’n hyderus y bydd y person ifanc yn cael cymorth i gadw at unrhyw amodau mechnïaeth a’i fod yn byw mewn llety addas. Dylai awdurdodau lleol gydweithio â’r Tîm Troseddwyr Ifanc a’r Gwasanaeth Prawf i ddatblygu rhaglenni cymorth mechnïaeth priodol a chynlluniau llety arbenigol, er mwyn sicrhau bod dewisiadau amgen hyfyw ar gael i lety diogel.  

525.       Bydd yn hanfodol sicrhau bod cymorth gadael gofal parhaus (fel y’i diwygiwyd gan Ran 11 o’r Ddeddf a’r Rheoliadau er mwyn ystyried cyfrifoldeb gorgyffwrdd yr awdurdod lleol a’r gwasanaeth cyfiawnder troseddol) ar gael i’r rhai dan 18 oed sy’n gadael gofal os cânt eu collfarnu a’u dedfrydu i ddedfryd gymunedol, neu eu carcharu. Bydd y grŵp hwn o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn arbennig o agored i niwed, a bydd angen i’r awdurdod cyfrifol ddarparu gofal a chymorth penodol sydd wedi’u cynllunio’n ofalus.

526.       Os yw rhywun sy’n gadael gofal yn cael ei gollfarnu o drosedd, dylai’r CP ddarparu gwybodaeth i’r gweithiwr sy’n gyfrifol am gwblhau’r asesiad risg cyfiawnder troseddol (Asset ar gyfer y rhai o dan 18 oed, System Asesu Troseddwyr ar gyfer y rhai dros 18 oed). Dylai hefyd ddarparu gwybodaeth berthnasol ar gyfer yr adroddiad cyn dedfrydu, a gaiff ei ddefnyddio gan y llys wrth benderfynu ar ddedfryd briodol. Dylid rhoi ystyriaeth benodol i’r ffactorau a fydd yn gwneud y person ifanc yn arbennig o agored i niwed os yw’n cael dedfryd o garchar/ei gadw, a’u cynnwys yn yr adroddiad.

Plant sy’n cael eu cadw yn yr ystâd ddiogeled, neu’n cael eu remandio i’r ystâd ddiogeled

527.       Mae Rhan 11 o’r Ddeddf (adrannau 185-188) yn addasu rhai dyletswyddau sydd gan awdurdod lleol tuag at y rhai sy’n cael eu cadw yn yr ystâd ddiogeled mewn perthynas ag asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth y grwpiau canlynol:

·         oedolion yn yr ystâd ddiogeled yng Nghymru 

·         plant sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n cael eu cadw yn yr ystad ddiogeled, naill ai yng Nghymru neu Loegr

·         rhai plant sy’n preswylio fel arfer yn Lloegr ond sy’n cael eu lleoli yn yr ystad ddiogeled yng Nghymru [6].

528.       Mae darpariaethau’r Ddeddf yn berthnasol i bob oedolyn a phlentyn yn yr ystad ddiogeled ac eithrio’r darpariaethau yn adrannau 185-187. Mae effaith y darpariaethau hyn ar berson ifanc yn yr ystad ddiogeled yn cynnwys y canlynol:

·         nid yw’n gallu bod yn ofalwr os yw’n cael ei gadw mewn llety cadw ieuenctid

·         nid yw’n gallu derbyn taliadau uniongyrchol tuag at gost ei anghenion gofal a chymorth os yw mewn llety cadw ieuenctid

·         nid yw’n gallu mynegi dewis ar gyfer llety tra ei fod yn cael ei gadw, ond byddai’n gallu mynegi dewis ar gyfer llety ar ôl cael ei ryddhau (yn amodol ar unrhyw asesiadau risg a darpariaethau trwyddedu)

·         nid oes modd diogelu ei eiddo tra ei fod mewn llety cadw ieuenctid.

 

529.       Mae’n bwysig nodi y bydd pob asiantaeth sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn yr ystad ddiogel yn cael eu hannog i weithio gyda rhieni a gofalwyr y bobl ifanc, a’u cynnwys mewn unrhyw benderfyniadau a threfniadau cynllunio lle bo hynny’n briodol.

Cyfrifoldebau awdurdodau lleol

 

530.       Mae’r Ddeddf wedi egluro pwy sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth personau sy’n cael eu cadw. Bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfrifol am asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth plant a phobl ifanc ‘berthnasol’ yn yr ystad ddiogeled, ble bynnag maent wedi’u lleoli yn yr ystad ddiogeled. Os yw’r plentyn neu’r person ifanc wedi preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol, neu ei fod wedi derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw, bydd yr awdurdod lleol yn gyfrifol am y person ifanc hwnnw, a chyfeirir at hyn fel ‘awdurdod lleol cartref Cymru’. Mae adran 186 (1) o’r Ddeddf yn nodi’r meini’r prawf ar gyfer penderfynu  pwy sy’n blentyn ‘perthnasol’. Bydd plentyn neu berson ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol oherwydd gorchymyn gofal o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989 yn cadw ei statws fel plentyn sy’n derbyn gofal, a bydd gan ei awdurdod lleol cartref[7] ddyletswyddau tuag ato o hyd, er bod y dyletswyddau’n cael eu haddasu gan ddarpariaethau Rhan 11 o’r Ddeddf a’r Rheoliadau.

 

531.       Mae Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2012, yn nodi bod angen trin unrhyw berson ifanc sydd wedi’i remandio i lety cadw ieuenctid fel person ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod dynodedig. Mae hyn yn golygu bod gan bob person ifanc sy’n cael ei remandio’n ddiogel i lety cadw ieuenctid hawl i statws ‘person ifanc sy’n derbyn gofal’ (p’un ai a oedd yr awdurdod lleol yn ymwneud â’i achos cyn hynny ai peidio).

 

Pobl ifanc dan gadwad sy’n gadael gofal

 

532.       Mae unrhyw blentyn 16 neu 17 oed:

·         sydd dan gadwad neu yn yr ysbyty wrth droi’n 16 oed, ac

·         a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod o 13 wythnos o leiaf, gan ddechrau ar ôl iddo droi’n 14 oed, yn union cyn cael ei gadw neu ei dderbyn i ysbyty

·         yn ‘berson ifanc categori 2’ sydd â’r hawl i gymorth gadael gofal parhaus.

 

533.       At ddibenion y cod hwn, ystyr ‘dan gadwad’ yw dan gadwad mewn canolfan hyfforddi ddiogel, cartref diogel i blant, sefydliad troseddwyr ifanc neu unrhyw sefydliad arall sy’n deillio o orchymyn llys.

 

534.       Bydd pobl ifanc sydd wedi cwblhau dedfryd o garchar yn cael eu goruchwylio ar ôl cael eu rhyddhau. Y Tîm Troseddwyr Ifanc sy’n gyfrifol am oruchwylio pobl ifanc dan 18 oed neu’r rhai sy’n cwblhau Gorchymyn Cadw a Hyfforddi. Y Gwasanaeth Prawf sy’n gyfrifol am oruchwylio’r rhai dros 18 oed sydd wedi cwblhau dedfryd Adran 90, 91, 226 neu 228 ar gyfer trosedd ddifrifol o dan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000. Bydd y Tîm Troseddwyr Ifanc a’r Gwasanaeth Prawf yn awyddus i sicrhau nad yw’r bobl ifanc hyn yn aildroseddu. Wrth geisio cyflawni’r amcan hwn, dylent fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol pobl ifanc a’i ganlyniadau, yn ogystal â’u datblygiad i fod yn oedolion cryf a chyfrifol.

 

 

 

535.      Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr ar gyfer person ifanc categori 2 o dan 18 oed sy’n gadael gofal barhau pan fydd yn cael ei roi dan gadwad[8]. Mae’n rhaid ymweld â’r person ifanc yn rheolaidd, ac mae’n ymarfer da sicrhau bod yr ymweliad cyntaf yn digwydd o fewn deg diwrnod gwaith i’r lleoliad. Ni ddylai un o weithwyr y Tîm Troseddwyr Ifanc ymweld â’r person ifanc o reidrwydd. Dylai’r sefydliad hwyluso’r ymweliadau, a dylai CP gael yr un statws ag ymwelwyr cyfreithiol. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol gydweithio â’r gwasanaethau cyfiawnder troseddol i roi cymorth emosiynol, ymarferol ac ariannol i’r person ifanc tra ei fod dan gadwad. Hefyd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyfrannu at y cynllun i adsefydlu’r person ifanc ar ôl ei ryddhau. Os oes modd, bydd yn ymarfer da cwblhau adolygiad o’r cynllun llwybr o leiaf mis cyn rhyddhau’r person ifanc, fel bod digon o amser ar gyfer cynllunio cyn ei ryddhau. Dylid cwblhau adolygiad ar gyfer pob person ifanc categori 2 o dan 18 sy’n gadael gofal, ac eithrio mewn achosion eithriadol.

536.       Dylai cynllun llwybr fod ar waith i sicrhau bod y person ifanc yn gallu symud i lety addas, ar ôl derbyn y cymorth priodol, wrth gael ei ryddhau.

537.       Os yw plentyn sy’n derbyn gofal neu berson ifanc categori 2 o dan 18 oed sy’n gadael gofal yn cael ei remandio neu ei roi dan gadwad, mae’n debyg y bydd angen y camau canlynol i sicrhau ei fod yn llwyddo i gael llety addas wrth gael ei ryddhau:

 

  1. Dylid cysylltu ar unwaith â darparwr llety’r person ifanc i drafod y dewisiadau.
  2. Dylid cysylltu hefyd â gwasanaeth cyngor ar dai a/neu wasanaeth digartrefedd yr awdurdod lleol i gael cyngor arbenigol ar ddewisiadau’r person ifanc.
  3. Os yw’r person ifanc yn cael ei remandio neu’n bwrw tymor byr dan gadwad, dylid ystyried cadw llety’r person ifanc fel y gall ddychwelyd ato ar ôl cael ei ryddhau.
  4. Os nad yw hyn yn ymarferol nac yn briodol, dylid rhoi camau ar waith yn syth i ildio’r llety yn unol â gofynion y cytundeb tenantiaeth neu drwydded, gan gasglu a storio eiddo personol y person ifanc. Bydd hyn yn atal ôl-ddyledion rhent a/neu’n atal y landlord rhag meddwl bod y tenant wedi gadael, sy’n gallu arwain at y person ifanc yn cael ei droi allan yn ei absenoldeb ynghyd â dewisiadau tai mwy cyfyngedig pan gaiff ei ryddhau, a dyledion mawr.
  5. Os yw llety blaenorol y person ifanc wedi’i ildio neu ei golli, dylid dod o hyd i lety amgen ar gyfer y person ifanc pan gaiff ei ryddhau. Ni fydd modd cynllunio ar gyfer anghenion ehangach pobl ifanc sy’n gadael gofal, gan gynnwys cynllunio’r cymorth a fydd ei angen arnynt i’w hatal rhag troseddu eto, oni bai bod sylfaen sefydlog wedi’i sicrhau ar eu cyfer.  

 

538.             Cyn gynted ag y bo modd, ac o fewn 14 diwrnod i ryddhau person ifanc os oes modd, mae’n rhaid i unigolyn categori 2 sy’n gadael gofal wybod:

 

539.             Mae’n hollbwysig sicrhau eglurder ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am bob elfen o gynllun y person ifanc, a’r trefniadau ar gyfer cyfathrebu a gorfodi. Dylai’r awdurdod lleol gofnodi’r trefniadau hyn fel rhan o’r cynllun llwybr a rhoi copi i’r person ifanc, swyddog goruchwylio’r Tîm Troseddwyr Ifanc, y sefydliad sy’n cadw’r person ifanc, ac asiantaethau eraill sy’n cynorthwyo’r person ifanc ar ôl iddo gael ei ryddhau, gan gynnwys ei deulu lle bo hynny’n briodol.

Cymorth cymunedol

540.        Mae’n rhaid i wasanaeth gadael gofal yr awdurdod lleol barhau i gyfrannu at fywyd y person ifanc yn ystod y cyfnod goruchwylio gan y Tîm Troseddwyr Ifanc / y Gwasanaeth Prawf. Mae rôl y gwasanaeth hwnnw yn wahanol ac yn fwy eang na rôl swyddog goruchwylio’r Tîm Troseddwyr Ifanc neu’r swyddog prawf, y bydd eu cyfraniad yn seiliedig ar hyd unrhyw orchymyn ac ymddygiad troseddol y person ifanc sy’n gadael gofal, yn hytrach na’i anghenion ehangach.  

541.          Mae pobl ifanc yn agored i niwed yn y dyddiau cynnar ar ôl eu rhyddhau, ac mae angen cymorth emosiynol ac ymarferol sylweddol arnynt er mwyn:  

542.          Mae’n ymarfer da gwneud rhai penodiadau ar y cyd gyda’r bobl ifanc sy’n gadael gofal, swyddog goruchwylio’r Tîm Troseddwyr Ifanc/y swyddog prawf, a’r CP dynodedig, fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ac mae’r person ifanc yn cael gwasanaeth integredig.  

543.          Dylai’r CP a swyddog goruchwylio’r Tîm Troseddwyr Ifanc/y swyddog prawf hysbysu ei gilydd am ddigwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw newidiadau mewn darpariaeth gwasanaethau neu gynlluniau. Tra bod y person ifanc sy’n gadael gofal yn parhau i gael ei oruchwylio gan y gwasanaethau cyfiawnder troseddol, bydd yn ymarfer da cynnwys swyddog goruchwylio’r Tîm Troseddwyr Ifanc/y swyddog prawf yn y gwaith o adolygu’r cynllun llwybr.

544.          Bydd yn bwysig cynnwys y person ifanc wrth benderfynu pwy ddylai gyfrannu at ei adolygiad. Fodd bynnag, os yw’r person ifanc yn penderfynu hepgor swyddog goruchwylio’r Tîm Troseddwyr Ifanc/y swyddog prawf, bydd angen i’r CP ddeall a chytuno â’r rhesymau am hyn, yn enwedig mewn achosion lle nad yw’r person ifanc yn oedolyn yn ôl y gyfraith.

 

Cynllunio a threfnu llety addas ar gyfer pontio i fyw’n annibynnol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal

545.       Pan fydd pobl ifanc yn gadael eu lleoliad gofal, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod eu cartref newydd yn addas i’w hanghenion ac yn gysylltiedig â’u cynlluniau a’u dyheadau ehangach – er enghraifft, ei fod o fewn cyrraedd eu sefydliad addysg neu eu swydd. Yn aml, bydd symud yn uniongyrchol o leoliad gofal i fyw yn annibynnol yn gam rhy fawr i bobl ifanc. Felly, bydd yn ymarfer da i awdurdodau lleol gomisiynu amrywiaeth o ddewisiadau byw’n lled-annibynnol a byw’n annibynnol gyda chymorth priodol – er enghraifft, cynlluniau llety â chymorth, tŷ llety  â chymorth, a mynediad i denantiaethau annibynnol yn y sector tai cymdeithasol a thai rhent preifat gyda chymorth hyblyg.Dylai gwasanaethau cymdeithasol ac adrannau tai fod â phrotocolau ar y cyd ar gyfer asesu a diwallu anghenion llety pobl ifanc sy’n gadael gofal. Dylai’r gwaith hwn gynnwys cynllunio strategol dewisiadau tai priodol hefyd. Bydd angen iddynt ddiwallu anghenion pobl ifanc 16 a 17 oed sydd y tu allan i’r system ofal ond y mae eu hanghenion wedi’u hasesu o dan Ran 3 o’r Ddeddf ac y mae eu llesiant yn debygol o gael ei niweidio’n ddifrifol oni ddarperir llety ar gyfer y plentyn yn unol ag adran 76(3). Rhoddir blaenoriaeth i’r ddeddfwriaeth hon tros Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wrth ddiwallu anghenion pobl ifanc 16 a 17 oed sy’n ddigartref. 

546.       Mewn perthynas ag anghenion llety pobl ifanc sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar, bydd angen darllen yr adrannau canlynol ochr yn ochr â’r cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 11 o’r Ddeddf hefyd.

Cynllunio strategol a phartneriaethau

547.       O dan y Ddeddf, gall awdurdod lleol ofyn i amrywiaeth o awdurdodau eraill, gan gynnwys awdurdod tai, ei helpu i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Mae’n rhaid i’r awdurdodau eraill gydymffurfio â’r cais ar yr amod ei fod yn gydnaws â’u dyletswyddau statudol eu hunain a’u hymrwymiadau eraill, ac na fyddai’n effeithio’n ormodol ar eu swyddogaethau eu hunain.

548.       Bydd angen i wasanaethau plant yr awdurdod lleol weithio gyda strategaeth tai, dewisiadau tai, swyddogaethau cymorth tai a phartneriaid eraill i sicrhau bod amrywiaeth o ddewisiadau tai a chymorth addas ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal, a sicrhau’r canlyniadau canlynol ar gyfer pobl ifanc:

                 

·         cynllunio i symud tuag at annibyniaeth, gan ddefnyddio llwybrau llety a chymorth clir a hyblyg ar gyfer pob person ifanc sy’n gadael gofal

 

·         cynnal neu ddatblygu cymorth teuluol lle bo hynny’n ddiogel ac yn briodol

 

·         gofal a chymorth parhaus i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cynnal eu llety, ac ymyrraeth gynnar os yw pethau’n dechrau mynd o chwith

 

·         pecyn gofal a chymorth personol, sy’n seiliedig ar asesiad llawn o anghenion ac yn cynnwys pob asiantaeth berthnasol, er mwyn helpu pobl ifanc i wireddu eu dyheadau a phontio’n llwyddiannus i fyd oedolion

 

·         mynediad i lety saff, diogel a phriodol os, mewn achosion eithriadol, mae trefniadau llety yn mynd o chwith, cyn dychwelyd yn gyflym at wasanaethau tai a gwasanaethau gofal a chymorth mwy sefydlog.

 

549.       Dylai gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ymgysylltu â swyddogaeth tai strategol yr awdurdodau lleol. Dylid ystyried yr anghenion llety a gofal a chymorth a ragwelir ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal, ochr yn ochr ag anghenion pobl ifanc eraill sy’n byw yn yr ardal, yn y strategaethau a’r cynlluniau canlynol (os ydynt ar gael):

 

550.       Dylai gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ddarparu data a gwybodaeth am nifer y bobl ifanc a fydd yn gadael gofal yn ystod oes y strategaethau a’r cynlluniau, ynghyd â’u hanghenion tebygol, ochr yn ochr â dadansoddiad mwy ansoddol o anghenion yn ymwneud â phobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn llywio’r strategaethau a’r cynlluniau hyn.

Comisiynu gwasanaethau tai a chymorth

551.       Dylid sefydlu cysylltiadau da rhwng trefniadau comisiynu gwasanaethau plant a gwasanaethau cymorth tai, er mwyn helpu i ddarparu amrywiaeth o ddewisiadau llety a chymorth sy’n seiliedig ar anghenion a nodir. Dylai partneriaid helpu i sicrhau bod adnoddau ar y cyd yn cael eu defnyddio’n effeithiol ar gyfer cynllunio a chomisiynu gwasanaethau llety a chymorth ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy’n gadael gofal. Gall gwasanaethau sy’n cael eu cynllunio a’u sicrhau ar y cyd gynnwys prosiectau llety â chymorth, gwasanaethau cymorth fel y bo’r angen, tŷ llety â chymorth, a darpariaeth arbenigol.

Protocolau ar y cyd

552.       Dylai awdurdodau lleol wneud trefniadau a chynlluniau i gefnogi pobl ifanc sy’n pontio i fyw’n annibynnol mewn cytundebau ffurfiol rhwng yr asiantaethau perthnasol, y cyfeirir atynt yn y canllaw hwn fel protocolau ar y cyd.

553.      Mae protocolau ar y cyd yn galluogi partneriaid i ddeall eu rolau a mynd ati’n fwy effeithiol i gydweithio, gan arwain at fwy o dryloywder a chanlyniadau gwell i bobl ifanc. Er mwyn cydnabod hyn, mae’r Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bennu’r prosesau sy’n sylfaen i gydweithio a rhannu gwybodaeth yn yr awdurdod hwnnw.

Dylai’r protocol ar y cyd sefydlu trefniadau ar gyfer y canlynol:

554.       Dylai’r protocol ar y cyd hefyd bennu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â phob person ifanc, ei CP a staff gwasanaethau tai mewn perthynas â dewisiadau tai addas ac unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen, fel bod y trefniadau gofynnol ar waith pan fydd y person ifanc yn barod i symud ymlaen o’i leoliad gofal. Dylid cynllunio unrhyw symudiad sy’n dilyn yn ofalus hefyd.

Llety addas

555.       Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu llety addas ar gyfer pobl ifanc categori 2 dan 18 oed sy’n gadael gofal, neu eu cynnal mewn llety o’r fath.

556.       Mae rheoliad 9(2) o Reoliadau Ymadwyr Gofal (Cymru) 2015 yn diffinio llety addas fel llety:   

·         sydd, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer y person ifanc o ystyried ei anghenion, gan gynnwys ei anghenion iechyd

·         y mae’r awdurdod lleol cyfrifol wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef, ynglŷn â chymeriad ac addasrwydd y landlord neu ddarparwr arall

·         y mae’r awdurdod lleol cyfrifol (i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol) wedi ystyried dymuniadau a theimladau, ac anghenion addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth y person ifanc.

 

557.       Wrth benderfynu a yw llety yn addas, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y materion a nodwyd yn Atodlen 3 i Reoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015.

558.       Ni ddylid darllen yr Atodlen hon fel rhestr wirio yn unig. Wrth werthuso addasrwydd eiddo penodol, mae’n bosibl na fydd awdurdod lleol yn fodlon bod y llety yn ‘addas’ mewn perthynas â phob ffactor. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd eiddo mewn lleoliad delfrydol, tra y bydd ‘fforddiadwyedd’ yn cael ei ddylanwadu gan y lleoliad a newidiadau yn amgylchiadau ariannol y person ifanc.

 

559.       Bydd angen i wasanaethau gadael gofal roi trefniadau ar waith ar gyfer gwirio addasrwydd cyn bod person ifanc yn symud i eiddo. Dylai gwasanaethau sefydlu perthynas waith dda â gwasanaethau tai ac amgylcheddol lleol fel bod cyngor a chymorth ar gael wrth gyflawni’r dasg hon. Yn ymarferol, dylai’r broses sicrhau bod modd gwneud penderfyniadau ar fyr rybudd, fel bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn llwyddo i gael eiddo oes oes cystadleuaeth ar gyfer y llety, er enghraifft.

 

560.       Os yw’r broses o wirio addasrwydd llety yn datgelu’r angen am welliannau er mwyn sicrhau bod safon yr eiddo yn addas, mae’n bosibl y bydd angen trefnu i wneud y gwelliannau ar ôl dod o hyd i’r eiddo ar gyfer y person ifanc. Er enghraifft, gall yr awdurdod gynorthwyo’r person ifanc i addurno’r eiddo neu ddarparu cyllid i wella ei ddiogelwch. Yn yr un modd, mae’n rhaid i bobl ifanc dderbyn gwybodaeth drylwyr am sut i gael cymorth os oes problemau’n codi gyda’u llety.  

 

561.       Oherwydd anghenion amrywiol pobl ifanc sy’n gadael gofal a’r modd y bydd yr anghenion hyn yn newid dros amser, bydd angen amrywiaeth o ddewisiadau llety lled-annibynnol ac annibynnol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal, gan gynnwys o bosibl:

·         galluogi pobl ifanc i aros yn y llety lle roeddent yn byw pan oeddent yn derbyn gofal – er enghraifft, drwy newid lleoliad maethu i fod yn drefniant neu dŷ llety â chymorth ôl-18

·         tŷ llety â chymorth, ac eithrio gyda chyn gofalwyr

·         mathau eraill o dai â chymorth, gan gyfuno llety â chymorth a chyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

·         fflatiau hyfforddi lle mae pobl ifanc yn gallu ‘ymarfer’ byw yn fwy annibynnol heb effeithio ar eu dewisiadau tai ar gyfer y dyfodol

·         llety arbenigol – er enghraifft, llety annibynnol gyda chymorth personol, neu leoliadau therapiwtig ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymorth penodol fel anableddau corfforol ac anawsterau iechyd meddwl

·         llety annibynnol yn y sector rhentu cymdeithasol neu’r sector rhentu preifat, gyda chymorth hyblyg fel y bo’r angen

·         byw gyda theuluoedd biolegol

·         trefniadau byw ôl-18, lle y gall pobl ifanc aros gyda’u gofalwyr maeth ar ôl 18 oed a hyd at 21 oed (sef trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’) – gweler Pennod 6 o’r cod hwn.   

 

Tŷ llety â chymorth

562.       Nid oes gan y term ‘tŷ llety â chymorth’ unrhyw ddiffiniad ffurfiol neu fframwaith rheoleiddio rhagnodedig, ond fel arfer mae gwasanaethau tŷ llety â chymorth yn rhannu nodweddion allweddol cyffredin. Maent yn darparu llety ar gyfer person ifanc mewn cartref teulu, lle bydd gan y person ifanc rywfaint o annibyniaeth. Bydd ganddo ei ystafell ei hun a bydd yn rhannu’r gegin a’r cyfleusterau ystafell ymolchi gyda’r teulu neu’r deiliad tŷ (neu’r sawl sy’n lletya plant/pobl ifanc). Gall y rhai sy’n lletya plant/pobl ifanc fod yn deuluoedd, cyplau neu bobl sengl.

563.       Prif amcan tŷ llety â chymorth yw darparu amgylchedd aelwyd â chymorth sy’n galluogi person ifanc i ddatblygu sgiliau ymarferol, emosiynol a chysylltiadau a fydd yn sicrhau ei fod yn pontio’n llwyddiannus o ofal i annibyniaeth a byd oedolion. Dylid ei ystyried yn un o’r dewisiadau llety amrywiol sydd ar gael i bobl ifanc er mwyn eu paratoi ar gyfer annibyniaeth a byd oedolion.

564.       Fel comisiynwyr a/neu ddarparwyr tŷ llety â chymorth, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau clir ar waith sy’n nodi:

·         meini prawf asesu a chymeradwyo ar gyfer gofalwyr neu’r rhai sy’n lletya

·         natur a lefel y cymorth ar gyfer gofalwyr neu’r rhai sy’n lletya

·         cymorth ariannol ar gyfer y rhai sy’n lletya

·         meini prawf atgyfeirio a pharu pobl ifanc â gofalwyr neu’r rhai sy’n lletya

·         disgwyliadau gofalwyr neu’r rhai sy’n lletya a phobl ifanc

·         fframweithiau diogelu

·         trefniadau ariannol (pobl ifanc 16 a 17 oed a phobl ifanc 18 oed a throsodd)

·         yr hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer gofalwyr neu’r rhai sy’n lletya

·         y fframweithiau treth incwm, yswiriant gwladol a budd-daliadau lles sy’n effeithio ar daliadau sy’n cael eu gwneud i ofalwyr neu’r rhai sy’n lletya. 

 

Tai â chymorth 

565.       Gall tai â chymorth fod yn gyfle i bobl ifanc fyw yn fwy annibynnol gyda phobl eraill o’u cwmpas (staff a phobl ifanc). Mae hefyd yn gyfle iddynt dderbyn cymorth i ddatblygu sgiliau byw yn annibynnol a gweithio tuag at eu hamcanion ym meysydd addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a meysydd bywyd eraill. Mae’r cynlluniau yn amrywio’n fawr - er enghraifft, o safbwynt nifer y bobl sy’n byw yno, natur y llety ei hun (annibynnol neu gyda chyfleusterau sy’n cael eu rhannu), lefel y cymorth a ddarperir a hyd ddisgwyliedig yr arhosiad.

566.       Os yw awdurdodau lleol yn defnyddio llety â chymorth heb ei reoleiddio ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed, dylent sicrhau bod pob darparwr yn cael ei wirio a’i gymeradwyo yn unol â’r safonau gofynnol drwy’r llwybrau hyn neu lwybrau eraill.

Llety annibynnol

567.       Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd byw’n annibynnol yn golygu bod y person ifanc yn dod yn denant yn ei rinwedd ei hun. Mae tenantiaethau ar gael yn y sector rhentu cymdeithasol a’r sector rhentu preifat, ac mae gan y naill a’r llall amrywiaeth o fanteision ac anfanteision posibl. Er enghraifft, mae tenantiaethau yn y sector cymdeithasol yn cynnig rhenti is a deiliadaeth fwy diogel, ac mae lefel y rheoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yn uwch nag ar gyfer landlordiaid preifat. Fodd bynnag, mae’r sector rhentu preifat yn gallu cynnig mynediad cyflymach, mwy o hyblygrwydd, dewis ehangach o leoliadau a chyfleoedd i rannu gyda ffrindiau.

568.       Gan weithio drwy’r protocol ar y cyd, dylai gwasanaethau plant a gwasanaethau tai ddatblygu llwybrau mynediad i lety rhentu cymdeithasol a rhentu preifar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal, gan ystyried amodau’r farchnad dai leol, er mwyn rhoi cynifer o ddewisiadau tai â phosibl i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Dylai awdurdodau lleol osgoi dulliau cyffredinol o hyrwyddo neu gynghori yn erbyn y naill ddeiliadaeth neu’r llall, gan sicrhau yn hytrach bod manteision ac anfanteision y naill a’r llall yn cael eu trafod â phob person ifanc wrth gynllunio i fyw’n annibynnol.  

569.       Mae’r perygl y gall tenantiaeth fethu yn gymharol uchel pan fydd person ifanc yn dod yn denant am y tro cyntaf. Mae’n rhaid rhoi systemau ar waith i sicrhau bod pobl ifanc wedi’u paratoi’n dda, a bod eu hasesiad yn dangos yn glir eu bod yn barod i fyw’n annibynnol. Dylid cynorthwyo pobl ifanc i baratoi a deall y cyfrifoldebau sy’n berthnasol i fyw’n annibynnol a chynnal tenantiaeth tra eu bod mewn gofal. Dylid darparu ‘cymorth fel y bo’r angen’ i helpu pobl ifanc sy’n byw yn eu tenantiaethau eu hunain (yn y ddau fath o ddeiliadaeth) i ddatblygu’r sgiliau ymarferol ac ariannol sydd eu hangen arnynt i fyw’n annibynnol. Bydd angen cymorth fel y bo’r angen ar rai pobl ifanc am gyfnod byr yn unig nes bod yr agweddau ymarferol ac ariannol ar sefydlu a chynnal cartref wedi’u cwblhau a bod y person ifanc yn byw ar ei ben ei hun yn hyderus. Fodd bynnag, bydd angen cymorth mwy dwys neu gyson ar bobl ifanc eraill. Os oes modd, dylid sicrhau bod cymorth fel y bo’r angen yn parhau i fod ar gael i’r person ifanc os yw’n symud tŷ. Hefyd, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod sut i ddod o hyd i gymorth yn syth os oes problemau’n codi.  

Tai rhent cymdeithasol

570.       Mae awdurdodau tai yn gyfrifol am ddyrannu’r rhan fwyaf o dai cymdeithasol, ond mae rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (cymdeithasau tai) yn rhentu cyfran o’u heiddo gwag yn annibynnol. Mewn llawer o ardaloedd, nid oes digon o eiddo i ateb y galw, sy’n golygu bod llety yn y sector rhentu cymdeithasol yn adnodd prin nad yw ar gael ‘ar gais’ yn gyffredinol. Mae’n rhaid i awdurdodau tai ddyrannu llety yn unol â Rhan 6 (Digartrefedd) o Ddeddf Tai 1996, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi cynllun dyraniadau a rhoi blaenoriaeth resymol i ymgeiswyr tai sy’n perthyn i grwpiau penodol, gan gynnwys pobl sy’n gorfod symud ar seiliau meddygol a lles. Yn ôl y canllawiau statudol, yn y cyswllt hwn byddai “seiliau lles” yn cynnwys yr angen i ddarparu sylfaen gadarn fel bod person ifanc sy’n gadael gofal yn gallu datblygu bywyd sefydlog.

571.       Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio protocolau ar y cyd i sicrhau’r canlynol:

·         mae gan gynghorwyr personol a phobl ifanc fynediad at wybodaeth am y broses o ymgeisio am dai rhentu cymdeithasol, a’u bod yn deall y broses  

·         mae’r broses yn ddigon hyblyg i alluogi pobl ifanc i ddychwelyd i lety â mwy o gymorth os nad ydynt yn ymdopi â byw’n annibynnol – gan sicrhau hefyd bod cyfle iddynt ymgeisio am denantiaeth newydd yn y dyfodol pan eu bod yn fwy parod i fyw’n annibynnol.  

 

Tai rhentu preifat

572.       Gall unigolyn neu gwmni gynnig llety preswyl yn y sector rhentu preifat. Mae’r sector yn cynnwys llety amrywiol, ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o dai yn y sector rhentu cymdeithasol, mae’n gallu cynnwys rhannu fflatiau. Fodd bynnag, gall rhwystrau ariannol i lety yn y sector rhentu preifat godi, gan gynnwys y gofynion cyffredin ar gyfer talu rhent ymlaen llaw a blaendal fel diogelwch yn erbyn difrod. Rhwystr bosibl arall i bobl ifanc sy’n gadael gofal yw canfyddiadau negyddol landlordiaid o bobl ifanc fel tenantiaid.

573.       Bydd angen gwirio diogelwch, cyflwr ffisegol a fforddiadwyedd o safbwynt incwm y person ifanc a/neu gyfyngiadau’r Lwfans Tai Lleol i benderfynu addasrwydd eiddo ar gyfer y person ifanc.    

574.       Dylai awdurdodau lleol ystyried dulliau a manteision posibl gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau tai cyn datblygu trefniadau ar wahân i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i ddod o hyd i lety rhentu preifat.  

575.       Mae ymyraethau posibl yn cynnwys:

·         cynlluniau achredu landlordiaid

·         cynlluniau blaendal rhent a gwarantu bond  

·         datblygu partneriaethau a chytundebau gyda landlordiaid preifat hysbys  

·         gwasanaethau sy’n cynnig cymorth cyfochrog ar gyfer tenantiaid a landlordiaid i helpu i nodi a lliniaru problemau yn gynnar (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent) ac atal a thrafod anawsterau  

·         protocolau gydag adrannau Budd-dal Tai ar gyfer asesu a oes angen ‘diogelu’ tenant at ddibenion lwfans tai lleol.

 

Cynlluniau wrth gefn a digartrefedd

576.       Mae deddfwriaeth ar ddigartrefedd (Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014) yn diogelu pobl sy’n wynebu argyfwng tai. Ni ddylid ei defnyddio fel dull o ddiwallu anghenion tai y gellir eu rhagweld neu gynllunio ar eu cyfer. Dylai protocolau awdurdodau lleol sy’n galluogi pobl ifanc sy’n gadael gofal i bontio i fyw’n annibynnol adlewyrchu hyn drwy  sicrhau bod modd paratoi’n effeithiol ar gyfer annibyniaeth gyda symudiadau cynaliadwy sydd wedi’u cynllunio. Ni ddylai’r rhai sy’n gadael gofal gael eu trin fel pobl ‘ddigartref’ pan ddaw eu lleoliad gofal i ben er mwyn gorfodi’r awdurdod tai i sicrhau llety iddynt o dan Ran 2 o Ddeddf 2014.

577.       Ar ôl i rywun sy’n gadael gofal gael ei leoli mewn llety addas, dylai’r awdurdod cyfrifol roi camau cadarnhaol ar waith mewn partneriaeth â’r landlord ac asiantaethau partner er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn derbyn digon o gymorth i’w alluogi i gynnal tenantiaeth ac osgoi cael ei droi allan, neu atal person ifanc rhag ymadael ag eiddo.

578.       Mae’n rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys strategaethau ar gyfer ymyrraeth gynnar os yw pethau’n dechrau mynd o chwith, gan beryglu lleoliad llety. Os oes argyfwng tai yn codi, mae CP y person ifanc yn gyfrifol am sicrhau bod y cynllun yn cael ei adolygu a bod y darparwyr neu’r gwasanaethau tai perthnasol yn cymryd rhan.

579.       Dylai darpariaeth a phartneriaethau gael eu datblygu mewn ffordd sy’n galluogi pobl ifanc i symud i lety arall mewn argyfwng, gan gynnwys dychwelyd i lety mwy cefnogol os yw hynny’n briodol.   Bydd sicrhau bod yr amrywiaeth lawn o lety â chymorth ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal yn yr ardal yn helpu’r broses hon.

580.       Mewn achosion eithriadol, os yw trefniadau llety yn methu ac nad oes modd cwblhau symudiad wedi’i gynllunio i lety amgen yn ddigon cyflym, dylid gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad i lety argyfwng saff, diogel a phriodol, gyda mynediad yn ôl i lety mwy sefydlog cyn gynted ag y bo modd.  

581.      Mae’n bwysig bod systemau yn cydnabod y gall achosion o bobl ifanc yn cael eu troi allan neu’n ymadael â llety arwain at y gred eu bod wedi mynd yn ddigartref ‘yn fwriadol’, sy’n gallu cyfyngu o bosibl ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo o dan y ddeddfwriaeth ddigartrefedd (gweler pennod 17 o’r Cod Canllawiau ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd 2015 ar gyfer rhagor o arweiniad ar brawf bwriad).  Mae’r Canllawiau hyn yn egluro dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, gan gynnwys dyletswyddau i helpu i atal a lliniaru digartrefedd, waeth a yw’r person mewn angen blaenoriaethol neu’n ddigartref yn fwriadol. 

 

582.      Dylai gwasanaethau tai a gwasanaethau plant fabwysiadu dull strategol ar y cyd i ddarparu llety argyfwng a llwybrau tai a chymorth ar gyfer pobl ifanc er mwyn osgoi defnyddio llety amhriodol. Bydd gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau llety dros dro ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal wrth eu hasesu a’u cynorthwyo o dan y dyletswyddau digartrefedd. Mae’r ddyletswydd hon i ddarparu llety dros dro wedi’i nodi yn adran 68 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Dylai awdurdodau lleol wneud popeth posibl i osgoi defnyddio llety Gwely a Brecwast, gan nad yw’n addas ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed fel arfer. Os oes angen defnyddio llety o’r math gan nad oes dewisiadau eraill ar gael, dylid ei ddefnyddio ar gyfer cyfnodau byr iawn yn unig, gan sicrhau bod y llety a’r perchennog yn bodloni safonau da a diogel, yn unol â safonau addasrwydd Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015.  

Pobl ifanc 16 a 17 oed sy’n cyflwyno eu hunain fel pobl ifanc ddigartref

 

583.   Bydd amgylchiadau pob achos unigol yn penderfynu a yw person ifanc yn dod yn berson ifanc sy’n derbyn gofal ac a fydd y cyfnod hwnnw o dderbyn gofal yn golygu bod gan berson ifanc 16 neu 17 oed statws ‘person sy’n gadael gofal’ pan ei fod yn cyrraedd 18 oed.

 

584.   Os yw person ifanc 16 neu 17 oed yn ei gyflwyno ei hun fel person digartref, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i asesu ei amgylchiadau i benderfynu a yw’n ddigartref ac a oes modd diwallu’r angen am lety drwy ei ailintegreiddio â’i deulu (gyda chymorth sy’n cael ei ddarparu o dan adran 37 neu 38 o’r Ddeddf o bosibl), neu a oes angen llety o dan adran 76 o Ddeddf 2014.

 

585.   Os penderfynir nad oes angen llety adran 76 ar y person ifanc, neu os yw’r person ifanc yn arfer ei hawl i wrthod llety adran 76, bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswyddau i’w helpu o dan adrannau 66, 73 a 75-76 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. O dan adran 70 o’r Ddeddf hon, mae gan bobl ifanc dan 21 oed sy’n gadael gofal angen blaenoriaethol ar gyfer llety, a bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i sicrhau llety yn unol â gofynion Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru)  2015 (a wnaed o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014). Ni ellir ystyried bod pobl ifanc wedi mynd yn ddigartref yn fwriadol drwy wrthod cynnig llety; nid yw digartrefedd yn ‘fwriadol’ oni bai bod yr ymgeisydd wedi peidio â meddiannu llety y byddai’n rhesymol iddo barhau i’w feddiannu. Mae rhagor o ganllawiau ar ddigartrefedd bwriadol ar gael ym Mhennod 17 o’r Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd 2015.   

 

586.   Er mwyn bod â statws “person sy’n gadael gofal”, mae Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 yn nodi bod yn rhaid i’r plentyn fod wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol am gyfnod neu gyfnodau o 13 wythnos, gan ddechrau pan gyrhaeddodd y plentyn yn 14 oed ac yn gorffen ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed.

 

587.   Os yw person ifanc yn ei gyflwyno ei hun i adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yn gofyn am lety, ac os yw’r asesiad yn dangos bod angen llety arno o dan adran 76 o’r Ddeddf, bydd ganddo hawl i gymorth o dan y Ddeddf fel person sy’n gadael gofal cyn belled â’i fod wedi bod yn derbyn gofal am 13 wythnos cyn ei ben-blwydd yn 18 oed.  

588.   Felly, gallai person ifanc sy’n ei gyflwyno ei hun yn yr amgylchiadau sy’n cael eu disgrifio uchod hawlio statws person sy’n gadael gofal yn unol â Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015 fel person ifanc categori 1 neu gategori 2, gan ddibynnu ar ei amgylchiadau, ei ddewisiadau a’i hanes blaenorol o safbwynt ymyrraeth awdurdod lleol.

 

Deiliadaeth ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed

589.   Dylai awdurdodau lleol weithio’n agos gydag awdurdodau tai a darparwyr tai eraill i sefydlu trefniadau i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu heithrio o lety rhent addas oherwydd eu bod o dan 18 oed.  

590.    Bydd pobl ifanc sy’n symud i lety lled-annibynol neu lety annibynnol yn ymrwymo i gytundeb meddiannaeth gyda’r landlord. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, bydd y trefniadau hyn naill ai’n drwydded i feddiannu neu’n denantiaeth. Yn gyffredinol, bydd cytundeb yn creu tenantiaeth gyfreithiol os oes gan y meddiannydd feddiannaeth unigryw o eiddo (neu ran o eiddo, er enghraifft, ystafell wely gyda mynediad i gyfleusterau cyffredin) am gyfnod o amser a’i fod yn talu rhent. Os nad oes gan y meddiannydd feddiannaeth unigryw – er enghraifft, os oes gan y landlord fynediad rheolaidd i ddarparu cymorth neu wasanaethau, neu os yw’r person ifanc yn byw yng nghartref y landlord, h.y. tŷ llety â chymorth – mae’r cytundeb yn debygol o fod yn drwydded.

591.    Gall rhai landlordiaid fod yn amharod darparu llety â meddiannaeth unigryw ar gyfer person ifanc o dan 18 oed oherwydd ansicrwydd ynglŷn ag a yw rhywun o dan 18 oed yn gallu ymrwymo i denantiaeth ac, os felly, a oes modd gorfodi termau’r denantiaeth (er enghraifft, a yw’r landlord yn gallu gwneud cais i droi’r person allan ac adennill unrhyw rent nas talwyd).

592.    Yn gyffredinol, mae tenantiaeth yn cael ei chreu yn awtomatig yn ôl y gyfraith pan fydd person ifanc yn cael yr hawl i feddiannu llety â meddiannaeth unigryw am gyfnod o amser yn gyfnewid am rent. Fodd bynnag, nid yw rhywun o dan 18 oed yn gallu dal ystâd gyfreithiol mewn tir, sy’n golygu nad yw’n gallu dal tenantiaeth gyfreithiol. Nid yw hyn yn atal landlord rhag darparu llety i rywun o dan 18 oed â meddiannaeth unigryw am gyfnod yn gyfnewid am rent, ond bydd angen i’r landlord wneud trefniadau arbennig ac osgoi rhoi tenantiaeth i’r person o dan 18 oed. Mae hyn yn berthnasol i landlordiaid ym mhob sector ac i lety lled-annibynnol ac annibynnol. Mae’r Bill Rhentu Cartrefi yn cynnwys cynigion i ddatrys y gyfraith.

Llety gwyliau

593.       Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod llety addas ar gael i unrhyw un sy’n gadael gofal sydd mewn addysg bellach neu addysg uwch breswyl llawnamser (p’un ai a ydynt yn perthyn i gategorïau 3, 4, 5 neu 6) os oes angen llety o’r fath arnynt yn ystod gwyliau. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod angen llety ar y person ifanc gan nad yw ei lety yn ystod y tymor ar gael. Gall y cymorth hwn ymwneud â darparu llety addas ar gyfer y person ifanc, neu dalu digon iddo ddod o hyd i lety addas ei hunan.

594.       Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i bob gwyliau, a’r bwriad yw sicrhau nad yw’r person ifanc yn ddigartref yn ystod yr amser hwnnw. Dylid asesu’r tebygolrwydd y bydd angen y cymorth hwn pan fydd y person ifanc yn gwneud penderfyniad ynglŷn â pha gwrs i’w ddilyn, a phan fydd y cynllun llwybr yn cael ei adolygu i ddarparu pecyn priodol o ofal a chymorth ar gyfer y myfyriwr. Mae’r gofyniad i gynorthwyo, os oes angen, â llety gwyliau yn para gydol yr amser y mae’r person ifanc yn dilyn y cwrs y cytunwyd arno fel rhan o’i gynllun llwybr.

Materion ariannol  

595.       Mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn fwy agored i allgáu cymdeithasol oherwydd y bydd rhaid iddynt bontio i fyd oedolion yn llawer cynt na’r rhan fwyaf o bobl ifanc. Dylai polisïau ariannol awdurdodau lleol geisio efelychu’r mathau o gymorth y mae teuluoedd yn eu darparu, bod yn hyblyg i anghenion gwahanol pobl ifanc sy’n gadael gofal, a bod yn ymwybodol o’r ffaith fod gofyn iddynt fod yn fedrus ac yn gymwys yn ariannol yn gynnar yn eu bywydau fel oedolion yn aml. Dylai awdurdodau lleol gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal i reoli eu hadnoddau ariannol a’u harian, gan eu helpu’n raddol i gymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol hefyd gydnabod y gall y broses o ddysgu llwyddiannus gynnwys dysgu o gamgymeriadau, cymryd risgiau a gofyniad y bydd angen ail gyfle gyda chymorth ariannol cysylltiedig o bosibl.

Paratoi i bontio i fyd oedolion

596.       Mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi pwyslais cynnar ar sgiliau llythrennedd ariannol a gallu ariannol, sy’n hanfodol er mwyn darparu sylfeini cadarn y gellir eu datblygu ar gyfer plant a phobl ifanc pan fydd ffocws mwy ffurfiol ar gynllunio ariannol yn cychwyn fel rhan o’r broses gynllunio llwybr. Mae modd defnyddio arian poced a lwfansau hamdden a dillad sy’n cael eu darparu fel rhan o ofal maeth a gofal preswyl er mwyn helpu plant i ddatblygu sgiliau rheoli arian a chyllid.

597.       Er mwyn sicrhau cynllunio ariannol cadarn, mae’n hollbwysig bod pobl ifanc, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol preswyl, gweithwyr cymdeithasol/CP gadael gofal a staff mewn asiantaethau partner yn ymwybodol o’r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl ifanc sy’n pontio i fyd oedolion, ac yn deall eu hawliau.

598.       Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol fod â pholisi ariannol clir a thryloyw ar waith sy’n nodi hawliau pobl ifanc, yr amodau sydd ynghlwm wrthynt, a sut y bydd unrhyw daliadau yn cael eu gwneud. Dylai’r awdurdod lleol adolygu’r polisi ariannol bob blwyddyn, gan nodi sut y bydd yr awdurdod lleol fel ‘rhiant corfforaethol da’ yn rhoi cymorth ariannol i’r person ifanc i’w helpu i sicrhau llesiant economaidd a phontio’n gadarnhaol ac yn llwyddiannus i fyd oedolion.  

599.       Fel gofyniad sylfaenol, mae’n rhaid i’r polisi ariannol ddarparu lwfans cynhaliaeth gadael gofal (sy’n gyfwerth â chyfradd gyfredol y budd-dal Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith) ynghyd â lleoliad/llety addas a phriodol neu’r modd ariannol o sicrhau’r llety (hyd at ben-blwydd 18 oed y person ifanc). Dylai’r polisi fod yn glir hefyd ynglŷn â’r broses o drin arian y bobl ifanc eu hunain, p’un ai a yw’n deillio o gyflogaeth, etifeddiaeth, dyfarniadau’r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol, neu ffynonellau eraill.  

600.       Dylai polisïau fod ar gael yn hwylus a chael eu deall gan bobl ifanc. Dylai’r polisi gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol, a dylai pob plentyn sy’n derbyn gofal a phob person ifanc sy’n gadael gofal dderbyn copi. Dylai awdurdodau lleol gynnwys pobl ifanc yn y gwaith o ddatblygu fersiynau a fformatau hawdd eu defnyddio.  

Egwyddorion cyffredinol ar gyfer datblygu gallu a thryloywder ariannol

Polisïau ariannol i gynorthwyo’r broses o bontio i fyd oedolion

601.       Dylai’r polisi ariannol nodi sut bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi ac yn hyrwyddo annibyniaeth a helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gyflawni eu canlyniadau llesiant. Fel rhiant corfforaethol y bobl ifanc, dylai fod yn seiliedig ar yr egwyddor ‘a yw hyn yn ddigon da i fy mhlentyn fy hun?’

602.       Gallai’r blaenoriaethau gynnwys:

·         costau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, fel dysgu ychwanegol, costau teithio, treuliau sy’n gysylltiedig â chyfweliadau a gwaith a chostau cyffredinol sy’n gysylltiedig â gwella cyflogadwyedd pobl ifanc

·         deunyddiau a chyfarpar addysg

·         cymorth addysg bellach ac addysg uwch (gan gynnwys y fwrsariaeth addysg uwch)

·         dillad

·         anghenion cwnsela neu therapiwtig  

·         gweithgareddau cymdeithasol, hobïau a gweithgareddau/gwibdeithiau diwylliannol  

·         costau sy’n gysylltiedig ag anghenion arbennig (fel anableddau a phontio i wasanaethau oedolion, beichiogrwydd a bod yn rhiant)

·         costau sy’n gysylltiedig ag anghenion diwylliannol neu grefyddol

·         costau gofal plant (ac eithrio’r rhai sy’n cael eu darparu gan wasanaethau cyffredin)

·         costau sy’n gysylltiedig â chael dogfennau pwysig yn ymwneud â hunaniaeth (pasbort, tystysgrif geni, trwydded yrru)

·         blaendal a rhent ymlaen llaw ar gyfer pobl ifanc sy’n symud i eiddo yn y sector rhentu preifat

·         yswiriant tŷ  

·         costau sy’n gysylltiedig â rhianta corfforaethol gan gynnwys lwfansau pen-blwydd a Nadolig / gwyliau, a rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael blas ar weithgareddau fel gyrru, sy’n gallu gwella eu cyfleoedd bywyd ac atal allgáu cymdeithasol

·         sefydlu lwfansau cartref (gan gynnwys y posibilrwydd o gymorth ar gyfer biliau cyfleustodau yn ystod gaeaf cyntaf y person ifanc o fyw’n annibynnol, a chostau paentio a phapuro) ar gyfer llety yn y sector preifat a llety awdurdodau lleol.

 

603.       Hefyd, dylai awdurdodau lleol nodi sut y byddant yn cefnogi grwpiau penodol o bobl ifanc sy’n gadael gofal, gan gynnwys unig rieni, pobl ifanc sy’n cael eu cadw mewn ysbyty ac mewn sefydliad, pobl ifanc anabl a phlant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches.

604.       Hefyd, bydd angen i awdurdodau lleol nodi sut y gall hawlogaethau pobl ifanc 16 a 17 oed sy’n derbyn budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd oherwydd angen ychwanegol (h.y. pobl ifanc anabl neu famau ifanc) newid i lwfansau gadael gofal prif ffrwd.

605.       Dylai awdurdodau lleol nodi hawlogaethau pobl ifanc sydd wedi’u lleoli gartref yn yr hirdymor, pobl ifanc sy’n dychwelyd adref mewn ffordd sy’n cael ei chynllunio a’r rhai sy’n dychwelyd mewn argyfwng. Bydd angen ystyried statws cyfreithiol y person ifanc, ac o dan ba amgylchiadau y mae’n dychwelyd at ei deulu.

606.       Dylai polisïau darparu tegwch, ac er mwyn bod yn dryloyw a sicrhau mynediad teg, dylent gael eu hadolygu bob blwyddyn a bod yn agored i archwilio a chraffu annibynnol.

Dogfennau adnabod

607.       Dylai polisïau ariannol a fframweithiau cynllunio llwybr helpu pobl ifanc i bontio i fyd oedolion o safbwynt emosiynol, ymarferol ac ariannol.  

608.       Er mwyn osgoi allgáu cymdeithasol, gall awdurdodau lleol gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc i gael tystysgrif geni, pasbort, trwydded yrru a dogfennau adnabod eraill y bydd eu hangen arnynt wrth drosglwyddo i fyd oedolion. Mae rhai neu bob un o’r dogfennau hyn yn hanfodol er mwyn cofrestru ar gyfer tai, cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg, agor cyfrif banc a phrofi hunaniaeth.

Taliad yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol

609.       Dylid cynorthwyo pobl ifanc sy’n derbyn taliad gan yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (CICA) i chwilio am gyngor ariannol annibynnol ar sut i ddefnyddio’r dyfarniad a sut (er enghraifft, drwy sefydlu Cronfa Ymddiriedolaeth yn ôl Disgresiwn) y gallant barhau i fod yn gymwys i fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd. Yn ôl deddfwriaeth lles prawf modd, mae taliad CICA yn cael ei ddiystyru wrth gyfrifo’r hawl i fudd-daliadau yn y 52 wythnos ar ôl derbyn y dyfarniad.

Sefydlu lwfansau tai

610.       Mae pontio i fyd oedolion yn gallu bod yn broses llawn straen ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal, ond mae’n gallu bod yn brofiad gwerth chweil hefyd sy’n helpu pobl ifanc i fynegi eu hunaniaeth, gwneud dewisiadau bywyd ynglŷn â sut maent yn dodrefnu eu cartrefi eu hunain ac felly’n gwella eu hunanbarch a’u hyder. Yn y cyswllt hwn, bydd dyraniad yr awdurdod lleol o lwfansau sefydlu cartref yn hollbwysig wrth helpu pobl ifanc i sefydlu eu hunaniaeth a’u hannibyniaeth, a dylid ei ddefnyddio i sicrhau bod ganddynt gyfarpar a nwyddau tŷ priodol i greu llety saff, diogel a sefydlog.

611.       Yn debyg i bobl ifanc eraill sy’n sefydlu eu cartref cyntaf, mae’n debyg y bydd angen llawer o gymorth ar bobl ifanc sy’n pontio o ofal i fyw’n annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn manteisio ar bob lwfans posibl i sefydlu cartref.

612.       Gall fod yn ddefnyddiol i grwpiau cyfranogi awdurdodau lleol a grwpiau defnyddwyr gwasanaethau gydweithio â grwpiau rhianta corfforaethol ac uwch reolwyr i’w helpu i ddeall costau sefydlu cartref ac felly lefel y lwfans sefydlu cartref.

Mynediad i gymorth ariannol a darpariaeth cymorth ariannol

613.       Er ei bod yn hanfodol bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau, mae hefyd yn bwysig eu bod yn gwybod ym mha ffordd y bydd yr awdurdod lleol yn darparu unrhyw gymorth ariannol. Dylai darpariaeth cymorth adlewyrchu ymrwymiad yr awdurdod lleol i fod yn rhiant corfforaethol cyfrifol a gweithgar, a chynnwys elfen o hyblygrwydd. Nid yw pobl ifanc sy’n gadael gofal yn grŵp unffurf, a dylai’r dull o ddarparu cymorth ariannol adlewyrchu natur amrywiol anghenion, gallu ac amgylchiadau pobl ifanc unigol.  

614.       Dylai pob lwfans fod yn seiliedig ar asesiad o anghenion a chael ei nodi yng nghynllun llwybr y person ifanc. Hefyd, mae’n rhaid i’r cynllun  nodi unrhyw amodau cysylltiedig, sut bydd y taliadau’n cael eu gwneud, pa mor aml y byddant yn cael eu gwneud a phryd byddant yn cael eu hadolygu.

615.       Er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion o safbwynt ariannol, dylent gael cymorth i agor cyfrif banc, ac os oes modd, dylid talu’r holl lwfansau drwy eu cyfrif. Dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar bobl ifanc i reoli lwfansau, ac mae’n bosibl y bydd angen talu lwfansau ar ffurf arian parod. Dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen i CP siopa gyda phobl ifanc unigol a/neu ddarparu lwfansau mewn nwyddau. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai cynllun llwybr y person ifanc nodi am faint o amser y bydd angen i’r trefniadau hyn fod ar waith a pha nodau a cherrig milltir y bydd angen eu cyflawni cyn trosglwyddo cyfrifoldeb am y lwfans i’r person ifanc.  

616.       Os yw pobl ifanc yn byw y tu allan i ardal eu hawdurdod cyfrifol, bydd angen gwneud trefniadau i helpu pobl ifanc i reoli eu lwfansau a datblygu sgiliau gallu ariannol. Os yw pobl ifanc yn gallu rheoli eu cyllid eu hunain, gellir talu’r holl lwfansau i gyfrif banc y person ifanc. Os yw’r person ifanc yn ei chael yn anodd rheoli ei lwfansau, mae’n bosibl y bydd angen trafod â gwasanaeth gadael gofal yr awdurdod lle mae’n byw ar hyn o bryd fel bod unrhyw gymorth ariannol yn cael ei ddarparu drwy’r awdurdod hwn.  

Cymhellion, cyfraniadau a sancsiynau

617.       Mae gan bobl ifanc o dan 18 oed categori 2 sy’n gadael gofal hawl absoliwt i lety a chynhaliaeth gan yr awdurdod lleol os oes angen hynny ar sail eu lles. Nid yw’r ddyletswydd hon yn dibynnu ar unrhyw ofynion ar y person ifanc.

618.       Bydd y rhan fwyaf o gymorth arall yn seiliedig ar hawliau a nodir ym mholisi ariannol gadael gofal yr awdurdod sy’n gysylltiedig â’r cynllun llwybr. Gall awdurdodau lleol ddymuno sefydlu system o wobrau a chymhellion sy’n gysylltiedig, er enghraifft, â mynychu addysg, hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n ceisio gwella cyflogadwyedd pobl ifanc. Dylai’r cynllun llwybr nodi hawliau cyffredinol a hawliau mwy penodol.

619.       Os nad yw gwobrau a chymhellion yn llwyddo yn ôl y disgwyl, bydd angen i’r CP weithio gyda’r person ifanc i nodi newidiadau ac adolygu’r cynllun llwybr yn unol â hynny.

Cymorth mewn argyfwng

620.       Dylid trefnu bod cymorth ar gael i bobl ifanc dderbyn taliadau mewn argyfwng yn ardal eu hawdurdod cyfrifol os oes angen taliadau felly arnynt. Gall y system lle mae gofalwyr blaenorol yn cadw lwfansau helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau sy’n gysylltiedig â chael cymorth y tu allan i oriau gwaith craidd. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd angen i wasanaethau y tu allan i oriau wneud taliadau mewn argyfwng o dro i dro. Os yw’r person ifanc yn dechrau dibynnu ar daliadau mewn argyfwng, mae’n bosibl y bydd angen adolygu’r cynllun llwybr i nodi’r cymorth sydd ei angen i helpu i ddatblygu sgiliau gallu ariannol person ifanc.

Pontio i addysg, hyfforddiant, cyflogaeth ac incwm o fudd-daliadau

621.       Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio lwfansau fel rhieni ‘da’ eraill i bontio’r bwlch ariannol rhwng gofal a chymorth awdurdod lleol, a chyflogaeth, addysg neu gymorth budd-daliadau. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys rhoi grantiau i bobl ifanc yn y cyfnod rhwng dechrau gweithio ac ennill eu cyflog cyntaf, a rhwng 18 oed a phenderfynu ar geisiadau am fudd-daliadau prawf modd. Dylid nodi bod lwfansau gadael gofal yn cael eu talu ymlaen llaw fel arfer, a bod budd-daliadau prawf modd yn cael eu talu fel ôl-daliadau. Felly mae’n bwysig bod awdurdodau lleol, fel rhieni corfforaethol cyfrifol, yn parhau i wneud taliadau pontio i bobl ifanc rhwng 18 oed a’r adeg pan eu bod yn derbyn budd-daliadau.

622.      Dylai awdurdodau sefydlu perthynas waith adeiladol â’r Ganolfan Byd Gwaith leol.

Pobl ifanc sy’n dychwelyd adref a phobl ifanc sy’n byw gartref

623.      Os yw pobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n cael eu ‘lletya’ o dan y Ddeddf drwy drefniant gyda’u rhieni yn dychwelyd adref mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio yn dilyn adolygiad statudol, byddant yn peidio â bod yn bobl ifanc sy’n derbyn gofal ac yn dod yn ‘berson ifanc categori 2’. Ar ôl i’r person ifanc ddychwelyd adref, bydd ei riant yn gallu hawlio budd-dal plant cyn belled â bod y person ifanc mewn addysg a hyfforddiant llawnamser. Ar ôl chwe mis, ac yn dilyn adolygiad bod y trefniadau hyn yn llwyddiannus, bydd y person ifanc yn dod yn ‘berson ifanc categori 6’, ac os yw’n mynychu addysg a hyfforddiant llawnamser ac os yw ei riant/rhieni yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Credydau Treth Plant, gall y rhiant fod yn gymwys ar gyfer yr Elfen Blant, a’r Elfen Deuluol o Gredydau Treth Plant os mai’r person ifanc yw’r unig blentyn yn y teulu.

624.      Dylai awdurdodau lleol nodi sut maent yn bwriadu rhoi cymorth ariannol i bobl ifanc yn yr amgylchiadau hyn, gan ystyried sefyllfa ariannol eu rhiant/rhieni. Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried materion tegwch mewn perthynas â brodyr a chwiorydd nad ydynt wedi derbyn gofal o bosibl. Er enghraifft, mae’n bosibl na fydd yn briodol darparu’r holl lwfansau pontio i fyd oedolion fel lwfansau pen-blwydd a Nadolig / gwyliau os yw’n arwain at wahaniaethau rhwng brodyr a chwiorydd eraill nad ydynt wedi derbyn gofal ac felly’n tanseilio amgylchiadau ac annibyniaeth ariannol rhieni.

Eithriadau i gymorth ariannol – pobl ifanc 16 a 17 oed

625.      Mae gan bobl ifanc sâl ac anabl ac unig rieni sy’n bodloni’r meini prawf a nodir yn Atodlen 1B o Reoliadau (Cyffredinol) Cymhorthdal Incwm 1987 hawl i Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ond nid i Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol. Hefyd, gallant hawlio’r budd-daliadau hyn os ydynt yn byw mewn gofal maeth. Dylai’r awdurdod lleol, drwy bolisi ariannol tryloyw, ddangos sut bydd yr awdurdod yn ystyried y lwfansau hyn. Mae hawlio’r budd-daliadau hyn yn rhagofyniad ar gyfer nifer o fudd-daliadau a gwasanaethau eraill.   

Gwneud y mwyaf o incwm a chyfleoedd bywyd ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal

Budd-daliadau prawf modd a budd-daliadau lles ar gyfer person ifanc dros 18 oed sy’n gadael gofal

626.      Er na fydd awdurdodau lleol eisiau annog pobl ifanc sy’n gadael gofal i fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau prawf modd, dylent helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u hincwm o fudd-daliadau, lwfansau addysg a hyfforddiant a chyflogaeth.

627.      Mae datblygu canllaw ar fudd-daliadau lles yn ymarfer da ac yn ychwanegiad defnyddiol at bolisi ariannol awdurdod lleol ar gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal. Dylai’r canllaw fod ar gael i bobl ifanc.

628.      Dylai awdurdodau lleol weithio gyda swyddfeydd lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau, swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith a’r Ganolfan Darparu Budd-daliadau a swyddfeydd Budd-daliadau Tai i ddatblygu dulliau gweithredu ar y cyd i helpu pobl ifanc i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt a sicrhau bod y broses hawlio yn hwylus a’i bod yn cydnabod anghenion penodol y rhai sy’n gadael gofal.

Taliadau sy’n cael eu diystyru

629.      Mae taliadau sy’n cael eu gwneud gan yr awdurdod lleol o dan adrannau 109, 110, 114 a 115 o Ddeddf Plant 1989 yn cael eu diystyru gan yr Adran Gwaith a Phensiynau at ddibenion cyfrifo’r hawl i fudd-daliadau prawf modd. Mae’r taliadau hyn hefyd yn cael eu diystyru wrth asesu’r hawl i gymorth ar gyfer myfyriwr addysg uwch cymwys sy’n mynychu cwrs dynodedig.

Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

630.      Un o ddangosyddion allweddol llesiant economaidd y dyfodol yw lefel addysg a hyfforddiant unigolyn. O ganlyniad, bydd rhaid i awdurdodau lleol fod â dyheadau uchel ar gyfer eu pobl ifanc, a datblygu polisïau ymarferol ac ariannol sy’n gwireddu’r dyheadau hynny. Dylai cymorth a pholisïau ariannol annog pobl ifanc i aros mewn addysg, manteisio ar gyfleoedd addysg a hyfforddiant newydd ac ymgymryd â gweithgareddau sy’n ceisio gwella cyflogadwyedd y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

631.      Gall yr awdurdod lleol ystyried gwneud cymelldaliadau i annog pobl ifanc i fanteisio ar gyrsiau a chyfleoedd addysg a hyfforddiant. Byddai’r cymelldaliadau hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn ddiogel yn economaidd ac yn ariannol.

Cymorth ariannol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth

632.      Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am y brif rôl cymorth ariannol ar gyfer pobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth o dan adrannau 114 neu 115 o’r Ddeddf. Fodd bynnag, gall awdurdodau lleol roi blaenoriaeth i’r bobl ifanc hyn wrth ddarparu cymorth ariannol ar sail eu hanghenion penodol, a lle y bo’n briodol, gallant ddarparu’r un lefel o gymorth â’r hyn a roddir i berson ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal neu rywun sy’n gadael gofal.  

633.      Os oes gan awdurdod lleol ddyletswydd neu bŵer i gynghori neu gyfeillio â phobl ifanc sydd wedi gadael gofal, mae’n gallu rhoi cymorth ariannol neu gymorth mewn nwyddau hefyd. Fodd bynnag, dylid cofio bod pŵer yr awdurdod lleol i ddarparu cymorth ar gyfer y bobl ifanc hyn sy’n gadael gofal yn para nes eu bod yn cyrraedd 21 oed, neu 25 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant. Os nad oes gan berson ifanc unrhyw riant i droi ato am gymorth, neu os nad oes gan y rhiant y gallu i ddarparu cymorth, disgwylir y bydd y person ifanc yn troi at yr awdurdod lleol am gymorth. Dan yr amgylchiadau hyn, ac yn dilyn asesiad o anghenion, gall yr awdurdod lleol ddarparu’r un lefel o gymorth â’r hyn a roddir i bobl ifanc eraill sy’n gadael gofal.  

634.      Anogir awdurdodau lleol i fod yn rhagweithiol wrth hysbysu pobl ifanc am yr amgylchiadau lle bydd modd darparu cymorth. Yr awdurdod a fydd yn penderfynu ym mhob achos a fydd yn briodol darparu cymorth ariannol, ond dylid rhagdybio bod angen darparu cymorth o’r fath os oes angen gwneud hynny i ddiogelu llesiant y person ifanc ac nad yw’r cymorth ar gael gan unrhyw asiantaeth arall. Mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i fod yn hyblyg wrth benderfynu’r hyn y gellir darparu cymorth gadael gofal ar ei gyfer, gan ystyried dymuniadau person ifanc ynglŷn â sut y dylid gwario unrhyw gymorth.

635.      Yn ogystal â’r pwerau cyffredinol i ddarparu cymorth o dan adran 114 neu 115, mae gan awdurdodau lleol bŵer penodol i roi cymorth i’r bobl ifanc hyn mewn cysylltiad â’u cyflogaeth, eu haddysg, neu eu hyfforddiant. Gellir rhoi unrhyw gymorth ariannol neu grant o’r fath i bobl ifanc dan 25 oed os yw’n gysylltiedig â chwrs addysg neu hyfforddiant.

636.      Mae’n bwysig bod pobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol preswyl a maes, rhieni a gofalwyr maeth, a staff yn ymwybodol o’r cymorth y gall yr awdurdod lleol ei ddarparu i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu na wnaethant gymhwyso fel person ifanc sy’n gadael gofal. Gellir gwneud hyn drwy gynnwys adran benodol ar bobl ifanc o’r fath ym mholisi ariannol gadael gofal a’r datganiad wedi’i gyhoeddi o wasanaethau’r awdurdod lleol.   

637.      Dylai awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau ymarferol ac ariannol sydd ar gael i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu na wnaethant gymhwyso fel person ifanc sy’n gadael gofal. Dylai’r wybodaeth hon gael ei chynnwys mewn taflen hawdd ei darllen sy’n nodi’r holl wasanaethau y gall y bobl ifanc ddisgwyl eu derbyn. Dylai’r awdurdod lleol lunio’r daflen hon, a dylai fod ar gael am ddim.   

638.      Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ariannol ar bobl ifanc anabl sydd wedi cael seibiant tymor byr yn benodol, yn enwedig os oes ganddynt anghenion cyfathrebu sylweddol sy’n ei gwneud yn anodd iddynt wneud cais am gymorth i asiantaethau eraill, fel sefydliadau gwirfoddol.  

639.      O dan adran 114 a 115, mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu llety gwyliau, neu’r modd o’i sicrhau, ar gyfer unrhyw un sy’n gadael gofal sy’n gymwys i dderbyn gwybodaeth, cyngor neu gymorth o dan yr adrannau hynny. Mae’n rhaid i’r unigolyn fod rhwng 16 a 25 oed, bod mewn addysg uwch neu addysg bellach breswyl, a rhaid bod angen llety gwyliau arno. 

640.      Bydd angen i awdurdodau lleol fod yn glir ynglŷn â pha awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig neu na wnaethant gymhwyso fel person ifanc sy’n gadael gofal.  


Pennod 6: Trefniadau byw ôl-18

 

Datblygu trefniadau ar gyfer y rhai 18 oed a hŷn sy’n gadael gofal i barhau i fyw gyda’u cyn gofalwyr maeth

 

641.      O dan adran 108 o’r Ddeddf, mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau newydd tuag at bobl ifanc mewn gofal maeth sy’n dymuno parhau i fyw gyda’u rhieni maeth ar ôl 18 oed.

 

642.      O dan adran 108 mae’n rhaid i awdurdodau lleol:

 

 

643.      Mae rheoliad 50 o’r Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (y ‘Rheoliadau CCPCR’) yn nodi i bwy y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cyngor a gwybodaeth ynglŷn â threfniadau byw ôl-18, a’r math o gyngor a gwybodaeth sydd angen eu darparu.

 

Trefniadau ôl-18 a ‘Phan Fyddaf yn Barod’

 

644.      Mae’r Ddeddf (adran 108(3)) yn defnyddio’r term ‘trefniant byw ôl-18’ i ddisgrifio sefyllfa lle mae person ifanc dros 18 oed sy’n gadael gofal yn parhau i fyw gyda’i riant/rhieni maeth mewn trefniant sy’n cael ei hwyluso gan yr awdurdod lleol. Mae’n bwysig sylwi bod y trefniadau hyn yn wahanol i leoliadau maeth. Ar ôl i berson ifanc gyrraedd 18 oed a throi’n oedolyn, nid yw ‘mewn gofal’ nac yn ‘derbyn gofal’ yn ôl y gyfraith, nid yw trefniadau maethu a deddfwriaeth yn ymwneud â phlant sy’n cael eu lleoli gyda gofalwyr maeth yn berthnasol bellach, ac mae’r sylfaen gyfreithiol ar gyfer person ifanc sy’n byw yng nghartref y gofalwr maeth yn newid. Yn hytrach na gwneud ‘lleoliad’, mae’r awdurdod lleol yn hwyluso ‘trefniant byw ôl-18’ ar gyfer y person ifanc. Yng Nghymru, cyfeirir at y trefniadau hyn fel trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’. 

 

645.      Pan Fydda i’n Barod’ yw enw’r cynllun a fydd yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd statudol i hwyluso trefniadau byw ôl-18. Fe’i datblygwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â llywodraeth leol a phartneriaid allweddol o’r trydydd sector, cyn cael ei gyflwyno ledled Cymru yn 2015-16. Disgwylir i awdurdodau lleol weithredu’r cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn lleol yn unol â’r canllawiau cenedlaethol a nodwyd yn y cod hwn.

 

646.      Gydol y bennod hon rydym wedi defnyddio’r term trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn hytrach na ‘threfniant byw ôl-18’ i ddangos bod y trefniadau hyn yn rhan o’r cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’.

 

Amcanion a chanlyniadau

 

647.      Prif amcanion ‘Pan Fydda i’n Barod’ yw:

 

 

648.      Mae trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn galluogi person ifanc i barhau i fyw mewn amgylchedd teuluol sefydlog a gofalgar ar ôl troi’n 18 oed, hyd at 21 oed neu nes ei fod wedi cwblhau rhaglen addysg neu hyfforddiant y cytunwyd arni. Mae trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn helpu i sicrhau nad oes amharu sydyn ar drefniadau byw pobl ifanc, sy’n gallu cael effaith negyddol ar eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu cyflogaeth, neu ar eu sgiliau byw’n annibynnol sy’n datblygu.

 

649.      Canlyniad cyffredinol ‘Pan Fydda i’n Barod’ yw’r ffaith y bydd gan y person ifanc yr amser a’r cymorth i ddatblygu’r sgiliau a’r cryfder gofynnol i bontio’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol.  

 

650.      Mae’r canlyniadau penodol canlynol wedi’u pennu ar gyfer y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’, yn unol â’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r Ddeddf: 

 

            Sefydlogrwydd a chysondeb

 

Gwella cyfleoedd bywyd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

 

Llais a rheolaeth

 

Cymhwysedd

 

651.      Mae pob ‘plentyn sy’n derbyn gofal’ sydd wedi’i osod yng ngofal maeth gan ei awdurdod lleol, ac sy’n agosáu at 18 oed, yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’.   

 

652.      I grynhoi, gall trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ gael ei wneud o dan yr amgylchiadau canlynol:

 

  

653.      Felly, mae modd gwneud trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer unrhyw berson ifanc a oedd mewn gofal maeth o’r blaen, ac a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei ben-blwydd yn 18 oed, cyn belled â bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni, waeth a yw’r person ifanc mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth lawnamser ai peidio.  

 

654.      Fodd bynnag, gan mai diben trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ yw paratoi pobl ifanc ar gyfer byw’n annibynnol a gwella eu cyfleoedd bywyd, dylid disgwyl i unrhyw berson ifanc sy’n dewis trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ ymrwymo i ddatblygu ei sgiliau er mwyn paratoi am y dyfodol. Gallai hyn gynnwys addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu wirfoddoli. Dylai’r disgwyliad hwn gael ei gynnwys yng nghynllun llwybr y person ifanc a bydd yn rhan o’r ‘Cytundeb Cyd-fyw’ ar ôl i’r trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ gychwyn.

 

655.      Mae’n rhaid i ‘Pan Fydda i’n Barod’ ganolbwyntio ar helpu’r person ifanc unigol sy’n gadael gofal maeth i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion mewn ffordd sy’n addas iddo. Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r meini prawf cymhwysedd mewn ffordd hyblyg ac er budd pennaf y person ifanc, yn enwedig wrth wneud trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer y bobl ifanc fwyaf agored i niwed a difreintiedig sydd mewn gofal maeth.

 

656.      Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar hyn o bryd i bobl ifanc mewn llety preswyl (cartrefi plant) aros yn y lleoliad hwnnw ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed. Fodd bynnag, mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu’r bobl ifanc hyn am y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn ystod y broses o asesu a chynllunio’r llwybr, fel bod modd eu symud i drefniant maethu addas os ydynt am ddewis trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’. 

 

657.      Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gweithio ar sail eu fframweithiau eu hunain mewn perthynas â threfniadau byw ôl-18. Mae’r fframweithiau hyn yn ystyried y cynlluniau gwahanol ar gyfer trefniadau ôl-18 mewn rhannau gwahanol o’r DU, gan gynnwys ‘Pan Fydda i’n Barod’ yng Nghymru a ‘Staying Put’ yn Lloegr.

 

Hyd trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’

 

658.      Dylid dechrau paratoi ar gyfer ‘Pan Fydda i’n Barod’ pan fo awdurdod lleol yn datblygu ‘cynllun llwybr’ ar gyfer person ifanc sy’n paratoi i bontio i fyd oedolion, ychydig cyn ei ben-blwydd yn 16 oed. Bydd y trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn cychwyn ar ben-blwydd y person ifanc yn 18 oed. Mae’r trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn para nes bod:

 

 

Newid statws

 

659.   Ar ôl i berson ifanc mewn lleoliad maeth droi’n 18 oed, mae’r sail gyfreithiol iddo barhau i fyw yn ei gyn-gartref maeth yn newid, wrth iddo ddod yn ‘drwyddedai eithriedig’.  Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei fod yn lletya yn y cartref a bod y gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn landlord arno. Gall y gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ ofyn i’r person ifanc sy’n drwyddedai eithriedig adael yr eiddo, ond rhaid iddo roi ‘rhybudd rhesymol’ iddo. Bydd y trefniadau ariannol rhwng y person ifanc a’r gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn wahanol hefyd. Ni ddylai newid statws cyfreithiol olygu bod y person ifanc yn cael ei drin yn wahanol i’r adeg pan oedd yn blentyn yn cael ei faethu. Yr egwyddor bwysicaf yw bod y cartref yn parhau i fod yn gartref i’r person ifanc a’i fod yn aelod o’r teulu o hyd.  

 

660.      Dylid mynd ati’n ofalus ac yn sensitif i gynllunio’r newid o fod yn blentyn sy’n cael ei faethu i fod yn oedolyn sy’n aelod o’r aelwyd, ac o fod yn ofalwr maeth i fod yn ofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’. Mae’n rhaid i’r person ifanc a’r gofalwyr ddeall natur y trefniant newydd, a dylid sicrhau nad yw’r agweddau cadarnhaol ar fod yn ofalwr maeth yn cael eu lleihau gan y trefniadau a’r derminoleg ariannol newydd.

 

Datblygu polisïau ‘Pan Fydda i’n Barod’

 

661.              Dylai awdurdodau lleol ddarparu polisïau a gweithdrefnau ‘Pan Fydda i’n Barod’ sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad yn ymwneud â’r holl agweddau ar y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer gofalwyr maeth a gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ a phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Dylai’r polisi gwmpasu’r meysydd canlynol:

 

 

662.      Yn ogystal, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn cael eu cynnwys yn briodol yn eu gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, cymeradwyo a hyfforddi gofalwyr maeth. 

 

663.      Ochr yn ochr â datblygu polisïau a gweithdrefnau ‘Pan Fydda i’n Barod’, dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried sut y gallant ddatblygu gallu ac arbenigedd er mwyn cyflwyno cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ lleol yn llwyddiannus. Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth ymdrin ag elfennau ariannol y cynllun, o ystyried cymhlethdod yr ystyriaethau budd-daliadau a threth, a fydd yn wahanol ym mhob achos gan ddibynnu ar anghenion ac amgylchiadau unigol. Gall awdurdodau lleol ystyried penodi swyddog ‘Pan Fydda i’n Barod’ dynodedig i ymgymryd ag elfennau ymarferol y trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’, gan gynnwys trafod lwfansau a sicrhau bod y person ifanc a’i ofalwr yn derbyn cymaint o incwm â phosibl. Yn ogystal â datblygu gwybodaeth ac arbenigedd, byddai hyn yn helpu i sicrhau cysondeb a thryloywder wrth roi’r cynllun ar waith.         

 

664.      Argymhellir y dylai paneli rhianta corfforaethol awdurdodau lleol gymeradwyo eu polisïau a’u gweithdrefnau ‘Pan Fydda i’n Barod’ cyn iddynt gael eu gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau cefnogaeth holl elfennau’r rhiant corfforaethol, gan gynnwys addysg ac iechyd. Bydd paneli rhianta corfforaethol hefyd yn cyfrannu at fonitro ac adolygu effeithiolrwydd cynlluniau ‘Pan Fydda i’n Barod’ lleol. 

 

Fframwaith rheoleiddio a diogelu

 

665.      Wrth sefydlu trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod eu gweithdrefnau diogelu yn cael eu diweddaru i gynnwys y trefniadau hyn, fel bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n byw ar yr aelwyd yn cael ei ddiogelu rhag niwed a chamdriniaeth. 

 

 

666.      Os yw person ifanc yn cyrraedd 18 oed a bod plant eraill sy’n cael eu maethu yn byw ar yr aelwyd, bydd y gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn parhau i fod yn ofalwr maeth cymeradwy a bydd yr holl ddeddfwriaeth yn ymwneud â maethu yn berthnasol o hyd ac yn rheoleiddio’r aelwyd gyfan. Er y bydd y ddeddfwriaeth faethu yn berthnasol yn bennaf i leoliadau plant sy’n cael eu maethu mewn lleoliadau gofal, mae’n sicrhau bod system o gymeradwyo, gwirio a goruchwylio yn berthnasol i’r aelwyd gyfan.

 

667.      Y newid mawr yw’r ffaith fod y plentyn a oedd yn cael ei faethu gynt yn dod yn oedolyn ar yr aelwyd, sy’n golygu y bydd angen y canlynol arno:

 

 

668.      Bydd angen i’r broses fod wedi cychwyn mewn da bryd i sicrhau bod y gwiriad ac unrhyw asesiad risg yn cael eu cwblhau erbyn pen-blwydd y person ifanc yn 18 oed. 

 

669.      Bydd angen i’r gofalwr maeth ddychwelyd at y panel maethu os yw’r amgylchiadau’n newid – h.y. os yw un o’r plant sy’n cael eu maethu wedi troi’n 18 oed ac yn byw fel oedolyn ar yr aelwyd o dan drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’. Bydd angen i’r panel maethu ystyried effaith y trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar delerau cymeradwyaeth y gofalwr maeth, gan gynnwys nifer y plant/pobl ifanc y mae ganddo gymeradwyaeth ar eu cyfer, ac a yw hyn yn cynnwys y person ifanc ‘Pan Fydda i’n Barod’.

 

 

 

670.      Pan fydd person ifanc yn troi’n 18 oed, ac nad oes unrhyw blant maeth eraill ar yr aelwyd, ni fydd y ddeddfwriaeth yn ymwneud â maethu yn berthnasol bellach. Os yw’n glir na fydd y gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn maethu unrhyw blant eraill, gall fod yn briodol terfynu ei gymeradwyaeth fel gofalwr maeth. Os oes posibilrwydd y bydd yn maethu eto yn y dyfodol, gall fod yn amhriodol terfynu’r gymeradwyaeth, o ystyried faint o amser sydd ei angen i’w gymeradwyo eto, a bydd angen i’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn sydd ei angen o dan y ddeddfwriaeth i gadw’r gymeradwyaeth ar agor.     

 

Monitro ac adolygu

 

671.      Dylai polisi ‘Pan Fydda i’n Barod’ yr awdurdod lleol gynnwys trefniadau ar gyfer monitro ac adolygu trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’. Dylai hyn gynnwys:

 

 

Paratoi ar gyfer trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’

 

672.      Mae’r Ddeddf yn nodi bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd glir i ganfod dymuniadau person ifanc a’i ofalwyr maeth wrth gynnal asesiad llwybr ychydig cyn pen-blwydd y person ifanc yn 16 oed. Os yw’r person ifanc a’i ofalwyr maeth yn mynegi awydd i ymrwymo i drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys hyn yng nghynllun llwybr y person ifanc. Mae’r Rheoliadau CPPCR yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r bobl ifanc a’u gofalwyr maeth fel y gallant wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn ag ymrwymo i drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am oblygiadau ariannol ymrwymo i drefniant ar gyfer y ddwy ochr. Hefyd, mae gan blant sy’n derbyn gofal hawl statudol i wasanaethau eiriolaeth.

 

673.      Ffactor allweddol a fydd yn dylanwadu ar benderfyniad y gofalwr maeth i ymestyn y lleoliad a pharodrwydd y person ifanc i ymrwymo i drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yw ansawdd y berthynas ac i ba raddau y mae ymlyniadau cadarn wedi’u sefydlu. Bydd cynllunio gofal a pharu effeithiol, ac ansawdd y gofal ar gyfer gofalwyr a phobl ifanc yn gwneud cyfraniad mawr at sicrhau canlyniad llwyddiannus.

 

674.      Mae’r Rheoliadau CPPCR yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth am ‘Pan Fydda i’n Barod’ i:

 

 

675.      Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn cynnwys:

 

 

676.      Mae’n rhaid i’r wybodaeth sy’n cael ei darparu i blentyn neu berson ifanc fod yn briodol i’w oedran a’i lefel ddealltwriaeth, ac yn briodol i’w anghenion a’i amgylchiadau.   

 

677.      Mae’n rhaid i bobl ifanc mewn llety preswyl gael gwybod am y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ fel rhan o’r broses asesu a chynllunio llwybr, yn yr un modd â phlant eraill sy’n derbyn gofal sydd mewn gofal maeth. Er na all person ifanc barhau i fyw mewn cartref plant ar ôl iddo droi’n 18 oed, os yw’r person ifanc yn mynegi awydd i symud i drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’, a bod yr awdurdod lleol o’r farn y bydd hyn er budd pennaf y plentyn, gall yr awdurdod lleol ystyried symud y person ifanc i leoliad maeth a allai ddod yn ddigon sefydlog cyn ei ben-blwydd yn 18 oed, gan ragdybio y bydd yn dod yn drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’.

 

678.      Hefyd, dylai awdurdod lleol ystyried symud lleoliad person ifanc o dan yr amgylchiadau canlynol:

 

 

679.      Dylai awdurdodau lleol hwyluso trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ os oes modd.

 

680.      Dylid disgwyl i unrhyw berson ifanc sy’n ymrwymo i drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ fynd ati i ddatblygu ei sgiliau er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol. Dylai’r person ifanc geisio  cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth lawn-amser os nad yw’n gwneud hynny’n barod, a gall fod yn gwneud gwaith gwirfoddol neu’n dilyn rhaglen paratoi am waith. Dylid trafod y materion hyn â’r person ifanc yn ystod y broses gynllunio llwybr ac wrth lunio Trefniant Cyd-fyw. Os yw’n dod i’r amlwg nad yw’r person ifanc yn cydymffurfio â’r disgwyliad hwn, dylai’r awdurdod lleol ystyried cynorthwyo’r person ifanc i symud ymlaen o’r trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’.     

 

681.      Os yw person ifanc mewn trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn gadael i fynd i’r brifysgol neu i’r coleg, dylai allu dychwelyd i gartref y gofalwr yn ystod y gwyliau. Os bwriedir i’r person ifanc ddychwelyd adref yn ystod y gwyliau, dylid barnu bod y trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn parhau i fod ar waith – h.y. ni fydd y ffaith fod y person ifanc yn gadael i fynd i’r brifysgol neu i’r coleg yn ystod y tymor yn terfynu’r trefniant. Os yw’r trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ ond yn berthnasol i gyfnodau yn ystod y gwyliau, a bod plant sy’n cael eu maethu yn byw ar yr aelwyd, dylid cofio bod y person ifanc mewn trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn cael ei ystyried yn oedolyn ar yr aelwyd, a bod angen sicrhau bod y gweithdrefnau diogelu priodol ar waith. 

 

Trefniadau amgen

 

682.      Er bod yn rhaid ystyried trefniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ bob amser, ac mai’r trefniadau hyn fydd yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio gan y rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n gadael gofal a fu mewn gofal maeth, nid yr opsiwn hwn fydd yr un mwyaf priodol bob tro. Bydd yn well gan rai pobl ifanc drefniadau byw’n annibynnol, tŷ llety â chymorth, dychwelyd i fyw gydag aelodau’r teulu, neu ddewisiadau eraill. Mae’n rhaid rhoi’r brif ystyriaeth bob amser i sut i gyflawni’r canlyniadau byw’n annibynnol a’r canlyniadau eraill a nodir yng nghynllun llwybr person ifanc sy’n gadael gofal. 

 

683.      Bwriedir y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal sydd angen cyfnod estynedig gyda’u cyn gofalwyr maeth er mwyn paratoi ar gyfer byw’n annibynnol a/neu gwblhau eu haddysg neu hyfforddiant. Trefniadau pontio yw’r rhain, a disgwylir i’r person ifanc symud ymlaen at drefniadau byw mwy annibynnol. Fodd bynnag, mae anghenion gofal a chymorth rhai pobl ifanc yn gymhleth ac yn barhaus, ac ni fydd symud ymlaen at fyw’n annibynnol yn opsiwn mwy hirdymor priodol iddynt. Mae’n rhaid i wasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion gydweithio, fel rhan o’r broses asesu a chynllunio llwybr, i ganfod y trefniant mwy hirdymor mwyaf priodol ar gyfer y bobl ifanc hyn. Bydd lleoliad oedolyn (rhannu bywydau) yn briodol i rai. Mewn rhai achosion, gall y person ifanc a’i ofalwyr maeth ddymuno ymrwymo i drefniant mwy hirdymor, a gall fod yn fwy priodol newid y lleoliad maeth i fod yn drefniant lleoliad oedolyn / rhannu bywydau pan fydd y person ifanc yn troi’n 18 oed. Ni ddylai awdurdodau lleol ddefnyddio ‘Pan Fydda i’n Barod’ fel trefniant dros dro wrth aros am asesiad priodol a newid sydd wedi’i gynllunio i fath arall o drefniant mwy addas.

684.      Yn hytrach na threfniant ‘Pan Fydda i’n Barod’, neu’n dilyn trefniant o’r fath, gall tŷ llety â chymorth fod yn opsiwn addas ar gyfer rhai pobl ifanc sy’n gadael gofal (er enghraifft, os oes angen llety gwyliau ar berson ifanc sydd mewn addysg lawnamser). Cynllun tai ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed yw tŷ llety â chymorth yn bennaf. Nid yw’n seiliedig ar y model teuluol sy’n cael ei hyrwyddo gan ‘Pan Fydda i’n Barod’, ac mae’n cael ei reoli gan gynllun statudol ar wahân. Mae’r rheolau treth a budd-daliadau ar gyfer tŷ llety â chymorth yn wahanol i’r rhai ar gyfer ‘Pan Fydda i’n Barod’ hefyd, yn enwedig mewn perthynas â rhyddhad gofal cymwys ar gyfer y gofalwr / y darparwr llety â chymorth. Dylid trafod manteision cymharol ‘Pan Fydda i’n Barod’ a thŷ llety â chymorth â’r person ifanc a’i ofalwyr maeth fel rhan o’r broses asesu a chynllunio llwybr. Os yw’r person ifanc yn dymuno aros gyda’i ofalwr maeth ar ôl cyrraedd 18 oed, bydd hyn yn digwydd o dan drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn y rhan fwyaf o achosion.   

 

Trefniadau Cyd-fyw

 

685.      Wrth i’r person ifanc gyrraedd 18 oed, dylai’r awdurdod lleol wneud trefniadau i droi ei gynllun gofal a chymorth Rhan 6 yn ‘Gytundeb Cyd-fyw’. Yn gyffredinol, dylai’r Cytundeb Cyd-fyw gwmpasu’r un ystod o faterion ag y nodir yn y cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r lleoliad maeth, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau dymunol y person ifanc fel y’u nodir yn ei gynllun llwybr, y bobl sydd yn y sefyllfa orau i helpu’r person ifanc i gyflawni’r canlyniadau, a sut byddant yn gwneud hyn. Er y bydd disgwyl o hyd i’r person ifanc ymddwyn mewn ffordd sy’n cyd-fynd ag arferion yr aelwyd, bydd mwy o bwyslais ar hysbysu’r gofalwr yn hytrach na gofyn am ei ganiatâd.

 

686.      Dylai’r awdurdod lleol drefnu cyfarfod Cytundeb Cyd-fyw chwe mis cyn i’r person ifanc droi’n 18 oed. Dylai’r person ifanc, gofalwyr maeth, Cynghorwyr Personol, a gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymdeithasol arolygu maethu’r person ifanc i gyd fynychu’r cyfarfod. Dylai’r cytundeb nodi disgwyliadau pawb ac egluro eu rolau a’u cyfrifoldebau. Rhaid sicrhau bod y cynllun yn cael ei ysgrifennu yn glir fel bod pawb yn gallu ei ddeall.

 

687.      Dylai’r Cytundeb Cyd-fyw gynnwys:

 

 

688.      Mae’n rhaid i’r Cytundeb Cyd-fyw fod yn sensitif i deimladau pawb ac yn gymesur â’u hamgylchiadau penodol. Bydd y manylion sydd eu hangen ym mhob achos yn dibynnu ar natur y berthynas sy’n bodoli rhwng y person ifanc a’i ofalwyr, ac i ba raddau y gallai’r berthynas newid.

 

689.      Dylai’r Cytundeb Cyd-fyw gael ei fonitro, ei werthuso a’i ddiwygio yn ôl y gofyn yn ystod yr adolygiadau cynllunio llwybr chwe mis, a dylai’r gweithiwr cymdeithasol goruchwylio ei ddefnyddio fel dull goruchwylio.  

 

Terfynu trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’

 

690.      Gall y person ifanc neu’r gofalwr ddod â threfniadau ‘Pan Fydda i’n Barod’ i ben, neu gall yr awdurdod lleol wneud hynny drwy benderfynu rhoi’r gorau i ddarparu cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth os yw’n teimlo nad yw’r trefniadau yn gyson â llesiant y person ifanc bellach. Dylai’r Cyfarfod Cyd-fyw ystyried o dan ba amgylchiadau y gall trefniant ddod i ben, a’r goblygiadau i’r ddwy ochr os yw hynny’n digwydd. Mae’n bosibl y bydd yn briodol i’r Cytundeb Cyd-fyw gynnwys gofynion ar gyfer rhoi rhybudd. 

 

691.      Bydd trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn symud allan o gartref y gofalwr (ac eithrio pan fydd y person ifanc yn gadael cartref dros dro yn ystod tymor y brifysgol ac yn dychwelyd yn ystod y gwyliau).  Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd person ifanc yn symud o’r trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ i fyw’n fwy annibynnol, cyn penderfynu ei fod yn dymuno dychwelyd i fyw gyda’i ofalwr (er enghraifft, mae byw ar ei ben ei hun wedi bod yn fwy anodd na’r disgwyl). Er na fydd y trefniant yn drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ bellach, bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswyddau statudol o hyd tuag at y person ifanc sy’n gadael gofal, a gall fod yn briodol i’r awdurdod lleol gefnogi’r trefniant ar sail wahanol.      

 

692.      Gall y gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ ofyn i’r person ifanc sy’n drwyddedai eithriedig adael yr eiddo, ond rhaid iddo roi ‘rhybudd rhesymol’ iddo. Mewn amgylchiadau eithriadol, pan fydd trefniant yn methu yn sydyn ac nad oes modd ei adfer, gall fod yn rhesymol i’r gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ roi rhybudd byr iawn a gofyn i’r person ifanc adael ar yr un diwrnod (byddai achosion fel hyn yn eithriadol o brin, a byddai gan awdurdod lleol ddyletswydd gofal o hyd).

 

Trefniadau Ariannol

 

693.      Erbyn hyn, nid yw gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn gymwys i dderbyn lwfansau a ffioedd maethu ar gyfer unrhyw bobl ifanc dros 18 oed sy’n byw gyda nhw (er y gallant dderbyn lwfansau o hyd ar gyfer plant sy’n cael eu maethu ganddynt). Yn hytrach, byddant yn derbyn lwfans ‘Pan Fydda i’n Barod’. Bydd awdurdodau lleol yn pennu eu cyfraddau eu hunain ar gyfer lwfansau ‘Pan Fydda i’n Barod’ (fel sy’n digwydd ar gyfer lwfansau maethu). Dylai’r lwfans dalu’r holl gostau rhesymol i helpu’r person ifanc sy’n gadael gofal i barhau i fyw gyda’i ofalwr. Bydd y taliadau gan awdurdodau lleol i ofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn cael eu gwneud yn unol â’r ddarpariaeth o dan adran 110(2) a (4) o’r Ddeddf hon. 

 

694.      Gan mai amcan y cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ yw sicrhau cysondeb a sefydlogrwydd, argymhellir y dylai gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ dderbyn yr un lefel o gymorth ariannol â’r Lwfansau Gofynnol Cenedlaethol sy’n cael eu talu i ofalwyr maeth.             

 

695.      Pan fydd yn troi’n 18 oed, gall y person ifanc fod yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau prawf modd (fel budd-dal tai), neu mae’n bosibl y bydd yn derbyn bwrsari addysg neu’n ennill incwm o gyflogaeth lawnamser neu ran-amser. Mae hyn yn golygu y bydd yn gallu cyfrannu at gostau bwyd a llety, a thalu am bethau personol fel dillad, teithio neu arian gwyliau. Mae hyn yn annog y person ifanc i ddatblygu ei sgiliau cyllidebu a’i gynorthwyo i baratoi i fyw’n annibynnol. Bydd angen cyfrifo cyfraniad y person ifanc ar sail achosion unigol, yn enwedig os oes gan y person ifanc swydd sydd â chontract sy’n newid neu gontract dim oriau.

 

696.      Dylai’r lwfans sy’n cael ei dalu i’r gofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ adlewyrchu unrhyw gyfraniad sy’n cael ei wneud gan y person ifanc o’r ffynonellau incwm hyn, ac o ganlyniad bydd yr union swm sydd i’w dalu i unrhyw ofalwr unigol yn dibynnu ar ei anghenion a’i amgylchiadau penodol. Wrth gyfrifo’r swm, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i effaith y trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ ar sefyllfa ariannol y teulu.

 

697.      Felly, bydd y lwfans sy’n cael ei dalu gan yr awdurdod lleol i ofalwr ‘Pan Fydda i’n Barod’ ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pecyn cymorth ymarferol ac emosiynol sy’n cael ei ddarparu gan y gofalwr i’r person ifanc. Yn wahanol i’r lwfans maethu a oedd yn cael ei dalu o’r blaen i’r gofalwr, ni fydd yn cynnwys unrhyw elfen sydd i’w rhoi i’r person ifanc neu sydd i’w gwario arno ar gyfer eitemau personol, dillad, teithio neu lwfansau gwyliau, gan y bydd y rhain yn cael eu disodli gan enillion y person ifanc neu ei hawl i fudd-daliadau pan fydd yn troi’n 18 oed.

 

698.      Dylai awdurdodau lleol fod â pholisi clir ynglŷn â’r cyfraddau y maent yn eu talu i ofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’, gan nodi sut maent yn cael eu cyfrifo, ac yn cynnwys proses dryloyw a theg ar gyfer asesu cyfraniad ariannol y person ifanc at y trefniant.

 

699.      Os yw trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn cael ei gynnig gydag Asiantaeth Faethu Annibynnol, bydd angen trafod yn gynnar â’r asiantaeth er mwyn penderfynu ar y trefniant a’r lwfans a fydd yn cael ei dalu.

 

700.      I rai gofalwyr maeth, gall colli incwm o ffioedd maethu fod yn rhwystr mawr i sefydlu trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’, yn enwedig os mai maethu yw eu prif ffynhonnell incwm. O dan yr amgylchiadau hyn, gall awdurdodau lleol ystyried talu swm ychwanegol i sicrhau bod y trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn gallu mynd rhagddo.

 

701.      Dylai polisïau awdurdodau lleol hefyd egluro’r effaith ar y trefniadau ariannol pan fydd person ifanc yn absennol o’i gartref dros dro – er enghraifft, os yw yn y brifysgol neu ar wyliau. Er bod y trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn parhau i fod ar waith, gall lwfans y gofalwr leihau tra bod y person ifanc oddi cartref.     

 

702.      Gall awdurdodau lleol ystyried manteision talu budd-dal tai yn uniongyrchol i adran gwasanaethau plant yr awdurdod lleol, fel bod y lwfans sy’n cael ei dalu i’r gofalwr yn aros yn gyson. 

 

703.      I grynhoi, bydd angen i ofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ wybod y canlynol:

 

 

Yswiriant

 

704.      Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ yn ymwybodol o’r ystyriaethau ymarferol yn ymwneud ag yswiriant. Dylai gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ sicrhau eu bod yn hysbysu eu darparwr morgais neu landlord, a’u darparwr yswiriant adeilad a chynnwys, am y ffaith y byddant yn parhau i gefnogi plentyn a oedd yn arfer derbyn gofal maeth fel oedolyn ifanc o dan drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gallant fod yn torri eu gofynion morgais/tenantiaeth, gan olygu na fydd yr yswiriant yn ddilys o bosibl oherwydd eu bod wedi ‘methu datgelu ffeithiau perthnasol’.

 

705.      Mae’n rhaid i ofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ sy’n cludo pobl ifanc gydymffurfio â’r un lefelau o ran safonau a gofal ag y gwnaethant wrth gludo plentyn maeth – h.y. yswiriant busnes cyflawn, MOT dilys, Trwydded Cerbyd Ffordd a cherbyd sy’n addas i fynd ar y ffordd.

 

706.      Dylai gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ dderbyn gwybodaeth am yswiriant atebolrwydd mewn sefyllfa pan fydd pobl ifanc yn gwneud cyhuddiad yn erbyn plentyn sy’n cael ei faethu mewn lleoliad, neu yn erbyn eu gofalwr/gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’, neu pan fydd person ifanc yn wynebu cyhuddiad. Dylai gofalwyr maeth / gofalwyr ‘Pan Fydda i’n Barod’ egluro’r trefniadau ar gyfer ymestyn yswiriant ar ôl pen-blwydd y person ifanc yn 18 oed. 

 


Pennod 7:  Llety Diogel

 

Plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi diogel i blant

 

707.      Mae cartrefi diogel i blant yn rhan bwysig o’r gwasanaethau a’r cyfleusterau preswyl amrywiol sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, ac yn aml y cartrefi hyn yw’r ffordd fwyaf addas neu’r unig ffordd o ymateb i anghenion plentyn. Er bod yn rhaid ystyried popeth yn ofalus cyn penderfynu lleoli plentyn mewn llety diogel, gall lleoliad diogel fod yn ymyrraeth gadarnhaol ar gyfer y plentyn.

 

708.      Mae cyfyngu ar ryddid plentyn yn gam difrifol, ac mae’n rhaid sicrhau bod y cam hwn yn angenrheidiol, ac ystyried pob dewis arall, cyn ei roi ar waith. Mae’n rhaid i’r penderfyniad i leoli plentyn mewn cartref diogel i blant fod yn seiliedig ar y ffaith mai hwn yw’r dewis gorau i ddiwallu anghenion penodol y plentyn, a dylai’r lleoliad fod yn rhan o gynllun cyffredinol yr awdurdod lleol ar gyfer lles y plentyn. Ar ôl i leoliadau diogel gael eu gwneud, dylent ddod i ben pan nad ydynt yn addas bellach i ddiwallu anghenion y plentyn.

 

709.      Gall awdurdod lleol leoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn cartref diogel i blant am resymau penodol yn unig, ac (yn amodol ar gais 72 awr ymlaen llaw o leiaf) ar ôl sicrhau gorchymyn llety diogel gan y llysoedd. Mae angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru hefyd os yw’r plentyn o dan 13 oed. Mae’r lleoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 119 o’r Ddeddf. Cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel ‘lleoliadau lles’.

 

710.      Gall plant a phobl ifanc gael eu lleoli mewn cartrefi diogel i blant gan y system cyfiawnder ieuenctid hefyd, os ydynt yn wrthrych Gorchymyn Cadw a Hyfforddi (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998) neu os ydynt yn cael dedfryd o garchar (o dan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000, adrannau 90-92). Os yw’r llys yn gwrthod mechnïaeth i blant a’u remandio i gartref diogel i blant, byddant yn cael eu trin fel plant sy’n derbyn gofal (gweler adran 104 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012). 

 

711.      Mae’r egwyddorion allweddol sy’n sylfaen i adran 119 o’r Ddeddf ac i Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (‘y Rheoliadau CSA’) wedi’u nodi yn Erthygl 37(b) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n datgan y canlynol:

 

712.      Ni fydd unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o’i ryddid mewn ffordd anghyfreithlon neu fympwyol. Bydd unrhyw achos o arestio, cadw neu garcharu plentyn yn cydymffurfio â’r gyfraith, a bydd hynny ond yn digwydd fel dewis olaf ac ar gyfer yr amser priodol lleiaf.    

 

713.      Dylid darllen y bennod hon ochr yn ochr â’r cod ymarfer ar Ran 11 o’r Ddeddf, sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u collfarnu o drosedd ac sy’n bwrw eu dedfryd yn yr ystâd ddiogeled. 

 

Lleoliadau o dan 119

 

714.      Dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y gellir lleoli neu gadw plentyn sy’n derbyn gofal mewn llety diogel:

 

715.      Mae’n anghyfreithlon cyfyngu ar ryddid plentyn mewn cartref diogel i blant heb fodloni un o’r meini prawf uchod, waeth pa mor fyr yw’r cyfnod cyfyngu. Ni ellir cadw plentyn sy’n derbyn gofal mewn llety diogel am fwy na 72 awr heb awdurdod y llys. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi’r rhesymau pam y mae’n credu bod y meini prawf o dan adran 119 o’r Ddeddf wedi’u bodloni, diben y lleoliad, a’r rhesymau pam y mae’n credu bod y lleoliad yn angenrheidiol. Mae’n rhaid rhoi copi o’r cofnod hwn i’r plentyn ac i bersonau perthnasol eraill.  

 

716.      Dim ond llety mewn cartref plant sydd wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio fel llety diogel gan Weinidogion Cymru a fydd yn cael ei ddefnyddio i leoli plant sy’n derbyn gofal o dan adran 119. 

 

717.      Mae’r fframwaith sy’n rheoli lleoliadau o’r fath wedi’i roi ar waith i gyflawni’r amcanion canlynol: 

 

718.      Dylai pob penderfyniad i leoli plentyn mewn llety diogel gael ei awdurdodi gan un o uwch swyddogion enwebedig adran gwasanaethau plant yr awdurdod lleol.

 

719.      Os yw’r llys yn derbyn cais am orchymyn llety diogel, y llys sy’n gyfrifol am ddiogelu hawliau’r plentyn drwy ei fodloni ei hun bod y meini prawf ar gyfer cadw plentyn mewn llety diogel wedi’u bodloni. Mae’n rhaid i’r llys wneud gorchymyn am gyfnod o amser sy’n briodol ym marn y llys. Ar ôl gwneud gorchymyn ar gyfer llety diogel, os nad yw’r meini prawf ar gyfer cadw’r plentyn mewn llety diogel yn berthnasol bellach, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynllunio newid lleoliad i leoliad agored, a rhoi’r newid ar waith, cyn gynted â phosibl ar ôl adolygiad statudol o’r cynllun gofal.

 

Lleoli plant o dan 13 oed

 

720.      Mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn lleoli plentyn o dan 13 oed mewn cartref diogel i blant. Gall Gweinidogion Cymru bennu bod eu  cymeradwyaeth yn amodol ar unrhyw amodau a thelerau sy’n briodol yn eu barn nhw. Nid oes angen cymeradwyaeth i leoli plant a phobl ifanc 13 oed a throsodd, ond mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt y gorchmynion llys gofynnol ar gyfer hyn. Ni fydd yr awdurdod lleol yn gallu mynd i’r llys i wneud cais am orchymyn llety diogel heb gymeradwyaeth gweinidogion. Os yw’r plentyn yn parhau i fod o dan 13 oed pan ddaw cyfnod y gymeradwyaeth i ben, a bod yr awdurdod lleol yn dymuno ymestyn y lleoliad,  mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ofyn eto am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.   

 

721.      Mae’r broses ar gyfer gofyn am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru wedi’i nodi isod:   

 

Text Box: Cam 1: Cysylltu â Llywodraeth Cymru 
 
 Dylid ffonio cyn 5pm, ac mor gynnar â phosibl yn y dydd os yn bosibl. Mae hysbysiad cynnar ynglŷn â chais posibl yn fanteisiol, hyd yn oed os nad yw penderfyniad terfynol wedi’i wneud. Os oes angen i awdurdod lleol wneud lleoliad mewn argyfwng ar ôl 5pm, dylai ffonio rhif ffôn y tu allan i oriau Llywodraeth Cymru. 
 
 Cam 2: Darparu’r manylion cychwynnol dros y ffôn
 
 Bydd angen i’r awdurdod lleol ddarparu’r canlynol:
 • enw a dyddiad geni’r plentyn perthnasol
 • crynodeb ar lafar o’r rhesymau ar gyfer y lleoliad diogel
 • cadarnhad a yw gwely mewn llety diogel i blant wedi’i ganfod ac a yw ar gael
 • cadarnhad a yw’r plentyn gyda’r awdurdod lleol ar hyn o bryd neu a yw ar goll o ofal (wedi dianc) 
 • manylion ynglŷn â phryd y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r llys i ofyn am orchymyn diogel 
 • manylion y dewisiadau amgen i leoliad mewn llety diogel i blant sydd wedi’u hystyried a pham y cawsant eu gwrthod.
 
 Cam 3: Cyflwyno gwaith papur ysgrifenedig mewn e-bost
 
 Bydd angen i’r awdurdod lleol ddarparu’r canlynol:
 • hanes/cronoleg ysgrifenedig lawn o’r plentyn 
 • cynllun gofal cyfoes ar gyfer cyfnod y lleoliad diogel, gan gynnwys nodau ac amcanion y lleoliad, ac os oes modd, y strategaeth ymadael â llety diogel
 • cytundeb ysgrifenedig ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Pennaeth Gwasanaeth neu uwch, yn gofyn am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
 
 Os yw’r awdurdod yn gofyn am leoliad diogel y tu allan i oriau, mae’n bosibl na fydd modd cyflwyno’r gwaith papur perthnasol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cofnodi yn ystod y sgwrs ffôn gychwynnol, a bydd yn ofynnol i gynrychiolydd yr awdurdod lleol roi sicrwydd ar lafar bod y Cyfarwyddwr Cynorthwyol neu rywun uwch wedi cytuno i’r lleoliad diogel. 
 
 Cam 4: Ystyried y cais
 
 Bydd y swyddog o Lywodraeth Cymru yn trafod y wybodaeth sydd wedi’i darparu ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Mae’n bosibl y bydd cynrychiolydd o AGGCC yn cysylltu â’r awdurdod i drafod yr achos ymhellach. 
 
 Cam 5: Rhoi gwybod am benderfyniad
 
 Os yw cais yn cael ei gymeradwyo, bydd llythyr a thystysgrif yn cael eu cyflwyno i’r awdurdod mewn e-bost ar yr un diwrnod. Bydd y copïau caled o’r dogfennau sydd wedi’u llofnodi yn cael eu hanfon at y Cyfarwyddwr Cynorthwyol neu’r unigolyn tebyg a gefnogodd y cais ar ran yr awdurdod lleol.
 
 Os yw cais wedi’i wneud y tu allan i oriau, ni fydd y llythyr a’r dystysgrif gymeradwyo yn cael eu cyhoeddi tan y diwrnod gwaith nesaf. Rhoddir cytundeb llafar dros y ffôn.

Y cyfnod hiraf mewn llety diogel heb awdurdod y llys

 

722.      Mae’r Rheoliadau CSA yn cyfyngu’r cyfnod hiraf y gellir cadw plentyn sydd wedi’i leoli o dan adran 119 mewn llety diogel heb awdurdod y llys. Y cyfnod hiraf yw 72 awr, yn olynol neu yn ei grynswth, mewn unrhyw gyfnod 28 diwrnod yn olynol. 

 

723.      Dylai’r cyfnod o hyd at 72 awr sicrhau bod gan yr awdurdod lleol ddigon o amser i baratoi cais, ei roi i’r llys a’i gyflwyno i bawb sydd â’r hawl i dderbyn copi er mwyn bwrw ymlaen â gwrandawiad effeithiol. Mae’n bwysig nodi bod y cyfnod o hyd at 72 awr yn cael ei bennu fel bod digon o amser i sicrhau bod yr holl gamau ar waith i alluogi llys i ystyried manteision y cais yn deg. Mae’n golygu bod pawb perthnasol, gan gynnwys y plentyn, ei rieni ac ymwelwyr annibynnol (lle bo hynny’n briodol) sydd i’w hysbysu am y bwriad i wneud cais am orchymyn sy’n awdurdodi lleoliad mewn llety diogel, yn cael digon o amser i chwilio am gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol. Yn benodol, mae’n rhoi digon o amser i’r plentyn, ei rieni a’i gynrychiolwyr cyfreithiol ddeall yr achos sy’n cael ei gyflwyno gan yr awdurdod lleol a pharatoi eu hachos eu hunain, fel y gallant herio unrhyw dystiolaeth y mae’r awdurdod lleol yn dibynnu arni.

 

724.      Dylid pwysleisio hefyd mai 72 awr yw’r cyfnod hiraf, ac y dylai awdurdodau lleol wneud cais i’r llysoedd mor gynnar â phosibl bob amser, a gofyn am wrandawiadau gerbron y llys ar yr amser cynharaf sydd ar gael, sydd hefyd yn sicrhau bod gan y rhai sy’n cynrychioli’r plentyn a rhieni’r plentyn ddigon o amser i ystyried y rhesymau ar gyfer cais yr awdurdod lleol a sylfaen y cais.    

 

725.      Ceir darpariaethau arbennig os yw’r cyfnod o hyd at 72 awr yn dod i ben yn hwyr nos Sadwrn, ar ddydd Sul neu adeg gwyliau cyhoeddus, sef

mae’r cyfnod hiraf yn cael ei ymestyn tan hanner dydd ar y diwrnod cyntaf nad yw’n wyliau cyhoeddus neu’n ddydd Sul.

 

726.      Bwriedir i’r estyniad cyfyngedig hwn o’r rheol 72 awr fod yn berthnasol i argyfyngau yn unig. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol wneud popeth posibl i sicrhau bod cais yn cael ei glywed yn gynt mewn achos lle y byddai’r cyfnod 72 awr yn dod i ben ar ddiwrnod pan nad yw’r llysoedd yn eistedd fel arfer.

 

727.      Os yw’r llys wedi awdurdodi bod plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel, bydd unrhyw amser pan gafodd y plentyn ei gadw mewn llety o’r fath cyn awdurdodiad y llys yn cael ei anwybyddu at ddibenion cyfrifo cyfnod hiraf unrhyw gyfnod dilynol pan leolir y plentyn mewn llety o’r fath ar ôl i’r cyfnod a awdurdodwyd gan y llys ddod i ben. Yn ymarferol, mae’r rheoliad hwn yn golygu y bydd y cyfnod 28 diwrnod yn ailddechrau pan ddaw unrhyw orchymyn llys arall i ben. Bwriad hyn yw ymateb i achos lle y gallai plentyn gael ei aildderbyn i lety diogel mewn argyfwng yn y sefyllfa ganlynol:  

 

Ceisiadau i’r llys

 

728.      Ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, dim ond yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn sy’n gallu gwneud cais i’r llys o dan adran 119 o’r Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol yn Lloegr sy’n penderfynu lleoli plentyn sy’n derbyn gofal mewn llety diogel yng Nghymru.

 

729.      Bydd awdurdodau lleol yn nodi bod cais i leoli plentyn mewn llety diogel yng Nghymru yn cael ei wneud o dan adran 119 o’r Ddeddf. Os bwriedir lleoli plentyn mewn cartref plant sy’n darparu llety diogel yn Lloegr, bydd angen gwneud cais i’r llys o dan adran 25 o Ddeddf Plant 1989. Gall y llysoedd yng Nghymru glywed ceisiadau o dan adran 119 o’r Ddeddf neu adran 25 o Ddeddf Plant 1989.

 

730.      Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais i’r llys, mae’n rhaid iddo hysbysu’r canlynol, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol: 

 

731.      Mae hyn yn berthnasol i geisiadau i’r llys ar ôl y cyfnod 72 awr cyntaf ac i geisiadau wedi’u hadnewyddu i gadw plentyn mewn llety diogel ar ôl y cyfnod cychwynnol a awdurdodwyd gan y llys.

 

732.      Dylai awdurdod lleol sicrhau ei fod yn paratoi plant yn ddigonol ar gyfer y gwrandawiad llys, gan gofio oed a dealltwriaeth y plentyn. Dylai hawl y plentyn i gyllid ar gyfer achosion cyfreithiol gael ei hegluro’n ofalus i’r plentyn ac i rieni’r plentyn. Mae’n bosibl y bydd angen rhywfaint o arweiniad ar y staff ar baratoi adroddiadau ac ar yr angen i sicrhau bod y llys yn derbyn tystiolaeth fanwl o’r rhesymau bod y plentyn yn bodloni’r meini prawf statudol ar gyfer ei roi neu ei gadw mewn llety diogel.

 

733.      O dan adran 119(6) o’r Ddeddf, ni all llys arfer ei bwerau i awdurdodi cyfnod o lety diogel o dan adran 119, oni bai bod y plentyn wedi gwrthod neu fethu â gwneud cais am gynrychiolaeth a ariennir gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol fel rhan o’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol neu’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol, a’i fod wedi’i hysbysu am ei hawl i wneud cais ac wedi cael cyfle i wneud hynny. Dylid annog plant i benodi cynrychiolydd cyfreithiol mewn achosion o’r fath a rhoi pob cymorth posibl iddynt wneud y trefniadau gofynnol. Mae darpariaeth cyllid ar gyfer achosion o’r fath wedi’i chynnwys yn ‘y Cod Ariannu’ a wnaed o dan   Ddeddf Mynediad i Gyfiawnder 1999. Y Cod Ariannu yw’r set o reolau a ddefnyddir i benderfynu pa achosion a gaiff eu hariannu drwy gymorth cyfreithiol sifil.

 

734.      Mae achosion o dan adran 119 yn achosion penodedig at ddibenion adran 41 (6) o Ddeddf Plant 1989. Felly, mae’n rhaid i’r llys benodi swyddog y gwasanaeth (swyddog CAFCASS Cymru y cyfeirir ato fel Gwarcheidwad Plant) ar gyfer y plentyn oni bai ei fod yn credu nad oes angen gwneud hynny er mwyn diogelu buddiannau’r plentyn. Penodir y swyddog yn unol â rheolau’r llys, ac mae ganddo ddyletswydd i ddiogelu buddiannau’r plentyn yn y modd sy’n cael ei ddisgrifio yn y cyfryw reolau. Bydd y swyddog yn penodi cyfreithiwr ar gyfer y plentyn. Mae hon yn ddarpariaeth bwysig sydd â’r nod o sicrhau bod llesiant y plentyn y darperir llety diogel ar ei gyfer yn cael ei ddiogelu’n ddigonol.

 

Hyd gorchmynion llety diogel

 

735.      Gall y llys awdurdodi bod plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei gadw mewn llety diogel am hyd at dri mis yn y lle cyntaf.

 

736.      Os yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn (neu awdurdod neu berson arall fel sy’n briodol) yn credu y dylai lleoliad y plentyn mewn llety diogel barhau ar ôl y cyfnod sy’n cael ei bennu yn y gorchymyn llys cychwynnol, mae’n rhaid gwneud cais arall i’r llys. Mae’r Rheoliadau CSSA yn galluogi’r llys i awdurdodi bod plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel am hyd at chwe mis arall ar unrhyw adeg.

 

737.      Gall llys awdurdodi bod plentyn sydd wedi’i remandio i lety awdurdod lleol o dan adran 91(3) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi 2012 yn cael ei gadw mewn llety diogel ar gyfer y cyfnod remánd yn unig. Mae hyn yn berthnasol waeth a yw’r cyfnod yn gyfnod remánd cychwynnol neu’n gyfnod pellach.

 

738.      Os yw’r llys yn gohirio ystyried cais, mae’n gallu gwneud gorchymyn interim sy’n awdurdodi bod y plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel yn ystod cyfnod y gohirio (adran 119(5) o’r Ddeddf). Os yw’r llys yn gohirio ystyried cais ac nad yw’n gwneud gorchymyn interim, ni ellir lleoli’r plentyn mewn llety diogel yn ystod cyfnod y gohirio oni bai bod ei amgylchiadau’n newid, a bydd y gweithdrefnau arferol yn berthnasol wedyn.

 

Dyletswydd i roi gwybodaeth am leoliad

 

739.      Os yw plentyn yn cael ei leoli mewn cartref diogel i blant sy’n cael ei ddarparu gan berson heblaw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, mae’n rhaid i berson cofrestredig y cartref plant hysbysu awdurdod lleol y plentyn am y lleoliad o fewn 12 awr i ddechrau’r lleoliad. Y person cofrestredig yw rheolwr cofrestredig neu ddarparwr cofrestredig y cartref plant fel arfer.    

 

740.      Wedyn, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gadarnhau’r canlynol i’r person cofrestredig:

 

741.      Os oes modd, dylid rhoi gwybod am y lleoliad dros y ffôn cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo gychwyn, ac mae’n hanfodol bod darparwyr llety diogel yn ymwybodol o sut i gysylltu ag awdurdodau lleol y tu allan i oriau swyddfa arferol (er enghraifft, y penwythnos a gwyliau cyhoeddus). Os defnyddir e-bost i roi gwybod, mae’n rhaid i’r darparwr sicrhau ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth o’r hysbysiad gan uwch gynrychiolydd o’r awdurdod lleol o fewn 12 awr.

 

Adolygu lleoliadau

 

742.      Mae’r Rheoliadau CSA yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sy’n penderfynu lleoli plentyn mewn llety diogel benodi o leiaf tri pherson i adolygu’r penderfyniad o fewn mis i ddechrau’r lleoliad. Dylai o leiaf un o’r rhain fod yn berson nad yw’n aelod neu’n swyddog yr awdurdod lleol. Mae’n rhaid cynnal adolygiadau eraill bob mis tra bod y lleoliad yn parhau. 

 

743.      Dylid nodi mai’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn ac nid yr awdurdod lleol sy’n rheoli’r cartref diogel i blant (os ydynt yn wahanol) sy’n gyfrifol am gynnal yr adolygiadau.

 

744.      Mae’r Rheoliadau CSA yn ei gwneud yn ofynnol i’r personau penodedig ystyried y canlynol:

 

745.      Wrth wneud hyn, mae’n rhaid iddynt ystyried lles y plentyn y mae ei achos yn cael ei adolygu.

 

746.      Wrth gynnal yr adolygiadau hyn, mae’n rhaid i’r personau penodedig, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, ganfod ac ystyried dymuniadau a theimladau’r canlynol:   

 

747.      Mae’n rhaid i’r personau penodedig wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynglŷn ag a ddylai lleoliad y plentyn mewn llety diogel barhau. Dylid nodi bod diben yr adolygiadau hyn yn gyfyngedig i adolygu a yw’r amodau ar gyfer cadw’r plentyn mewn llety diogel yn berthnasol o hyd ai peidio, ac a fyddai llety o fath arall yn diwallu anghenion y plentyn yn well ym marn y personau penodedig. Nid yw’r adolygiad o lety diogel yn disodli’r adolygiad statudol o gynllun gofal cyffredinol y plentyn, ac mae’n rhaid i’r Swyddog Adolygu Annibynnol gadeirio’r adolygiad hwn.

 

748.      Os yw’r panel adolygu yn dod i’r casgliad nad yw’r meini prawf ar gyfer cyfyngu ar ryddid y plentyn yn berthnasol bellach, neu nad oes angen y lleoliad bellach, neu y byddai math arall o leoliad yn fwy priodol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gynnal adolygiad statudol o gynllun gofal y plentyn, wedi’i gadeirio gan ei Swyddog Adolygu Annibynnol, er mwyn ystyried datblygu dewisiadau amgen ar gyfer y plentyn a chynllunio unrhyw newid i leoliad amgen.   

 

749.      Dylid hysbysu pawb y rhoddwyd ystyriaeth i’w safbwyntiau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, am ganlyniad yr adolygiad o’r llety diogel, y rhesymau am y canlyniad a pha gamau gweithredu, os o gwbl, y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu rhoi ar waith yn sgil yr adolygiad a’r argymhelliad.   

 

750.      Waeth beth yw’r rheswm am y lleoliad mewn llety diogel, ac am faint bynnag o amser y mae’n para, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol greu cynlluniau clir ar gyfer yr adeg pan fydd y plentyn yn gadael llety diogel, er mwyn sicrhau cysondeb gofal ac addysg ac, os oes angen, cysondeb o ran unrhyw ymyrraeth neu gymorth arbenigol pan fydd y plentyn yn gadael y cartref.

 

Cofnodion

 

751.      Mae’r Rheoliadau CSA yn ei gwneud yn ofynnol i bob person, sefydliad neu awdurdod lleol sy’n gyfrifol am reoli’r cartref diogel i blant gadw cofnodion sy’n cynnwys:

 

752.      Gall Gweinidogion Cymru ofyn am gopïau o’r cofnodion hyn unrhyw bryd.

 

Apelio

 

753.      Mae adran 94 o Ddeddf Plant 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelio i’r Llys yn erbyn penderfyniadau i awdurdodi, neu wrthod awdurdodi, ceisiadau am lety diogel. Wrth apelio yn erbyn awdurdodiad, gall lleoliad plentyn mewn llety diogel barhau yn ystod cyfnod yr apêl. Os yw’r llys wedi gwrthod awdurdodi lleoliad mewn llety diogel, a bod yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, neu awdurdod neu berson priodol arall, yn apelio yn erbyn y penderfyniad, ni chaniateir cadw neu leoli’r plentyn mewn llety diogel wrth ystyried yr apêl.   

 

Plant nad yw adran 119 yn berthnasol iddynt

 

754.      Mae’r Rheoliadau CSA yn nodi nad yw adran 119 yn berthnasol i blentyn:

 

Plant sy’n cael eu cadw o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984

 

755.      Mae’r meini prawf ar gyfer lleoli plentyn mewn llety diogel o dan adran 119 o’r Ddeddf yn cael eu haddasu ar gyfer plant rhwng 12 a 17 oed sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn cael eu cadw o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984. O ganlyniad i’r addasiad hwn, ni ellir lleoli neu gadw plentyn y mae’r Ddeddf hon yn berthnasol iddo mewn llety diogel oni bai ei bod yn ymddangos bod unrhyw fath o lety heblaw llety diogel yn amhriodol am y rhesymau canlynol:  

·         mae’r plentyn yn debygol o ddianc o lety arall o’r fath, neu

·         mae’r plentyn yn debygol o’i anafu ei hun neu anafu pobl eraill os yw’n cael ei gadw mewn llety arall o’r fath. 

 

Plant y mae adran 119 yn berthnasol iddynt yn amodol ar addasiadau

 

756.      Mae’r Rheoliadau CSA yn nodi categorïau o blant eraill y mae adran 119 yn berthnasol iddynt, yn ogystal â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr. Yn sgil y rheoliad hwn, mae’n rhaid bodloni’r meini prawf a nodir yn adran 119 (1)(a) a (b) mewn perthynas â’r categorïau o blant hyn hefyd. Mewn geiriau eraill, mae’r rheoliad yn pennu’r un mesurau diogelu ar gyfer y plant hyn ag ar gyfer plant eraill y mae adran 119 yn berthnasol iddynt, fel na fydd unrhyw blentyn yn cael ei leoli mewn llety yng Nghymru at ddiben cyfyngu ar ei ryddid os nad yw’r mesurau diogelu priodol ar waith.   

 

757.      Y categorïau eraill yw plant (ac eithrio’r rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr) sy’n cael eu lleoli mewn llety diogel yng Nghymru:  

 

 

758.       

 

759.      Mae’n rhaid i’r corff iechyd neu berson arall a restrir uchod wneud cais i’r llys am orchymyn llety diogel mewn perthynas â’r plant hyn. Os yw plentyn yn cael ei letya mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol, bydd y corff sy’n gyfrifol am y sefydliad dan sylw yn gwneud cais i’r llys.

 

 

 

 


Pennod 8:  Plant sy’n cael eu lletya mewn mathau o sefydliadau eraill

 

 

760.      Mae adrannau 120 i 122 o’r Ddeddf yn ymwneud ag asesu plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau iechyd ac addysg, cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol. Mae adran 123 yn darparu ar gyfer ymweliadau gan gynrychiolwyr yr awdurdod lleol â’r plant hyn, ac mae adran 124 yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer.  

 

Plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg

 

761.      Mae adran 120 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu awdurdod iechyd sy’n darparu, neu’n bwriadu darparu, llety yng Nghymru ar gyfer plentyn am gyfnod o dri mis yn olynol o leiaf, hysbysu swyddog priodol yr ‘awdurdod cyfrifol’ sy'n lletya’r plentyn a phan ei fod yn peidio â lletya’r plentyn. Mae’r un gofyniad yn berthnasol i unrhyw awdurdod lleol sy’n lletya plentyn yng Nghymru wrth arfer ei swyddogaethau addysg. 

 

762.      Mae’r ‘awdurdod cyfrifol’ yn cael ei ddiffinio fel yr awdurdod lleol yng Nghymru, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, lle mae’n ymddangos bod y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn cael ei letya. Os yw’n ymddangos nad oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn unrhyw ardal awdurdod lleol, yr awdurdod cyfrifol yw awdurdod yr ardal lle mae’r llety wedi’i leoli. 

 

763.      Swyddog priodol yr awdurdod lleol sydd angen ei hysbysu yw’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol (mewn awdurdod lleol yng Nghymru) neu’r cyfarwyddwr gwasanaethau plant (mewn awdurdod lleol yn Lloegr).   

 

764.      Ar ôl i’r swyddog priodol gael ei hysbysu bod plentyn yn derbyn llety o’r fath, mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol:

·                     asesu’r plentyn o dan adran 21 o’r Ddeddf (dyletswydd i asesu anghenion gofal a chymorth plentyn), ac

·                     ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989, mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.   

 

765.      Fodd bynnag, nid yw’r ddyletswydd i gynnal asesiad adran 21 yn berthnasol i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.  

 

Plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal ac ysbytai annibynnol

 

766.      Mae adran 121 yn gwneud darpariaeth debyg ar gyfer plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal ac ysbytai annibynnol yng Nghymru. O dan yr adran hon, os yw llety o’r fath yn cael ei ddarparu ar gyfer plentyn am gyfnod o dri mis yn olynol o leiaf, neu os mai dyna yw’r bwriad, mae’n rhaid i’r person sy’n rhedeg y cartref gofal neu’r ysbyty hysbysu swyddog priodol ardal yr awdurdod lleol lle mae’r sefydliad wedi’i leoli ei fod yn lletya’r plentyn, a’i hysbysu pan ei fod yn peidio â lletya’r plentyn. Fel arfer, yr unigolyn hwn fydd rheolwr y cartref gofal neu’r ysbyty dan sylw. Y swyddog priodol sydd angen ei hysbysu yw’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol. (Dylid nodi, yn wahanol i adran 120, nad yw cysyniad preswylfa arferol yn berthnasol.)  

 

767.      Pan fydd hysbysiad o’r fath wedi’i wneud, mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol gynnal asesiad adran 21 ac ystyried i ba raddau y dylai arfer unrhyw un o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â’r plentyn. Nid yw hyn yn berthnasol os yw’r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon. 

 

768.      Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu â chydymffurfio â’r adran hon heb reswm digonol, bydd y person hwnnw’n euog o drosedd a gall wynebu dirwy yn dilyn collfarn ddiannod.

 

769.      Mae’r adran hefyd yn darparu ar gyfer person o ardal yr awdurdod lleol lle mae’r cartref gofal neu’r ysbyty wedi’i leoli i fynd i mewn i’r cartref neu’r ysbyty i weld a yw’r sefydliad yn cydymffurfio â’r gofynion hyn. Mae’n rhaid i’r person sy’n arfer pŵer mynediad ddangos dogfen wedi’i dilysu’n briodol, ar gais, sy’n nodi bod ganddo’r awdurdod i gael mynediad; ac mae unrhyw berson sy’n rhwystro person o’r fath yn fwriadol yn euog o drosedd a gall wynebu dirwy.   

 

Ymwelwyr ar gyfer plant yr hysbysir amdanynt o dan adran 120 neu 121

 

770.      Mae adran 122 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sydd wedi’i hysbysu bod plentyn wedi’i letya o dan adran 120 neu 121 drefnu bod cynrychiolydd o’r awdurdod lleol yn ymweld â’r plentyn. Mae gan y cynrychiolydd ddyletswydd i ddarparu cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynglŷn â chyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf mewn perthynas â’r plentyn. Mae dyletswydd yr awdurdod lleol i ymweld â’r plentyn yn parhau nes bod yr awdurdod lleol wedi’i hysbysu gan yr awdurdod neu’r darparwr sy’n lletya’r plentyn ei fod wedi peidio â lletya’r plentyn.    

 

771.      Wrth ddewis cynrychiolydd, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei fodloni ei hun bod gan y person y sgiliau a’r profiad gofynnol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd. 

 

772.      Mae’n rhaid cynnal ymweliad cychwynnol o fewn wythnos i’r hysbysiad, bob chwe wythnos yn ystod y flwyddyn gyntaf ac unwaith bob tri mis ym mhob blwyddyn ddilynol yn ystod cyfnod lletya’r plentyn. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â’r plentyn y tu allan i’r cyfnodau statudol gofynnol yn dilyn cais rhesymol gan y plentyn, gofalwr y plentyn neu’r person sy’n gyfrifol am drefniadau byw’r plentyn. 

 

773.      Mae’n rhaid i ymweliadau gael eu cynnal yn yr un ffordd ag ymweliadau â phlant sy’n derbyn gofal, fel y nodir ym Mhennod 3 o’r cod hwn. Mae’r gofynion adrodd yr un fath hefyd. Yn ystod eu hymweliadau, dylai’r cynrychiolwyr asesu a oes angen unrhyw gyngor, cefnogaeth neu gymorth ar y plentyn hefyd.

 

Gwasanaethau ar gyfer plant yr hysbysir amdanynt o dan adran 120 neu 121

 

774.      O dan adran 123 o’r Ddeddf, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121. Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a theulu’r plentyn, ac maent yn gallu cynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion gofal a chymorth).

 


Pennod 9:  Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

Hysbysu am farwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal, a threfniadau eraill mewn perthynas â marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

 

Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

 

775.      Mae adran 125 o’r Ddeddf yn nodi’r camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu rhoi ar waith pan fydd plentyn sy’n derbyn gofal yn marw, ac mae hefyd yn rhoi’r pŵer i’r awdurdod lleol drefnu angladd y plentyn os oes angen.

 

Hysbysu

 

776.      Mae’n rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am farwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal drwy gysylltu ag unigolyn cyswllt rhanbarthol perthnasol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Hefyd, mae gan yr awdurdod ddyletswydd i hysbysu rhieni’r plentyn a phob person sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn. Bydd angen i’r awdurdod lleol hysbysu’r heddlu am farwolaeth sydyn hefyd. Os oedd y plentyn yn byw mewn cartref plant, mae’n rhaid i’r person cyfrifol yn y cartref hysbysu swyddog priodol Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol sydd wedi lleoli’r plentyn, ac awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yr ardal lle mae’r cartref wedi’i leoli (rheoliad 29 ac Atodlen 5 i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002).   

 

777.      Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio’n llawn â GIG Cymru wrth adolygu marwolaeth annisgwyl plentyn o dan y broses PRUDIC (ymatebol gweithdrefnol i farwolaeth annisgwyl yn ystod plentyndod). Bydd adolygiad PRUDIC yn cael ei gynnal gan bediatregydd a thîm amlddisgyblaethol, a fydd yn cynnwys yr adran gwasanaethau cymdeithasol berthnasol. Mae’r broses PRUDIC yn ceisio sicrhau bod unrhyw faterion diogelu yn cael eu hystyried, gan gynnwys unrhyw risgiau i blant eraill, yn ogystal â’r posibilrwydd y gall methiant y gwasanaeth iechyd fod wedi cyfrannu at y farwolaeth. Mewn achos yn ymwneud â phlentyn sy’n derbyn gofal, bydd yr amgylchiadau llawn yn ymwneud â gofal y plentyn yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses hon. Mae’r data sy’n cael ei goladu ar bob marwolaeth plentyn yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi gan dîm Adolygu Marwolaethau Plant Cymru sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff adroddiadau thematig eu llunio i ddarparu argymhellion a gwybodaeth fel bod gwasanaethau cyhoeddus o bob math yn gallu canolbwyntio ar atal marwolaethau plant yn effeithiol.

 

778.      Os oes unrhyw bryderon yn codi ynglŷn â gweithredoedd GIG Cymru, neu os oes ffactorau ychwanegol – er enghraifft, unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â’r plentyn sy’n derbyn gofal – mae’r broses PRUDIC yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol ystyried yr angen i hysbysu Llywodraeth Cymru am y farwolaeth fel digwyddiad difrifol o dan y Rheoliadau ‘Gweithio i Wella’. Mae hyn yn arwain at ymchwiliad llawn o’r digwyddiad ac argymhellion ar gyfer unrhyw newidiadau gofynnol i’r system neu wersi i’w dysgu. Mae hon yn elfen allweddol o system diogelwch cleifion GIG Cymru, a bydd yn helpu i lywio arferion gwasanaethau cymdeithasol hefyd.   

 

779.      Os yw plentyn sy’n derbyn gofal yn marw a bod camdriniaeth neu esgeulustod yn ffactor hysbys neu’n ffactor posibl, mae’n rhaid i’r bwrdd diogelu perthnasol ystyried cynnal adolygiad ymarfer plant estynedig. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y cod ymarfer yn ymwneud â Rhan 7 o’r Ddeddf (ar ddiogelu). Mae’r fframwaith hwn yn adnodd defnyddiol ar gyfer adolygu sut mae asiantaethau wedi cydweithio er mwyn llywio gwelliant mewn trefniadau amddiffyn plant ledled yr asiantaethau. Un o swyddogaethau allweddol y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, a sefydlwyd o dan y Ddeddf, fydd darparu cyngor a chymorth ar gyfer byrddau diogelu a Gweinidogion mewn perthynas â threfniadau diogelu yng Nghymru. 

 

Trefniadau eraill

 

780.       Weithiau bydd angen i awdurdod lleol drefnu bod corff plentyn sy’n derbyn gofal yn cael ei gladdu neu ei amlosgi. Mae’n rhaid i’r awdurdod ofyn am gydsyniad pob person sydd â chyfrifoldeb ar gyfer y plentyn (i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol) cyn gwneud y trefniadau hyn. 

 

781.       Wrth wneud trefniadau ar gyfer angladd y plentyn, mae’n rhaid i’r awdurdod ystyried argyhoeddiad crefyddol y plentyn a bod yn sensitif i gredoau a gwerthoedd hysbys y plentyn. Dylid cynnwys ac ymgynghori â’r rhai a oedd â chysylltiad agos â’r plentyn – er enghraifft, gweithiwr cymdeithasol y plentyn, ei swyddog adolygu annibynnol, ei ymwelydd annibynnol, ei gynghorydd personol neu ei athrawon – yn ogystal â rhieni’r plentyn. Nid yw’r Ddeddf yn awdurdodi amlosgi os nad yw’n gydnaws ag argyhoeddiad crefyddol y plentyn.   

 

782.       Mae’r Ddeddf yn awdurdodi’r awdurdod lleol i wneud taliadau i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y plentyn, neu unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, ar gyfer costau teithio neu gynhaliaeth, neu dreuliau eraill a ysgwyddir yn sgil mynychu angladd y plentyn. Mae modd gwneud y taliadau hyn os yw’r amgylchiadau’n cyfiawnhau hynny, a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod na allai’r unigolyn dan sylw fynychu angladd y plentyn heb ddioddef caledi ariannol.

 

783.       Os yw’r awdurdod wedi arfer ei bŵer i drefnu claddu neu amlosgi plentyn sy’n derbyn gofal o dan 16 oed, gall adennill unrhyw dreuliau y mae’n eu hysgwyddo wrth wneud hynny gan unrhyw riant y plentyn. Mae modd adennill unrhyw symiau o’r fath yn ddiannod fel dyled sifil. 

 

 



[1]  Mae Adran186 o’r Ddeddf yn disgrifio llety cadw ieuenctid fel: cartref diogel i blant; canolfan hyfforddi ddiogel; sefydliad troseddwyr ifanc; llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant; a llety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd troseddol 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi).  

[2] The Children (Prescribed Orders – Northern Ireland, Guernsey and Isle of Man) Regulations.  S.I. 1991/2032  The Children' s Hearings (Scotland) Act 2011

(Transfer of Children to Scotland - Effect of Orders made in England and Wales or Northern Ireland) Regulations 2013 (S.S.I. 2013 / 99)

[3]  O.S. 2002 / 254.

[4] Mae’r cyfnodau a’r oedrannau hyn wedi’u pennu yn y Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) a wnaed o dan adran 104(2)(c) o’r Ddeddf.

[5] Gweler rheoliad 62 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 sy’n diffinio’r term hwn

[6] Gweler troednodiadau Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 ar gyfer pwynt cyfeirio ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am beth ac o dan ba Reoliadau.

[7] Mae’r ddyletswyddau wedi’u haddasu i ystyried rhannu cyfrifoldebau rhwng y gwasanaeth cyfiawnder troseddol a’r awdurdod lleol.

[8] Fel y’i diwygiwyd gan Ran 9 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015